Wednesday, September 29, 2021

deilen sych

Mae'r gŵr yn dal i ofalu am yr hydrengea er bod anterth y blodau wedi hen fynd; mae'r dail mawr angen llawer o ddŵr. Roedd o ar fin cael gwared ar ddeilen sych, frown.... ond nid deilen oedd ond llyffant. Mae o'n edrych union fel deilen goed dderw oherwydd y cuddliw gwych o ran lliw a phatrwm.

Tuesday, September 28, 2021

gŵyl murlun yn okc


Dim ond dyddiau wedi gorffen y murlun yn Ohio, mae fy merch yn prysur gynllunio un nesaf, yn Okolahoma City. Cynhelir Gŵyl Murlun Plaza yng nghanol y ddinas 2 Hydref gyda 38 o artist yn cymryd rhan. Kabuki ydy ei thema unwaith eto. Mae hi'n llawn gyffro cael paentio'r prif gymeriad oddi wrth Shibaraku, ei hoff berfformiad ar hyn o bryd.

Saturday, September 25, 2021

torri coeden

Daeth criw i dorri coeden farw yn yr iard flaen. Roedden nhw'n anhygoel o fedrus fel syrthiodd hi mewn munudau. Yna torron nhw hi i ffitio ein llosgwr logiau ni. Mae'r gŵr wrth ei fodd bod yna bentyrrau braf o logiau. (Cafodd ei ryddhau rhag y gwaith!) Byddan nhw'n ddigon i bara am ddau dymor. Bydd y criw'n dychwelyd i dorri un arall yn yr iard gefn yr wythnos nesaf.

Friday, September 24, 2021

dau grwban

Cafodd awyren ei atal am 15 munud oherwydd crwban ar redfa ym maes awyr Narita, Japan. Tra bod y staff yn ei ddal, roedd y teithwyr yn aros yn yr awyren yn amyneddgar, wedi clywed beth ddigwyddodd. Dwedodd un ohonyn nhw fod o'n beth braidd yn ddoniol oherwydd bod y crwban bach wedi atal awyren fawr gyda darlun crwban arno fo!

Wednesday, September 22, 2021

dau lun

Penblwydd y gŵr oedd hi ddoe. Dw i wedi tynnu lluniau bob blwyddyn gyda'r plant o'i gwmpas o. Mae'r nifer ohonyn nhw'n lleihau dros flynyddoedd wrth iddyn nhw dyfu a gadael cartref. Dim ond yr ifancaf sydd gartref bellach. (Mae o ar fin gadael.) Crasais bastai pwmpen ar gais a dathlu'r diwrnod. Dyma'r llun ynghyd â un o'i benblwydd 22 mlynedd yn ôl, gyda fy mam. Y babi yn ei freichiau yn yr hen lun sydd yn sefyll gyda baner America tu ôl iddo yn y llun diweddaraf.

Tuesday, September 21, 2021

murlun yn ohio


Mae murlun diweddaraf fy merch hynaf newydd orffen. Ar wal amgueddfa wyddoniaeth yn Toledo, Ohio mae'r murlun. Does dim merch hardd arno fo'r tro hwn, ond cardinal a charnation (aderyn a blodyn y Dalaith Ohio) ynghyd a fformiwla mathemateg. Dywedodd hi ei fod o'n furlun mwyaf heriol a baentiodd erioed oherwydd ffurf y wal. Mae o'n edrych yn hyfryd.

Saturday, September 18, 2021

15 hysbysfwrdd

"Wrthi'n gwneud Taliban yn nerthol eto." Cafodd 15 hysbysfwrdd gyda'r neges hon eu codi'n sydyn dros Dalaith Pennsylvania. Wrth brotestio yn erbyn Mr. Joe Biden a fethodd yn llwyr achub yr Americanwyr yn Afghanistan, gosododd Scott Wagner, cyn seneddwr Gweriniaethol yr hysbysfyrddau hynny. Go dda chi, Scott Wagner!

