Sunday, May 31, 2015

dechrau

"Siaradais" Ffrangeg efo rhywun sydd ddim yn fy merch am y tro cyntaf heddiw. Cenhades yn Ffrainc oedd hi a chafodd fy merch ei gwers gyntaf ganddi hi. Dw i heb ddweud wrthi hi fy mod i'n dysgu Ffrangeg ond heddiw gofynnodd hi ydw i'n dysgu iaith arall rŵan. Atebais, "j'apprend le français." (dw i'n dysgu Ffrangeg.) Roeddwn i braidd yn nerfus yn sydyn ac felly methu'n dweud yn dda gwaetha'r modd, ond dechrau oedd hynny beth bynnag.

Saturday, May 30, 2015

barbeciw yn y glaw

Mae'n dal i fwrw glaw. Torrodd Oklahoma a Texas record - hwn ydy Mai gwlypaf erioed yn y ddwy dalaith. Mae'r planhigion yn tyfu'n wyllt a throi'r dref yn wyrdd dwfn. Mae'n nau ddadleithydd ni ar yr islawr wrthi'n galed; rhaid gwagio'r tanciau dŵr pedair gwaith y dydd. Cafodd deulu gŵr fy merch hynaf farbeciw ddyddiau'n ôl. Roedd hi'n sych ar y dechrau, ond cychwynnodd fwrw glaw cyn hir. Roedden nhw'n benderfynol i orffen beth bynnag.

Friday, May 29, 2015

y saith rheol

Gorffennais wrando ar y saith rheol gan Johan. Roedd pob un yn ymarferol iawn er fy mod i'n defnyddio rhai ohonyn nhw'n barod heb feddwl yn ddwfn amdanyn nhw. Un cyngor annisgwyl ydy "peidiwch â mynd i gyrsiau Ffrangeg." Wedi meddwl, fodd bynnag, dysgais i'r ieithoedd tramor ar ben fy hun ar wahân i Saesneg. Roedd yn hwyl mynd i gyrsiau prin yn y gorffennol, a chael cyfle i sgwrsio efo'r bobl yn y dosbarthiadau, ond a dweud y gwir, dysgais yn well ar ben fy hun drwy'r rhyngrwyd, llyfrau a CD.

Dw i'n hoffi modd Johan cymaint fel pryna' i ei gwrs cyntaf  ar yr unwaith os nad ydw i eisoes wedi archebu awdio arall (fis yn ôl ac mae o heb gyrraedd eto o Loegr.) Rhaid gweld sut mae'r awdio hwnnw ac efallai bydda i'n prynu cwrs Johan beth bynnag.

Thursday, May 28, 2015

o baris

Treuliodd fy merch dri diwrnod ym Mharis efo'i ddwy ffrind a dychwelyd i Abertawe'n ddiogel bellach. O'r diwedd fe wnaeth uwchlwytho rhai lluniau hir disgwyliedig ar Face Book. "Roedd mor braf fel criais i ddiwedd y diwrnod," meddai. Mae hi'n hynod o hapus llwyddo i gyfathrebu yn Ffrangeg am y tro cyntaf. Gorffennodd dosbarthiadau'r brifysgol yn barod ac mae hi'n prysur ffarwelio â'i ffrindiau yn Abertawe cyn cychwyn ar ei siwrnai i Iwerddon yr wythnos nesaf. (Mae hi'n rhy brysur mynd i Eisteddfod yr Urdd, gwaetha'r modd.)

Wednesday, May 27, 2015

gwobr

Roedd raffl yn ystod y parti ar gyfer graddedigion yr ysgol uwchradd yr wythnos diwethaf. Roedd yna nifer o wobrau - pabell, caiac, teledu efo sgrin fawr, Keurig, clustffonau a Kindle Fire. Fy merch a enillodd Kindle Fire. Mae hi'n gyffro i gyd fel nad ydy hi erioed wedi ennill gwobr fawr felly. Dw i'n gweld ei fod o'n beth hynod o ddefnyddiol. Rhoddodd hi ei hen Kindle i'w brawd sydd yn hapus iawn ei dderbyn. 

