Friday, December 29, 2023

gwahaniaethau




Americanaidd: trueni, na fydd fy hoff bregethwr yn y staff yn pregethu heddiw.
Danddaearol: trueni, cafodd ein hunig bregethwr ei garcharu neithiwr.

Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn America'n byw bywyd hawdd; mae'n ymddangos bod amcan eu bywyd ydy cael hwyl. Doniol a difrifol ydy erthygl y Wenynen y tro hwn.

Wednesday, December 27, 2023

gwerthu dau

Daeth yr arddangosfa gelf yn Tokyo i ben. Roedd fy merch yn medru gwerthu dau o'r tri phaentiad. Athro caligraffi adnabyddus (y dyn yn y llun) a brynodd yr un mwyaf. Roedd fy merch yno'n aml yn siarad â'r bobl a oedd yn dod. Mae hi'n cael ymlacio bellach.

Tuesday, December 26, 2023

40 oed

Trodd fy merch hynaf yn 40 oed Noswyl Nadolig. Cafodd ei geni yn Tokyo, a dathlodd ei phenblwydd diweddaraf yn Tokyo hefyd. Paratôdd ei chwiorydd ddathliad cynnes gan gynnwys yr arwydd gwych hwnnw yn eu fflat.

Monday, December 25, 2023

Duw gyda ni

Am hynny, y mae'r Arglwydd ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele ferch ifanc yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe'i geilw'n Immanuel. (Eseia 7:14)

Nadolig Llawen

Saturday, December 23, 2023

ffrwythau arbennig

Cafodd fy merched yn Tokyo ffrwythau hynod o ddrud yn anrheg. Math o ffrwythau a gafodd eu magu gyda gofal arbennig maen nhw. Dwedodd fy merched fod y ffrwythau'n anhygoel o felys ac wedi bron i doddi yn y geg. (yr orennau mandarin: 70 doleri, y mefus: 40 doleri)

Friday, December 22, 2023

arddangosfa gelf

Mae tri phaentiad fy merch yn cael eu dangos ar arddangosfa gelf mewn siop adrannol enwog yn Tokyo ar hyn o bryd. Aeth hi a’i gŵr i'r seremoni agoriadol ddeuddydd yn ôl yn cyfarfod y staff a rhai pobl a ddaeth i weld yr arddangosfa. Braint fawr ydy'r cyfle hwn iddi.

Tuesday, December 19, 2023

ruth

"Dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw innau." - geiriau enwog Ruth

Dw i'n credu'n siŵr i Lyfr Ruth gael ei osod ar ôl Llyfr Barnwyr yn fwriadol. Roedd yn hyfryd darllen am y ddynes llawn cariad gyda chalon bur, wedi darllen beth fyddai'n digwydd pan fyddai "pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun."

Monday, December 18, 2023

amser fel hyn


Mae Hananya Naftali a'i wraig yn America ar hyn o bryd yn siarad am y sefyllfa yn Israel. Heddiw mewn eglwys yn Nhalaith Georgia, dwedodd fod Cristnogion wedi eu galw ar gyfer amser fel hyn; dylen nhw sefyll yn gryf gydag Israel, gweddïo drostyn nhw a'u cefnogi. Cytuno'n llwyr.

Saturday, December 16, 2023

am y tro olaf

Es i a'r gŵr i Katfish Kitchen neithiwr, am y tro olaf. Byddan nhw'n cau'r drws yfory, wedi bwydo trigolion y dref ers 22 mlynedd. Un o'r tai bwyta mwyaf poblogaidd ac eiconig oedd. Roedd yn dda inni fynd yn gynt nag arfer oherwydd bod y lle wedi dechrau llenwi'n gyflym. Roedd rhaid bod y bobl eraill glywed y newyddion trist. 

Friday, December 15, 2023

fy mam

Ymwelodd fy ail ferch yn Japan â'i nain am y tro cyntaf ers misoedd. Roedd hi mor hapus gweld bod ei nain yn cadw'n go da er gwaethaf ei hoedran (101.) Wir, mae ei chroen yn disgleirio! 

