Saturday, March 30, 2019
torri fy ngwallt
Cas gen i gael torri fy ngwallt mewn siop. Fydda i byth yn cael steil dw i'n ei hoffi, ac eto rhaid talu gan gynnwys cildwrn. Dw i'n casáu’r holl brofiad annifyr beth bynnag. Yr unig steilydd gwallt dw i'n ei hoffi ydy fy merch yn Japan, ond dydy hi ddim ar gael. Dyna pam mod i'n torri fy ngwallt wrth fy hun. Dw i'n methu'n aml ond mae'n llawer gwell na mynd at steilydd. Roeddwn i wrthi'r bore 'ma. Trodd fy ngwallt yn rhy fyr a dweud y gwir, a gadawodd glwmp o wallt ofnadwy o lanast ar y llawr. Ond, dim ots. Mae fy mhen yn teimlo'n ysgafn ac yn barod am y gwanwyn.
Friday, March 29, 2019
tvp
Dw i newydd ddarganfod TVP, sef gronynnau sych o ffa soi. Ar ôl gwasgir olew allan o ffa soi, hwn sydd yn aros, ac mae o'n llawn o brotein a fitaminau. Mae nifer o ffyrdd i'w ddefnyddio, ond dw i wedi meddwl modd newydd, hynny ydy ychwanegu TVP at geirch i wneud fy uwd. Doedd gen i ddim syniad sut blas a fydd ganddo. Ces i fy synnu i flasu tipyn o kinako (powdr ffa soi Japaneaidd.) Mae'n hynod o dda!
Wednesday, March 27, 2019
gwyliau sydyn

Tuesday, March 26, 2019
cerdded yn y dref

Monday, March 25, 2019
hen bryd

Friday, March 22, 2019
gwneud hanes eto
"Fe wnaethoch chi hanes unwaith eto," dwedodd y Prif Weinidog Netanyahu wrth yr Arlywydd Trump ar y ffôn neithiwr. Roedd o'n sôn am ddatganiad cyhoeddus yr Arlywydd ynglŷn ag Uchder Golan. Mae'r Arlywydd newydd ddatgan bod gan Israel sofraniaeth dros yr uchder. Er bod ond ffaith ydy hyn, mae'n wych bod yr Arlywydd yn ei gydnabod yn ddewr yn gyhoeddus.
Thursday, March 21, 2019
er cof am kurt

Wednesday, March 20, 2019
purim
Bydd Gŵyl Purim yn cychwyn ar fachlud yr haul heddiw, ac yn para am ddiwrnod.
"Os byddi'n gwrthod siarad yn awr, daw ymwared a chymorth i'r Iddewon o le arall, ond byddi di a thŷ dy dad yn trengi. Pwy a ŵyr nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost i'r frenhiniaeth?" Esther 4:14
Purim Hapus!
"Os byddi'n gwrthod siarad yn awr, daw ymwared a chymorth i'r Iddewon o le arall, ond byddi di a thŷ dy dad yn trengi. Pwy a ŵyr nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost i'r frenhiniaeth?" Esther 4:14
Purim Hapus!
Tuesday, March 19, 2019
swper gyda'i gilydd
Monday, March 18, 2019
distawrwydd byddarol
Wrth gwrs mai erchyll oedd beth ddigwyddodd yn Seland Newydd yn ddiweddar. Y peth rhyfedd, fodd bynnag, ydy bod y prif gyfryngau'n anwybyddu'r cyflafanau mwy erchyll yn erbyn y Cristnogion sydd yn digwydd bob amser drwy'r byd. Yn ddiweddar, dim ond mewn tair wythnos, er enghraifft, llofruddiodd Jihadyddion Fulani 120 o Gristnogion yn Nigeria wrth losgi 140 o dai. Dim ond blaen y mynydd iâ ydy hyn. Eto i gyd, mae distawrwydd y prif gyfryngau'n fyddarol tu hwnt. Pam? Darllenwch yr erthygl yma. Dw i'n cytuno â fo'n llwyr.
Saturday, March 16, 2019
y logiau olaf

