Friday, January 31, 2020

pont waterloo

Dw i newydd archebu DVD Pont Waterloo ar gyfer fy mam (97 oed) yn Japan. Gwelodd hi'r ffilm honno a drosleisiwyd yn Japaneg pan oedd hi'n ifanc, ac roedd hi'n gwirioni arni. Clywais am yr hanes cynifer o weithiau yn y gorffennol. Derbyniodd hi chwaraewr DVD syml gan fy mrawd yn ddiweddar, ac mae hi'n mwynhau gwylio fideos teulu. Dyma gael syniad o roi'r DVD yn anrheg iddi. Dw i'n siŵr y bydd hi wrth ei bodd.

Thursday, January 30, 2020

sense and sensibility eto

Penderfynais a fy merch wylio Sense and Sensibility unwaith yn rhagor mewn dau ddiwrnod (yn ystod ei hegwyl cinio.) Gwylion ni'r hanner cyntaf heddiw. Ces i fy nharo eto pa mor hardd ydy'r ffilm a'r gerddoriaeth. Y fersiwn honno (1995) ydy'r gorau. Roeddwn i'n sylwi manylyn bach y tro 'ma; roedd Fanny (Mrs. John Dashwood) yn edrych ar gatalog ffasiwn tra oedd ei brawd yn darllen yn uchel cerdd i'r teulu gyda'r nos!

Wednesday, January 29, 2020

siop de a choffi

"Ti isio panad?" bydda i'n gofyn i'r gŵr sawl tro bob dydd (yn Saesneg yn anffodus.) "Oes" ydy ei ateb bob tro (yn Saesneg.) Fel arfer mae o eisiau te Japaneaidd neu Tseiniaidd, a choffi unwaith neu dwy yr wythnos. Dw i a fy merch yn cael coffi unwaith bob dydd, a the drwy'r dydd. Mae gen i gymaint o de a choffi amrywiol ynghyd â theclynnau paratoi coffi bellach fel dw i'n teimlo pe byddwn i'n rhedeg siop de a choffi.

Tuesday, January 28, 2020

hen gar

Mae ffrind i ni'n gwerthu ei gar. Penderfynodd y gŵr ei brynu ar gyfer i'n mab ifancaf. (Bydd y mab yn ein talu ni'n ôl yn y dyfodol wrth gwrs.) Hen gar ydy o - 1997 Toyota Camry, ond yn rhedeg yn ardderchog. Bydd yn anodd curo'r pris hefyd - $1,500. Peth manteisiol ydy mai trosglwyddiad â llaw sydd gan y car (mae gan y rhan fwyaf o'r ceir yn UDA drosglwyddiad awtomatig, cofiwch.) Na fydd hyn, yn ogystal â'r hen olwg yn apelio at ladron ceir! Yn ffodus, dysgodd y mab sut i yrru car gyda throsglwyddiad â llaw yn ei waith haf y llynedd.

Monday, January 27, 2020

coffi twrcaidd 2

Mae'r coffi sydd gen i yn rhy dywyll i wneud coffi Twrcaidd a dweud y gwir, ac felly prynais bwys o ffa wedi'i rostio'n ganolig yn y dref y bore 'ma. Gofynnais i'r siopwr i falu'r ffa yn fân iawn. O'r diwedd llwyddais i wneud coffi Twrcaidd yn y sosban benodol a brynais i'n ddiweddar. Roedd y ffa'n dipyn yn rhy sur fodd bynnag. Dim problem; ychwanegais binsiad o soda pobi. A dyma fo. Paned perffaith.

Saturday, January 25, 2020

byrbryd i adar

Mae'r bwydwr adar diweddaraf yn gweithio'n ardderchog. Dw i'n gosod hadau unwaith bob dydd. Mae'n braf gweld adar gwyllt yn dod ato a mwynhau byrbryd yn ystod y gaeaf. Yn aml iawn clywa' i'w sŵn tra bydda i ger y bwydwr. Dyma luniau a dynnodd fy merch.

Friday, January 24, 2020

ymweliad

Cafodd fy mam ymwelwr arbennig, sef cyn rheolwr Adran Farchnata Gwesty Gajoen. Aeth at fy mam o'r blaen ar gyfer y cyfweliad teledu, ond mae hi newydd ymddiswyddo'r gwesty, a bydd yn mynd yn ôl at ei thref enedigol. Roedd hi eisiau gweld fy mam unwaith eto cyn iddi adael Tokyo; clên iawn mae hi. Roedd fy mam wrth ei bodd wrth gwrs, a chael amser braf yn adrodd ei hanes a dangos iddi bentwr o'r hen luniau.

Thursday, January 23, 2020

gwibdaith breifat

Aeth fy merch hynaf a'i gŵr i Gajoen, gwesty a thŷ bwyta moethus, hanesyddol yn Tokyo lle'r oedd fy mam yn gweithio ynddo 80 mlynedd yn ôl. Roedden nhw eisiau dringo'r grisiau enwog, ond yn anffodus roedden nhw ar gau ar achlysur tymhorol. Pan ddwedodd wrth y staff pwy oedd ei nain, fodd bynnag, roddodd y staff nhw wibdaith breifat i'r ystafelloedd arbennig! (Mae ei gŵr druan yn gwisgo mwgwd oherwydd ffliw a ddaliodd.)