Tuesday, May 26, 2015

dim trydan

Es i a'r gŵr i fwyta allan yn y glaw neithiwr er mwyn dathlu'n penblwydd priodas ni (yn hwyr.) Doedd dim golau ar y goleuadau traffig lle oedd ceir yr heddlu'n sefyll. Gyrrodd y gŵr yn araf drwy'r dref. Doedd dim golau yn y tai neu siopau gan gynnwys Walmart. Doedd dim byd i'w wneud ac felly aethon ni adref. Roedd y plant yn disgwyl i ni brynu ciw iâr wedi'i ffrio i'w swper. Dyma goginio spaghetti ar y brys. Roedden ni'n ddiolchgar bod gan ein hardal ni drydan. 

Monday, May 25, 2015

torri gwallt

Torrais wallt fy mab ifancaf (eto.) Fe wnes i braidd yn dda er fy mod i'n dweud fy hun. Roedd fy mab yn ddigon bodlon efo'r canlyniad. Dw i heb gael hyfforddiant swyddogol ond wedi gweld fy merch yn torri gwallt ei theulu, ces i syniad neu ddau. (Dw i wedi torri fy ngwallt fy hun sawl tro hefyd.) Yr her fwyaf ydy'r gwallt o gwmpas y clustiau. Mae'n anodd ei dorri'n gyfartal. Wel dw i'n dysgu a gobeithio bydda i'n gwella'r sgil o dipyn i bell.

Sunday, May 24, 2015

rhybudd tornado

Stopiodd y glaw ar gyfer y seremoni raddio nos Wener fel cafodd ei chynnal yn y stadiwm. Mae hi'n dal i fwrw glaw ac yn drom weithiau bob dydd - tywydd hollol anarferol ar yr adeg hon. Mae llifogydd ym mhob man. Y tymor tornados wedi hen gychwyn ar yr un pryd. Mae gan Oklahoma fwy na digon ohonyn nhw. Oherwydd y dirwedd, dw i ddim yn siŵr, mae'n ymddangos bod tornados yn osgoi'r dref hon, diolch i Dduw. Ces i fy synnu neithiwr felly pan glywais fod yna rybudd a dyma ni'n paratoi mynd i'r islawr os byddai'r sefyllfa'n troi'n ddifrifol.  Yn ffodus pasiodd y storm heb achosi tornado ac aethon ni i'r gwely.

Friday, May 22, 2015

seremoni heno

Diwrnod mawr i fy merch ifancaf ydy hi heddiw. Mae hi'n graddio yn yr ysgol uwchradd. Bydd y seremoni'n cynnal am saith o'r gloch heno. Penderfynodd y prif athro ei chynnal yn y stadiwm er bod hi'n lawog. (Gobeithio y bydd hi'n stopio nes ymlaen.) Dw i'n siŵr bod pawb yn foddlon efo'r penderfyniad oherwydd na fydd hi'n taro deuddeg cynnal y seremoni dan do. Rhaid i mi fynd ag ymbarél a chlustog stadiwm heno.

Thursday, May 21, 2015

llythyr o pemberley

Ces i a'r teulu ein synnu ddoe i dderbyn amlen a anfonwyd o Pemberly. Roedd nodyn bach yn dweud bod rhywun wedi ysgrifennu neges aton ni ar eu papur swyddogol yn eu hystafell foreol, ac y nhw a bostiodd y llythyr drosti hi. Fy merch oedd "rhywun" a ysgrifennodd y neges heb ddweud dim byd amdani hi wrthon ni.

Wednesday, May 20, 2015

cwrs ffrangeg

Dw i'n gwrando ar yr awdio gan Johan, crëwr Français Authentique yn ddiweddar. Ceisiais wrando arno fo o'r blaen ond roedd yn rhy anodd y pryd hynny. Penderfynais gofrestru ar y rhestr e-bost er mwyn derbyn 7 rheol yn rhad ac am ddim. (Maen nhw ar gael ar y we hefyd.) Dw i'n gwrando ar y trydedd reol o hyd oherwydd bod hi'n cymryd hir gwirio'r geiriau anghyfarwydd.( Mae'n bwysig dach chi'n gwrando ar bethau dealladwy, yn ôl y rheol gyntaf.) Yna, bydda i'n gwrando arnyn nhw nifer o weithiau er mwyn trochi fy ymennydd yn Ffrangeg. Wedi meddwl, dw i wedi defnyddio'r modd hwn er mwyn dysgu'r ieithoedd eraill. 

