Monday, May 31, 2021

dydd cofio

I'r cynifer o bobl a roddodd eu bywydau er mwyn i ni gael byw yn rhydd yn y wlad rydd

Saturday, May 29, 2021

pêl fwsogl


Dyma erthygl newydd sbon gan fy merch yn Japan. Mae hi'n sôn am kokedama (pêl fwsogl.) Mae o'n debyg i bonsai bach bach a ddatblygwyd yn ystod Cyfnod Edo. Fel nifer mawr o'i phynciau, doeddwn i heb wybod amdano fo nes darllen ei herthygl! Mae'n ymddangos ei fod o wedi bod yn boblogaidd yn y gwledydd gorllewinol yn ddiweddar.

Friday, May 28, 2021

heb ofn


Does dim moddion gwell na Babylon Bee pan ydych chi'n teimlo'n isel wrth weld y byd yn mynd o ddrwg i waeth yn gyflym. Chwerthin ydy'r moddion gorau, medden nhw wedi'r cwbl. Mae'r gwenyn yn brwydro heb ofni neb, hyd yn oed y bobl a sefydliadau grymus a bygythiol. Dal ati hogia.

Wednesday, May 26, 2021

rali trump


Mae'r Unol Daleithiau'n prysur ddinistrio eu hunain ers i'r Democratiaid ddwyn yr etholiad diwethaf. Newyddion da i bawb sydd gan lond bol - bydd Rali Trump yn ail gychwyn yn fuan! Mae o newydd gyhoeddi. Roedd yr Arlywydd Trump yn dal i frwydro tu ôl y llwyfan drwy'r amser. Fedra i ddim aros i'w weld o ar y llwyfan eto. 

Tuesday, May 25, 2021

baner trump arall

Wedi cael swper pen-blwydd priodas, stopion ni wrth dŷ enwog yn y dref, a thynnu llun. Mae'r teulu yno'n arddangos baner Trump ar bolyn drwy'r amser ers cyn yr etholiad 2016. Dw i'n falch bod yna bobl eraill sydd yn dal ati'n cefnogi'r Arlywydd Trump yn ddewr er gwaethaf pawb a phopeth.

Monday, May 24, 2021

pen-blwydd priodas

Es i a'r gŵr i Napoli's neithiwr eto, i ddathlu'n pen-blwydd priodas ni'r tro 'ma. Cyflogon ni'r mab ifancaf fel ffotograffydd. (Talwyd drwy fwyta gyda ni!) Ces i tortellini gyda chyw iâr a llysiau, a gwydraid o win pinc. Mae plât y gŵr yn edrych braidd yn blaen oherwydd ei fod o wedi dewis pasta gyda garlleg a basil. Roedd popeth yn flasus, a chawson ni amser braf.

Saturday, May 22, 2021

dŵr reis


Dyma erthygl newydd gan fy merch yn Japan. Ailgylchu dŵr reis ydy'r pwnc. Dw i'n gyfarwydd â'r arfer; ces i fy magu gan fam Japaneaidd bybyr a oroesodd amser caled yr Ail Ryfel Byd. Un o'r gwersi a ddysgodd hi i mi oedd "paid gwastraffi dim," yn enwedig dŵr.

Friday, May 21, 2021

dim mwgwd yn walmart

Falch o weld bod Walmart wedi cael gwared ar yr arwydd mawr ar y drws sydd yn gorfodi'r cwsmeriaid i wisgo mwgwd yn y siop. Yn ei le, roedd yna nodyn bach sydd yn annog y rhai heb gael y brechlyn i ddal i wisgo un, ond mae o mor fach i dynnu sylw'r cwsmeriaid. 

Wednesday, May 19, 2021

fy mab yng nghyfraith

Mae gan ŵr fy merch hynaf olwg sydd yn drysu pobl ddieithr yn aml. Pan oedden nhw ym Mecsico'n ddiweddar, dechreuodd pawb siarad Sbaeneg wrtho fo bob tro, a methu deall nad oedd o'n medru. "Eidalwr? Ffrancwr?" gofynnwyd. Pan oedden nhw yn Israel, roedd y bobl leol yn meddwl mai Arabaidd oedd o. Byddai'n rhyfeddol darganfod ei hynafiaid.

Tuesday, May 18, 2021

hamas x idf



Mae Hamas yn tanio rocedi oddi wrth ysbytai ac ysgolion wrth guddio tu ôl pobl Gaza. Maen nhw'n anelu at bobl Israel. Ar y llaw arall, mae IDF yn anelu at y terfysgwyr yn benodol. Byddan nhw'n rhybuddio cyn yr ymosodiad fel gall y bobl anghysylltiedig ffoi o'r adeiladau. Mae'r byd eisiau cadoediad, ond dylai Hamas atal terfysgaeth; amddiffyn eu pobl mae IDF.

