Thursday, April 30, 2009

cwrs trwy'r post

Dw i'n dal i wneud y cwrs arall trwy'r post. Dw i newydd gael uned 10. (Gyrres i uned 11 at fy nhiwtor yr wythnos diwetha oherwedd post wedi'i golli, ond stori arall ydy honna.) Mae yna gymaint o waith darllen, sgrifennu a gwrando. Maen nhw i gyd yn gwneud imi weithio'n galed.

Y gwaith gwrando ydy'r un mwya anodd. Darnau o gyfweliadau Radio Cymru ydy nhw. Mae'n rhaid i mi wrando ar y tâp droeon ond fedra i ddim deall rhai geiriau hyd yn oed ar ôl darllen y sgriptiau wedyn. 

Dw i i ysgrifennu adolygiad o lyfr Cymraeg y tro ma. Byddwn i eisiau adolygu Rhannu'r Ty ond dim ond llai na hanner ffordd dw i...


Monday, April 27, 2009

gwyrddlesni ac alergydd


Mae popeth yn edrych yn ffres y tu allan, o flodau o bob math i'r gwyrddlesni sy'n disgleirio yn yr haul.

Ond yn anffodus, tymor alergedd ydy o hefyd unwaith eto. Mae blodau'r derw yn nesu at ei hanterth yn bwrw eu paill ym mhob man. Dw i wedi bod yn defnyddio chwistrell trwyn yn ystod y tymor alergedd ac mae o'n gweithio'n iawn. Ond ceisia i aros tu mewn cymaint ag y medra i hefyd.  Bydd yn wythnosau cyn imi gael mynd am dro.

Sunday, April 26, 2009

p'nawn sul

Mae'r plant ym mhob man yn y ty prynhawn Sul fel arfer. Ond heddiw, aeth fy ngwr â nhw i bwll nofio dan do'r brifysgol. Felly, dyma fi yn y ty ar fy mhen fy hun. Fydd dim rhaid i mi goginio swper achos bod yna fwy na digon o fwyd ar ôl (left-over) yn yr oergell. Ac dw i wedi gorffen golchi'r dillad yn barod. 

Beth ga i wneud? Sgwennu Gymraeg at ffrind neu ddau, ymarfer corff wrth wrando ar Radio Cymru, gwneud gwers 23 Saysomethinginwelsh unwaith eto, dal ati ddarllen Rhannu'r Ty gan Eigra Roberts... (Mae ei Chymraeg yn anodd o lawer i mi gyda llaw, ond mae'n bwnc diddorol, sef y streic fawr yn chwarel Penrhyn rhwng 1900 a 1903. Dw i'n bwriadu gorffen y nofel cyn mynd i Lanberis.) Ac wrth gwrs, sgwennu fy mlog!

Saturday, April 25, 2009

morgrug!


Wrth i'r tywydd gynhesu, dechreuodd llu o forgrug ymddangos yn yr ystafell ymolchi. Byddwn ni'n cael chwistrellu o gwmpas ein ty bob blwyddyn fel arfer, ond eleni, caethon ni rywbeth gan ffrind o Tseina. Rhywbeth tebyg i sialch ydy o, ac dim ond llinellu efo fo lle mae'r morgrug yn cerddedd sy'n angen. Dydy o ddim yn niweidio pobl. 

Hwyrach bod yna ddyn neu ddau yn galw nhw'n ddel a gadael iddyn nhw gerdded yn rhydd o gwmpas sinc ei gegin, ond fedra i ddim dioddef llu o bryfed in fy nhy. ^^

Mae'r morgrug wedi mynd bellach.

Friday, April 24, 2009

girl friday eto

Dw i'n edrych ymlaen at ddydd Gwener, neu edrycha i ymlaen at ddydd Gwener, neu wna i edrych ymlaen at ddydd Gwener. ^^

Dal i helpu fy ngwr yn ei swyddfa dw i. Heddiw roeddwn i'n falch o gael defnyddio ei iMac er mai dim ond gwaith syml a wnes i.

