Tuesday, June 30, 2020

gwiwer fach

Wrth fynd i fyny llethr yn y gymdogaeth y bore 'ma, gwelais wiwer fach yn prysur gasglu cnau. Dyma gar yn dod yn eithaf cyflym; dyma'r wiwer yn penderfynu croesi'r ffordd o flaen y car! Doedd gen i ddim amser i wneud dim byd ond cau fy llygaid. Pan agorais i nhw, roedd y wiwer yn gorwedd yn y fan a'r lle. Druan ohoni hi....

Monday, June 29, 2020

cefnogi'r heddlu

Braf gweld rhai sydd yn cefnogi'r heddlu'n gyhoeddus, yn Washington DC hyd yn oed. Dw i'n cytuno â Nestride Yumga yn llwyr. Dan ni angen yr heddlu mwy byth nag erioed wrth i nifer o derfysgwyr gynyddu'n sylweddol heddiw. Ac mae'r heddlu angen cefnogaeth y bobl mwy byth nag erioed er mwyn iddyn nhw wneud eu gwaith.

Saturday, June 27, 2020

tŷ bwyta newydd

Es i a'r teulu i dŷ bwyta newydd yn y dref ddoe. Roedd y lle yn arfer bod yn beth arall, ond wedi troi'n dŷ bwyta Mesicanaidd chwe mis yn ôl. (Dw i newydd ei ddarganfod.) Roedd y bwyd yn syml a blasus. Bwyd cartref ydy eu harwyddair. Rhaid ei fod yn iawn gan mai Mecsicaniaid oedd y cwsmeriaid eraill.

Friday, June 26, 2020

het maga

Es i Walmart ddoe yn gwisgo'r het MAGA a brynodd y gŵr i mi yn y rali yn Tulsa. Well gen i osgo'r het hon yn hytrach na hetiau pêl-fas. Wedi iddo ymddeol mae'r gŵr yn dod gyda fi i fy helpu cludo'r bagiau, yn gwisgo ei het pêl-fas MAGA. Dw i eisiau i bawb wybod ein bod ni'n cefnogi’r Arlywydd Trump.

Wednesday, June 24, 2020

mae o'n iawn beth bynnag

Roedd rhaid i fy merch hynaf fynd â'i chi i'r milfeddyg ar frys ddoe. Roedd hi'n meddwl iddo gael rhwystr coluddyn ac ar fin marw. Wedi pelydr-x a nifer o brofion, cafwyd hyd iddo ddioddef o nwy yn y coluddyn. Diweddglo hapus sydd yn gadael bil y milfeddyg o 700 doler!

Monday, June 22, 2020

pobl ddewr

Am y tro cyntaf erioed, na chafodd adeilad rali Trump lenwi'n llawn dop, gyda miloedd o bobl tu allan. Digwyddodd hyn yn Oklahoma, un o'r cadarnleoedd ceidwadol! Roedd ymdrechion ffyrnig i amharu'r rali gan yr ochr sydd yn casáu’r Arlywydd Trump a'i gefnogwyr heb sôn am y rhybuddion di-baid ynghylch â'r Feirws. Rhaid bod yna resymau eraill, ond yn y bôn, dewisodd gynifer o bobl dda i fod yn ddiogel wedi eu trechu gan ofn yn hytrach na sefyll yn gadarn a mynegi eu barn. Llongyfarchiadau ar y 14,000 o bobl ddewr a fynychodd y rali.

Saturday, June 20, 2020

rali yn tulsa

Mae'r gŵr a'r mab yn Tusla bellach, ac ymuno â'r llinell o gefnogwyr yr Arlywydd Trump. Dim ond 400 medr oddi wrth y mynediad maen nhw, ond sonnir bod llinell arall... Maen nhw'n cael hwyl yn barod gyda'r cymdogion o gwmpas. Un peth amlwg - clên a siriol iawn ydy cefnogwyr yr Arlywydd Trump. Parti llawen ydy rali Trump wedi'r cwbl. Mae'r heddlu a'r Gwarchodlu Cenedlaethol wrthi'n gwneud yn siŵr bod y bobl dda yn ddiogel rhag terfysgwyr arfaethedig.

