Monday, June 29, 2009

jerry hunter


Fedrech chi goelio mai Americanwr sy wedi dysgu Cymraeg sy'n siarad â Dewi Llwyd yn ei *raglen ddiweddaraf? Mae Dr. Jerry Hunter yn dysgu (fel athro) yn Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac wedi ennill Llyfr y Flwyddyn (yn y Gymraeg) wrth gwrs. Ond rhaid cyfaddef mod i ddim yn disgwyl i'w Gymraeg llafar cytal â'r Cymry Cymraeg cynhenid. Dw i'n llawn edmygedd a mewn sioc fawr ar yr un pryd.

*Mae o'n cychwyn tua 39 munud o'r dechrau.

Saturday, June 27, 2009

i hela cnau


Yr unig reswm a brynes i'r nofel hon gan Marion Eames flynyddoedd yn ôl oedd bod hi ar restr gynigion arbennig Gwales.com. Mwynhau'r stori ddifyr wnes i beth bynnag er gwaethaf y Gymraeg braidd yn heriol ar y pryd. Dw i newydd ddarganbod bod yr awdures wedi dysgu Cymraeg!

Dechreues i ei hail-ddarllen wedi gorffen Rhannu'r Ty. Dw i ddim yn prynu llyfr Cymraeg ar lein ar hyn o bryd. (Dw i'n bwriadu gwneud y gwaith siopa ym maes yr Eisteddfod.) Mae hi'n dda iawn. Dyma un frawddeg ddiddorol, i mi o leiaf.

"O'u blaenau gwelsant ffigur yn cwmanu dros rywbeth a ddaliai rhwng ei goesau ar lawr."

Roeddwn i'n medru dyfalu beth ydy ystyr "cwmanu" oherwydd y cymal a weles i yn Rhannu'r Ty, sef "yn ei gwman," diolch i Linda am ei help!





Friday, June 26, 2009

dal i fwynhau




100(38) gradd ydy hi yma tra bod y gwr a'r ferch yn mwynhau'r eira ar gopa mynydd yn Japan. Maen nhw'n dal i deithio yn y gogledd. Arhoson nhw efo teulu myfyrwraig arall yn Fukushima neithiwr. Offeiriaid Bwdhaidd ydy ei thad. Felly mae eu ty yn ymyl y teml.

llun 2: nain y teulu wrthi'n gwneud sliperi gwellt (Yamagata)
llun 3: ystafell fy ngwr a'n merch (Fukushima)

Thursday, June 25, 2009

hanesyn

Ces i fy holi gan ffrind i le byddwn i'n mynd ar fy ngwyliau yn yr haf. Dwedes i mai i Gymru byddwn i'n mynd heb ddisgwyl iddi wybod lle roeddwn i'n sôn amdano. Felly ces i fy synnu pan ddwedodd hi, "oh, that's nice" a dechreuodd hi esbonio lle yn y byd mae Gymru i'r wragedd arall. Wedi meddwl, hi a wnaeth sôn am Newyn Mawr Iweddon o'r blaen.

Gobeithio y bydd mwy o bobl yn America'n ymwybodol o Gymru ar ôl y wyl yn Washington D.C. yr wythnos ma.

Wednesday, June 24, 2009

gwlad poro poro




Mae'r gwr a'r ferch yn mynd i ogledd Japan am sbel. Caethon nhw ddiwrnod hyfryd efo teulu'r fyfyrwraig a oedd yn gynorthwyydd iddo fo yma. Maen nhw'n byw yn Yamagata. Caethon nhw geirios lleol a sydd rhosyn (!) Gwnaethon nhw 'soba' - nwdls Japaneaidd a'u bwyta nhw wedyn. Caethon nhw wers 'wadaiko' - drymio hefyd. Hoffwn i fynd i Yamagata hefyd, gwlad 'Only Yesterday.'

Tuesday, June 23, 2009

ben a'i hanes

Cewch chi* weld profiad Ben a'i deulu ar raglen S4C heno. Roedden nhw mor glên wrth fy merch hyna pan oedd hi yn Llundain flynyddoedd yn ôl. 

*chi sy'n byw yn y DU

Monday, June 22, 2009

cymry gwyllt y gorllewin


Des i ar draws y llyfr ma ar ddamwain tra oeddwn i'n googlio 'y gorllewin gwyllt.' Prynes i gopi ail-law gan Amazon. Roedd o ar silf llyfrgell Rhiwbina, Caerdydd o'r blaen! Darllenes i dudalennau cynta. Roedd yn hynod o ddiddorol. "Yn y gyfrol hon cyflwynir hanes y Cymry gwyllt - rhai yn filwyr, rhai yn freuddwydwyr aeth i ddilyn yr aur, ac eraill oedd jyst am fod yn gowbois (yn America.)"

