Monday, September 30, 2019

gŵyl y trymped

Gŵyl y Trymped i'r Iddewon ydy hi heddiw yn ôl y Torah, ond rhywsut neu'i gilydd, mae hi wedi newid i Rosh Hashanah (dechrau'r flwyddyn) dros y blynyddoedd. 

Beth ddwedodd Paul wrth i'r Corinthiaid?
"....bydd yr utgorn yn seinio, y meirw yn cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau'n cael ein newid."

Felly, Gŵyl y Trymped Hapus!

Sunday, September 29, 2019

Saturday, September 28, 2019

ebrill swyngyfareddol

Doeddwn i erioed wedi clywed Elizabeth von Arnim o'r blaen, a dweud y gwir. Des o hyd i'r llyfr clywedol ar ddamwain, a dechrau gwrando arno fo. Ces i fy nghyfareddu gan ddull unigryw hyfryd yr awdures - dadansoddiad meddyliau'r cymeriadau, a sut maen nhw'n plethu gyda'i gilydd yn gymhleth. Rhaid canmol y darllenwr, Helen Taylor am ei champwaith hefyd. Darllenodd hi gyda chymaint o deimladau ac angerdd. Argymhellir yn gryf.

Friday, September 27, 2019

hannah szenes

Hannah Szenes ydy thema murlun nesaf fy merch. Hi oedd yr arwres a safodd yn ddewr yn erbyn y Natsïaid er mwyn achub yr Iddewon yn Hwngari. Dienyddiwyd gan sgwad tanio yn 23 oed. Gwrthododd fwgwd gan syllu’n feiddgar ar ei ysgutorion. Bydd fy merch yn hedfan i San Diego yfory i greu'r murlun ynghyd ag artistiaid menywaidd eraill.

Thursday, September 26, 2019

aderyn nofio

Mae'n amser i'r tŷ gael paent newydd. Fe wnaeth Kurt y gwaith mwy na deg mlynedd yn ôl. Dw i a'r gŵr eisiau cadw'r un lliwiau, sef glas ysgafn gyda melyn ysgafn o gwmpas y ffenestri. Mae gan y siop enwau braf ar eu cyfer nhw - swimming ar gyfer y glas, a Finch ar gyfer y melyn. Swimming Finch amdani felly.

Tuesday, September 24, 2019

plât lliwgar

I fy mab ifancaf wrthi'n astudio a gweithio'n galed yn y brifysgol, un o'r pethau pleserus sydd yn codi ei galon ydy'r bwyd yn y ffreutur. Cynigir bwyd da o ddewis eang yn ddiweddar. Mae o'n dewis bwyd iachus a'i osod mewn modd hynod o ddeniadol bob tro, a gyrru lluniau ohonyn nhw ata i'n aml. Dw i'n siŵr mai fo ydy'r unig berson sydd yn ei wneud o yn y ffreutur! Roedd ei ffrindiau'n sylwi ei blatiau lliwgar a gofyn iddo baratioi salad iddyn nhw.

Monday, September 23, 2019

43-14

Llongyfarchiadau mawr i dîm Cymru!

Saturday, September 21, 2019

tatŵ samurai

Mae criw ffilm wrthi'n ffilmio cyfres newydd Netflix yn Ninas Efrog Newydd. Hit and Run ydy'r teitl, a Lior Raz, prif gymeriad Fauda a ysgrifennodd y stori ynghyd a'r lleill. Mae o'n actio hefyd. Dim ond dyddiau'n ôl gofynnodd i fy merch hynaf i ddylunio tatŵ samurai. Aeth hi i'r lleoliad ffilmio i weld o ddoe. Dyma ei gwaith. Mae o eisiau iddi wneud un arall mawr ar gyfer ei gefn.

Thursday, September 19, 2019

tryledwr aroma

Daeth fy merch â thryledwr aroma gyda hi. Mae o mor fach a del fel prynais un hefyd. Mae o'n gweithio'n dda. Dydy o ddim yn rhoi gormod o stêm fel y lleill a digon bach i'w symud yn hawdd. Dw i'n gwirioni ar y ffurf sydd yn fy atgoffa i o onigiri (pêl reis gyda gwymon.) Dw i'n medru cysgu'n well gyda fo wrth fy ngwely.

