Thursday, July 31, 2014

rysáit newydd

Mae'n anodd penderfynu beth ddylwn i goginio yn enwedig yn ystod yr haf gan nad ydw i eisio defnyddio'r popty. Fe welais un sydd yn taro'r deuddeg, hynny ydy pupur wedi'u llenwi a goginir mewn Crock Pot. Dw i erioed wedi prynu cynifer o bupur gwyrdd, sef 6. Y tro 'ma fe ddewisais rysáit llysieuol. Roedd yn hynod o hawdd paratoi. Wedi llenwi'r pupur, dim ond eu gosod nhw yn y pot ac ychwanegu tipyn bach o ddŵr oedd angen arna i. Ar ôl chwe awr, roedd swper blasus yn barod. Meddal iawn oedd y pupur; y tro nesaf bydda i'n prynu pupur coch fodd bynnag gan eu bod nhw'n llai chwerw.

Wednesday, July 30, 2014

diwrnod i fwyta llyswennod

Diolch i Daniela sydd yn sgrifennu blog hyfryd yn Eidaleg am wahanol bynciau ynglŷn Japan, ces i fy atgoffa mai Canol Haf yn Japan oedd hi ddoe. Ac mae yna arfer i fwyta llyswennod i gadw'n heini yn ystod y tymor poethaf. Roedd ciwiau hir tu allan tai bwyta adnabyddus er bod llyswennod yn ddrud iawn eleni oherwydd prinder. Yr hoff fwyd fy ngŵr ydy o. A dweud y gwir fodd bynnag, dw i ddim yn rhy hoff ohono fo. Dw i'n hoffi'r saws ond fedra i ddim dioddef cig meddal y llyswennod. Dim ots. Mae pawb yn fodlon wedi cyflawni'r arfer.

Tuesday, July 29, 2014

'ramen' arbennig

Gyrrodd fy merch hynaf lun o'r ramen a wnaeth efo'i ffrindiau. Dim ramen mewn paced oedd o; roedd hi'n paratoi potes ffres, llysiau a chig. Mae'n edrych fel saig Gordon Ramsey. Dwedodd fy merch bod y ramen yn hynod o flasus fel yfodd pawb pob diferyn o'r potes. Hoffwn i fod wedi ymuno â nhw!

Monday, July 28, 2014

dal ati, alberto


Mae Alberto o Italianoautomatico yn mynd o nerth i nerth. Mae o'n dal i greu fideos, awdio, ac erthyglau i helpu dysgwyr yr Eidaleg tra mae o'n dysgu dwy iaith arall ei hun (Almaeneg a Rwsieg) a gwneud cynifer o bethau. Mae ei frwdfrydedd, ymrwymiad a'i bersonoliaeth hoffus yn fy ysbrydoli a symbylu. Yn ei fideo diweddaraf, ces i fy synnu pleserus i weld fy sylw ar ei E-lyfr. Dw i'n hapus i glywed ei fod o wedi gwerthu cannoedd (er bod ei fam yn amau a fyddai fo'n medru gwerthu ryw 50.) Dal ati, Alberto!

Sunday, July 27, 2014

ymarfer corff efo'r hoff ganeuon

Dw i a fy mhlant yn gwneud ymarfer corff wrth wylio fideo Japaneaidd You Tube ers misoedd. Yn ddiweddar dechreuodd fy merched wneud yr un ymarferion efo eu hoff gerddoriaeth. Syniad da! Dyma brofi ar fy hoff ganeuon Beach Boys. Maen nhw'n berffaith! Fel arfer bydda i wedi blino ar ôl gorffen y fideo Japaneaidd sydd yn para ond tri munud, ond roeddwn i'n cael llawer o hwyl fel fe wnes i bedair cân, un ar ôl y llall. Y gân orau i ddefnyddio ar y dechrau ydy Kokomo oherwydd bod hi'n araf. Yna Catch a Wave, Surfin USA, I Get Around, Fun Fun Fun ac yn y blaen.

Saturday, July 26, 2014

trysor

Mae'r gŵr wedi etifeddu drôr offerynnau gan ei dad. Ei daid a wnaeth a rhoi i'w fab 85 mlynedd yn ôl. Mae'r campwaith hwn gan grefftwr medrus mewn cyflwr ardderchog. Wrth i dad fy ngŵr symud i fyw efo ei ail fab yn Las Vegas, mae o'n gorfod cael gwared ar nifer o bethau a hwn oedd un ohonyn nhw. Dw i'n siŵr y bydd o'n cael ei basio i'n mab hynaf un diwrnod (ac i'w mab wedyn...)