Wednesday, January 22, 2020

eira cyntaf

Codais at fore gwyn heddiw. Eira cyntaf y gaeaf hwn. Mae'n llosgwr logiau ni yn prysur gynhesu'r tŷ ers dyddiau. Roeddwn i'n meddwl mynd i siopa heddiw ond penderfynais beidio; bydda i'n aros yn y tŷ cynnes. Mae yna ddigon o fwyd.

Tuesday, January 21, 2020

platiau trwydded gyrru

Cyflwynodd ein hannwyl Seneddwr Nathan Dahm fil yn cynnig platiau trwydded gyrru gyda Make America Great Again a Keep America Great arnyn nhw! Bydd rhan o'r elwau'n mynd at helpu'r cyn milwyr. Os bydd y Llywodraethwr yn rhoi ei lofnod ar y bil, (dw i'n siŵr y bydd!) bydd yn dod i rym ar Dachwedd 1. Dw i eisiau un!

Monday, January 20, 2020

parti yn y nefoedd

Roedd rhaid bod yna barti mawr yn y nefoedd ymysg yr angylion ddoe. Penderfynodd Keith, un o'r ffrindiau newydd, fwrw ymlaen i gyhoeddi ei ffydd yn Iesu Grist gan gael ei fedyddio (yn y cafn buwch arferol.) Roedd o'n arwain bywyd anodd, llawn o gyffuriau, mewn ac allan o garchar am flynyddoedd, ond wedi dod adref o'r diwedd at Dad Caredig drwy ei unig Fab. Roedd o'n hapus dros ben, ynghyd â'r eglwys.

Saturday, January 18, 2020

te llefrith brenhinol

Des i ar draws te diddorol, sef te llefrith brenhinol. Dyfeisiwyd gan gwmni te o Japan yn 1965, mae'n cael ei wneud gyda mwy o lefrith na dŵr, yn debyg i chai. Blasus iawn. Yn ôl fy merch yn Japan, mae'r te hwnnw'n cael ei wawdio gan y Saeson, ond gwelodd ffrind iddi (Saesnes) yn yfed y te hwnnw'n slei bach un diwrnod!

Friday, January 17, 2020

coffi twrcaidd

Roeddwn i'n arfer defnyddio sosban bob pwrpas i hwylio coffi Twrcaidd, ond ces i fy narbwyllo gan fy merch i brynu'r un a wnaed at y diben. Dyma hi, newydd gyrraedd! Mae'n hwyl ei defnyddio, ond dw i'n gweld rŵan bydd angen coffi wedi'i falu'n fân, neu na fydd gwaddodion yn setlo ar y gwaelod.

Thursday, January 16, 2020

atami

Mae fy merch yn dal i fwynhau ei gwyliau yn Japan gyda'i gŵr. Maen nhw yn Atami am dri diwrnod i ymlacio yn y dŵr poeth enwog, ymweld â'r berllan eirin lle roeddwn i gyda hi a fy mam flynyddoedd yn ôl. Maen nhw'n aros yn yr un gwesty hyd yn oed.

Wednesday, January 15, 2020

parfait

Wedi cael profiad rhyfeddol yn theatr Kabuki, aeth fy merch hynaf i Morinoen, siop de lle mae ei chwaer yn gweithio ynddi. Dyma parfait a baratôdd ei chwaer. Mae o'n cynnwys te wedi'i rostio a chynhwysion unigryw eraill. 

Tuesday, January 14, 2020

kabuki

Gwireddwyd breuddwyd fy merch hynaf o'r diwedd - aeth i theatr Kabuki i weld sioe Ebizo. Roedd yn werth chweil talu cymaint am ei sedd gan ei bod hi'n medru gweld o'n agos iawn ar y llwybr hwnnw. Safodd o wrthi hi am eiliadau hyd yn oed! Cafodd ei chyfareddu'n llwyr gan hud Kabuki. (Tannodd hi'r llun yma cyn y dechrau oherwydd gwaharddir y weithred yn llym yn ystod y perfformiad.)

Monday, January 13, 2020

distaw eto

Wedi i fy mab ifancaf fynd yn ôl at y coleg (ynghyd a'i chwaer sydd yn gyrru) ddoe, mae'r tŷ yn ddistaw iawn unwaith eto heblaw am sŵn y peiriant golchi. Roedd yn wych croesawu'r plant i gyd am fis, ond dw i ddim yn meindio dychwelyd at y bywyd distaw gyda'r gŵr. Hwyl am y tro nes iddyn nhw ddod adref nesaf.

