Wednesday, March 29, 2023

mam

Mae fy mrawd yn ymweld â'n mam ni yn ei chartref henoed yn rheolaidd, ac yn rhoi gwybod i mi sut mae hi. Tynnodd y llun hwn ar ei ymweliad diweddaraf. Mae hi'n edrych yn dda iawn. Mae'n anodd credu y bydd hi'n troi'n 101 oed y mis nesaf.  

Tuesday, March 28, 2023

cariad yw

Dwedodd Iesu, "yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd."

Mae cariad yn anghyfleus.
Mae cariad yn benderfyniad.
Mae cariad yn ddisgyblaeth.
- Pastor Gary Hamrick, Cornerstone Chapel

Monday, March 27, 2023

gwanwyn swyddogol

Mae'r gwanwyn wedi dod yn swyddogol. Roedd o'n dod yn fesul dipyn wrth gwrs, ond gwelais brawf y bore 'ma - mae'r goeden geirios fach yn y gymdogaeth yn blodeuo. Hi ydy'r goeden a helpais a'r gŵr y llynedd drwy chwynnu o'i chwmpas hi. Mi wnes "hanami" sydyn i roi parch ati.

Saturday, March 25, 2023

ar ynys fach

Mae fy nwy ferch yn Japan newydd fynd ar eu gwyliau diwedd y flwyddyn yn Okinawa. (Bydd blwyddyn newydd yn gychwyn ym mis Ebill.) Maen nhw ar un o'r ynysoedd bychain i'r gorllewin o'r ynys fawr. Fel cymysgedd o Japan a Hawaii ydy Okinawa. Mae gan y pentref bach maen nhw'n aros ynddo ond un siop ar gyfer ychydig o drigolion a thwristiaid. Gobeithio y byddan nhw'n cael ymlacio'n braf wedi blwyddyn hynod o brysur.

Friday, March 24, 2023

tatan nerthol


Ces i fy neffro gan daran arswydus tu hwnt yn ystod y nos. Er bod taranau Canol-De yn enwog am eu pŵer aruthrol, roedd hwnnw mor agos fel fy mod i'n meddwl iddo daro un o'r coed yn fy iard gefn. Bydda i'n cerdded o gwmpas i weld oedd difrod yn y gymdogaeth pan fydd y glaw yn atal.

Wednesday, March 22, 2023

diwedd tymor oer

Yn dilyn diwedd tymor oer, daeth defnydd y stôf llosgi coed ddod i ben hefyd. Roedd yn hyfryd cael fy nghynhesu gan dân braf pan oedd yn ofnadwy o oer tu allan. Bydda i'n bob amser teimlo'n drist i ddweud "hwyl am y tro" wrth y stôf. Pan ei gyffwrddais o rŵan wrth dynnu'r llun hwn, roedd o'n dal yn gynnes.

Tuesday, March 21, 2023

blodau ceirios

Dechreuodd coed ceirios yn Japan flodeuo'n gynt nag arfer eleni. Cyn gadael, cafodd fy merch hynaf gyfle i edmygu eu harddwch. Fe wnaeth hi a'i chwaer hanami sydyn un prinhawn.

Monday, March 20, 2023

pennod y dydd

Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd,
ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
Y maent yn newydd bob bore,
a mawr yw dy ffyddlondeb.
Galarnad 3: 22, 23

Saturday, March 18, 2023

hunllef

Wedi treulio pythefnos bendigedig yn Japan, daeth fy merch hynaf adref neithiwr. Dwedodd, fodd bynnag, fod yna anhrefn ac oedi ym mhob maes awyr gyda nifer mwy o deithwyr mewn ciw ofnadwy o hir a welodd erioed. Roedd rhaid iddi redeg o borth i borth ym Maes Awyr Denver hyd yn oed er mwyn dal yr awyren olaf at Oklahoma City. O leiaf na fuodd unrhyw beilot farw'n sydyn, ond mae'n amlwg bod y sefyllfa deithio mewn awyren yn gwaethygu.

Thursday, March 16, 2023

y murlun cyntaf yn japan

Mae fy merch hynaf newydd baentio ei murlun cyntaf yn Japan - ei breuddwyd! Un bach y tro 'ma yn Tokyo ydy o, ond y murlun cyntaf fodd bynnag. Agorir tafarn gan ffrind iddi, a phaentiodd hi ar y wal wrth y grisiau sydd yn arwain at y dafarn islaw. Gan fod y murlun yn cael ei weld tu allan, dw i'n sicr y bydd y blodau lliwgar yn dal llygaid pobl sydd yn cerdded heibio.

Wednesday, March 15, 2023

gweld ei nain

Cyn gadael Japan, cafodd fy merch hynaf gyfle i ymweld â'i nain yn ei chartref henoed. Er bod y llywodraeth newydd leihau'r cyfyngiadau cymdeithasol, roedd rhaid i'r ddwy weld ei gilydd drwy banel plastig, ac am ddeg munud yn unig. (Roedd amserydd yn mynd!) Bendith fawr oedd fodd bynnag oherwydd bod yn hollol bosib mai dyna'r tro olaf i fy merch i'w gweld, yn y byd presennol, gan ystyried oedran ei nain.

