Thursday, January 31, 2008

eira!

Roedd hi wedi bod yn oer ond yn sych. Ond dechreuodd hi fwrw eira p'nawn ma, ac mae o'n disgyn yn gyflym iawn. Yr ail eira'r gaeaf ma ydy o. Mae'n debyg bydd yr ysgolion yn cau yfory. Bydd y plant wrth eu bodd yn chwarae yn yr eira. (Ac bydd cymaint o waith ychwanegol i'w mam!)

Tuesday, January 29, 2008

swper eto

Pan siarada i am swper, gewch chi wybod bod gen i ddifyg pynciau. Ond dim ots. Dw i isio ymarfer fy Nghymraeg.

Mi nes i dorth gig i swper heno. Bydda i'n cymysgu hanner cig eidion mân ac hanner tofu stwnsh fel arfer. Ychwanega i friwsion mân, wyau, halen, perlysiau. Yna, i mewn i'r popty. Mi gaethon ni reis brown a brocoli hefyd. Pryd o fwyd syml a maethlon ydy hwn.

Sunday, January 27, 2008

gwers dei


Fydd gan fy mab hyna gyfweliad i ymgeisio am ysgoloriaeth yfory. Mi aeth fy ngwr â fo i brifysgol yn Arkansas p'nawn ma. Mi nân nhw aros yno dros nos. Mi gaethon nhw eu gwahodd i wledd dros yr holl ymgeiswyr heno. Bydd rhaid iddyn nhw wisgo siwtiau a theis. Prin bod fy mab yn gwisgo tei. Roedd rhaid i'r gwr roi gwers dei cyn mynd.

Saturday, January 26, 2008

arlywydd huckabee?

Mae'r ddwy ferch iau (14 a 11) wedi bod yn dysgu am etholiad arlywyddol yn yr ysgol yn ddiweddar. Mae'r athrawes yn disgrifio pob ymgeisydd ar wahanol bynciau heb eu henwi. Yna, mi naethon nhw bleidleisio. Huckabee oedd yr ennillwr yn y ddau ddosbarth. (I ysgol fach maen nhw'n mynd.)

Mae'n ddiddorol clywed beth mae plant yn dweud am wleidyddion. Ac fel arfer mae gynnyn nhw farnau pendant. Mi gewch chi wybod beth mae eu rhieni'n ddweud adre trwyddyn nhw!

Friday, January 25, 2008

holes

Mi nes i wylio'r fideo neithiwr efo'r holl deulu. Roedd o'n eitha da. Chollodd o ddim hanfod y nofel. Mae'r actorion i gyd yn gweddu i'r cymeriadau. Prin mod i'n gwylio teledu neu fideo heb sôn am fynd i'r cinema. Ac dydy'r teulu ddim i fod i wylio teledu ar ôl swper yn ystod yr wythnos (naw o'r gloch ydy amser gwely i'r plant iau.) Ond ar ôl i ni ddechrau gwylio "tipyn bach," fedren ni ddim atal. Roedd pawb yn teimlo'n dda wedi gwed y diwedd hapus er bod 'na ddigwyddiad trist yn y stori.

Thursday, January 24, 2008

dim dwr!

Does dim dwr yn y ty ar y hyn o bryd. Mae 'na ddwsin o ddynion yn gwneud rhywbeth efo'r hydrant tân yn ymyl ein ty ni. Dim ond hanner ohonyn nhw'n gweithio a dweud a gwir ac mae'r gweddill yn edrych ar eu cydweithwyr. Mi naethon nhw atal y dwr heb rybudd. Mae gen i hanner galwyn o ddwr mewn jwg. Fedra i ddim golchi llestri na chychwyn y peiriant golchi dillad. Waeth i mi ddysgu Cymraeg nes iddyn nhw orffen eu gwaith. ^_^

Wednesday, January 23, 2008

uned 3 yn ol

Mi ges i Uned 3, Cwrs Pellach yn ôl efo'r tâp yrres i at y tiwtor. Mi naeth hi recordio ei sylw ynddo fo hefyd. Rôn i'n gyffro i gyd ei chlywed hi am y tro cynta! O, mae ei Chymraeg yn hyfryd. Roedd fy Nghymraeg syml yn amlwg dros ben achos bod hi wedi dechrau siarad chwap ar ôl i mi orffen. Gonest iawn ydy fy recordydd tâp.