Tuesday, May 19, 2015

neges gymraeg

Roedd neges e-bost gan fy merch yn Abertawe'n fy nisgwyl y bore 'ma. Mae hi'n sgrifennu ata i o dro i dro yn Saesneg fel arfer efo geiriau neu frawddeg Gymraeg yma ac acw. Ces i fy synnu i weld y neges honno - sgrifennodd hi'n Gymraeg (wel 70%.) Dyma'r tro cyntaf iddi sgrifennu cymaint o Gymraeg ata i. Dechreuodd hi ei neges yn dweud, "dw i'n caru Cymru." Aeth ei hathrawes Gymraeg â hi a'i ffrind o'r Almaen i gapel Cymraeg yn Llanelli nos Sul. Roedd pawb yn glên iawn a siarad Cymraeg efo hi. Mae hi'n drist bydd hi'n gorfod gadael Cymru cyn hir. 

Monday, May 18, 2015

dod adref

Wedi treulio penwythnos efo fy mab hynaf, des i a'r gweddill o'r teulu adref neithiwr. Rhaid cyfaddef fy mod i'n falch iawn o ddod adref er bod yn braf ei weld o a'i ffrindiau yn y lle mae o wedi cartrefi ers tair blynedd. Mae'n tŷ ni'n sefyll er gwaethaf y stormydd a'r tornados diweddaraf, ac mae'r moch cwta'n iawn, diolch i'r ffrind a ddaeth i ofalu amdanyn nhw tra oedden ni oddi cartref. Mae'n ofnadwy o fwll ar ôl cymaint o law.

Sunday, May 17, 2015

mae texas yn fawr

Teithiais efo'r teulu pum awr i ymweld fy mab hynaf ddoe. Mae o'n byw yn nhalaith drws nesaf, sef Texas. Bell iawn ydy "y drws nesaf" serch hynny. Roeddwn i'n meddwl bod Oklahoma yn fawr ond mae Texas ar lefel gwahanol. Mae'n cymryd ofnadwy o hir i fynd o le i le. Stopion ni ar ganolfan groeso wedi croesi'r ffin a chael map. Doeddwn i ddim yn gwybod bod Texas yn cynhyrchu gwinoedd.

Friday, May 15, 2015

y bore 'ma

Wedi mynd â fy mab i'r ysgol, es i am dro ar y campws cyn dod adref. Roedd yn ddistaw gan fod y tymor newydd orffen. Lle braf ydy o a dweud y gwir er nad ydw i'n cerdded yno'n aml. (Mae rhywun yn gofalu am y planhigion mae'n amlwg.) Fel arfer bydda i'n cerdded yn y gymdogaeth fach oherwydd nad oes ffyrdd diogel i gerddwyr o gwmpas. Mae'n lawog eto heddiw.

Thursday, May 14, 2015

rhian haf o'r diwedd

Dw i'n hoff iawn o acen ogleddol gref Rhian Haf. Roeddwn i'n meddwl bod hi'n ddynes hŷn wrth ei chlywed hi ar Radio Cymru ers blynyddoedd. Dw i newydd ei gweld hi'n adrodd rhagolygon y tywydd y bore 'ma. Rhaid cyfaddef bod hi'n edrych yn hollol wahanol i'r ddelwedd a oedd gen i! Mae'n rhyfedd ei chlywed hi'n siarad Saesneg!

Wednesday, May 13, 2015

mewn salon

Ces i driniaeth traed yn y salon lleol fel anrheg Sul y Mamau gan un o fy merched. (Y tro olaf paentiais fy ewinedd oedd dros 30 mlynedd yn ôl.) Roeddwn i'n teimlo dipyn yn lletchwith wrth i ferch ifanc drin fy nhraed a phaentio'r ewinedd. Wedi hanner awr fodd bynnag, roedd y traed yn anhygoel o lân a phert efo'r ewinedd wedi'u paentio'n lliw cwrel. Tynnais luniau a'u gyrru at fy merch yn dweud diolch.