Friday, March 15, 2019
te wedi'i rostio

Shabbat Shalom
Thursday, March 14, 2019
tatws melys
Dw i'n gwirioni ar datws melys. Maen nhw'n flasus heb sôn am ba mor faethlon maen nhw. Yn ddiweddar, bydda i'n cymysgu rhai wedi'i stwnsio gyda fy uwd i frecwast. Ynghyd â phrŵns a llefrith soi, mae tatws melys yn rhoi blas melys naturiol iddo fo. Dw i'n edrych ymlaen at fy mrecwast bob dydd!
Wednesday, March 13, 2019
toriadau treth
Amser Treth Incwm sydd arnon ni. Roedd yn arfer achosi cur pen i'r gŵr druan bob gwanwyn. (Y fo sydd yn gofalu am bopeth, chwarae teg iddo!) Eleni, fodd bynnag, cafodd ei synnu i ffeindio bod yna ond hanner papurau i'w llenwi, a mwy o fanteision i'r bobl gyda phlant, ac yn y blaen. O ganlyniad, byddwn ni'n talu 4,000 o ddoleri yn llai na'r llynedd! Hwrê! Diolch yn fawr i'r Arlywydd Trump a'i thoriadau treth!
Tuesday, March 12, 2019
amser arbed golau dydd
Dw i newydd glywed bod cynllun ar y gweill ynglŷn ag Amser arbed golau dydd. Os bydd o'n cael ei gymeradwyo, bydd Amser arbed golau dydd yn aros drwy'r amser. Dw i'n cefnogi'r cynllun yn gryf iawn. Drwg popeth ydy'r newid yn y gwanwyn. Cyhyd nad oes newid, fydd dim ots gen i gychwyn awr yn gynt. Gobeithio wir y bydd o'n cael ei gymeradwyo.
Monday, March 11, 2019
arogl te
Dyma'r post nesa blog fy merch. Dw i'n medru clywed arogl hyfryd y te sydd yn cael ei rostio yn y siop! Mae fy merch newydd ddechrau dysgu sut i baratoi'r melysion yn y gegin. Does dim rhaid iddi goginio, ond rhaid iddi osod popeth yn y llestri'n drefnus a del yn ôl y dull penodol. Dylai hi ddysgu'n gyflym hefyd oherwydd y bydd nifer o'r staff yn gadael y siop yn fuan.
Saturday, March 9, 2019
celf si-so