Saturday, January 11, 2020

gwledd

Cyrhaeddodd fy drydedd ferch ei fflat yn Tokyo yn ddiogel, a chael croeso cynnes gan ei chwaer hynaf a'i gŵr sydd wedi paratoi pryd o fwyd blasus iddi. Roedd yn wledd wedi iddi oroesi'r siwrnai hir gyda cheirch wedi'i rostio a sauerkraut. Mae'n rhyfeddol gweld y pedwar ohonyn nhw gyda'i gilydd yn Japan.

Friday, January 10, 2020

golygfa

Mae fy merch hynaf wrth ei bodd yn Japan. Hyd yma, mae hi'n mynd nid nepell o'i llety, sef fflat ei chwiorydd yn Tokyo, yn ymweld yr ysgol ryngwladol mae fy ail ferch yn gweithio ynddi, gweld y temlau a chysegrfeydd lleol, ac yn y blaen. Cafodd hi a'i gŵr eu taro gan yr olygfa ogoneddus oddi wrth y ffenestr un bore. Dyma Fynydd Fuji.

Thursday, January 9, 2020

ffarwelio

Aeth fy merch arall yn ôl i Japan. (Adawodd adref am 3 o'r gloch yn y bore.) Cafodd hi wyliau braf yn treulio amser hapus gyda'i theulu a ffrindiau. Mae ganddi alergedd bwyd difrifol, ac felly roedd rhaid paratoi pecyn bwyd ar gyfer y siwrnai. Dim ond dau blentyn sydd ar ôl adref bellach, hynny ydy tan ddydd Sul.

Wednesday, January 8, 2020

nain

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth fy merch hynaf sydd newydd gyrraedd Japan oedd ymweld â'i nain (97 oed.) Gan fod ei gŵr wedi dal annwyd ofnadwy, aeth ar ei ben ei hun, a threulio oriau gyda hi yn ei fflat. Roedd fy mam wrth ei bodd wrth gwrs i weld ei wyres hynaf am y tro cyntaf ers blynyddoedd. 

Tuesday, January 7, 2020

ces i ateb!

Gyrrais lun o dair Shaloum-chan i Lysgenhadaeth Israel yn Japan, a dw i newydd gael ateb! Dywedon nhw (yn Japaneg) :
"Diolch i chi am y llun o Shalou-chan annwyl. Maen nhw'n hyfryd dros ben!"

Monday, January 6, 2020

amser teuluol 8

Mae fy nwy ferch newydd gyrraedd Japan yn ddiogel. Yn y cyfamser, penderfynodd y ddwy arall yma gael brecwast ar y dec yn yr haul. Mae ei brawd yn cadw eu cwmni wedi iddo hen orffen ei frecwast. (Aeth i redeg am chwech o'r gloch y bore 'ma gyda'i dad.)

Saturday, January 4, 2020

hoe fach

Mae cymaint o fynd a dod o gwmpas y tŷ yn ddiweddar. Mae'r pedwar plentyn yn ôl o Texas. Mae fy merch hynaf a'i gŵr newydd adael am Japan heddiw ar eu gwyliau o dair wythnos. Bydd fy ail ferch yn dychwelyd i Japan yfory. Bydd y gweddill (tri) yn gadael un ar ôl y llall yr wythnos nesaf. Dw i isio te am y tro.

Friday, January 3, 2020

amser tuluol 7

Wedi treulio deuddydd gyda'u brawd a'i deulu yn Texas, daeth fy mhedwar plentyn adref neithiwr. Mae'r tŷ (a'r fasged olchi dillad) yn llawn unwaith eto. Peth arall fy ail ferch sydd yn gweithio yn Japan yn edrych ymlaen ato oedd bwyta grawnfwyd brecwast; dydy o ddim yn boblogaidd yn Japan ac felly mae o'n ddrud a does llawer o ddewis. Dyma hi'n ymhyfrydu ymysg amrywiaeth ohono fo yn  Walmart!

Thursday, January 2, 2020

anrheg fawr

Dyma'r anrheg arall a gafodd y gŵr gan ein merch hynaf ni - copi ar gynfas o'i murlun cyntaf a phaentiodd yn Oklahoma City yn 2014. Fortune Favors the Brave ydy'r teitl. Roedd hi'n gwybod bod ei thad yn hoff iawn o'r murlun hwnnw, a phenderfynodd roi copi mawr yn anrheg Nadolig iddo. (Ces i fy ngwybod ymlaen llaw gyda rhybudd i beidio dweud wrtho fo.) Mae'r cynfas yn hongian ar y wal gorau yn ein tŷ ni.

Wednesday, January 1, 2020

post blog cyntaf 2020

Blwyddyn Newydd Dda. Tywalltodd y Tad caredig fendith arna i drwy'r flwyddyn y llynedd. Dw i'n gwybod y bydd o'n ei wneud eleni eto. Da yw Duw.

Cyn gadael Norman, roedd y plant eisiau brofi traddodiad Japan ar gyfer croesawu blwyddyn newydd, gan fwyta nwdls gwenith yr hydd a chacennau reis. Dyma nhw. Maen nhw'n edrych yn flasus iawn.