Friday, July 25, 2014

cof

A beach boy oedd fy ngŵr pan oedd yn ei arddegau yn Hawaii. Roedd o'n arfer mynd i nofio efo ei frawd a'u ffrindiau'n aml (er nad oedd yn llwyddo i feistroli syrffio.) Beach Boys oedd ei hoff fand hefyd. Un diwrnod dalion nhw octopws. Roedden nhw'n mynd i'w fwyta (doedden nhw ddim yn gwybod sut) a'i gadw fo yn y bŵt nes iddyn nhw gyrraedd lle addas. Roedden nhw'n gyrru'n llawen yn gwrando ar Beach Boys efo'r octopws druan ym mŵt y car.... Fwyton nhw mohono wedi'r cwbl. 

Thursday, July 24, 2014

cynifer o gyngherddau


Clywais fod Beach Boys yn cynnal dros 100 o gyngherddau'r flwyddyn hyd yn oed heddiw. Dw i heb sylweddoli bod nhw'n dal i fod mor boblogaidd. Mae pobl ifanc ynghyd y rhai hynach yn llenwi neuadd enfawr bob tro. Fe welais wragedd canol oed yn dawnsio'n hapus ar yr alawon bachog. (Mae'r holl gynulleidfa'n sefyll ar eu traed yn ystod y cyngherddau, mae'n ymddangos.) Byddwn i'n hoffi mynd os bydd cyngerdd yn yr ardal!

Wednesday, July 23, 2014

dal i fynd

Un o fy hoff fand ydy Beach Boys. Ces i wybod ar ddamwain bod nhw'n dal i ganu ac wedi dathlu'r 50fed pen-blwydd ddwy flynedd yn ôl. Maen nhw'n canu mewn cyngherddau'n helaeth, hyd yn oed yn Japan yn denu torfeydd mawr. Maen nhw'n llawer hynach bellach wrth gwrs ond yn canu bron cystal efo eu cytgord nodweddiadol braf. Dyma Catch a Wave, fy hoff gân.

Tuesday, July 22, 2014

gad iddo fod

Pan fydda i mewn amser caled
Fe ddaw Iesu Grist ata i
Yn siarad geiriau o ddoethineb,
"Gad iddo fod"
Yn fy awr dywyll
Mae o'n sefyll yn union o fy mlaen i
Yn sisial geiriau o ddoethineb,
"Gad iddo fod"

Monday, July 21, 2014

yn 92 oed

Bob tro siarada' i efo fy mam ar y ffôn, dw i'n synnu pa mor sionc yn feddyliol ydy hi, a hithau'n 92 oed. Mae ganddi hi gymaint i adrodd bob amser fel na fedra i ddweud gair nes iddi golli ei hanadl a gorfod gorffwys am eiliad neu ddwy. Mae hi'n clywed yn berffaith dda hefyd. Mae'n dal i fyw ar ei phen ei hun efo ambell gymorth gofalwyr; mae hi'n cerdded i'r siop gyfagos ac wrth ei bodd yn paratoi picls Japaneaidd er mwyn rhoi i'w ffrindiau. Mae ganddi hi boen yma ac acw ond ar y cyfan, mae hi'n anhygoel o iach yn gorfforol a meddyliol. Mae tua 50,000 o bobl sydd yn dros 100 oed yn Japan ar hyn o bryd. Mae fy mam yn nesáu atyn nhw.

Sunday, July 20, 2014

y barn

Fe gyrhaeddon ni maes awyr Tulsa heb fynd ar goll ddoe. Doedd GPS iPhone ddim yn hollol ddibynadwy. Roedd y ddynes yn siarad gormod pan oedden i'n cychwyn ond pan oedden ni angen ei help wrth gyrion Tulsa, roedd hi'n ddistaw; roeddwn i'n gorfod edrych ar y map er mwyn gwybod i le dylen ni fynd. Cawson ni rybudd ond hanner munud cyn yr allanfa. Efallai bod hyn yn ddigon da i'r bobl eraill ond ddim i mi. Daeth y gŵr adref yn ddiogel beth bynnag.