Tuesday, May 12, 2015

cwc

CWC - Coffi efo Heddlu (Coffee with a Cop) ydy un o'r gweithgareddau Heddlu Norman (Oklahoma) ar gyfer datblygu partneriaeth rhwng yr Heddlu a'r trigolion. Cynhelir hyn unwaith bob mis mewn siop coffi neu sefydliad amrywiol yn y ddinas. Ceith pwy bynnag fynd i siarad efo'r Heddlu dros baned am 7 yn y bore. Cynhaliwyd CWC yn McDonalds fore ddoe. Mae ganddyn nhw syniadau gwych eraill i hyrwyddo perthynas cadarnhaol rhwng yr Heddlu a'r gymuned. Mae fy merch hynaf yn tynnu lluniau drostyn nhw fel arfer.

Monday, May 11, 2015

yn y cyfamser

Tra oedden ni'n cael ein gwlychu at y sylfaen yn Oklahoma, roedd fy merch yn mwynhau ei gwyliau braf yn yr heulwen lachar Seisnig. Cafodd hi ei gwahodd i dreulio'r penwythnos gan ei ffrind a'i theulu sydd gan garafán yn Swanage. Clywais fyddai hi'n mynd i Baris efo ffrindiau eraill yr wythnos 'ma. Sôn am gael ei difetha....

Sunday, May 10, 2015

cymaint o law

Dan ni'n cael tywydd garw yn Oklahoma y dyddiau hyn. Mae tornado yma ac acw. Cawson ni law ofnadwy o drwm tra oeddwn i yn yr eglwys y bore 'ma. Roedd fel diwrnod llifogydd Noah (efallai!) a gadawodd rhai pobl yn gynt cyn i'r glaw eu hatal nhw rhag gyrru ar y ffordd. Yn ffodus stopiodd y glaw erbyn diwedd y gwasanaeth. Cafodd y ceir tu allan eu golchi'n braf ac mae'r awyr yn lân. Disgwylir rhagor o law.

Saturday, May 9, 2015

cerdyn amazon

Ces i gerdyn anrheg Amazon ar gyfer Sul y Mamau (ymlaen llaw) gan fy merch yn Japan yn annisgwyl. Mae golwg Fenis hyd yn oed efo neges glên. Wrth gwrs nad ydw i'n disgwyl anrheg gan fy mhlant fel nifer o famau eraill, ond mae'n hyfryd derbyn anrheg felly. Dw i ddim yn gwybod beth dw i eisiau prynu efo'r cerdyn; dw i newydd archebu awdio Ffrangeg. "Problem" hapus sydd gen i!

Friday, May 8, 2015

yabusame

Traddodiad Japaneaidd mwyaf smart a grymus ydy o yn fy nhyb i. Mae unrhyw ddyn boed hen neu ifanc, golygus neu beidio, yn edrych yn hynod o smart yn y dillad traddodiadol pan saethith oddi ar geffyl sydd yn rhedeg yn ofnadwy o gyflym. Does gen i ddim syniad sut maen nhw'n medru defnyddio'r bwa hir felly heb sôn am daro'r targed. Mae Tokyobling wrthi'n postio am y digwyddiad yn Asakusa. Mae ei luniau'n hyfryd fel arfer.

Thursday, May 7, 2015

mwy o le yn y cypyrddau dillad

Mae gan AMVETS (American Veterans) wasanaeth casglu pethau diangen (i chi ond defnyddiol i'r lleill) ar gyfer eu siopau elusen ar dros America. Maen nhw' dod i'w casglu at eich cartrefi. Mae'n hwylus iawn gan nad oes rhaid cludo pethau i siopau yn y dref. Heddiw oedd un o'r diwrnodau dynodedig. Os oes gynnoch chi bethau i roi, dim ond eu gadael nhw o flaen eich tai, wedi'u marcio'n glir, arnoch chi. Fe wnes i gasglu pedwar llond bag plastig mawr o ddillad neithiwr. (Mae gan y cypyrddau dillad fwy o le bellach!) Fe adawais i nhw tu allan y bore 'ma. Daeth lori AMVETS a mynd â nhw. Mae'r system hon yn eu helpu nhw a'n helpu ni.

