Friday, June 30, 2017

gwlad pwyl

Cyn iddo fynychu uwchgynhadledd G20 yn Hamburg, bydd yr Arlywydd Trump yn ymweld â Gwlad Pwyl ar 5 Gorffennaf (pen-blwydd fy mab ifancaf) a 6. Bydd o'n annerch yn Sgwâr Krasinski lle mae cofeb dros Wrthryfel Warsaw ynddo. Mae llywodraeth (gobeithio'r bobl hefyd) Wlad Pwyl wrth ei bodd tra bod Undeb Ewropeaidd ynghyd â'r prif gyfryngau a'r Chwith yn teimlo'n anesmwyth. Go dda, Arlywydd Trump! Rhaid cefnogi gwledydd Dwyrain Ewrop sydd yn sefyll yn ddewr yn erbyn bygythiad UE.

Thursday, June 29, 2017

nid oes duw fel tydi

Des i at weddi Solomon wrth ddarllen yr Hen Destament. Roedd o'n cydnabod o newydd nad oes neb yn debyg i Dduw Israel:

"O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi yn y nef uwchben nac ar ddaear lawr," 
1 Brenhinoedd 8:23

Dyma weddi hyfryd dw i eisiau ei dysgu yn Hebraeg. Mae yna wefan gyfleus yn Hebraeg a Saesneg yn ochr yn ochr efo awdio hyd yn oed. Dw i wrthi ers ddoe.


    יְהוָה אֱלֹהֵי יִשְׂרָאֵל אֵין-כָּמוֹךָ אֱלֹהִים, בַּשָּׁמַיִם מִמַּעַל, וְעַל-הָאָרֶץ מִתָּחַת        
  

Wednesday, June 28, 2017

d'urban

Ces i fy atgoffa o Alain Delon gan ddigwyddiad bach diweddaraf. Roedd o'n hynod o boblogaidd yn Japan ers y ffilm enwog, Plein Soleil (Llawn o Haul.) Ymddangosodd mewn nifer o hysbysebion hefyd. Un eiconig oedd D'Urban. Roeddwn i'n arfer ceisio dweud y sawl gair a ddwedodd ar y diwedd er nad oedd gen i syniad beth oedd o'n ei ddweud. Ffeindiais glip ar You Tube; dw i'n ei ddeall o'r diwedd!

Tuesday, June 27, 2017

peidiwch â rhoi'r gorau iddi

Wedi clywed y cloch, es i agor y drws a ffeindio dyn yn ei 70au yn sefyll efo taflen Tystion Jehovah. Dw i byth yn dadlau efo'r rhain, ac felly ces i'r daflen efo diolch. Wrth gau'r drws, clywais y dyn yn gofyn o le dw i'n dod yn wreiddiol. Yna, dwedodd ei fod o yn Japan am 18 mis efo Marine Corps. Cawson ni sgwrs sydyn wedyn. Roeddwn i'n ofnadwy o drist bod dyn oedrannus a hawddgar yn credu yn y cwlt a gweithio'n galed drosto fo. Mae o mor agos at y gwirionedd ac eto mor bell. Gosodais y daflen ar y bwrdd o flaen fy nesg fel cofia' i amdano fo a gweddïo drosto fo.

Monday, June 26, 2017

gweddïwch dros trump

O'r diwedd rhoddodd Llys Goruchaf sêl bendith ar y gwaharddiad teithio arfaethedig. Cymerodd cyhyd, ond buddugoliaeth enfawr o blaid pobl America. Mae'r Arlywydd Trump yn prysur wireddu ei addewidion ymgyrch. Fe allai fo wneud mwy o ddaioni oni bai am ymyrraeth y Democratiaid.

y llun: crys-T newydd fy mab ifancaf 

Saturday, June 24, 2017

un sydd gan y synnwyr cyffredin

Yn y byd lle mae Newyddion Ffug yn ceisio twyllo a chamarwain y cyhoedd, mae'n dangos mai'r wasg tabloid sydd gan y synnwyr cyffredin. Dw i'n sylwi ers i Mr. Trump wedi cael ei ethol yn Arlywydd America bod papur newydd tabloid, sydd yn arbenigo mewn hel cles fel arfer, yn hollol gywir yn disgrifio beth sydd yn mynd ymlaen. Dyma'r pennawd a weles i heddiw wrth dil y siop leol.