Dyma wefan Cyrsiau Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Bangor. Mae 'na dasgau defnyddiol i ddysgwyr. Gobeithio byddan nhw'n ychwanegu mwy.

http://www.bangor.ac.uk/ced/currentstudents/wfa/cymraeg/tasks.htm

Tuesday, January 22, 2008

cymry ar wasgar

Mae Cymry ar Wasgar ar dudalen Hafan Maes-e o'r diwedd. Roedd o wedi cuddio mewn 'Cylchoedd' hyd yn hyn ond dyna ni! Gobeithio bydd mwy o Gymry ar wasgar yn postio iddo fo. Wedi'r cwbl, mae Cymry'n byw ym mhob man yn y byd ar wahan i Oklahoma, dw i'n meddwl.

http://www.maes-e.com/index.php

Monday, January 21, 2008

torri gwallt



Mi ges i dorri fy ngwallt heddiw. Un o'm merched hyn dorrodd o. Hi sy'n torri gwallt y teulu i gyd bellach, a dweud y gwir. Mae hi'n gweithio fel merch trin gwallt rhan amser tra bod hi'n mynd i'r brifysgol llawn amser. Mae hi'n ceisio creu ardull newydd gan ddefnyddio pen model hefyd.

Sunday, January 20, 2008

mae'n oer yma!


Mae'n oer. Mae hi wedi bod yn heulog ond yn oer iawn (14F/-10C yn y nos.) Ond dan ni'n gynnes yn ein ty ni efo'r stof coed tân (wood burning stove?) Er bod 'na lawer o waith i'w chadw hi (e.e. rhaid casglu, torri, cludo coed, rhaid llnau lludw bob dydd,) mae'n werth y trafferth. Dan ni'n cael coed am ddim oddi wrth ffrindiau a chymdogion. Ac dan ni'n arbed tua $200 y mis am drydan. Dw i ddim yn casglu a thorri coed wrth gwrs. Y gwr a'r mab hyna sy'n gwneud y gwaith. Dw i'n coginio cawl arni hi hefyd. Ac mae pawb yn hoffi darllen yn ei hymyl.

Saturday, January 19, 2008

brecwast

Mi godes i'n gynnar bore ma a mynd i frecwast arbennig mewn cartre henoed yn y dre. Roedd 'na gyfarfod i wragedd ein eglwys ni'n bennaf (Mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n byw yno.) Mi gaethon ni westai roeodd sgwrs i ni gyd ar ôl brecwast yn y ffreutur. Roedd 'na tua 100 ohonon ni ac fi oedd un o'r deg gwragedd IFANC. Roedd hi'n siarad am fywyd Cristnogion.

Friday, January 18, 2008

coffi cymreig

Aeth Islwyn Ffowc Elis ddim yn rhy bell pan sgwennodd o am goffi Cymreig yn ei nofel, Wythnos yng Nghymru Fydd.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7190000/newsid_7194800/7194822.stm

Ond mae ffermwyr Cymry yn y nofel yn mewnforio pelydrau haul o'r gwledydd trofannol er mwyn tafu ffa coffi!

Thursday, January 17, 2008

sticer car


Dyma sticer car arall o Gymru. Diolch i Linda a'i gwr. Mae fy hen fan yn edrych yn wych.