Monday, May 17, 2021

byw yn oklahoma


Wrth i'r taleithiau glas yn dal i gadw eu pobl yng nghaeth y feirws, mae'r bywyd yn y rhai coch yn mynd yn ôl yn gymharol normal, diolch i frwydr danbaid y gwleidyddion ceidwadol. Cafodd nifer o ddeddfau newydd eu pasio'n ddiweddar yng Nghapitol Oklahoma. Byddan nhw'n diystyru'r rhai ffederal sydd yn torri'r Cyfansoddiad. Dw i'n hynod o ddiolchgar fy mod i'n byw yn y dalaith yma. 

y llun: Kevin Stitt, Llywodraethwr

Saturday, May 15, 2021

el zarape

Ces i a'r teulu (y gŵr a'r mab) swper yn El Zarape, tŷ bwyta Mesicanaidd arall yn y dref. Fajita oedd ein dewis ni, a gwyliwch y maint o fwyd! Roedd yn flasus heblaw am y gormod o olew. Treulion ni amser pleserus beth bynnag ymysg y cwsmeriaid a'r staff heb fwgwd.

Friday, May 14, 2021

y gelf stryd orau



Efallai na fydd Oklahoma City yn dod i'ch meddyliau chi yn y byd celf stryd, ond nhw ydy'r gorau in America; cafodd eu dewis gan ddarllenwyr USA Today. Gwelir sawl murlun fy merch hynaf yno hefyd. Hwn ydy ei diweddaraf, sef Dyn Meddyginiaeth.

Wednesday, May 12, 2021

graddio 2

Mae aelod arall o'r teulu newydd raddio; fy ŵyr pedwar oed a raddiodd yn yr ysgol feithrin heddiw. Roeddwn i a'r gŵr yn gwylio llif byw'r bore 'ma, diolch i'r dechnoleg fodern. Fe wnaeth o bopeth yn dda - canu a dawnsio, ond mae'n amlwg ei fod o wedi blino tua'r diwedd.

Sunday, May 9, 2021

graddio

Mae fy mhlentyn ifancaf newydd raddio yn College of the Ozarks yn Nhalaith Missouri. Roedd o'n astudio'n ofnadwy o galed dan bwysau anghredadwy yn yr adran beirianeg wrth weithio ar y campws. "Drwy ras Iesu a nerth Ysbryd Glan, llwyddais i gyrraedd y nod," meddai. 

Wednesday, May 5, 2021

ynys eno

Aeth fy nhair merch yn Japan i Enoshima, ynys fach, ger Tokyo wrth gymryd mantais ar wyliau Wythnos Aur. Cawson nhw docyn diwrnod i deithio'r ynys ynghyd â Kamakura, ond doedd dim amser iddyn nhw fynd i Kamakura. Cawson nhw ddiwrnod braf yn yr heulwen ac yn yr ogof. Roeddwn i'n arfer byw nid nepell o Enoshima, ond es i yno ond unwaith pan oeddwn i'n blentyn. 

Tuesday, May 4, 2021

arbrofi

Mae fy merch hynaf a'i gŵr ar wyliau ers dydd Sul, yn Mecsico y tro 'ma. Mae ganddyn nhw gynllun newydd; byddan nhw'n gweithio ar lein yn y bore, a mwynhau eu gwyliau yn y prynhawn am bythefnos, er mwyn ffeindio fydd yn bosib byw felly yn y dyfodol. Eu gobaith ydy teithio'n helaeth a gweithio ar lein. Swnio'n braf. 

Monday, May 3, 2021

chwerthin


Cyhoeddodd y CDC argymhellion newydd ynghylch gwisgo gwregysau diogelwch. Mae'r arbenigwyr iechyd yn argymell rŵan bod pobl yn gwisgo gwregys diogelwch hyd yn oed pan fyddan nhw tu allan i'r car. Dwedon nhw mai seiliedig ar yr ymchwil wyddonol ddiweddaraf ydy'r argymhellion, er lles y cyhoedd. Ymatebodd y Llywodraeth gan roi gorchymyn cenedlaethol am wisgo gwregysau diogelwch yn y parciau cyhoeddus, adeiladau ac ar balmant.

- Babylon Bee

Saturday, May 1, 2021

diwrnod trump mis mai


Diwrnod Trump mis Mai ydy hi heddiw. Dyma osod yr arwydd yn yr iard blaen eto er mwyn dangos ein cefnogaeth barhaol ni i'r Arlywydd cyfreithlon America. Roedd yn wych i weld cyfweliad gyda Epoch Times ddyddiau'n ôl. Cewch chi glywed ei lais o wrth ddarllen ei air. Hynod o falch i wybod ei fod o'n dal ati'n brwydro dros America, ac mae ganddo ace i fyny ei lawes.