Wednesday, August 30, 2023

fideo'r murlun

Dyma fideo a wnaeth fy merch ar ei murlun diweddaraf. Cewch chi weld y proses yn ogystal â'r ardal o gwmpas. 

Tuesday, August 29, 2023

nyth mewn torch

Fe wnaeth aderyn bach nyth yn y torch ar ddrws blaen tŷ fy mab yn Texas. Mae'r fam yn eistedd yn ei wyau ar hyn o bryd. Rhaid ei bod hi'n meddwl mai lle handi ar gyfer ei nyth ydy'r torch! Mae'n edrych fel rhan ohono fo. Er mwyn peidio â'i dychryn, nad ydy fy mab a'i deulu'n defnyddio'r drws. Mae'n bosib cael cip ar y nyth drwy'r twll sbecian!

Monday, August 28, 2023

oeraidd

Gostyngodd y tymheredd o 105F/40C i 85F/29C yn sydyn. Mae'n ymddangos y bydd y tywydd braf yn para am wythnos o leiaf. Gwych cerdded yn y bore oeraidd. Yn anffodus, does gan ein hydrangea ddim blodau eleni. Mae'n blodeuo bob yn ail flwyddyn.

Saturday, August 26, 2023

kosovo's

Gofynnodd y gŵr lle byddwn i eisiau mynd i fwyta swper. "Kosovo's, sef Napoli's," atebais. Ces i bitsa llysieuol y tro hwn. Roedd yn dda gyda chrwst tenau. Llwyddais ddweud diolch yn Albaneg wrth y gweinydd eto. Gwenodd. Aeth fy hoff weinyddes adref am wyliau, a bydd hi'n dychwelyd y mis nesaf. 

Friday, August 25, 2023

y rhaeadrau

Cyn gadael Toronto, roedd rhaid i fy merch a'i gŵr weld Rhaeadrau Niagara wrth gwrs. Maen nhw'n anhygoel heb os. Cawson nhw eu gwlychu'n llwyr, dim ond drwy fod yn agos at y rhaeadrau heb fynd ar y cwch neu cerdded tu ôl iddyn nhw.

Wednesday, August 23, 2023

tyllau


Yn sydyn cwbl ymddangosodd tyllau yn yr iard. Yn y cefn gyntaf; rŵan yn y blaen. Mae'n debyg mai ar groundhog mae'r bai. Does dim tyllau newydd yn yr iard gefn wedi i'r gŵr sicrhau’r ffens, ond dylen ni ffeindio modd i atal yr anifail rhag cloddio tyllau yn yr iard flaen.

Monday, August 21, 2023

siop kim

Wedi gorffen y murlun diweddaraf, mae fy merch hynaf a'i gŵr newydd gyrraedd Tronto am ddyddiau o wyliau. Cawson nhw sioc yn ffeindio di-ri o bobl ddigartref sydd wedi meddiannu’r parciau a phob man. Lle cyntaf aethon nhw, fodd bynnag, oedd Kim's Convenience lle cafodd eu hoff gyfres deledu boblogaidd ei ffilmio, a phrynu diod chwaraeon!

Saturday, August 19, 2023

gorffennwyd

Gorffennwyd y murlun. Mae perchennog y tŷ bwyta wrth ei fodd. (Paentiodd fy merch y murlun ar ei wal.) Mae pobl sydd yn dod at yr ŵyl murlun yn llawn cyffro'n gweld y murlun lliwgar hefyd.

Friday, August 18, 2023

croes

Cafodd fy merch groes pren yn anrheg gan offeiriaid clên cyfagos. Ers iddi ei osod ar y lifft (gweler y llun,) mae hi'n heb gael ei thrafferthu gan hwliganiaid!

Wednesday, August 16, 2023

cymorth

Cafodd fy merch gymorth gan blant ei ffrind sydd yn byw yn lleol. Dynes o Japan a briododd â dyn o Ganada ydy'u mam. Roedden nhw'n benderfynol o baentio rhan gyfan. Ac felly a fu. Cawson nhw hwyl ar yr un pryd. Maen nhw'n rhugl yn Japaneg, Saesneg a Ffrangeg.

Tuesday, August 15, 2023

problem

Mae fy merch a'i gŵr wrthi'n paentio'r murlun dan haul tyner braf. Y broblem fawr mae ganddyn nhw ydy fandaliaeth a lladrad gan y nifer mawr o bobl ddigartref o gwmpas. Cafodd ei bag a phaent eu dwyn yn ystod y moment diofal. Dysgodd hi wers i fod yn wyliadwrus.