Friday, June 23, 2017

ar ei ffordd

Gadawodd Kagemasa Oklahoma City. Ces i'r rhif tracio gan fy merch, ac felly fydda i'n medru gwybod lle mae'r hogyn nes iddo gyrraedd tŷ Lior Raz yn Israel. Cafodd fy merch ofnadwy o drafferth yn y swyddfa bost leol, (dw i'n siŵr nad ydy pawb yn gyrru cynfas pren i Israel bob dydd!) ond mae o ar ei ffordd bellach. Gobeithio y bydd o'n cyrraedd y cyrchfan yn ddiogel.

Thursday, June 22, 2017

siwrnai kagemasa

Mae Kagemasa ar fin dechrau siwrnai i Israel. Paentiodd fy merch bortread o'r samurai ifanc dewr wedi cael ei chyfareddi gan ei hanes. Pan roedd hi yn Efrog Newydd, cyfarfod gwnaeth â Lior Raz o Faruda a ddangosodd ddiddordeb mawr yn ei brynu. Mae popeth wedi cael ei drefnu ar gyfer y cludiant, a dyma Kagemasa yn barod i hedfan i dŷ Lior. Mae Fauda 2 newydd ddechrau cael ei ffilmio yn Israel gyda llaw.

Wednesday, June 21, 2017

pen-blwydd priodas

Pen-blwydd priodas fy merch a'i gŵr ydy hi heddiw. Maen nhw'n priodi ers naw mlynedd yn hapus. Mae busnes fy mab yng nghyfraith wedi datblygu'n llwyddiannus, ac mae fy merch yn dal i greu celf wych. Bydd hi'n paentio murlun arall yn Nhalaith Florida yn fuan, yna yn Las Vegas a hyd yn oed yn Israel! Bydda i'n postio amdanyn nhw nes ymlaen.

Tuesday, June 20, 2017

byr byr

Cafodd stori fer fy merch (yn Saesneg) ei derbyn gan gylchgrawn llenyddol lleol. Byr iawn iawn ydy hi. Gorau po fyrraf, meddai.

Siwrnai drên: neu sut collodd Ana ei sgarff rad o'r Eidal, ei hoff ysgrifbin efo inc glas, y dderbynneb efo enw'r gweinydd ynghyd ag enwau ei hoff siop hufen ia a'i hoff fand jazz arni hi, ei ambarél periwinkle, a'i chalon.

Trodd hi,
rhy hwyr.

Monday, June 19, 2017

baner

Gosododd y gŵr faner fach ar y bwrdd o fy mlaen. Baner Israel - roeddwn i'n meddwl prynu un ers i mi ddechrau cefnogi'r wlad honno'n angerddol. Gofynnais iddo lle gafodd hi. Prynu drwy Amazon wnaeth, ac yn ddistaw bach i fy mhlesio! Mae hi wedi sicrhau lle ar y silff ben tân bellach. Gobeithio wir y ca' i ffeindio'r faner arall ar goll (rywle yn y tŷ) a gawson ni yn Japan gan gerddor o Israel amser maith yn ôl, ond hanes arall ydy hwnnw.

Saturday, June 17, 2017

esgidiau cowboi

Clywodd hi sŵn esgidiau cowboi ar lawr caled yr ysbyty yn Jerwsalem. Aeth y dieithryn yn syth at Jane; gafaelodd o yn ei llaw a dweud, "Jerwsalem Jane, gadwch i mi ddiolch i chi am beth dach chi'n ei wneud dros fy mhobl a fy ngwlad. Dach chi'n anhygoel, a pheidiwch â meddwl nad oes neb yn sylwi beth dach chi'n ei wneud." Cawson nhw sgwrs wych tra oedd o'n diolch iddi drwy'r amser. Efallai bod Duw Israel wedi gyrru angel ati hi er mwyn codi ei chalon. Pwy a ŵyr?

Friday, June 16, 2017

shakshuka eto

Fe wnes Shakshuka unwaith eto, yn ôl rysáit Dr. Shakshuka yn Tel Aviv, Israel y tro yma. Defnyddiais domatos a sardîn mewn tuniau, a phigoglys. Roedd yn flasus iawn! Rhaid coginio'r saws yn hirach i'w dewhau cyn ychwanegu wyau y tro nesaf.