Thursday, April 23, 2009

gwers japaneg


Mae Ron wedi ail-ddechrau ei wersi Japaneg wedi cael hoe fach oherwydd ei waith. Mae hi wedi bod yn her imi. Beth ydy'r ffordd orau i'w dysgu hi iddo fo?

Heddiw ces i fenthyg syniad Aran Jones o Saysomethinginwelsh. Wnes i beri iddo ddweud, "oedd bron imi.....' ac newid y gair ar ôl 'imi'. e.e.
Oedd bron imi syrthio (neu ddisgyn. ^^)
Oedd bron imi anghofio.
Oedd bron imi ladd ci gwyn, cath ddu, aderyn coch, cwningen wen.... ayyb.

Gobeithio bod yr ymarfer yn fudd iddo. Dw i'n bwriadu gwneud mwy yr wythnos nesa.

Wednesday, April 22, 2009

crysau 'tai chi'


Prynodd rhai o'r dosbarth grysau 'Tai Chi' ac dyma ni! Dw i'n dal i fwynhau ei wneud o. Dan ni'n dysgu symudiadau newydd o dipyn i beth. Un o fy ffefryn ydy 'llygaid draig.'  Dach chi'n gwneud ffurf llygaid draig efo'ch dwylo wrth symud. Fedra i ddim esbonio'n iawn, mae'n ddrwg gen i!

Tuesday, April 21, 2009

cyfarfod rachel


Mi wnaethon ni wahodd fyfyrwraig i swper neithiwr a oedd yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe am dymor y llynedd. Roedd Rachel wrth ei bodd â Chymru ac mae hi eisiau mynd yn ôl rywdro. Ces i fy synnu braidd clywed bod hi wedi clywed cymaint o Gymraeg yn Abertawe. Mi wnes i fara brith i bwdin.

Sunday, April 19, 2009

glaw eto


Dechreuodd hi stido bwrw efo gwragedd hen ac ifanc i gyd tra oeddwn i a'r plant yn Wal-Mart ddoe. Am law! Doedd hi ddim yn edrych yn stopio am sbel, felly cerddes i ar fy mhen fy hun at y fan wrth adael y plant y tu ôl drws blaen y siop. Ces i fy ngwlychu o'r corun i'r sawdl yn llythrennol. Yna, roedd rhaid gyrru'n araf, 20 m.y.a. ar y brif ffordd achos mod i ddim yn medru gweld yn iawn. Trodd y ffyrdd yn afonydd mwdlyd yma ac acw ond daethon ni adre'n ddianaf yn y diwedd!

Saturday, April 18, 2009

gwers ffrangeg


Aeth fy merch i wers Ffrangeg arbennig heddiw. Mae ei thiwtor yn cael ymwelydd o Ffrainc ar y hyn o bryd. Caeth fy merch gyfle i siarad â rhywun o Ffrainc am y tro cynta ers dechrau dysgu Ffrangeg flwyddyn a hanner yn ôl. "Fedrwn i ddim deud cymaint," meddai hi, ond o leia caeth hi glywed sgyrsiau Ffrangeg yn fyw. Ac mae hi wedi sylweddoli bod ei thiwtor yn hollol rugl!

Friday, April 17, 2009

gwaith 'shred'


Dw i'n dal i fynd ar goll yn yr Adran Optometreg. Lle cymhleth ydy o. Roeddwn i'n gweithio yn swyddfa fy ngwr heddiw eto. Y dasg:

'shred' papurau (Does gen i ddim syniad sut mae dweud 'shred'.)
sortio papurau ymchwil y myfyrwyr allan (neu eu rhoi nhw mewn trefn yn ôl Corndolly. ^^)

Roedd hi'n cymryd tipyn o amser oherwydd bod yna bentwr o bapurau (diangen, dim papurau y myfyrwyr,) ac roedd rhaid cael gwared ar y styffylau cyn rhoi'r papurau i'r peiriant.


Tuesday, April 14, 2009

mae gwiwerod yn oer hefyd


Gweles i wiwer a oedd wrthi'n bwyta cnau ar ein dec cefn. Wrth i'r tywydd yn dal yn oeraidd, roedd hi'n gwneud y gorau o'i chynffon fawr. Go hwylus!