Saturday, July 19, 2014

gps iphone

Mae'r gŵr yn dod adref heddiw. Roedd o yn Hawaii am bythefnos yn helpu ei rieni ac yn Japan am wythnos am fusnes. Dw i bron byth yn gyrru allan i'r dref fach hon oherwydd bod gen i ofn gyrru ar ffyrdd anghyfarwydd. Does dim cludiant cyhoeddus yn anffodus fel dw i'n gorfod mynd i'w nôl serch hynnu. Fy nhrydedd ferch sydd yn gyrru, a dweud y gwir yn ddiweddar, ac y fi sydd yn edrych ar y map. Aethon ni ar goll unwaith ac felly dw i'n nerfus iawn bob tro hyd yn oed efo'r GPS a ges i gan fy merch hynaf. Y tro 'ma, mae dipyn yn wahanol; dan ni'n mynd i ddibynnu ar GPS iPhone fy mab hynaf sydd adref dros y Sul. Mae o'n mynnu na fydd unrhyw broblem a bydd yn hawdd dros ben. Gobeithio bydd. Gawn ni weld.

Friday, July 18, 2014

pot roast

Fe goginiodd fy ail ferch pot roast yn y crock pot ddoe. Wrth ddarllen rysáit ar y we, fe wnaeth baratoi'r cig a'r llysiau mewn amser byr a gosod popeth yn y pot. Ar ôl rhyw chwe awr, dyma saig anhygoel o flasus. Doeddwn i erioed gwneud pot roast a dweud y gwir oherwydd bod yn well gen i ddefnyddio darnau o gig fel arfer. Rhaid i mi newid fy arferiad a phrofi'r rysáit newydd hwn fy hun cyn hir.

Thursday, July 17, 2014

'jabba the hutt' wedi'i ailwampio

Dyma fo! Roedd fy ail ferch wrthi'n rhoi bywyd newydd i hen ddol ei chwaer fach ers dyddiau, ac mae hi newydd orffen. Efo polyfill newydd sbon ynddo, mae o'n ysgafn ac eto yn medru sefyll i fynnu. Mae ganddo fo freichiau newydd hefyd. Mae'r teulu i gyd yn hapus i'w weld wrth gofio'r dyddiau a fu.

Wednesday, July 16, 2014

gwydr newydd

Cawson ni wydr newydd ar y ffenestr heddiw. Dw i'n falch iawn bod hi wedi bod yn sych am wythnos. Fe wnes ei "thrwsio" hi dros dro, ond na fedrai hi fod wedi gwrthsefyll glaw trwm. Mae'r gwydr newydd mor lân fel cewch chi weld drwyddi hi'n dda. Costiodd dros $150.

Monday, July 14, 2014

coginio tempra yn yr haf

Dw i'n dilyn Face Book Marco Togni ers wythnosau. Ffotograffydd Eidalaidd eithafol sydd yn caru Japan ydy o. Mae o'n uwchlwytho fideos ynglŷn bwyd Japan yn aml. Yn y fideo hwn mae o'n bwyta tempura soba a goginiwyd gan ei wraig Japaneaidd. Dw i'n llawn edmygedd tuag at ei wraig o oherwydd, yn y lle cyntaf, dw i byth yn coginio tempura; mae o'n rhy drafferthus; yn yr ail le, mae hi wedi coginio tempura yn yr haf (gwaith ofnadwy o boeth.) Mae'r pryd o fwyd yn edrych yn flasus iawn beth bynnag. Mae Marco'n trefnu teithiau grŵp hefyd, a dod â nhw o'r Eidal i Japan a'u harwain nhw o gwmpas. Maen nhw'n edrych yn hynod o ddiddorol.

Sunday, July 13, 2014

da iawn

Wedi i'n hoff dimau ni i gyd fynd allan o'r twrnamaint, doedd dim cymaint o nwyd wrth weld gêm derfynol Cwpan y Byd, ond ces i amser braf efo'r teulu a ffrindiau'r prynhawn 'ma. Roedd y ddau dîm yn chwarae mor galed fy mod i ond yn falch bod popeth wedi gorffen ac maen nhw'n cael gorffwys! Da iawn i'r hogiau i gyd!

Saturday, July 12, 2014

gwneud "shadowing"

Dw i'n gwneud shadowing ers tipyn ar gyfer gwella fy Eidaleg. Dydy'r cysyniad ddim yn anghyfarwydd i mi gan fy mod i'n arfer efelychu fy hoff bersonoliaeth Cymraeg cyn clywed am y modd hwn. Mae'n bwysig defnyddio awdio clir a chymharol araf a siaradir gan bobl frodorol. Fy hoff siaradwr Eidaleg ydy Alberto heb os. Mae'i lais clir pleserus efo acen Brescia'n ffitio'r tyb yn berffaith. Mae o'n sôn am Michelangelo yn ei glip diweddaraf. Bydda i'n colli gwynt ar ôl un sesiwn!