Wednesday, January 16, 2008

tyllau

Yr unig rheswm ddechreues i ddarllen "Holes" oedd mod i wedi clywed bod y nofel wedi cael ei chyfieithu i'r Gymraeg yn ddiweddar. Mi naeth dau o'r plant ei darllen blynyddoedd yn ôl ond dim fi achos mai llyfr plant ydy hi.

Ond fedrwn i ddim peidio darllen ar ôl i mi ddechrau. Rôn i'n ei darllen ar bob achlysur. Rhaid aros Wythnos yng Cymru Fydd nes i mi orffen Holes.

Roedd hi'n arbennig o ddifyr, yn enwedig sut oedd digwyddiadau gorffennol a phresennol cael eu dangos. Dw i'n hoffi hanes y nionod. Mae gan yr awdur ddawn anhygoel.

Mae cyfieithiad Cymraeg (Tyllau) gan Ioan Kidd yn swnio'n dda hefyd. Mi gawn ni gipolwg yma:
http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/adolygiadau/801-tyllau.shtml

Mi bryna i Tyllau yn bendant (ar ôl gorffen y llyfrau ges i yn anrhegion Nadolig!)

Tuesday, January 15, 2008

y cwestiwn


Dyma'r cwestiwn mae'r plant yn gofyn i mi bob dydd ar ôl ddwad adre o'r ysgol naill ai yn Saesneg neu yn Japaneg. Gobeithio bydd y barclod ma'n helpu iddyn nhw ddysgu tipyn bach o Gymraeg.

Sunday, January 13, 2008

pride and prejudice

Mae gan un o'r plant annwyd ac mae hi (11 oed) wedi bod yn ei gwely. Isio i mi ddarllen yn uchel llyfr iddi oedd hi. Gas gen i ddarllen llyfrau plant diflas ac mae 'na gymaint yn y byd. Mi es i at silff lyfrau i ddewis un beth bynnag.

Mi weles i Pride and Prejudice. A, dyna ni! Fasai fy merch ddim yn meindio'r nofel, felly mi ddechreues i ei darllen yn uchel. Mae hi'n wych.

Dw i heb ddarllen nofelau Jane Austen ers blynyddoedd. Rôn i'n arfer gwirioni arnyn nhw a ffilmiau'r nofelau. Aelod o Gymdeithas JA yn America ac un ym Mhrydain oeddwn i. Ac mi nes i ffrog a boned ym modd Regentaidd (a'u gwisgo!) Felly mae'r teulu i gyd yn gyfarwydd a chymeriadau'r nofelau hefyd. Dw i'n dal i feddwl bod nhw rhai o lyfrau mwya difyr ddarllenes i erioed.

Ar ôl darllen rhai penodau P&P, mi hoffwn i wylio'r fideo (gan BBC) eto.

Saturday, January 12, 2008

bara brith


Mae 'na rysait bara brith yn Uned 4, Cwrs Pellach. Mi nes i un ddoe. Roedd yn flasus ac yn boblogaidd ymysg y teulu ond tipyn yn rhy feddal. Y broblem oedd bod ryseitiau Prydeinig yn defnyddio pwys yn hytrach na cwpanaid. Googles i i weld faint o gwpanaid o flawd oedd hanner pwys. Dau ar ôl un wefan a dau a chwarter ar ôl y llall. Mi nes i ddewis dau. Mae'n amlwg dylwn i fod wedi dewis dau a chwarter. Mi na i well y tro nesa.

Friday, January 11, 2008

pontcysyllte



Bues i yno hefo Corndolly a'i gwr y llynedd! Roedd yn rhyfeddol. Gobeithio bydd y bont ddwr a chamlas yn cael eu cynnwys fel Safle Treftadaeth y Byd. Maen nhw'n haeddu'r statws.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7180000/newsid_7183000/7183051.stm

Dyma luniau dynes i.

Thursday, January 10, 2008

gorchmynion

Dw i'n gwneud Uned 4 (gorchmynion), Cwrs Pellach ar hyn o bryd. Dw i i fod i sgwennu naill ai rysait neu sut mae cyrraedd fy nghy neu sut mae dysgu Cymraeg yn dda. Mi nes i ddewis sut mae dysgu Cymraeg yn dda.