Friday, September 17, 2021

cerdyn arbennig

Penblwydd mam Ebizo Ichikawa oedd Medi 15. Yn un o'i fideos, roedd o'n ysgrifennu neges ar gerdyn iddi - ar y cerdyn a ddyluniwyd gan fy merch hynaf! Cyflwynodd y cerdyn yn dweud ei fod o wedi cael ei wneud gan un o'r aelodau ZEN. Roedd fy merch wrth ei bodd wrth gwrs.

Wednesday, September 15, 2021

ymweliad

Cyn gadael Colorado, cafodd fy merch hynaf ymweliad gan berson annisgwyl, sef Casey Kawaguchi, artist murlun adnabyddus o Denver. Americanwr Japaneaidd ydy o hefyd. Mae ei furlun hefyd ar wal yn yr un parc tryciau bwyd. Cawson nhw amser gwych gyda'i gilydd. 

Monday, September 13, 2021

kodo


Wedi darllen erthygl fy merch am ddrymiau traddodiadol Japan, roeddwn i eisiau gweld mwy o berfformiadau. Mae amrywiaeth o steil a grwpiau yn ddiweddar, ond dyma fy ffefryn - Kodo. Maen nhw'n hyfforddi’n anhygoel o galed gyda'n gilydd. Dyma'r canlyniad.

Saturday, September 11, 2021

9/11

 

Byddwch wyliadwrus

(Diolch i Chris Schiffner am y llun hwn.)

Friday, September 10, 2021

newydd orffen


Mae'r murlun yn newydd gael ei orffen ym mharc tryciau bwyd yn Boulder, Colorado! Dyma fo! Mae o'n rhoi awyrgylch Japan ymysg murluniau eraill gyda themâu amrywiol. Bydd a ddau yn mwynhau hoe fach yn yr ardal heddiw cyn hedfan i Ohio am baentio murlun arall.

Wednesday, September 8, 2021

3 phenblwydd

Mae'r tri phenblwydd newydd drosodd. Cafodd tri o fy chwech o blant eu geni ar y 6ed, 7fed ac 8fed mis Medi. Roeddwn i'n arfer pobi un gacen bob dydd am dri diwrnod yn olynol, ond  bellach dw i ond gyrru neges atyn nhw a chlywed am eu dathliadau. Dyma un ohonyn nhw yn Texas yn dathlu ei benblwydd gyda'i deulu.

Tuesday, September 7, 2021

murlun newydd

Mae fy merch hynaf newydd ddechrau murlun arall, yn Bouldor, Colorado. Mae hi a'i gŵr yn paentio mewn gwres ofnadwy; mae'n boethach na Oklahoma, medd hi. Cymeriad Kabuki ydy'r thema unwaith eto. Masaoka, nyrs wlyb i dywysog ifanc sydd yn cael ei pherfformio gan Ebizo Ichikawa yn Japan ar hyn o bryd.

Monday, September 6, 2021

pfivermectin


Mae Pfizer newydd gyhoeddi bydden nhw'n dechrau gwerthu moddion newydd sbon a elwir Pfivermectin er mwyn trin haint Coronafeirws, yn ôl Babylon Bee. Mae o'n swnio'n ofnadwy o debyg i Ivermectin ac mae o'n gweithio yn yr union fodd ag Ivermectin, ond y gwahaniaeth mawr ydy na fydd Pfivermectin yn eich troi chi yn geffyl, a bydd o'n costio 30,000 y cant yn fwy nag Ivermectin! Da iawn, y Wenynen.

Saturday, September 4, 2021

wadaiko


Dyma erthygl newydd fy merch ar bwnc Wadaiko, sef drymiau traddodiadol Japan. Mae ganddyn nhw hanes hir, a bellach maen nhw'n boblogaidd drwy'r byd. Does ryfedd oherwydd eu bod nhw'n anhygoel o bwerus ac unigryw.

Wednesday, September 1, 2021

hydref yn yr awyr

Dw i'n medru teimlo'r hydref yn yr awyr yn ddiweddar. Dydy hi ddim yn rhy boeth bellach pan fydda i'n mynd am dro yn y bore. Mae'r heulwen yn teimlo'n ysgafn ar fy wyneb. Tynnodd y cymydog ei dŷ aderyn i ffwrdd wedi i'r nifer o deuluoedd pluog adael. Tan y gwanwyn nesaf!