Friday, July 11, 2014

llefrith wedi'i rewi

Mae dau o fy mhedwar plentyn yn mynychu cynhadledd ieuenctid yr wythnos yma. Fel arfer rhaid prynu llefrith drwy'r amser mae'n ymddangos ond aeth rhai sydd ar ôl yn y jwg yn sur (am y tro cyntaf erioed!) Darllenais ar y we fod yn bosib rhewi llefrith. Roedd gen i alwyn arall heb ei agor ac yn dda, a dyma dywallt bron popeth mewn cwpanau papur a'u gosod nhw yn y rhewgell. (Mae'r rhewgell yn llawn!) Taflais un solet yn fy uwd poeth y bore 'ma. Fe doddodd o'n braf. 

Thursday, July 10, 2014

bywyd newydd i jabba the hutt

Mi wnaeth fy merch hynaf ddol i'w chwaer fach flwydd oed amser maith yn ôl - dol Jabba the Hutt oedd hi oherwydd yr hogan fach yn gwirioni ar y cymeriad hyll yn Star Wars. Gwnaed o dywel a llenwyd â hen ddillad, roedd y ddol wedi bod yn ei ffefryn am flynyddoedd, yr unig ddol na thaflwyd i ffwrdd hyd yma er bod hi'n eithaf budr. Penderfynwyd rhoi bywyd newydd iddi ddyddiau'n ôl, ac felly tynnwyd allan y stwffin, a golchwyd y "croen" cyn rhodir polyfill newydd sbon. Fe gawn ni Jabba "newydd" cyn hir!

Wednesday, July 9, 2014

carreg

Roedd dau fyfyriwr yn torri'r lawnt drosto ni tra oeddwn i'n cael swper efo fy nheulu neithiwr. Yn sydyn clywais sŵn ofnadwy fel ffrwydrad; carreg a ddaeth drwy'r ffenestr yn torri'r gwydr. Cafodd y garreg ei lansio fel taflegryn wrth y peiriant torri lawnt yrru yn yr ardd gefn. Roedd yna filiynau o ddarnau gwydr ym mhob man. Cafodd fy merch ei hanafu gan ddarn miniog ar ei braich ond ddim yn ddifrifol. Cafodd oriau i lanhau popeth, a rhaid cael gwydr newydd heddiw. Roedden ni i gyd yn ddiolchgar fodd bynnag oherwydd gallai fod wedi bod yn ddamwain erchyll. 

Tuesday, July 8, 2014

cornetto

Dw i'n colli cornetto (croissant) a ges i'n aml efo cappuccino yn Fenis. Jam bricyll oedd fy ffefryn. Des ar draws cornetto gorau mewn caffe bach rhwng Pont Accademia ac Eglwys Salute. Pan welais y caffe wedi'i lenwi gan y bobl leol ar eu traed (does dim sedd) yn yfed coffi a bwyta cornetto, roeddwn i'n gwybod fy mod i wedi ffeindio caffe da. Ches i mo fy siomi. Roedd y cornetto cynnes yn anhygoel o flasus - creisionllyd tu allan a meddal tu mewn, gorlawn efo jam bricyll. Dwedodd y perchennog mai o sydd yn eu crasu nhw bob bore. Prynais un yn Walmart heddiw a'i fwyta efo jam, ond roedd o'n ofnadwy. Mi fydd rhaid i mi fynd yn ôl at y caffe Poggi ryw ddiwrnod.

Monday, July 7, 2014

sioe gerdd


Perfformir sioe gerdd yn y dref bob haf ers blynyddoedd, a dyma fynd i weld un o'r tair sioe oherwydd ffrind teulu (un o feibion ein parchedig ydy o) yn perfformio. Dewisais Golden Oldies from 50's & 60's. Roedd y theatr fach yn llawn dop efo cynifer o bobl oedrannus (yn naturiol!) Ces i sedd flaen a mwynhau sioe gerdd arbennig o dda. Er nad oeddwn i'n gwybod y rhan fwyaf o'r caneuon, (dw i'n rhy ifanc tybiwn i ^^) roeddwn i wrth fy modd yn gweld sioe fyw mor agos at y perfformwyr. Fy ffefryn oedd y caneuon gan Beatles, Elvis Presley a Beach Boys. Fe hoffwn i fod wedi clywed mwy ohonyn nhw. 

