Saturday, June 30, 2018

geiriau cyntaf

"Mama, Dada, Nene, Baba" Geiriau cyntaf fy ŵyr a glywais y bore. Anfonodd fy mab y fideo o'i fabi dwy flwydd oed. Roedd o a'i wraig yn poeni am eu babi; mae o'n hynod o ddeallus heb os, ond heb ddweud gair tra bod babis ei oedran yn siarad erbyn hyn fel arfer. Fedrwn i ddim peidio â chrio wrth weld y fideo - y moment sydd yn debyg i Helen Keller wrth y ffynnon. Dwy fodryb fy ŵyr ydy Nene a Baba gyda llaw. 

Friday, June 29, 2018

crys gwirfoddolwr

Mae'r gŵr ar ei ffordd adref o Japan ar hyn o bryd. Wrth weld ei grys "gwirfoddolwr" a gafodd gan Gynhadledd NRA y mis diwethaf, diolchodd staff yr awyren yn ogystal â staff diogelwch ym Maes Awyr Dallas iddo am ei waith gwirfoddoli, a dechrau siarad â fo'n gyfeillgar. Mae hyn i gyd yn erbyn delwedd mae'r prif gyfryngau a'r bobl chwith wrthi'n ei greu.

Thursday, June 28, 2018

lleuad lawn

Codais yn gynt nag arfer i weld y lleuad lawn cyn iddi fachlud. Welais mohoni hi gyntaf. Roedd rhaid i mi gerdded hanner can medr i'w ffeindio. Dyma hi - enfawr, melyn oren, lawr yn yr awyr gorllewinol. Safais yng nghanol y ffordd wag, a'i gweld. Yr Arglwydd Dduw a'i creodd. 

Wednesday, June 27, 2018

peth siriol

Mae'r hydrangea'n blodeuo un ar ôl y llall yn ein hiard ni. Maen nhw'n para'n llawer hirach na'r blodau eraill, ac felly dw i a'r gŵr yn cael eu mwynhau'n amser hir. Cafodd un druan ohonyn nhw ei dorri oherwydd ei fod o'n hynod o fawr a thrwm. Dyma ei achub, a'i osod mewn fâs.

Tuesday, June 26, 2018

y gath euog

Roeddwn i'n digwydd gweld un o'r cathod euog yn croesi'r stryd y bore 'ma pan oeddwn i ar fin mynd am dro. Roddwn i'n edrych arni hi'n ddistaw bach i weld lle byddai hi'n mynd. Aeth yn syth at iard y drws nesaf heb betruso, a dechrau chwilio am y llecyn gorau i ddefnyddio. Mae'r net plastig yn llwyddiannus! Dw i ddim yn gwybod pam nad ydy hi'n defnyddio ei hiard ei hun, ond nid fy mhroblem ydy hyn.

Monday, June 25, 2018

yn kobe

Mae'r gŵr yn dal i fynd o gwmpas Japan yn egnïol. Ymwelodd â fy mam, ynghyd â'n dwy ferch ni mewn cartref henoed. Yno dathlon nhw ben-blwydd ein hail ferch ni. Teithiodd i Kobe wedyn lle oedden ni'n byw flynyddoedd yn ôl i weld rhai ffrindiau, ac ymweld â bedd yr eglwys lle mae fy nhad yn cael ei gladdu. Yfory bydd ei waith ar gyfer y coleg optometreg yn Nagoya (prif amcan y daith) yn cychwyn.

Saturday, June 23, 2018

buddugoliaeth

Enillon ni'r frwydr yn erbyn y cathod yn yr ardal! Prynodd y gŵr net plastig yn hytrach na weiren cwt ieir, a'i osod ar y llwybr cyfan. Mae o'n gweithio! Does dim "olion cathod" o dano fo! Doedd gan y gŵr amser, fodd bynnag, i orchuddio'r llwybr ar ochr y tŷ cyn gadael am Japan. Mae'n amlwg mai dyna le mae'r cathod yn defnyddio bellach. Bydd o'n dod adref yn fuan, ac wedyn bydd rhaid iddyn nhw ffeindio tŷ bach yn rhywle arall!

Friday, June 22, 2018

cwpan coffi

Dw i wrth fy modd yn cael coffi yn y cwpan a gafodd ei wneud gan aelod oedrannus Yad Lakashish yn Jerwsalem. Dydy o ddim mor gain na chwpan bone china, ond mae ganddo bersonoliaeth. Roedd yr aelod yn gweithio'n galed i greu'r cwpan del hwnnw. Mae eu nwyddau ar gael ar lein hefyd. Byddan nhw'n gwneud anrhegion hyfryd.