Monday, August 14, 2023

murlun yng nghanada

Dechreuodd fy merch hynaf a'i gŵr furlun newydd, yng Nghanada am y tro cyntaf. Cafodd hi ei dewis, ynghyd â thri artist arall, o 600 ymgeisydd i baentio yng ngŵyl murlun yn Sudbury, ger Tronto. Y hi ydy'r unig artist o dramor. Wedi i storm sydyn cliriodd yr awyr, dyma nhw'n taflunio'r dyluniad ar y wal neithiwr.

Saturday, August 12, 2023

gogoniant Duw

Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, 
a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo. - y Salmau 19:1

Mae'r gŵr yn rhedeg ben bore tair gwaith bob wythnos ar drac y brifysgol. Roedd rhaid iddo stopio popeth a thynnu llun o'r awyr ogoneddus un diwrnod.

Friday, August 11, 2023

heb bared

Aeth fy merch a'i gŵr yn Japan i weld ei nain ddoe. Mae hi'n edrych yn anhygoel o dda (101 oed.) Cawson nhw siarad heb bared arferol, a heb orfod gwisgo mwgwd am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Mae'r rhan fwyaf o bobl Japan yn dal i wisgo mwgwd er bod y llywodraeth yn dweud nad oes angen. 

Wednesday, August 9, 2023

gwisgo beibl

Des i ar draws hysbys ar gyfer gemwaith sydd yn cynnwys y Beibl cyfan yn y Hebraeg.Ysgrifennir mewn llythyrau microsgopig, nad ydy'n bosib eu gweld nhw gyda llygaid noeth; ac felly mae'n dod gyda thystysgrif dilysrwydd, medd y cwmni. Yn fy nhyb i, mae'r rhain yn gystal â Beibl ar y silff heb ei agor. Oni bai i ni ei ddarllen, mae'n ddiwerth.

Tuesday, August 8, 2023

o ble y daw cymorth i mi?

Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd;
o ble y daw cymorth i mi?
Daw fy nghymorth oddi wrth yr Arglwydd,
creawdwr nefoedd a daear.

y Salmau 121

Monday, August 7, 2023

glaw


Wedi dyddiau o wres, cawson ni lawer o law. Mae'n oeraidd braf hefyd. Mae'r coed a phlanhigion i gyd yn llawenhau. Bydd mwy o law yn dod wythnos hon yn ôl rhagolygon y tywydd, diolch i'r cynhesu byd-eang!

Saturday, August 5, 2023

o kosovo

Es i Napoli's yn eiddgar y tro 'ma gyda'r gŵr, wedi chwilio am wybodaeth am Albania a Kosovo. Dysgais dipyn bach o eiriau Albaneg hefyd. Roedd y bwyd yn ardderchog. Daeth y rheolwr newydd aton ni, a chawson ni sgwrs ddymunol. Doeddwn i ddim yn gwybod mai o Kosovo, nid o Albania mae'r rhan fwyaf o'r gweithiwr yn dod, er eu bod nhw'n Albaniaid. (Mae eu hanes yn gymhleth.) Ces i gyfle i ddweud faleminderit, sef diolch yn Albaniaid! Mae'n rhyfeddol i bobol o Kosovo ddod i dref fach wledig yn Oklahoma, a rhedeg tŷ bwyta Eidalaidd.

Friday, August 4, 2023

tywydd

Mae'r prif gyfryngau'n prysur ein darbwyllo pa mor anarferol o boeth yn ddiweddar oherwydd cynhesu byd eang. Dw i'n cofio, fodd bynnag, ei bod hi'n boethach o'r blaen. Roedd yna lawer llai o allyriadau carbon pan oeddwn i'n ifanc wrth gwrs. Mae hi'n boeth yn yr haf. Gelwir yn dywydd.

Wednesday, August 2, 2023

hogyn o fetel


Mae fy merch arall yn Japan yn dysgu actio ar lein. Darllenodd un o'i ffrindiau ar y cwrs nofel gan Nat Gould, sef A Lad of Mettle ar gyfer LibriVox. Mae o'n ardderchog! Gan ddefnyddio ei sgil actio, mae o'n medru bod yn nifer o gymeriadau o amryw oedran. 

Tuesday, August 1, 2023

bwydwr newydd

Cafodd y bwydwr adar yn yr iard ei ddifrodi gan golomen ddrwg. (Aeth ar ben y to sigledig.) Dyma'r gŵr yn ei drwsio, a chreu un braf. Mae'n gadarn ac yn edrych yn llawer gwell. Yn anffodus, dydy cardinals ddim yn ei hoffi; mae'n ymddangos eu bod ganddyn nhw ofn arno fo. Efallai bod y plât yn rhy isel ac agor fel eu bod nhw'n teimlo'n anniogel. (Dydy'r adar bach eraill ddim yn meindio, ac maen nhw'n dod.)