"Yn gynta, carwch Gymru a'r Gymraeg. Dysgwch bob dydd. Cerwch i ddosbarthiadau os yn bosib. Gwnewch gyrsiau trwy'r post. Darllenwch lyfrau Cymraeg ac unrhywbeth Cymraeg. Darllenwch am hanes Cymru ac am ddysgwyr sy wedi llwyddo er mwyn cael ysbrydiaeth. Gwrandewch ar Radio Cymru. Golchwch lestri, glanheuwch stafelloedd ymolchi, smwddiwch wrth wrando ar GDau Cymraeg. Gwyliwch S4C os yn bosib. Cadwch ddyddiaduron, blogiwch, sgrifennwch e-bost neu lythyrau yn Gymraeg. Gwnewch restri sioppa yn Gymraeg. Siaradwch Gymraeg ar bob achlysur. Os does neb arall yn siarad Cymraeg, siaradwch â'ch hun neu â'ch anifeiliaid anwes. Meddyliwch yn Gymraeg. Canwch ganeuon Cymraeg. Recordiwch eich Cymraeg ar recordyddion tâp neu ar gyfrifiaduron, a cheisiwch sylwi be sy'n iawn a be sy ddim. Peidiwch â malio os byddwch chi'n swnio'n ofnadwy. Dysgwch efo'ch ffrindiau.

Yn anad dim, mwynheuwch ddysgu.

Deudwch wrtha i os gynnoch chi syniadau eraill."

Wednesday, January 9, 2008

cynhaeaf ac hadau

Tra ôn i'n eistedd yn arosfa'r meddyg ddoe, mi nes i sylwi llun bach efo geiriau ar y wal. Maen nhw mor wir mod i wedi eu sgwennu i lawr. Dyma fy nghyfieithiad gorau. Dw i'n siwr bydd 'na un llawer gwell:

" Peidiwch â barnu diwrnod ar ôl y cynhaeaf dach chi'n ei fedi, ond ar ôl yr hadau dach chi'n eu plannu."

Y geiriau Saesneg gwreiddiol ydy:

"Don't judge each day by the harvest you reap but by the seeds you plant."

Mi naeth hyn fy nharo i. Yn aml iawn bydda i'n meddwl mod i'n gwneud fawr o ddim achos mod i ddim yn gweld 'cynhaeaf' bob dydd. Ond siwr iawn, dw i'n plannu hadau bob dydd boed da neu ddrwg.

Monday, January 7, 2008

dianc


Mi ddihangodd un o foch cwta'r plant tra oedd y plant yn chwarae efo nhw yn yr ardd gefn. I ffwrdd a fo i'r ardd ddrws nesa fel chwip. Mi gaethon ni i gyd fraw am eiliad achos bod gan y cymydog gi mawr. Ond oedd o ar dennyn ar y pryd! Mi aeth y plant i'r ardd am y mochyn cwta tramgwyddus. Ar ôl ei gwrso am chwarter awr mi naethon nhw lwyddo i ddal o.

Sunday, January 6, 2008

ddydd sul

Ddigwyddodd ddim byd "blogable" bondigrybwyll heddiw ond mi na i flogio beth bynnag i ymarger sgwennu.

Mi godes i am saith bore ma. Mi es i'r eglwys efo'r teulu am naw o'r gloch. Ar ôl y gwasanaeth, mi es i â chinio bach (cawl eidion, bara, "clementines") i ffrind i mi sy newydd gael llawdriniaeth. Maen nhw wedi darganfod bod gynni hi ddim cancr y fron.