Friday, March 8, 2019
hen lun
Thursday, March 7, 2019
blog newydd

Tuesday, March 5, 2019
sylw i'r nofel
Yn anffodus dyma ddiwedd Nofel Heb Enw. Gan mai dros deg mlynedd yn ôl sgrifennais i hi, dw i ddim yn cofio sut dylai'r stori fod wedi datblygu. Hoffwn innau ddarllen gweddill y nofel! Ffuglennol ydy'r holl gymeriadau ar wahân i Evan Jones o Gymru a oedd yn genhadwr i Lwyth Cherokee. Roedd gen i ddiddordeb mawr yn ei hanes o'r blaen, wedi ffeindio mai yn y dref hon mae ei fedd. Roedd dyn arall sydd yn honni iddo gyfieithu'r Testament Newydd i iaith Cherokee, ond dw i'n cefnogi'r theori sydd yn priodoli'r gwaith i Evan Jones.
Monday, March 4, 2019
nofel heb enw - pennod 3 (yr olaf)
"Eich teulu?"
"Dach chi'n gwybod lle maen nhw'n byw?" Gofynnodd Huw.
"Mae gen i ryw syniad, ond dw i ddim yn hollol siŵr. Dyna pam dw i isio gwneud y gwaith ymchwil. Dw i'n bwriadu ymweld â'r llyfrgell, y capeli a'r eglwysi yma am ragor o wybodaeth."
"Felly mae cangen eich teulu yn byw ym Mhwllheli, dach chi'n ei feddwl?" Holodd Gareth efo chwilfrydedd.
"Digon posib," pefriodd llygaid clws Nisha.
Mae Henry wedi bod yn gwrando ar y sgwrs ryfeddol yn ddistaw, ond rŵan mentrodd,
"Nisha, fedrwch chi adrodd eich hanes wrthon ni?"
Trodd ei hwyneb i edrych ar Henry oedd wrth ei hymyl, yna ar y lleill.
"Mi fedra i.”
“Chwarter Cherokee ydy ‘Nhad, ac Americanes wen ydy fy mam. Does 'na ddim llawer o Cherokees yn medru eu hiaith frodorol bellach, ond ei siarad hi mae 'Nhad. A dw i'n siarad hi'n rhugl hefyd. Wrth fynd i'r brifysgol, dechreues i ymddiddori yn hanes y teulu. Tra roeddwn i wrthi, mi ddes i hyd i ddyn anhygoel ymysg fy hynafiaid. Evan Jones oedd ei enw. Cymro oedd o."
Edrychodd pawb yn syn arni heb ddweud gair.
"Bobl fach," meddai Gareth o'r diwedd.
"Cenhadwr y Bedyddwyr oedd o. Daeth i Oklahoma efo Llwyth Cherokee ar Trail of Tears. Y fo a gyfieithodd y Testament Newydd i'r Cheroceg."
Roedd bochau Nisha wedi cochi erbyn hyn efo cyffro, ac roedd ei llygaid mawr yn fwy fyth.
"Mae'n anhygoel," dwedodd Huw.
"Ydy wir. Dw i'n cael hi'n anodd credu mai rhywun yn y teulu a gyfieithodd y Testament Newydd dw i'n ei ddarllen bob dydd, ac wedi dod o wlad mor bell hefyd."
"Mae hyn yn fwy diddorol na unrhyw stori ddarllenes i erioed," cytunodd Gareth.
"Os gwnewch chi lwyddo, dw i'n siŵr bydd BBC yn awyddus eich cyfweld chi," meddai Dai.
Roedd y dynion i gyd yn llawn cyffro, a dechreuon nhw siarad ar yr un pryd.
"Mr. Williams, ga' i siarad â chi a'ch gwraig rywbryd?" Gofynnodd Nisha'n sydyn.
"Fi? A fy ngwraig? W... wrth gwrs. Cewch a chroeso, ond... ond pam?"
Edrychodd pawb ar Nisha yn ddisgwylgar.
"Mae'n bosib bod chi yn un o fy mherthnasau."
Saturday, March 2, 2019
nofel heb enw - pennod 2
"May I help you?” gofynnodd dynes tu ôl y cownter yn gwrtais.
“Pnawn da. Dw i'n chwilio am Mr. Henry Williams,” atebodd Nisha yn Gymraeg heb betruso. Collodd y ddynes ei thafod am eiliad yn clywed Cymraeg oddi wrth yr hogan ddieithr.
"W.. wel, mae o newydd fynd i'r lolfa efo'r hogia."
"Lle mae'r lolfa?"
"Draw fan 'na, i'r chwith."
"Diolch yn fawr.”
————
Stopiodd Gareth yng nghanol ei frawddeg pan welodd hogan yn cerdded tuag at y grŵp o ddynion. Trodd Henry ei ben i weld beth mae Gareth yn syllu arno.
"Pnawn da, Mr. Williams. Sut gêm gawsoch chi?" gofynnodd Nisha.
"A... champion."
"Twll mewn un?"
"Na.. dim yn union, ond digon da i mi."
"Leicioch chi ista yma, Miss Kingfisher?" gofynnodd Gareth.
“Sut gwyddoch chi fy enw? O! Chi ydy’r heddwas, y Cwnstabl Jones. Mae’n ddrwg gen i. Doeddwn i ddim yn eich adnabod chi heb eich gwisg heddlu.”
“Popeth yn iawn. Be gymwch chi, ta?”
“Lemonêd, os gwelwch yn dda,” dwedodd hi gan eistedd ar yr unig sedd wag wrth y bwrdd.
“Lemonêd, os gwelwch yn dda,” dwedodd hi gan eistedd ar yr unig sedd wag wrth y bwrdd.
“Mae’n ddrwg gen i am darfu arnoch chi.”
"Dim problem o gwbl. Dw i'n siŵr bod yr hogia yn fwy na hapus cael eich cwmni chi. Miss Kingfisher, dyma Dai Jones. Mae o'n berchen ar Siop Spar yn y dref. A dyma Huw Evans. Athro'r ysgol ydy o."
"Galwch fi'n Nisha, plîs. Neis eich cyfarfod chi.”
"Y chi a ddysgodd wers i'r Sais felly," meddai Dai gydag edmygedd.
"Mi hoffwn i fod wedi gweld yr ornest!" oddi wrth Huw.
"Glywsoch chi'r hanes yn barod?" edrychodd hi ar Gareth sydd yn gwenu.
"Ddylwn i ddim bod wedi achosi cymaint o gynnwrf, ond fedrwn i ddim dioddef ei sylw sarhaus ar Mr. Williams,” dwedodd Nisha yn benderfynol gan edrych ar y bwrdd.
Cynheswyd calon Henry gan eiriau Nishia.
"Dw i'n hen gyfarwydd â chael fy nhrin felly hyd yn oed gan ryw Gymry."
"Lle dysgoch chi baffio?" gofynnodd Dai.
"Mi ges i fy ngwers gyntaf gan 'Nhad pan oeddwn i'n hogan fach. Roedd o'n hoff iawn o baffio, ac mae o'n dal wrthi. Gobeithio na wneith glywed beth wnes i heddiw, neu mi ga' i gweir ganno fo!"
Chwarddodd y dynion.
"Mae'ch Cymraeg yn ardderchog beth bynnag," meddai Huw.
"Sut wnaethoch chi ddysgu?
"Ar ben fy hun efo llyfrau, CDau a'r rhyngrwyd."
"Ar eich pen eich hun?! Chi wedi gwneud yn dda iawn!" meddai Dai.
"Diolch," meddai Nisha'n swil. "ond dw i isio gwella fy Nghymraeg. Dyna un o'r rhesymau des i Gymru."
"Be ydy'r rhesymau eraill? gofynnodd Gareth.
Edrychodd Nisha ar Henry am eiliad cyn gostwng ei llygaid. Yna, dwedodd hi’n araf,
"Dw i'n gobeithio cael hyd i gangen fy nheulu yng Nghymru."
Distawodd pawb
Friday, March 1, 2019
Subscribe to:
Posts (Atom)