Saturday, October 31, 2020

bwyta allan

Es i a'r gŵr i Katfish Kitchen (eto) sydd yn arbenigo mewn seigiau catfish . Dw i ddim yn hoffi'r pysgod hynny o gwbl a dweud y gwir. Hoffi awyrgylch lleol y tŷ bwyta dw i fodd bynnag. Ces i fyrgyr gyw iâr (enfawr fel gweler!) yn ei le. Mae'r gŵr yn hoffi catfish ond cafodd ferdys wedi'u ffrio y tro 'ma.

Friday, October 30, 2020

unwaith mewn lleuad las

Ataliodd y glaw a oedd yn bwrw am ddyddiau brinhawn ddoe; gwelwyd y  lleuad bron lawn yr ail dro mewn mis. Unwaith mewn lleuad las oedd hi yn llythrennol. Gwelais i hi neithiwr yn y dwyrain a phen bore yn y gorllewin. Roedd hi mor hardd fel roeddwn i'n sefyll tu allan yn yr oerfel i'w gweld a gweld.

Thursday, October 29, 2020

pleidleisio'n gynnar

Cewch chi bleidleisio'n gynnar heddiw ac yfory yn Oklahoma. Dyma'r gŵr fynd i'r orsaf bleidleisio cyn i'r drws agor. Mae o'n bell fwrdd oddi wrth y drws blaen bron i awr yn ddiweddarach! Mae ciw hir o bobl yn sefyll yn amyneddgar yn y glaw oer. Welais erioed y fath o frwdfrydedd dros etholiad. 

Wednesday, October 28, 2020

ymbarél coch

Mae tymor glaw byr ar Oklahoma ar hyn o bryd. Dw i ddim yn mynd am dro mewn glaw oherwydd diffyg esgidiau diddos. Wedi clywed y byddai hi'n bwrw'n drwm yn hwyrach, dyma benderfynu mynd tra oedd gen i gyfle, a chwiliais am ymbarél. Ces i fy synnu'n ffeindio un mawr coch na welais erioed gyda Collars and Cuffs, London ar yr handlen; mae'n rhaid perthyn i fy merch a oedd yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe am dymor flynyddoedd yn ôl. Mae'n fawr a pherffaith, ac roedd yn fy nghadw rhag y glaw man.

Tuesday, October 27, 2020

ustus newydd


Llongyfarchiadau mawr i Amy Coney Barrett sydd newydd fod yn Ustus Goruchaf Lys yr UDA. Da nad oedd rhaid iddi fynd drwy'r llanast erchyll a ddioddefwyd gan yr Ustus Brett kavanaugh. Mae hi'n hollol deilwng o'r swydd. Pob bendith iddi. 

Monday, October 26, 2020

er ei fwyn ef


Dw i'n glanhau tai bach fy eglwys i bob Dydd Iau, ond efallai y bydd well i mi roi'r gorau iddi. Rhaid i mi drosglwyddo’r dasg i'r gweinidog er mwyn iddo gynyddu ei wobrau yn y nefoedd! 

Mae'r gŵr newydd yrru'r erthygl hynod o ddoniol hwnnw gan y Wenynen at y gweinidog. Gobeithio y ceith chwerthin braf ar ei ddiwrnod i ffwrdd heddiw.

Saturday, October 24, 2020

braint


Mae'r Wenynen yn dal i gyhoeddi newyddion dychanol heb drugaredd. Yn ddiweddar, cafodd enwad fy eglwys i, sef Evangelical Free Church of America fraint o fod yn bwnc. Dw i ddim yn gwybod sut mae'r Wenynen yn gwybod mai caneuon Chris Tomlin ydy ffefryn ein harweinydd tîm addoli ni! Yn annhebyg i'r gweinidog yn y newyddion, fodd bynnag, mae ein gweinidog ni yn astudio'r Beibl drwy'r wythnos ar gyfer ei bregeth bob tro. Er gwybodaeth - does dim eglwys E. Free yn Moore, Oklahoma.