Friday, June 19, 2020

wynefu'r dwyrain

Mae blodau del yn fy nghyfarch bob bore wrth i mi fynd am dro. (Ddim dant y llew; dw i ddim yn gwybod yr enw.) Maen nhw'n sefyll wrth gadw pellter cymdeithasol, yn wynefu'r Dwyrain, a chau gyda'r hwyr. Ynghyd â Blodyn y Drindod, fy ffefryn ydyn nhw.

Wednesday, June 17, 2020

ymweld eu nain

Wedi'r cyfyngiadau gael eu llacio yn Tokyo, aeth fy nhair merch i dŷ eu nain am y tro cyntaf ers chwe mis. Roedd hi wrth ei bodd wrth gwrs, ac yn siarad yn ddi-baid bron am bum awr! Dw i'n siŵr bod yr ymweliad wedi rhoi egni newydd iddi fwrw ymlaen.

Tuesday, June 16, 2020

anrhydedd

Mae fy merch hynaf wedi cael ei hanfarwoli yn Miami, Florida! Hynny ydy, paentiodd ffrind iddi ddarlun o fy merch ar furlun 18 troedfedd o daldra. Anrhydedd mawr ydy hwn iddi wrth gwrs, ac mae hi wrth ei bodd.

Monday, June 15, 2020

dros filiwn

Mae dros 1,000,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer rali Trump yn Tulsa! (Dim ond 19,000 sedd ar gael.) Llwyddodd y gŵr i gofrestru am ddau (iddo ac i'r mab,) ond gan fod y cyntaf i'r felin gaiff falu, maen nhw'n bwriadu mynd bore'r 20ed. Mae'n siŵr y bydd yna bobl yn gwersylla i sicrhau'r seddau, ond dim ots. Hwyl arall yn rali Trump ydy cymdeithasu gyda'r cefnogwyr eraill. Mae'r Newyddion Ffug yn galw am ei ganslo oherwydd ofn y Feirws tra bod nhw'n anwybyddu torri'r rheolau yn y protestiadau treisgar ac yn y rali dros hawliau pobl dduon LGBT a cynhaliwyd yn ddiweddar. 

Sunday, June 14, 2020

74 oed

Pen-blwydd hapus i'r Arlywydd Trump annwyl!
Pob bendith oddi wrth yr Arglwydd goruchaf.

Saturday, June 13, 2020

chilango's

Es i'r Chilango's i swper neithiwr gyda'r gŵr a'r mab. Un o'n ffefrynnau ydy o. Dewisodd pawb saig berffaith i bob un ohonon ni'n dri. Y Gŵr - stribedi o gig eidion; y mab - cyw iâr heb glwten a llefrith; y fi - cyw iâr a llysiau ar reis. Roedd popeth yn flasus, llawer gwell na'r bwyd Tsieineaidd a gawson ni'r wythnos diwethaf.

Thursday, June 11, 2020

y rali trump cyntaf

Mae rali Trump yn ail gychwyn. Cynhelir y cyntaf un yn Tulsa, Oklahoma Mehefin 19! Hwrê! Mae'r gŵr eisiau mynd wrth gwrs, a bwriadu gofyn am docyn cyn gynted y bydd y manylion wedi cael eu trefnu.

Wednesday, June 10, 2020

cefnogi'r heddlu

Creodd fy merch hynaf baentiad newydd er mwyn cefnogi'r heddlu sydd yn cael eu trin yn fwy erchyll byth nag erioed yn ddiweddar. Mae ffrind iddi yn mynd i wneud sticeri ohono fo. Gobeithio y byddan nhw'n cael eu cysuro wrth wybod bod ganddyn nhw gefnogwyr.