Thursday, June 21, 2018

gyoza ffansi

Cyrhaeddodd y gŵr y llety yn Tokyo ar ôl gadael adref 24 awr yn ôl. Mae o wrthi'n mynd o gwmpas er gwaethaf y jet lag. Y peth cyntaf a wnaeth oedd cael brecwast efo un o'n ddwy ferch ni sydd yn byw yno. Aeth efo hi i weld ei dosbarth hi lle mae hi'n dysgu'r plant yn Saesneg. Wedi cael cinio efo ffrind a raddiodd yn y brifysgol yma, aeth i Utsunomiya, dinas enwog am y nifer o dai bwyta gyoza. Bwytaodd o un ffansi (gweler y llun,) ond dweud bod fy un i yn fwy blasus!

Wednesday, June 20, 2018

hwyl fawr!

Hwrê! Bydd America'n gadael Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig! Mae'n hen bryd! Gwledydd sydd yn cam-drin hawliau dynol ydy'r rhan fwyaf o aelodau'r cyngor ynghyd â rhai sydd yn rhy ofnus mynegi eu barn yn eu herbyn. Nid dim ond diwerth, maen nhw'n cuddio eu troseddau, ac arbenigo yn condemnio'r unig ddemocratiaeth yn Nwyrain Canol, sef Israel. Awyr ffres oedd araith Nikki Haley ymysg y criw o ragrithwyr.

Tuesday, June 19, 2018

teithiwr rhyngwlado

Mae'r gŵr newydd adael am Japan. Rhoi darlith mewn coleg optometreg yn Nagoya ydy'r prif amcan, a bydd o'n ymweld y teulu yno hefyd. Gofynnodd fy merch sydd yn gweithio yn Tokyo, am Winnie the Pooh, ei hoff anifail meddal. Teithiwr rhyngwladol ydy Pooh. Roedd o efo fy merch ym Mhrifysgol Abertawe pan oedd hi'n astudio yno am hanner blwyddyn. Bydd o'n mynd i Japan y tro hwn.

Monday, June 18, 2018

anrheg hyfryd

Ces i anrheg hyfryd o Israel gan fy merch. Ar wahân i garreg fach o Shtula efo enw'r gymuned yn Hebraeg arni hi, ces i bethau eraill - persawr (spikenard,) sebon, cwpan coffi a chactws wedi'i wau. Cafodd y ddau olaf eu gwneud gan yr henoed yn Yad Lakashish. Mae'r sefydliad hwnnw'n helpu'r henoed yn ardal Jerwsalem drwy roi cyfle iddyn nhw greu eitemau a'u gwerthu. Mae'r eitemau'n hynod o boblogaidd fel anrhegion, ac mae nifer o bobl yn Israel a thu hwnt yn dod i weld y gweithdy a'r siop.

Saturday, June 16, 2018

tŷ bach cymunedol

Mae'n ymddangos bod y cathod yn y gymdogaeth wedi dewis ein hiard ni fel eu tŷ bach cymunedol. Cafodd cath arall ei gweld ar y camera diogelwch. Gosododd y gŵr weiren cwt ieir ar y llecyn. Mae o'n gweithio. Ond does gynnon ni ddim digon. Cloddiodd cath (neu gathod) y rhan lle nad oes weiren. Dyma ddyfeisio rhwystr am y tro. Rhaid iddo weithio nes i'r gŵr brynu mwy o weiren.

Friday, June 15, 2018

penderfyniad hurt arall

Pasiodd y Cenhedloedd Unedig benderfyniad hurt arall. Mae cymaint o droseddau hawliau dynol erchyll yn mynd ymlaen yn y byd bob dydd, ond cyhuddo IDF am "ddefnyddio grym eithafol yn erbyn pobl Gaza druan" ydy eu hoff bwnc diweddar. Maen nhw'n anwybyddu Hamas sydd yn benderfynol o dorri'r ffin er mwyn lladd pob Iddew, a defnyddio pobl Gaza fel tarian dynol; addawon nhw lansio 5,000 barcud tân at dir Israel ar achlysur diwedd Ramadan, eu gŵyl sanctaidd. Beth mae'r CU yn disgwyl i IDF wneud? Gadael i Hamas ddinistrio pobl Israel? Cywilydd ar y gwledydd, gan gynnwys Japan, a bleidleisiodd dros y penderfyniad. 

Thursday, June 14, 2018

72 oed!