Wednesday, May 6, 2015

gwers ffrangeg gan nhk

Dw i newydd gofio bod gan NHK (gorsaf deledu/radio genedlaethol Japan) raglenni ieithyddol da iawn. Roeddwn i'n gwrando ar un Eidaleg o'r blaen. Dyma ddechrau gwrando ar un Ffrangeg. Mae sesiwn yn para am chwe mis ac mae hi newydd ddechrau. Mae gwers 15 munud bob dydd ac mae hi'n canolbwyntio ar bwnc am y tro bob wythnos. Dysgir yr wythnos 'ma, "beth mae o'n ei feddwl?" "sut dach chi'n dweud ....?" yn ogystal â sut i ateb y cwestiynau. 

Tuesday, May 5, 2015

dawnsio efo'r môr

Ar Gefnfor yr Iwerydd roedd storm rymus ar y llong fawr. Eisteddodd o at y piano yn yr ystafell ddawnsio dywyll yn y llong yng nghanol nos. Gofynnodd i'w ffrind dynnu'r clymwr ar goes y piano i ffwrdd. Dechreuodd chwarae'r piano. Dechreuodd y piano a'r sedd lithro ar y llawr fel sebon du mawr - yn ôl ac ymlaen ac yn droellog yn dilyn y tonnau. Fo a oedd yn arwain y piano efo'i chwarae, efo'r alawon fel pe basen nhw'n dawnsio efo'r môr.

Monday, May 4, 2015

y plas

Sgrifennodd fy merch am ei siwrnai i Pemberley o'r diwedd wrth roi lluniau hyfryd. Mae un ohonyn nhw'n dangos y plas oddi ar y lle cafodd Elizabeth Bennet ei chip cyntaf ohono fo pan ymwelodd hi â fo efo ei hewythr a'i modryb yn y fersiwn ffilm BBC. Dw i'n amau ydy hi wedi gwneud hyn yn fwriadol er mwyn gwneud ei theulu sgrechian.

Sunday, May 3, 2015

pemberley

"Dw i'n mynd i ymweld â Pemberley efo ffrindiau yfory," dwedodd fy merch yn ddidaro nos Wener. (Gweiddodd ei chwaer efo cenfigen.) Gyrrodd hi neges sydyn neithiwr yn dweud ei bod hi wedi blino ar ôl diwrnod hir fel byddai'n mynd i'r gwely yn gynnar. Na yrrodd hi luniau eto. Bydd hi'n mynd i Gernyw yfory efo'r un ffrindiau. Mae hi wedi cael ei difetha'n llwyr. 

Saturday, May 2, 2015

llyfr awdio novecento

Rhaid bod y nofel wedi rhoi effaith enfawr ar y bobl ers iddi gael ei chyhoeddi. Mae yna gynifer o ddarlleniadau, perfformiadau ar y llwyfan proffesiynol ac amaturaidd ohoni hi heb sôn am y ffilm a welais. Un o'r darlleniadau ydy hwn gan Antonio Randazzo. Dw i'n gwrando ar yr olygfa ornest biano ers ddoe. Mae o'n dda iawn. Dw i'n deall y stori'n well. Mae hyd yn oed sain effaith gan gynnwys perfformiadau piano gan y cymeriadau. Mae yna ddwsinau o eiriau anghyfarwydd roedd rhaid i mi eu gwirio. Efallai mai hyn ydy modd effeithiol i ddysgu ieithoedd wedi'r cwbl!

Friday, May 1, 2015

diwedd gwell

Dw i'n dal i feddwl am y nofel a'r ffilm. Wedi siarad amdanyn nhw efo'r teulu a sgrifennu yn fy mlog ddoe, fodd bynnag, dw i'n teimlo'n well. Pan ddwedais wrth fy merch yn Abertawe fy mod i wedi cael gwers yn Eidaleg drwy'r profiad torcalonnus hwnnw, atebodd hi fyddai'n fodd effeithiol o ddysgu ieithoedd! 

O ran diwedd y stori - ddylai'r prif gymeriad ddim bod wedi ceisio disgyn y llong yn Efrog Newydd. Doedd ryfedd ei fod o wedi cael ei lethu gan olwg y ddinas. Dylai fo fod wedi dewis porthladd llai. Yna, gallai fo fod wedi llwyddo i fyw bywyd newydd. Na fyddai hyn fod wedi gwneud stori ddramatig, wrth gwrs.