Penderfynes i beidio darllen y gweddill rwan ond yn yr awyren i Gymru. Mae o'n ddigon byr, llai na chant o dudalennau. Dw i'n siwr y bydd o'n fy helpu i ddygymod y siwrnai ddiflas yn yr awyr.

Saturday, June 20, 2009

cynnyrch lleol


Gan fod yna fawr o ddim ar ôl y tro dwethaf, roeddwn i'n benderfynol o fynd i farchnad y ffermwyr yn ddigon cynnar i brynu cynnyrch ffres. Doedd yna ddim llawer o ddewis yn adeg hon eto, ond dyma beth a brynes i (rhosmari a theim ydy'r perlysiau.) Bydd yna fwy gan gynnwys ffrwythau ym mis Gorffenaf ymalen tan diwedd y tymor. Edrycha i ymalen.

Thursday, June 18, 2009

i ffwrdd â nhw


i Japan. Mae'r gwr a'r merch 15 oed newydd adael. Maen nhw'n hedfan dosbarth busnes y tro ma wedi i ni gasglu digon o bwyntiau iddi hi. (Y cwmni sy'n talu am docyn y gwr wrth reswm.) Ces i alwad ffôn gynno fo ym maes awyr Dallas gynnau bach. Maen nhw'n cael aros yn y 'Admiral's Lounge,'  yr ystafell 'posh' i'r teithiwyr dosbarth cynta a busines. Fasai'r daith 13 awr i Japan yn ddim yn rhy ddiflas ar y seddau llydan a chyffyrddus.

Tuesday, June 16, 2009

nia a rhodri


Nia Thomas (Post Cyntaf,) Nia Roberts (Blas,) Nia Llwyd (fy nhiwtor Cymraeg,) Rhodri Williams (Blas,) Rhodri Llywelyn (Post Cyntaf) - fy hoff siaradwyr Cymraeg ydyn nhw. Rhaid i mi beidio anghofio Cadi Iolen (Llanberis,) Dyfan Tudur (Radio Cymru,) Dafydd Hardy (state agent) a Linda (Canada) wrth gwrs er nad ydyn nhw Nia na Rhodri.

Tybed ydy hi'n braf yn yr Eidal heddiw? 

Monday, June 15, 2009

amser da yn norman



Ces i a'r teulu i gyd amser gwych yn Norman. Roedd yn hyfryd gweld fy merch hyna a'i gwr eto. 

Aeth o â'r plant i bark dwr enfawr am y dirwnod cyfan ddydd Sadrwn. Caethnon nhw losgi haul'n wael er bod nhw defnyddio cymaint o eli haul. Mwynheuon nhw eu hun yn fawr yn y dwr o leiaf.

Es i i siopa efo fy merch a phrynes i fag gwych a fydd yn ddelfrydol i fynd â fo i Gymru. Mae o'n ddiddos!

lluniau: (1) gwersyllu yn yr ystafell fyw, (2) yr oedfa yn y ty.


Friday, June 12, 2009

i ffwrdd â ni

i ymweld â'r hogan hyna a'i gwr yn Norman, Oklahoma. Dyma'r tro cynta i ni fynd yno ers blwyddyn a hanner. Dan ni i gyd wedi bod yn edrych ymlaen at yr ymweliad. Cymerith hi ryw bedair awr. Ca i ddarllen cymaint â mynna i yn y car felly. Dyma gynnwys fy mag llyfrau - Lingo Newydd, Siop Gwalia, Welsh Rules, The Rough Guide to Wales, World Cultures: Wales, Canwn! - 100 Welsh songs a fy nyddiadur. Mi ddown yn ôl nos Sul.

Thursday, June 11, 2009

y weddw ddu

Ces i fy nifyrru wrth ddarllen newyddion BBC y bore ma am y Weddw Ddu. Mae'n ddifyr nid oherwydd bod hi wedi croesu'r môr i Gymru o America ond bod hi wedi gwneud newyddion heb sôn am y ffaith y bydd hi'n cael ei gyrru i swˆ.

Er mod i heb weld un fy hun eto, dw i wedi dod i arfer â'r fodolaeth erbyn hyn. Mae gynnon ni fwy o broblemau gyda 'Brown Recluse' na'r Weddw Ddu yn Oklahoma. Dan ni'n ffeindio un neu ddau o gwmpas y tyˆ weithiau.