Thursday, June 15, 2017

dyrchafiad

Mae fy mab hynaf newydd gyhoeddi bod ei wraig yn disgwyl babi arall. Merch mae hi'n ei disgwyl. A dweud y gwir, roedd mam y wraig yn credu'n siŵr mai merch ydy'r babi cyn i'r meddyg ddweud wrthyn nhw. Roedd hi eisoes yn ei galw'r babi yn Ruth. Cafodd fy ŵyr ei ddyrchafu'n "frawd mawr."

Wednesday, June 14, 2017

pen-blwydd arlywydd trump

Pen-blwydd hapus i'r Arlywydd Trump! Roeddwn i'n edrych ymlaen at ysgrifennu post am ei ben-blwydd, ond newidiodd popeth yn sydyn pan saethwyd gwleidydd ynghyd â thri arall ar gae pêl-fas yn Nhalaith Virginia. Gofynnodd y troseddwr a oedd Gweriniaethwyr ar y cae cyn iddo saethu. Pwy a ŵyr nad oedd o'n cynllunio'r erchyllter hwnnw er mwyn dinistrio dathliadau'r diwrnod. Clywais fod y pedwar a gafodd ei anafu mewn cyflwr sefydlog.

y diweddaraf ar gyflwr y cyngreswr a saethwyd: cafodd ei gludo i uned gofal dwys. Mae o angen mwy o lawdriniaethau.

Tuesday, June 13, 2017

well iddyn nhw ddarllen eu torah

Trist ydy'r gair. Sgrifennodd 1,800 o rabiniaid yn America lythyr at Brif Weinidog Israel - maen nhw'n gofyn i Israel am stopio "meddiannu" y tir a enillodd Israel yn ôl wedi'r Rhyfel Chwe Diwrnod, a chreu gwladwriaeth Palestina fel byddai'r ddwy wlad yn medru byw'n ochr yn ochr yn heddychlon. Duw a roddodd y tir i'r Iddewon yn dweud byddai'r tir yn perthyn iddyn nhw am byth. Iorddonen roedd yn meddiannu tir Israel cyn y rhyfel, nid y Palestiniaid. Doedden nhw ddim yn bodoli fel "pobl" hyd at y 60au. Arabiaid o amryw wledydd oedden nhw. Mae'n well i'r rabiniaid ddarllen eu Torah ynghyd â'r hanes modern. Yna, sut maen nhw'n disgwyl i Israel fyw'n ochr yn ochr yn heddychlon gyda'r rhai sydd eisiau i'r Iddewon i gyd farw?

Monday, June 12, 2017

tra fod o'n aros

Mae fy mab ifancaf yn gobeithio cael ei dderbyn gan College of Ozarks yn dilyn olion traed ei chwaer. Tra fod o'n aros, mae o'n gweithio'n rhan amser i ennill pres ar gyfer y dyfodol. Ar wahân i weithio mewn siop hufen iâ, mae o'n cael ei gyflogi gan gymdogion o bryd i'w gilydd. Roedd o wrthi'n torri'r lawnt a chwythu'r dail oddi wrth do cymydog ddeuddydd yn ôl. (Gwelais fo oddi ar ffenestr fy nhŷ!)

Saturday, June 10, 2017

bore da

Gadawais y tŷ am 5:55 y bore 'ma i fynd am dro; roedd hi eisoes yn hanner olau; neb o gwmpas ond adar sydd wrthi'n canu. Cyrhaeddais ben y llethr tuag at y dwyrain; dacw Fenws yn yr awyr. Troais. Dyma'r lleuad lawn yn fy nghyfarch. Bore da.

Friday, June 9, 2017

dim diolch I rwsiaid, comey, hillary

Fedra i ddim dioddef clywed rhagor o Rwsiaid, Comey, a "pham collais i'r etholiad arlywyddol" gan Hillary Clinton. Mae'r prif gyfryngau'n anwybyddu'r cynifer o bethau mae'r Arlywydd Trump wedi eisoes eu cyflawni -  crëwyd 1,000,000 swyddi newydd; gostyngwyd nifer y mewnfudwyr anghyfreithlon 75 y cant; roddodd ysbrydoliaeth i Saudi Arabia a'r Aifft i daclo terfysgwyr yn ffyrnig, a llawer mwy. Peidiwch â'i rwystro rhag iddo wneud America yn odidog unwaith eto.