Friday, October 23, 2020

ailgylchu bagiau plastig

O'r diwedd ail ddechreuodd Walmart i ailgylchu bagiau plastig. Atalion nhw'r gwasanaeth pwysig hwnnw wrth i'r cyfnod clo gychwyn. Roeddwn i'n cadw bagiau am fisoedd fodd bynnag. Dyma nhw cyn i mi fynd â nhw i ailgylchu, ond hanner ohonyn nhw; fe wnes i glustog fawr gyda'r hanner arall wythnosau'n ôl.

Wednesday, October 21, 2020

ginnan

Blog newydd gan fy merch yn Japan am ginnan, sef hadau ginco

Mae gen i gof da o fy mhlentyndod am ginnan - byddai fy mrawd yn casglu ffrwyth y coed ar dir teml Shinto yn y dref; byddai fo'n dod â llond bwced o'r ffrwyth hynod o ddrewllyd hwnnw ar gais ei fam. (Danteithfwyd drud ydy hadau ginco.) Byddai fo'n eu claddu nhw yn yr iard er mwyn iddyn nhw bydru yn y pridd; ar ôl dyddiau, byddai'r hadau'n gwahanu rhag y ffrwyth; byddai fy mam yn eu rhostio nhw wedyn. 

Tuesday, October 20, 2020

teigr o kai

Ar wahân i fod yn artist, mae gan fy merch hynaf sawl busnes bach. Gwerthu dillad dan ei brand ei hun ydy un ohonyn nhw. Hwn ydy'r hwdi newydd sbon a ddyluniwyd ganddi. Teigr o Kai. Kai ydy fy enw cyn priodi sydd yr un â'r hen enw Yamanashi-ken yn Japan. Gelwyd Thingen Takeda, un o'r ffigurau hanesyddol enwog yn deigr. Ac felly "Teigr o Kai" a oedd. 

Monday, October 19, 2020

tymor newydd


Mae'r tymor bychan Japaneaidd nesaf newydd gychwyn a phara tan y 22ain. Gelwir 蟋蟀在戸 Kirigirisu to ni ari sydd yn golygu "mae criced yn canu o amgylch y drws." Does ryfedd fy mod i'n eu clywed nhw yn ddiweddar. 

Saturday, October 17, 2020

pysgod a sglodion

Mae tafarn newydd yn y dref. Dw i ddim na'r gŵr yn yfed cwrw, ond wedi gweld fish & chips ar y fwydlen sydd yn brin yn y dref, aethon ni yno neithiwr. Wedi aros dros 45 munud, yr hyn a ges i oedd creision, dim sglodion! Wir, gelwyd creision yn chips yn America; gelwyd chips yn French fries. Ond roeddwn i'n meddwl mai enw priod ydy fish & chips. Bwytes ond lond llaw, a rhoi'r gweddill i'r gŵr a gafodd dolur rhydd yn y nos. Na awn ni yno byth eto.

Friday, October 16, 2020

gwir neu ddychan


Mae'n mynd yn anos fyth wybod ydy newyddion Babylon Bee yn wir neu ddychan. Unwaith gwireddwyd un o'u herthyglau, syndod i'r staff hyd yn oed.

Eu herthygl: "Dwedodd Joe Biden na fyddai'n datgelu ei bolisi nes iddo gael ei ethol yn Arlywydd."

Yna, ychydig ddyddiau wedyn dwedodd o ddifri na fyddai'n dweud a fyddai fo'n pacio'r Goruchaf Lys neu beidio.

Ffynhonnell chwerthin ydyn nhw beth bynnag.

Wednesday, October 14, 2020

sento


Aeth fy nhair merch yn Tokyo i sento am y tro cyntaf erioed, wedi goresgyn eu swildod, a chael amser braf. Bath cyhoeddus ydy sento a oedd ym mhob man yn Japan pan oeddwn i'n fach. (Roedd gan nifer o dai heb ystafell ymolchi pryd hynny.) Prin ydy sento yn ddiweddar, ond maen nhw yn dail i fodoli. Ar wahân i ymolchi, cewch chi ymlacio'n llwyr yn y dŵr poeth mewn twb enfawr. Yn annhebyg i onsen, maen nhw'n hawdd cyrraedd. 