Tuesday, June 9, 2020

mor ddi-gliw fel llygod

“Y dyddiau hyn, mae Cristnogion mor ddiniwed â cholomennod ac mor ddi-gliw fel llygod ar fin cael eu bwyta.” - artist yn Oklahoma 

Mae rhai pobl naïf a charedig yn prysur gredu gwybodaeth ffug. Gadewch i mi ddweud yn glir felly.
1. Nid gwlad hiliol ydy America ar y cyfan.
2. Ydach chi'n trin pawb â charedigrwydd a pharch? Yna, dydych chi ddim yn hiliol.
3. Mae swyddogion heddlu'n haeddu cael eu parchu, cefnogi a gwerthfawrogi.
4. Mae'r Arlywydd Trump wedi gwneud mwy i wella bywydau'r Americanwyr lleiafrifol nag unrhyw arlywydd arall.

Bobl gyda chalonnau tyner, peidiwch â chael eich twyllo fel llygod di-gliw ar fin cael eu bwyta!

Post Saesneg gan fy ngŵr
Cyfieithwyd i'r Gymraeg gan Emma Reese

Monday, June 8, 2020

7 mlynedd yn ôl

Ces i neges sydyn gan Facebook y bore 'ma; hwn oedd y llun a gafodd ei weld mwyaf yn 2013 heddiw - llun a dynnais oddi wrth ben clochdy San Giorgio Maggiore yn Fenis. Roedd digon o le oherwydd nad ydy o mor boblogaidd na Chlochdy Piazza San Marco. Anhygoel oedd y golygfeydd fodd bynnag. 

Saturday, June 6, 2020

y trydydd mesur

Er fy mod i'n hoffi coginio pryd o fwyd maethlon i'r teulu, mae'n braf cael diwrnod i ffwrdd unwaith yr wythnos. Ac felly dw i'n edrych ymlaen at fwyta allan bob dydd Gwener fel rhan o Saboth. Does dim dewis eang yn y dref hon yn anffodus, ond dim ots. Y tro 'ma, aethon ni i Red Moon, tŷ bwyta Tseiniaidd. Roedd popeth yn edrych yn normal - cwsmeriaid siriol, gweinyddion heb fwgwd. Mae Oklahoma wedi dechrau'r trydydd mesur i adfer y gymdeithas.

Wednesday, June 3, 2020

barn y gŵr

"Dydy wyau ddim yn mynd yn dda gyda bresych." Hyn oedd dedfryd y gŵr ar y cinio bach a wnes i heddiw. Anelais ddysgl sydd yn debyg i shakshuka, ond gyda bresych wedi'i dorri, yn lle tomatos. Barn eithaf llym, byddwn i'n dweud! Ond dw i'n gwybod bellach na fydda i byth yn gwneud yr un ddysgl eto.

Tuesday, June 2, 2020

siaced annwyl

Mae gan y gŵr siaced ail-law. Annwyl iawn ydy hi iddo fo oherwydd ei hetifeddu a wnaeth gan ei ddiweddar dad flynyddoedd yn ôl. Yn anffodus, mae ei llewys wedi treulio erbyn hyn, tu hwnt i fendio. Llwyddais ei hachub gan dorri'r llewys i ffwrdd a'i throi'n fest. Dyma hi. 

Monday, June 1, 2020

glanhau'r llanast

Un peth nodweddiadol ynglŷn â'r terfysg diweddaraf dros America ydy mai mewn taleithiau Democratiaid digwyddodd. Fel disgwylir, mae'r nifer o'r terfysgwyr yn dod o daleithiau eraill - aelodau Antifa mae'n debyg. Wedi'r dinistr ofnadwy, fodd bynnag, gwelwyd golygfeydd na chafodd eu gohebu gan y prif gyfryngau - rhai trigolion (gwirfoddolwyr) sydd yn glanhau'r llanast a adawyd gan y terfysgwyr.