Wednesday, September 18, 2019

efrog newydd

Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn teithio unwaith eto, i Efrog Newydd eto. Mynychu cynhadledd grŵp Philos ydy'r amcan. Dydyn nhw ddim yn peintio murlun, ac felly maen nhw'n cael ymlacio ac mae ganddyn nhw amser i gerdded o gwmpas. Aethon nhw i'r MET (amgueddfa gelf yn Ninas Efrog Newydd) y bore 'ma. Ymysg y mynydd o'r arddangosfeydd, ffeindion nhw Ruben, eu ci annwyl! 

Tuesday, September 17, 2019

da iawn!

Rhoddodd cefnogwyr Japaneaidd dros dîm rygbi Cymru groeso cynnes anhygoel iddyn nhw. Aeth 15,000 o bobl i weld y tîm yn ymarfer. Canon nhw Hen Wlad Fy Nhadau a Chalon Lân yn Gymraeg hyd yn oed yn llenwi'r stadiwm gyda'u lleisiau. Da iawn! Dw i'n falch ohonyn nhw.

Monday, September 16, 2019

blasus y tro 'ma

Es i Newk's eto gyda'r gŵr a'n merch ni. Y tro 'ma, dewisais o'r fwydlen yn gall, ac roedd popeth yn flasus - pizza llysiau a chawl Fecsicanaidd (ynghyd â seidr afal wrth gwrs.) Eisteddon ni at fwrdd tu allan lle cewch chi olwg braf. Efallai bod hi'n rhy boeth i'r lleill; cawson ni'r lle i ni ein hunain. Na fydda i'n meindio mynd yno eto.

Saturday, September 14, 2019

cwmni fy merch


Daeth fy merch arall adref am y tro cyntaf ers iddi raddio yn y brifysgol. Cafodd hi swydd gyda theatr yn Branson, Missouri, ac roedd hi wedi bod wrthi'n gweithio. Mae hi'n cael hoe fach am ddyddiau. Un peth roedden ni'n edrych ymlaen at wneud ydy gwylio DVD Victoria (y gyfres ddiweddaraf) gyda'n gilydd. Mae'n wych cael ei chwmni. Coginiais swper o bethau bach amrywiol, ar gais - quinoa gyda tatws melys, tofu wedi'i grilio, ffalaffel, hwmws, salad ffres a sardinau sur.

Friday, September 13, 2019

erthygl am dref ddol

Ysgrifennodd fy merch yn Japan erthygl i wefan dwristiaid ar gyfer ymwelwyr o dramor. Ysgrifennodd hi am Ningyo-cho (tref ddol) lle mae Morinoen, siop de lle mae hi'n gweithio iddi. Mae hi'n gyfarwydd â'r dref erbyn hyn, ond mae'n amlwg iddi wneud tipyn o waith ymchwil. Mae'r erthygl yn bleserus darllen, a gwneud i mi eisiau ymweld â Ningyo-cho.

Thursday, September 12, 2019

recordydd tâp

O'r diwedd prynais recordydd tâp bach, wedi taflu allan y ddau a oedd gen i flynyddoedd yn ôl. "Pwy sydd eisiau'r hen declyn bellach?" roeddwn i'n meddwl ar adeg honno. Roedd edifar gynna i ers hynny. Mae gen i sawl tâp dw i eisiau gwrando arnyn nhw wedi'r cwbl. Wrth gwrs bod yna fodd i wrando ar y cyfrifiadur, ond mae'n rhy gymhleth i mi. Mae'r recordydd yn gweithio'n berffaith, ac mae'r hen dapiau mewn cyflwr ardderchog hefyd. Hwrê!

Wednesday, September 11, 2019

cofiwn ni

Cofiwn ni nid dim ond y rhai a gafodd eu lladd ac y rhai a roddodd eu bywydau i achub y lleill. Cofiwn ni fod pobl ysgeler yn y byd sydd yn hapus eich llofruddio chi oherwydd eu bod nhw'n eich casáu cymaint. Dyna pam dylen ni fod yn wyliadwrus.