Ar ôl dwad adre, mi gaethon ni ginio ein hun. Wedyn, mi olches i'r llestri a dechrau'r peiriant golchi dillad, darllen e-bost, gwrando ar Radio Cymrau ac ati. Mi nes i ymarfer berfau afreolaidd gorffennol eto a gweneud tipyn o Uned 4. Ac dw i'n darllen Wythnos yng Nghymru Fydd ar bob achlysur.

Mae un o'r myfyrwyr Japaneaidd yn sâl ac isio bwyta reis (dydy o ddim ar gael yn ffreutur y brifysgol.) Felly, mi nes i beli reis ac aeth y gwr â nhw a thipyn o'r gawl a "clementines" ato fo.

Mynd yn cerdded am hanner awr nes i wedyn. Rôn i'n ymarfer siarad Cymraeg wrth gerdded (doedd neb o'm cwmpas i.) Roedd hi'n gynnes ac yn wyntog heddiw fel gwanwyn.

Doedd dim rhaid i mi goginio heno achos mod i wedi gwneud digon o gawl ddoe. ^_^

Saturday, January 5, 2008

cwrs pellach

Mi nes i orffen Uned 3 a'i yrru fo at y tiwtor echdoe. Y tro ma, mi nes i ymarfer siarad yn lle ymarfer sgwennu, hynny ydy mod i wedi recordio rhan fach siarades i mewn recordydd tâp.

Dim ond ugain munud bydd hi'n cymryd gwneud y gwaith sgwennu, ond naeth hi gymryd dwy awr o leia gwneud tâp boddhaol. Dôn i ddim isio stopio yng nghanol y tâp, felly roedd rhaid i mi geisio drosodd a throsodd. Sut ydw i'n dweud 'drama draddodiadol' heb frathu fy nhafod?

Dw i wedi dechrau Uned 4 (gorchmynnol) ond dw i'n dal i adolygu Uned 3 achos mod i ddim yn ddigon da efo berfau afreolaidd gorffennol.

Thursday, January 3, 2008

teyrnged i keith

Fedra i ddim credu o hyd. Mae Keith, ffrind i mi yn Awstralia wedi marw yn ei gwsg echnos. Mi ges i gerdyn Nadolig oddi wrtho fo wythnosau yn ôl.

Mi des i'n nabod o drwy fforwm Cymraeg dwy flynedd a hanner yn ôl. Roedd o wedi bod ar gadair olwyn am flynyddoed oherwydd damwain, ac methodd ddefnyddio ei law dde. Ac eto, roedd o bob amser yn siriol ac yn ddoniol. Mi naeth o ddysgu teipio a phaentio efo'i law chwith. Mi yrrodd o lluniau o Abertawe baentiodd o ata i o'r blaen. Maen nhw'n gampus.

Mae'n anodd credu fydd 'na ddim negesau oddi wrtho fo i'r fforwm mwyach. Mae ei luniau ar wal y lolfa. Dw i'n gofio fo pryd bynnag bydda i'n pasio o'u blaen.

Tuesday, January 1, 2008

blwyddyn 2008

Doedd "firecrackers" ddim yn para'n hir neithiwr (^_^) ac mi godes i i fore tawel, braf, oer (29F/-2C.) Dan ni ddim yn gwneud dim arbennig Nos Galan na Dydd Calan ac dan ni ddim yn gwilio teledu chwaith. Felly mae'n anodd cofio mai blwyddyn newydd ydy hi heddiw oni bai am "firecrackers."

Dim addenud Blwyddyn Newydd ydy'r rhain ond fy ngobeithion eleni:
1. Hoffwn i fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i siarad ac i ddigio.
2. Hoffwn i wella fy Nghymraeg llafar.
3. Hoffwn i ddod o hyd i ddysgwyr/siaradwyr yn yr ardal ma.
4. Hoffwn i fynychu cwrs Cymraeg byr.

Dw i'n hapus mod i wedi dechrau blogio er bod gen i ddim pynciau amrywiol fel arfer. Mae o'n gwneud i mi ymarfer sgwennu'n gyson.