Thursday, June 8, 2017

at y wal

Y Wal, wrth gwrs. Aeth Nikki Haley at y Wal yn Jerwsalem i weddïo, nid yn y llecyn arbennig wedi'i baratoi ar ei chyfer hi, ond ymysg y gwragedd eraill, (druan o'r staff diogelwch cudd!) Cafodd hi ei diolch gan nifer o'r gwragedd yno am ei safiad cryf yn y Cenhedloedd Unedig ym mhlaid Israel. Pob bendith i Nikki!

Wednesday, June 7, 2017

fedra i ddim dioddef bwlis

Mae Nikki Haley, Llysgennad America i Genhedloedd Unedig newydd gyrraedd Israel, wedi ceryddu Cyngor Hawliau Dynol yn Genefa am ei rhagfarn yn erbyn Israel. Does ryfedd iddi gael croeso hynod o gynnes gan Arlywydd a Phrif Weinidog Israel. Canmolodd y prif weinidog fod hi a'r Arlywydd Trump wedi newid cyfarwyddyd Cenhedloedd Unedig, a sefydlu safon newydd. Gostyngedig oedd ateb Haley - "dim ond dweud y gwir wnes i gan fedra i ddim dioddef bwlis." Go dda, Nikki! Gobeithio y ceith ymweliad hyfryd yn y Tir Sanctaidd.

Tuesday, June 6, 2017

y ddynes

Wedi treulio pythefnos gwych yn Efrog Newydd, daeth fy merch a'i gŵr adref yn Oklahoma neithiwr. Cawson nhw gyfle i weld y ddynes a baentiodd hi ar gyfer tŷ bwyta ym maes awyr Newark. Clywodd cwsmer y sgwrs rhyngddi hi a'r weinyddes am y murlun, ac eisiau tynnu lluniau. 

Monday, June 5, 2017

codi bawd

Ar ôl llu o gwestiynau ynglŷn y "sgandal" o gwmpas Rwsia a Mr. Trump a ofynnwyd gan Megyn Kelly yn y cyfweliad arbennig, dwedodd Putin, "i mi mae hyn yn anhygoel. Dych chi'n creu cynnwrf allan o ddim byd, a'i droi'n arf ryfel yn erbyn yr arlywydd cyfredol. Pobl greadigol dych chi. Da iawn. Rhaid bod eich bywydau'n ddiflas acw." Da iawn, Mr. Putin.

Saturday, June 3, 2017

mordaith arbennig

Mae fy merch hynaf a'i gŵr wrth eu bodd yn Efrog Newydd. Cawson nhw fordaith arbennig ar gwch heddlu'r ddinas, diolch i'r sarsiant mae hi'n ei nabod, a gweld y golygfeydd hyfryd ar hyd Afon Hudson gan gynnwys Cerflun o Ryddid a'r man glanio ar gyfer hofrennydd yr Arglwydd Trump. Hwylion nhw dan y ddwy bont, sef Manhattan a Brooklyn. Mae Gorymdaith Ddathlu Israel yn cael ei drefnu yfory yno; gobeithio y cân nhw gyfle i'w gweld.

Friday, June 2, 2017

addewid arall

Cyflawnodd yr Arlywydd Trump ei addewid ymgyrch arall, sef tynnu America allan o Gytundeb Hinsawdd Paris. Mae o'n cael ei farnu'n hallt gan nifer o wledydd a'r rhyddfrydwyr yn America fel disgwyliwyd, ond mae o'n benderfynol.
"Mae'n amser i ni ddod allan o Gytundeb Paris, a symud ymlaen gydag un newydd a fydd yn amddiffyn yr amgylchedd, ein cwmnïau, ein dinasyddion ac ein gwlad," meddai.

Thursday, June 1, 2017

siom

Arwyddodd yr Arlywydd Trump heddiw'r waiver ynglŷn symud Llysgenhadaeth America i Jerwsalem. Bydd y llysgenhadaeth yn aros yn Tel-Aviv am chwe mis arall. Ces i fy siom wrth gwrs fel y nifer mawr o'r bobl eraill. Roedden ni'n gobeithio na fyddai fo'n ei arwyddo. Mae o'n dal i fwriadu symud y llysgenhadaeth i Jerwsalem fodd bynnag. Yn ôl Tŷ Gwyn, "nid hyn yn gwestiwn o symud neu beidio, ond pryd." Roedd rhaid i'r Arlywydd a'r Prif Weinidog Netanyahu siarad am y pwnc yn bersonol yn Israel yn ddiweddar. Dw i'n dal yn obeithiol.