Saturday, July 30, 2022

dal i dyfu

Mae'r bwmpen enwog yn dal i dyfu, ac yn gyflym hefyd. Rhaid bod y glaw diweddar wedi rhoi hwb sylweddol iddi.

Friday, July 29, 2022

llawer o law


Cawson ni lawer, llawer o law ers hanner nos, ac mae'n dal i fwrw. Mae'r tir sych yn yfed pob diferyn. Mae yna ffrwd fach ar ochrau'r stryd o flaen fy nhŷ hyd yn oed. Roedd dyna'r tro cyntaf i mi deimlo'n gysurus pan glywais daran sawl tro yn ystod y nos, a mynd yn ôl i gysgu yn ddiolchgar am y glaw.

Wednesday, July 27, 2022

ras geffyl


Joci newydd benywaidd 18 oed a enillodd ras geffyl enwog yn Japan. Does gen i ddim diddordeb mewn rasys ceffyl, a dweud y gwir, ond fedrwn i ddim peidio â rhoi sylw ar ei champ anhygoel. Mae'r ferch honno'n hynod o ostyngedig hefyd; dwedodd mai'r ceffyl a redodd yn galed ac ennill. Dyma gip ar y ras fuddugol.

Monday, July 25, 2022

pibell ryddhau

Prynodd y gŵr bibell ryddhau i ddyfrio'r hydrangea. Mae hi'n gweithio'n dda iawn gan ollwng dŵr yn araf bach. Dim ond gadael y bibell i wneud y gwaith am ddwy awr, a bydd y pridd yn cael ei wlychu'n drylwyr. Mae'n arbed llawer o drafferth hefyd.

Saturday, July 23, 2022

cynnydd


Mae yna gân newydd, sef "Cynnydd" gan John Rich. Mae hi ar ben siart canu gwlad iTine ar hyn o bryd. 

"Fe fyddwn ni i gyd yn iawn os gadewch lonydd i ni."

Cytuno’n llwyr.

Friday, July 22, 2022

glaw


Daeth glaw neithiwr. Cawson ni law sylweddol am y tro cyntaf ers wythnosau. Diolch yn fawr i'n Tad yn y nef. Mae'r coed a'r glaswellt yn edrych yn ffres. Gostyngodd y tymheredd hefyd. Roedd yn hynod o braf cerdded y bore 'ma.

Wednesday, July 20, 2022

pwmpenni bach

Dw i newydd ddarganfod bod gan y pwmpenni enwog yn y gymdogaeth ffrwythau bach. Pan welais y ddynes yn yr iard honno ddyddiau'n ôl, gofynnais beth wnaeth hi gyda'r pwmpenni enfawr y llynedd. "Fe wnes i basteiod pwmpen gyda nhw," meddai. Rhaid ei bod hi wedi pobi cannoedd!

Tuesday, July 19, 2022

dŵr yn yr iard

Mae tywydd crasboeth yn parhau. 105F/40.5C - tymheredd heddiw. Dw i'n llenwi basn dŵr yn yr iard gefn dwywaith bob dydd, a newydd osod un arall yn yr iard flaen. Falch o weld bod adar gwyllt a gwiwerod yn mynd atyn nhw'n aml.

Monday, July 18, 2022

ceryddu'r economi


Ceryddodd yr Arlywydd Biden yn swyddogol y bore 'ma economi America i stopio bod yn ddrwg, yn ôl y Wenynen. "Dewch, economi!" meddai'n angerddol. "Gwnewch bopeth yn rhatach! Rhowch fwy o arian i bawb! Dw i'n mynnu eich bod chi'n stopio bod yn erchyll!"

Hollol gredadwy ydy hyn; dwedodd beth tebyg wrth orsafoedd petrol yn ddiweddar. 


Saturday, July 16, 2022

sut i ymdoppi

Es i a'r gŵr i Napoli's neithiwr. Cafodd o spaghettti gyda pheli cig; ces i salad gyda chyw iâr. Na chodon nhw'r prisiau, ond mae'r maint yn llai, diolch i'r chwyddiant hurt a achoswyd gan y llywodraeth gyfredol. Roedd y bwyd a'r gwasanaeth yn dda, fodd bynnag.