Pen-blwydd Hapus i'r Arlywydd Trump! Mae o wedi cyflawni cymaint o bethau mawr a phwysig mewn amser go fyr. Y peth cyntaf ar y rhestr ydy, yn fy nhyb i, mae o wedi gosod Duw yn ôl yn y llywodraeth, ac achubodd America rhag hunanladdiad cenedlaethol. Er gwaethaf pawb a phopeth, er gwaethaf ei oedran! Dw i'n diolch i fy Nuw bob dydd am ei drugaredd, am osod Donald Trump ar sedd Arlywydd America. Bydded i'r Arlywydd Trump ddal i ofni a cheisio Duw gyda'i holl galon, a cherdded yn ostyngedig o'i flaen ef.

Wednesday, June 13, 2018

cafodd ei ddal ar y camera diogelwch

Dydy gwaddodion coffi ddim yn gweithio. Prynodd y gŵr hyd yn oed ddeg bag o ddarnau cedrwydd a'u gosod yn y lle penodol wedi clywed bod cathod yn casáu’r arogl. Mae cath y cymydog yn dal i fynd i'r tŷ bach yn ein hiard ni heb falio dim am y rhwystr! Cafodd y trosedd ei recordio ddoe ar y camera diogelwch o'r diwedd. Gyda'r dystiolaeth gadarn, aeth y gŵr at y cymydog a gofyn iddyn nhw am gymorth. Gobeithio y byddan nhw'n cymryd cyfrifoldeb am eu cath.

Tuesday, June 12, 2018

aelod newydd

Dw i newydd ymuno â NRA. Does gen i ddim gynnau, a dw i ddim yn bwriadu ymarfer saethu chwaith er mai hyfforddwr conceiled carry ydy fy ngŵr. Eisiau cefnogi'r Ail Welliant ynghyd â NRA sydd yn gwarchod rhyddid Unol Daleithiau America dw i. Mae ganddo chwe miliwn o aelodau sydd yn cynnwys mamau, tadau, athrawon, myfyrwyr, gweithiwyr a pherchenogion cwmni, siopwyr, ffermwyr, pysgotwyr, heddweision, dynion tân, meddygon a mwy. Maen nhw eisiau amddiffyn eu teuluoedd rhag trais a therfysgwyr. Pobl hollol gyffredin ydyn nhw, nid eithafwyr a labelwyd gan y prif gyfryngau.

Monday, June 11, 2018

sêl y brenin hezekiah

Mae eitemau hanesyddol yn dal i gael eu cloddio yn Jerwsalem drwy'r amser er gwaethaf ymdrech caled rhai Arabaidd i wadu'r cysylltiad rhwng y ddinas a'r Iddewon. Darganfyddiad pwysig diweddarach ydy sêl y Brenin Hezekiah a sêl Eseia. Cynhaliwyd seremoni agoriadol ar gyfer arddangosfa sydd yn cynnwys y seliau hynny ynghyd â dwsinau o eitemau pwysig eraill. Yn Edmund, Oklahoma mae'r arddangosfa. (Syndod mawr!) Aeth y gŵr i'r seremoni, a chael gwybodaeth werthfawr. Cafodd anrheg fach hefyd - copi plastig o sêl Hezekiah mewn ffurf magnet oergell. 

Sunday, June 10, 2018

rhyddhewch tommy!

Er gwaethaf y bygythiad a'r ymyrryd gan yr heddlu, casglodd dros 20,000 o bobl yn Llundain ddydd Sadwrn er mwyn galw ar Lywodraeth Brydain am ryddhau Tommy Robinson. Roedd Tommy yn gweithio'n ddygn i amlygu troseddau'r gang Mwslemiaid yn erbyn miloedd o blant ifanc Prydain. Fo a gafodd ei arestio a'i gondemnio i'r carchar, nid y gang, ac yn anhygoel o gyflym hefyd. Hyfryd gweld cynifer o bobl gyffredin, wedi cael eu digon, ymuno â'r protest, ac ambell i Ddraig Goch hefyd. 

Saturday, June 9, 2018

tlws crog

Ces i anrheg gan y gŵr yn annisgwyl ddoe. Tlws crog hardd a wnaed yn Israel. Mae'r crefftwr yn gwneud eitemau hardd o fetel y rocedi a lansiwyd gan Hamas, a ffrwydrwyd yn Israel. (Roedd gen i un arall mewn ffurf Seren Dafydd, ond collais o yn anffodus.) Ffurf tir cyfan Israel ydy hwn. Dywedir yn Hebraeg ar y wyneb, "mae cenedl Israel yn byw" efo gwydr glas bach i ddangos lle cafodd ei wneud. Bydd rhan o'r elw'n mynd i  adeiladu llochesi bom sydd yn amddiffyn y trigolion ger Gaza rhag rocedi Hamas.