Sunday, July 6, 2014

yr eidal 32 - ffarwelio

Daeth amser i adael Fenis. Na ddaeth yn rhy gynnar neu rhy hwyr. Mwynheais fy ngwyliau er bod yna beth neu ddau annifyr. Beth fyddai'n well na'u gorffen drwy fwyta hufen iâ Alaska? Aeth at y siop enwog. Roedd yn anodd dewis, a dyma ofyn i'r perchennog am ei gyngor. "Sinsir" oedd ei argymhelliad. Felly a fu. Roedd yna ddarnau o sinsir sbeislyd mewn hufen iâ ysgafn. Blasus. Wedi diolch iddo fo, cerddais o gwmpas ar lwybrau culion a chyrraedd at Canal Grande yn wynebu Ca' D'Oro. Arhosais yno'n hir yn ceisio argraffu'r olygfa ar fy nghof.

Saturday, July 5, 2014

yr eidal 31 - sensa

Roedd Gŵyl Sensa ddydd Sul, fy niwrnod olaf yn Fenis. Es at Bacino San Marco ond doeddwn i ddim yn siŵr lle yn union oedd dechrau'r orymdaith. Pan welais gychod yn ymgasglu, cerddais tuag at y pwynt ond roeddwn i bob amser ar ochr anghywir a methu gweld y cychod lliwgar yn iawn. O leiaf ces i ryw lun cyn iddyn nhw hwylio i ffwrdd i Lido lle oedd y ras. Roeddwn i'n sefyll agos iawn at Faer Fenis a oedd yn prysur gyfarch personau. Dylwn i fod wedi bod yn ddewr a siarad â fo! Mae o newydd ymddiswyddo oherwydd sgandal gyda llaw. Stori arall ydy hon wrth gwrs.

Friday, July 4, 2014

Thursday, July 3, 2014

yr eidal 30 - llwybr haearn

Mae Arsenale'n gau i'r cyhoedd ar wahân i ryw adeilad confensiwn neu ddau. Ac felly ces i fy synnu'n gwybod y cewch chi fynd i mewn braidd yn rhwydd o'r ochr ogleddol. Bacini ydy'r safle bws dŵr agosaf. Es i ar gwch i fynd i'r gweithgaredd ond penderfynais gerdded adref ar y llwybr haearn hir wrth y wal. Cerddais ar fy mhen fy hun am sbel tuag at fachlud yr haul wrth weld y morlyn ar fy ochr. Profiad pleserus annisgwyl arall. 

Wednesday, July 2, 2014

yr eidal 29 - cyfarfod alberto toso fei

Mae Alberto Toso Fei yn byw yn Rhufain bellach ac ymweld â Fenis, ei le genedigol yn aml am ddigwyddiadau amrywiol. Dwedodd fyddai'n siarad yn gyhoeddus yn Arsenale nos Sadwrn (deuddydd cyn i mi adael Fenis.) A dyma frysio at yr adeilad i ddiolch iddo fo am ei gymorth i ddod o hyd i'r plac hanesyddol. Roedd tyrfa'n ymgasglu i'w glywed o a gweld perfformiad ar gyfer Sensa, gŵyl bwysig Fenis. Mae o'n ddyn hynod o glên a gostyngedig er mai awdur adnybyddus ydy o. Ches i amser anhygoel o ryfeddol.

Tuesday, July 1, 2014

yr eidal 28 - campo san polo

Roeddwn i'n aros ger Campo San Polo sydd yn yr ail campo mwyaf yn Fenis. Bydd y bobl leol - teuluoedd, pobl oedrannus ac ifanc yn mynd yno i dreulio amser efo'i gilydd a'u ffrindiau yn y prynhawn hwyr. Byddan nhw'n sgwrsio, gweld y plant yn cicio peli a mwynhau peth amser cymdeithasol cyn mynd adref. Bydda i'n mynd yno'n aml i gael salad a ffrwythau o Billa (archfarchnad) ar un o'r meinciau. Roedd yn braf eistedd yno'n eu gweld nhw wrth fwyta fy mhicnic (os oedd sedd rydd; roedd ond ychydig o feinciau.) Unwaith clywais ryw ferched tu ôl i mi'n sôn am ddysgu Tsieinëeg yn y brifysgol neu beidio....