Friday, July 15, 2022

ffilm "woke"

Dw i newydd glywed bod ffilm arall seiliedig ar nofel Jane Austen (Persuasion) wedi cael ei chynhyrchi’r llynedd, a dyma gael cip ar y trelar. Dw i'n gant y cant yn sicr na fydda i'n gweld y ffilm. Byth. Efallai i'r cyfarwyddwr geisio bod yn drendi. Gadewch lonydd i Jane Austen.

Wednesday, July 13, 2022

mae fy mam wedi gwella

Mae fy mam wedi gwella'n llwyr wedi dal Coronafeirws ddyddiau'n ôl (er ei bod hi wedi cael ei brechu sawl gwaith.) Doedd hi ddim yn teimlo'n sâl, ond roedd hi'n gaeth yn ei hystafell. Mae hi'n cael bwyta gyda'r lleill bellach. Gwaharddir ymweliadau yn y cartref henoed am sbel yn anffodus. Mae llywodraeth Japan mewn panig wrth i'r nifer o achosion yn cynyddu eto'n ddiweddar.

Tuesday, July 12, 2022

hwylio te


Dw i'n hwylio te yn fy nhebot yn ddiweddar. Dw i ddim yn prynu te go iawn bellach, ond mae'n braf yfed "panad" ar ôl mynd am dro yn y bore. Mae hi'n gymylog rŵan. Gobeithio y byddwn ni'n cael tipyn o law. Mae'r glaswellt yn sych a brown ym mhobman. 

Monday, July 11, 2022

baddon adar

Wrth y tywydd poeth a sych yn parhau, mae adar gwyllt yn dod at y basn yn yr iard gefn i yfed dŵr a chael bath. Bydda i'n newid y dŵr dwywaith y dydd i gynnig dŵr glan iddyn nhw. Weithiau mae rhai'n eistedd yn y dŵr heb wneud dim am sbel fel yr aderyn yn y llun.

Saturday, July 9, 2022

geiriau doeth


Troseddwyr a llywodraeth ydy'r ddau elyn y bobl. Gadewch inni, felly, glymu'r ail i lawr â chadwyni'r Cyfansoddiad fel na fydd yr ail yn dod yn fersiwn cyfreithlon o'r cyntaf. - Thomas Jefferson


Friday, July 8, 2022

medru cerdded

Heddiw roeddwn i'n medru cerdded tu allan heb boen ar fy nhraed am y tro cyntaf ers ei brifo bron i dri mis yn ôl. Mae'n hyfryd medru cerdded. Dw i'n hynod o ddiolchgar. Roedd y golygfeydd cyfarwydd yn y gymdogaeth yn edrych yn hollol ffres a diddorol. Dw i'n siŵr y byddai Begw (Te yn y Grug) yn deall fy nheimladau.

Wednesday, July 6, 2022

bron yn efeilliaid

Tra oeddwn i'n chwilio am luniau o fy mab yn fabi newydd eni, des i ar draws un o fy merch hynaf. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor debyg ydyn nhw i'w gilydd! 

Tuesday, July 5, 2022

23 oed

Penblwydd fy mab ifancaf yn 23 oed ydy hi heddiw. Cafodd ei eni yn y tŷ hwn (yn fy ystafell wely i fod yn fanwl) gyda chymorth dwy fydwraig. Mae o bellach yn gweithio fel peiriannydd yn Nhalaith Missouri ers y llynedd. Daeth adref dros y penwythnos, a chawson ni ddathliadau syml.

Monday, July 4, 2022

246 oed

Dydy rhyddid ddim yn rhad ac yn ddim.

Pedwaredd Gorffennaf hapus.

Saturday, July 2, 2022

blodeuyn yn gwywo

Wrth i'r tywydd poeth yn parhau (dros 90F/32C,) mae'r hydrangea yn dioddef. Truan ohonyn nhw. Mae rhai blodau wedi pasio'r anterth a cholli eu lliw hefyd. Er pa mor hardd maen nhw, na fyddan nhw'n para am byth wrth gwrs, fel dwedir Gair Duw:

"Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.” Eseua 40:8

Friday, July 1, 2022

redeemed quartet


Des i ar draws, ar y we, pedwar hogyn o Dalaith Indiana sydd yn canu'n hyfryd. Efallai bod rhai yn eu galw nhw'n hen ffasiwn, ond dyna pam eu bod nhw'n mor dda! Canwyr go iawn ydyn nhw, a dw i'n hoff iawn o'u harmoni.