Tuesday, October 13, 2020

math gwahanol o arolwg


Dechreuodd yr Arlywydd Trump ei rali eto, wedi gwella o Goronafeirws. Mae o'n fwy egnïol fyth nag erioed. Mae tyrfa enfawr angerddol yn ymgasglu lle bynnag mae o'n mynd. Ar y llaw arall, dim ond nifer pitw sydd yn mynd i rali brin Joe Biden (os gall o adael islawr ei dŷ o gwbl) tra bod yr arolwg ar ôl y llall yn dangos bod Biden ar y blaen yr Arlywydd o bell ffordd.

Monday, October 12, 2020

arolwg



Gofynnodd fy merch hynaf i'r teulu a fyddai'n well gynnon ni fyw mewn dinas neu gefn gwlad. Cafodd atebion diddorol ac amrywiol. Hi ac un o'i chwiorydd sydd yn hoffi byw mewn dinas fawr; mae ei brawd ifancaf a'i chwaer arall eisio cefn gwlad. Dw i'n hoffi tref fach wedi'i hamgylchynu gan natur. Ac felly bod yn ymddangos fy mod i'n byw mewn lle delfrydol i mi. 

Saturday, October 10, 2020

gwlith oer

Codais y ddeilen hon gyda gwlith ffres arni hi tra oeddwn i'n mynd am dro'r bore 'ma. Yng nghalendr traddodiadol Japan, Kanro ydy'r adeg hon (Hydref 7 - 22.) Mae'n golygu gwlith oer sydd yn aros ar laswellt - dechrau hydref ar raddfa lawn. 

Friday, October 9, 2020

tywydd braf

Mae'r tywydd wedi bod yn anhygoel o braf y dyddiau hyn, yn anarferol iawn yn Oklahoma. Does gen i ddim mymryn o gwynion wrth gwrs. Mae'r dail yn prysur droi'n lliwgar, fel gweler yn y llun. Hwn, sydd o flaen fy nhŷ i, ydy un o'r coed harddaf yn y gymdogaeth.

Wednesday, October 7, 2020

mahjong

Cafodd fy mam yn Tokyo ymweliad arall gan ei thair wyres. Roedd hi wrth ei bodd wrth gwrs nid dim ond am eu cwmni ond cyfle i'w dysgu sut i chwarae Mahjong. Dw i'n siŵr bod hyn yn dda i les ei hymennydd. Dysgodd hithau drwy weld y dynion yn y teulu'n chwarae'r gêm flynyddoedd yn ôl. 

Tuesday, October 6, 2020

mae o wedi gwella


Dw i'n hynod o falch bod yr Arlywydd Trump wedi gwella cymaint fel ei fod o wedi gadael yr ysbyty. Ynghyd â'r dyrfa enfawr o'i gefnogwyr o flaen yr ysbyty, roedd llu o bobl yn gweddïo drosto fo drwy'r byd. Gobeithio, fodd bynnag, na fydd o'n gorweithio ond cymryd gofal. Efallai bod ei elynion pybyr wedi gobeithio y byddai fo'n marw, ond gwaetha'r modd, nid dim ond mae o wedi goroesi, ond mae'n imiwn rhag Coronafeirws bellach. Bydd o'n bwrw ymlaen yn gryfach byth nag erioed!

Saturday, October 3, 2020

gweddïo


Tra bod rhai pobl gas yn mynegi eu gobaith yn gyhoeddus y bydd yr Arlywydd Trump yn marw o Goronafeirws, mae'r byd yn gweddïo drosto fo a'r Ddynes Gyntaf ar eu gwelliant cyflym. Efallai bod yn dda iddo fynd i'r ysbyty bellach oherwydd mai dyna'r unig fodd i atal rhag iddo weithio! Mae angen gorffwys arno fo. Ceith ail gychwyn yn gryfach ar ôl iddo wella, gydag imiwnedd naturiol yn erbyn y feirws.

Friday, October 2, 2020

dymuniadau gorau

Es i a'r gŵr at y swyddfa Weriniaethwyr yn y dref i dynnu llun gyda'r Arlywydd Trump! Roedd dwy ddynes glên yn gwarchod y lle, a chawson ni sgwrs bleserus sydyn gyda nhw.

Dymuniadau gorau i'r Arlywydd a Mrs. Trump sydd wedi hunan-ynysu yn ddiweddar. Gobeithio y cân nhw orffwys o'r diwedd yn ystod y cyfnod clo; mae'n hen bryd.