Yndw, dw i'n byw yn y gorllewin gwyllt!


Tuesday, June 9, 2009

cobler 'blueberries'


Bwyton ni gymaint o 'blueberries' ffres â mynnon ni a gwnes i gobler efo'r gweddill. Roedd o'n arbennig o dda. Mae'n ddrwg gen i Linda. Dw i'n methu ffeindio sut mae dweud 'blueberries' yn Gymraeg. Oes yna rywun yn gwybod?

Monday, June 8, 2009

gwin o Kobe


Caethon ni win o Kobe, Japan gan ffrindiau. Doeddwn i ddim yn gwybod bod nhw'n tyfu gwranwin yn Kobe er mod i a'r teulu wedi byw yno am bum mlynedd cyn symud i America. Dw i ddim yn yfed fel arfer, felly fedra i ddim barnu gwynoedd wrth gwrs. Ond dw i'n meddwl fod o'n well o lawer na'r rhai a ges i o'r blaen. Hefyd des i o hyd i effaith dda ar ddamwain. Roedd gen i dipyn o ddolur gwddwf ar y pryd ond dechreues i deimlo'n well ar ôl cymryd ychydig o'r gwin. Ella y bydda i'n cymryd llymad bob dydd fel gwnaeth Paul awgrymu i Timotheus.

Sunday, June 7, 2009

blueberries!




Aeth y teulu i hel 'blueberries' mewn cae sy ddim yn nepell (^^) o'n ty ni ddoe. Gwnaethon nhw lenwi dau biser mawr efo 'blueberries' aeddfed a llawn sydd. Maen nhw mor felys a blasus. Dan ni wedi bod yn bwyta cymaint â mynnon ni ar ôl i mi roi rhai yn y rhewgell. Dw i'n gwneud jam efo'r rhai llai aeddfed ar hyn o bryd. Danteithion yr haf ydyn nhw.

Saturday, June 6, 2009

dydd sadwrn




Dw i wedi bod am ymweld â marchnad y ffermwyr sy'n cael ei chynnal yn ystod y tywydd cynnes. Ond fel arfer dw i ar frys a heb gael cyfle. Penderfynes i fynd heddiw ond yn anffodus roeddwn i'n rhy hwyr ac roedd y rhan fwyaf o'r cynnyrch wedi mynd. Prynes i 'sugarsnap peas' ffres beth bynnag.

Tra oeddwn i yno, clywes i rywun yn galw fy enw. Pwy oedd yna ond Hope, y fydwraig a wnaeth fy helpu i gael fy mabi olaf gartref ddeng mlynedd yn ôl! Roedd hi a'i merch yn gwerthu eu cynnyrch hefyd. (yr ail lun) Er bod ni'n byw yn yr un dref, prin mod i'n dod ar ei thraws hi. Roedd yn dda gen i ei gweld hi am y tro cyntaf ers amser.

Yna es i a'r gwr i barti penblwydd priodas ffrindau dros amser cinio. Roedd Dr. a Mrs. Norton yn dathlu'r '70ed' penblwydd priodas! Roedd yna ryw 150 o bobl yn dathlu'r diwrnod arbennig.

Friday, June 5, 2009

monte carlo


Ces i ysbrydoliaeth sydyn neithiwr gwneud Monte Carlo a oedd Asuka'n sôn amdano. Caethon ni jam afan gan ffrind, ac dyna oedd y peth a aeth rhwng dau fisgeden geirch. Dw i'n siwr bod o ddim cystal â Monte Carlo go iawn o Awstralia ond roedd o'n flasus braidd efo paned o de.

Wednesday, June 3, 2009

pîn-afal



Roedd pîn-afalau aeddfed ar werth yn Wal-Mart a phrynes i un i swper. O, roedd o'n felys dros ben yn annhebyg i un a gaeth Taeko a'i theulu yn y ffilm, Only Yesterday. Mae'r gwr yn gwybod y ffwrdd orau i'w tafellu nhw wedi cael ei fagi yn Hawaii. A dyma fo'n dangos ei sgil.

Tuesday, June 2, 2009

georgio's yn llanberis

Prin y bydda i'n bwyta hufen iâ y dyddiau hyn, ond bydd rhaid i m i ymweld â'r siop yno i brofi eu hufen îa arbennig. Dw i erioed wedi bwyta llus. Maen nhw'n edrych yn debyg i 'blueberries.' Ella mai dyna'r blas a faswn i eisiau ei drio.