Monday, April 13, 2009

mae'n oer


Mae'r tywydd wedi troi'n oeraidd unwaith eto ar ôl cyfnod o wanwyn. Dechreuodd ein 'azalea' ni flodeuo'n hapus ond maen nhw'n gwywo'n gynamserol. Truan ohonyn nhw.

Sunday, April 12, 2009

gobaith


Felly dw i'n gweddio y bydd Duw, ffynhonnell gobaith, yn llenwi'ch bywydau gyda'r llawenydd a'r heddwch dwfn sy'n dod o gredu ynddo - Rhufeiniaid 15:13 (beibl.net)

Pasg Hapus

Friday, April 10, 2009

gwyl japan





Cynhaliwyd Gwyl Japan gan y myfyrwyr Japaneaidd prynhawn ma. Roedd yna berfformiad drymiau, dawnsio a stondinau bwyd, teganau, kimono, manga (dyma lun i Asuka) a mwy.

Roedd y perfformiad drymiau yn enwedig yn hynod o dda. Roedd o mor nerthol nes i mi boeni y caen nhw eu torri! Roedd yna gannoedd o bobl a ddaeth i fwynhau'r wyl. Cynhyrchiad llwyddiannus arall gan y myfyrwyr oedd o.


Thursday, April 9, 2009

cerddoriaeth ddawnsio llinell

Prynes i gerddoriaeth ddawnsio llinell gan iTune yn ddiweddar  i ddawnsio yn y ty. Tra fy mod i'n mwynhau dawnsio, dw i ddim yn rhy hoff o gerddoriaeth 'country' Americanaidd. Dyma feddwl a fydd fy hoff gerddoriaeth Gymraeg o saith degau'n gweithio. Ydy! Mae rhai ohonyn nhw'n gweithio'n berffaith. Dyma'r caneuon a wnes i drosglwyddo i iTune:

caneuon gan -
Brodyr Gregory
Hergest
Tony ac Aloma
Rosalind a Myrddin
Dyfydd Iwan
Mynediad am Ddim
Talon

Mi ga i yfarfer corff a mwynau cerddoriaeth Gymreaeg ar yr un pryd!

Tuesday, April 7, 2009

rockffery


Roeddwn i heb glywed ei chân tan yn ddiweddar er mai mor boblogaidd ydy hi. Clywes i 'Mercy', ffefryn Dafydd Hardy yn y rhaglen Beti a'i Phobl am y tro cynta. Fel dwedodd Linda yn ei blog, camp fawr a wnaeth y Gymraes chyflawni. Roedd yn rhyfeddol gweld ei CD (Rockffery)  ar silf Wal-Mart heddiw. Wnes i ofyn i un o'r gweithwyr fodelu drosta i. Cymwynasgar oedd o!

Friday, April 3, 2009

penderfyniad

Dw i'n mynd i siarad Cymraeg â phob siaradwr Cymraeg tra bydda i yng Ngymru yn yr haf ma. Wna i wrthod siarad Saesneg â fo. Wedi'r cwbl, mae fy ngwr yn fodlon talu 3,000 o ddoleri i mi gael mynd i Gymru. Y bwriad? I siarad Cymraeg efo'r bobl leol yn bennaf.

Well i mi beidio bod yn swil wrth ei siarad hi ac yn teimlo'n euog am roi trafferth i siaradwyr Cymraeg efo fy Nghymraeg  llai-na-rhugl.

Dw i'n gwybod y ca i fy nhemtio i droi i'r Saesneg yn yr amser gwan. Dyna pam mod i'n sgwnnu fy mhenderfyniad yma i fy atgoffa i fy hun ohono fo. 

Thursday, April 2, 2009

o'r diwedd


Mae'r bobl yn y dref wedi rhoi'r canghennau wedi'u syrthio'n bentyrrau mawr yn ymyl y strydoedd. Er bod y dref wrthi'n eu casglu ers y storm aeaf ddiwetha, mae nifer mawr ohonyn nhw'n dal i aros am eu tro.

O'r diwedd daeth ein tro y bore ma. Mae'r canghennau wedi mynd o'n stryd ni. Gobeithio na ddoith storm arall mor ddinistriol y flwyddyn nesa.