Friday, June 8, 2018

barcud tân

Ers dau fis mae Hamas yn dwysau eu tactegau ar gyfer torri'r ffin er mwyn ymosod ar y cymunedau cyfagos Israel, drwy lansio rocedi, coctel molotov, ayyb tra defnyddio pobl Gaza fel tarian ddynol. Eu dyfais newydd ydy barcud tân sydd yn achosi difrod difrifol i gaeau amaethyddol yn Israel heb sôn am yr anifeiliaid gwyllt a'r amgylchedd yn yr ardal. Mae'r byd yn gyflym i gondemnio IDF sydd yn cael eu gorfodi i amddiffyn eu pobl, ond anwybyddu trais Hamas. Mae'n hen bryd i'r byd ddeffro ac i weld beth sydd yn mynd ymlaen. 

Thursday, June 7, 2018

gwelliant diweddaraf

Mae'n hiard ni'n edrych yn fwy a mwy gwell ers i'r gŵr ymddeol. Mae Keith yn ein helpu ni hefyd wrth ddod yn rheolaidd. Y peth diweddaraf a wnaeth ydy hyn - tynnodd y delltwaith wedi'i ddifrodi o'r dec cefn a defnyddio'r pren i ddal yr hydrangea. Does angen delltwaith oherwydd nad oes gynnon ni foch cwta bellach. (Roedden nhw'n arfer gwneud ymarfer corff ar y dec, ac roedd angen delltwaith i'w hatal nhw rhag disgyn.)

Wednesday, June 6, 2018

goodwill a'r heddlu

Mae fy merch yn Las Vegas efo'i gŵr. Mae hi'n mwynhau gwyliau tra ei fod o'n mynychu cynhadledd. Y peth cyntaf a wnaeth oedd mynd i siopa yn Goodwill, siop elusen! Mae hi'n fedrus ffeindio bargen a'i werthu ar y we. Dw i'n hoffi siopa mewn siopau elusen hefyd oherwydd mai dyna'r unig le i mi ffeindio fy hoff steil, sef hen ffasiwn! Yr ail beth a wnaeth fy merch ydy mynd i'r heddlu er mwyn rhoi cais at Ride Along - cyfle i bobl gyffredin i fynd o gwmpas efo plismon mewn car yr heddlu er mwyn gweld eu gwaith.

Tuesday, June 5, 2018

51 mlynedd yn ôl

Dechreuodd Rhyfel Chwe Diwrnod 5 Mehefin 51 mlynedd yn ôl - Israel, gwlad fach newydd-anedig yn erbyn y lluoedd ar y cyd o'r Aifft, Gwlad Iorddonen, Syria ac Irac. Yn erbyn pob rhwystr, er gwaethaf pawb a phopeth, enillodd Israel. Roedd Arglwydd y Lluoedd gydag Israel; mae o gyda nhw heddiw ac am byth. 

Monday, June 4, 2018

mwy hwylus neu beidio

Dw i newydd brynu peiriant cymysgwr wrth obeithio y byddai'n hwylus gwneud hummus a phethau felly. Mae o'n wir bwerus, ond doeddwn i ddim yn meddwl pa mor drafferthus byddai'r gwaith glanhau! Ar ben hynny, mae'r gwydr yn ofnadwy o drwm. Mae'n llawer gwell gen i fy nghymysgwr ffon rhad a dweud y gwir! Efallai y bydd y teclyn newydd hwnnw'n gorffwys ar y silff.

Saturday, June 2, 2018

diddannedd, da i ddim

Ydyn wir - y Cenhedloedd Unedig. Maen nhw wedi bod yn nwylo'r gwledydd sydd yn erbyn America ac Israel ers amser. Profi eu hunain maen nhw unwaith yn rhagor drwy gondemnio Israel heb gondemnio Hamas a lansiodd dros gant o rocedi tuag at drigolion Israel, ac sydd yn defnyddio pobl Gaza fel tarian ddynol. Mae angen diogelu rhag Hamas nid rhag Israel, ar bobl Gaza. Diolch i Nikki Haley a wrthododd y cais gan Kuwait. Dylai America gael gwared ar bencadlys y sefydliad diddannedd a da i ddim oddi ar y tir gwerthfawr ar lannau afon yn Manhattan. 

Friday, June 1, 2018

persuasion

Cymraeg, Eidaleg, Ffrangeg, Hebraeg a rŵan Groeg - Dw i'n adolygu, dysgu neu dim ond mwynhau fideos yn yr ieithoedd hyn bob dydd. Nad ydy'r Saesneg yn eu mysg fel arfer, ond dw i'n dal i hoffi nofelau gan Jane Austen. Dw i'n gwrando'n ddiweddar ar Karen Savage, darlledwr Librivox, yn darllen Persuasion wrth i mi wau het. (Y ffilm a serennwyd gan Amanda Root ydy fy ffefryn.)