Tuesday, March 14, 2023

ailfeddwl

Dw i wedi ailfeddwl ynghylch coffi wedi'i baratoi gyda dŵr oer. Yn sicr mae o'n ysgafnach ar y stumog, ond dw i'n hoffi paratoi coffi poeth i fi ac i bobl eraill oherwydd ei fod o'n debyg i ddefod bleserus ymdawelu. Does dim pleser yn paratoi cold brew ar noson flaen. Dim ond tasg ddiflas ychwanegol ydy o. Prynais 100 o ffilterau'n barod. O wel, bydda i'n eu defnyddio nhw o bryd i'w gilydd.

Monday, March 13, 2023

tymor mae pawb yn ei gasáu

Mae tymor mae pawb yn ei gasáu wedi cyrraedd unwaith eto, sef amser i lenwi'r ffurflen dreth hunanasesiad. Y broblem fwyaf ydy pa mor gymhleth a dryslyd ydy'r ffurflen. Ac mae hi'n gwaethygu bob blwyddyn. Y gŵr sydd yn gwneud popeth i ni, fodd bynnag (diolch i'r trugaredd.) Erbyn hyn mae o'n dibynnu ar gyfrifydd medrus am ran fwyaf o'r gwaith, ond rhaid iddo gasglu gwybodaeth angenrheidiol o hyd. O leiaf, mae o'n gweithio mewn awyrgylch dymunol heddiw.

Saturday, March 11, 2023

dŵr glân


Gwaith arall mae Job, y cenhadwr lleol yn Honduras a yrrodd y coffi aton ni, yn ei wneud ydy dosbarthu (yn rhad ac am ddim) hidlydd dŵr cludadwy i drigolion yr ardal. Mae cynifer o'r bobl yno heb ddŵr glân, ac felly maen nhw'n sâl yn aml. Mae o'n gweithio gyda thîm dŵr hefyd. Dyma gip ar un o'i ddyddiau.

Friday, March 10, 2023

llythyr teulu

Dw i a'r gŵr newydd orffen llythyr teulu blynyddol a oeddwn i'n gobeithio gyrru at y perthnasau a ffrindiau dros y Nadolig. Oherwydd priodas fy merch ym mis Tachwedd a phethau eraill, roedd o'n llawer hwyrach nag arfer. Mae'r llythyr, yn Saesneg a'r Japaneg, ar ei ffordd bellach, gyda golwg gwanwynol.

Wednesday, March 8, 2023

dim diolch

"Na," dwedodd mwy na 60 y cant o bobl Oklahoma yn y refferendwm ddoe, erbyn cyfreithloni defnydd hamdden o fariwana. Hynod o falch bod gan ran fwyaf o'r bobl synnwyr cyffredin. Mae troseddau a damweiniau a achoswyd gan ddefnydd "meddygol" wedi cynyddu’n arswydus yn y dalaith yma ers iddo fod yn gyfreithlon fis Tachwedd llynedd.

Tuesday, March 7, 2023

coffi o honduras


Cawson ni goffi gan Job, cenhadwr yn Honduras ydyn ni'n ei gefnogi! Un o'r pethau amrywiol mae o a'i deulu'n wneud ydy ffermio yn ardal wledig er mwyn ysbrydoli'r ffermwyr lleol. Mae o a'i griw newydd gynaeafu coffi, a gyrrodd becyn i'w cefnogwyr. Mae'r coffi'n wych, ac mae'n hyfryd profi canlyniad ei lafur.

Monday, March 6, 2023

arwres

Mae fy merch hynaf newydd orffen paentiad ar gyfer yr arddangosfa gelf yn Asolo, yr Eidal. Izumo no Okuni, y ddynes a gychwynnodd Kabuki yng Nghyfnod Edo ydy'r ysbrydoliaeth. Mae hi'n ddewis perffaith oherwydd mai arwyr ydy'r thema.

Saturday, March 4, 2023

drws newydd

Mae gannon ni ddrws newydd i'r garej. Daeth perchennog busnes bach i'w osod ddyddiau'n ôl. Aeth o â'r hen ddrws gydag o hefyd. Gyda gweithiwr arall, cymerodd ond awr a hanner i gwblhau popeth. Mae'r drws yn gweithio'n ardderchog, a does dim bwlch at y gongl i bryfed ddod i mewn chwaith. (Gollyngdod mawr i mi!)

Friday, March 3, 2023

gŵyl eirin

Cafodd nifer o ddathliadau eu cynnal ar gyfer Gŵyl Eirin, sef Gŵyl Ferched yn Japan ddoe. Bydda i'n tynnu fy noliau hynafol, sydd yn yr un oed â fi, bob blwyddyn o gwpwrdd. Cafodd fy merch hynaf ddoliau arbennig gan ei ffrind yn Japan. Wnaed gan ei mam â llaw maen nhw.

Wednesday, March 1, 2023

ddydd gŵyl dewi hapus

"Byddwch lawen a chadwch eich ffyd a'ch credd, a gwnewch y petheu bychain a glywsoch ac y welsoch gennyf i."