Tuesday, September 10, 2019

achlysur llawen

Cafodd dri o bobl eu bedyddio ddydd Sul - un fam ifanc a dau yn eu harddegau. Un o'r ddau oedd merch y gweinidog sydd gan Syndrom Dawn. Rhoddodd hi ei thystiolaeth o flaen y gynulleidfa yn dweud bod hi'n credu yn Iesu Grist a fu farw drosti, ac eisiau ei ddilyn yn ffyddlon ar hyd ei hoes. Roedd yn achlysur llawen i bawb.

Monday, September 9, 2019

y tangnefedd


Gorffennwyd y murlun. La paix (y tangnefedd) ydy'r teitl. Mae fy merch yn gobeithio bydd y murlun yn dwyn tangnefedd i'r trigolion ac i'r ardal. Wedi mwynhau parti dathlu yn y dref, mae hi a'i gŵr ar eu ffordd adref heddiw. Y murlun nesaf bydd yn San Diego ddiwedd y mis.

Saturday, September 7, 2019

yr anrheg gorau

Pen-blwydd fy mab hynaf ydy hi heddiw. Gofynnais iddo sut byddai fo'n dathlu. Cafodd ginio gwych gyda'r teulu ddoe, a rŵan mae o'n cael rhyw oriau distaw ar ben ei hun yn bwyta cacen gaws ac yfed coffi yn y cwpan a gafodd yn anrheg pen-blwydd. Aeth ei wraig â'u ddau fabi allan er mwyn rhoi amser rhydd iddo fel rhan o'i anrheg. Yr anrheg gorau i rieni sydd wrthi'n magu plant!

Friday, September 6, 2019

agos at y wal

Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn dal i baentio. Dyma gip arnyn nhw. Cewch chi nodi pa mor fawr ydy'r murlun hwnnw. Does gen i ddim syniad sut mae hi'n medru gweld beth mae hi'n ei wneud mor agos at y wal. Bydd yna wibdaith i weld yr holl furluniau, parti, cerddoriaeth, bwyd a chwrw lleol i ddiweddu'r ŵyl dros y penwythnos.

Thursday, September 5, 2019

tymor pen-blwydd

Y tymor pen-blwydd wedi cyrraedd. Mae gan fis Medi nifer mwyaf o ben-blwyddi yn y teulu - y 6ed, 7fed, 8fed, 21ain (10fed hefyd cyn i fam y gŵr fu farw.) Roeddwn i'n arfer crasu tair cacen ar un diwrnod. Gan fod y plant i gyd wedi gadael cartref, dim ond cardiau a gyrrais atyn nhw. Cyrhaeddodd un at fy merch yn Japan ddiwrnod cyn ei phen-blwydd. Gobeithio y bydd hi'n cael dathliad hapus ar ôl iddi orffen ei gwaith.

Wednesday, September 4, 2019

brenin

Ces i fy nharo yn gweld y llythyren dan sylw yn ddirgelwch Nyffryn Nantlle. Mae o'n debyg iawn i'r kanji (system ysgrifennu Japneg) sydd yn golygu brenin. Yr unig wahaniaeth ydy dalai llinell lorweddol uchaf y kanji yn fyrrach na'r un ar y gwaelod fel gweler i'r chwith. Efallai nad oes unrhyw cysylltiad â'r dirgelwch, ond mae'n ddiddorol beth bynnag.

Tuesday, September 3, 2019

san simeon piccolo

Dyma lun o Dŷ Gwladwriaeth Penssylvania yn Harrisburg a dynnodd fy merch. Ces i fy synnu'n gweld pa mor debyg ydy o i San Simeon Piccolo yn Fenis, un o fy hoff adeiladau yn yr Eidal. Roeddwn i'n lletya yn nhŷ Federica a oedd yn dafliad carreg o San Simeon P wrth wneud cwrs Eidaleg am bythefnos yn 2013. Mae fy merch a'i gŵr yn wrthi'n paentio'r murlun eto heddiw.sa

Monday, September 2, 2019

y murlun

Mae fy merch a'i gŵr wrthi'n paentio'r murlun mwyaf. Wrth oresgyn y lifft anghydweithredol, llwyddon nhw i baentio cymaint fel gweler yn y llun. Heddiw mae'n bwrw glaw. Maen nhw'n medru cael hoe fach. I ffwrdd â nhw i'r Tŷ Gwladwriaeth a'r Amgueddfa Gelf.