Thursday, December 14, 2023

8fed diwrnod hanukkah

Yna llefarodd Iesu wrthynt eto. “Myfi yw goleuni'r byd,” meddai. “Ni bydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd.” Ioan 8:12

Wednesday, December 13, 2023

nara

Aethon nhw i Nara hefyd, i weld y cerflun Bwdha o bres mwyaf yn y byd, a bwydo ceirw yn y parc enwog. Does ganddyn nhw ofn pobl o gwbl, ac maen nhw'n dod atoch chi yn mynnu bwyd! Aeth fy merch i'r parc pan oedd hi'n ddwy oedd.

Tuesday, December 12, 2023

bedd fy nhad

Un o'r llefydd a ymwelodd fy merch oedd bedd yr eglwys. Mae lludw fy nhad yno; oriau cyn iddo farw 35 mlynedd yn ôl o ganser mewn ysbyty, cyffesodd ei ffydd yn Iesu Grist. Mae o gydag O, drwy drugaredd Duw.

Monday, December 11, 2023

kobe

Kobe oedd cyrchfan fy merch a'i gŵr ddoe, lle roedden ni'n arfer fyw. Roedd am y tro cyntaf iddi ymweld â'r ddinas ers symud i America pan oedd hi'n bump oed (cyn y daeargryn trychinebus.) Aethon nhw i'r llefydd cofiadwy, fel yr eglwys, parc, cymdogaeth a mwy. Mae ei ffrindiau a'r gweinidog yn dal yno. "Wnes ti ddim newid o gwbl; tipyn talach, efallai," meddai'r gweinidog wrth fy merch!

Saturday, December 9, 2023

gwylio kabuki

Aeth fy merch hynaf at theatr Kabuki yn Kyoto i wylio perfformiadau ei hoff actor a'i fab. (Hyn oedd ei phrif nod i aros yn Kyoto.) Gwelodd hi ffrindiau cylch Kabuki hefyd a oedd mor frwdfrydig â hi dros Kabuki.

Friday, December 8, 2023

menorah yn gaza

Llwyddodd IDF ddal Sgwâr Palestina yn Gaza, a chodi baner Israel a menorah Hanukkah. Dydy'r rhyfel ddim wedi gorffen eto, ond carreg filltir fawr ydy hyn. Mae goleuni daioni, gobaith a thangnefedd yn disgleirio yn y tywyllwch.

Thursday, December 7, 2023

Wednesday, December 6, 2023

kyoto

Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn mwynhau eu gwyliau yn Japan. Wedi treulio dyddiau gyda'u chwiorydd yn Tokyo, mae'r ddau wedi symud i Kyoto. Byddan nhw'n aros yno am ryw deg diwrnod. Mae yna nifer o gamlesi yn y ddinas gyda thai bwyta ar un ochr, sydd yn fy atgoffa i o Fenis. Mae yna wahaniaeth fawr fodd bynnag, sef glendid!

Tuesday, December 5, 2023

er lles

Yn y byd gwallgof a chythryblus hwn, mae angen chwerthin er lles meddyliol a chorfforol. Beth fydd yn well na darllen y Wenynen a chwerthin yn uchel, i'r dagrau weithiau?

Monday, December 4, 2023

yn japan

Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn Japan ers dyddiau. Byddan nhw'n treulio dau fis a hanner yno yn ymweld â'i theulu, ffrindiau, gweld golygfeydd, gwylio Kabuki, arddangos ei pheintiadau mewn oriel, a mwy. Dyma nhw'n mwynhau nwdls Japaneaidd mewn tŷ bwyta bach nodweddiadol.

Saturday, December 2, 2023

cyfyng-gyngor

Rhaid terfynu'r sefydliad aflan sydd yn benderfynol o'ch dinistrio. Ar yr un pryd, rhaid cael y gwystlon i gyd yn ôl. Cyfyng-gyngor amhosibl - dim ond Duw, a drodd y môr dros yr Israeliaidd, sydd yn medru gweithio gwyrthiau.