Tuesday, March 31, 2015

ceirios yn oklahoma

Tra bod y blodau ceirios yn Japan yn llenwi eu canghennau a thynnu miloedd o bobl i'w edmygu, mae rhai'n blodeuo yn yr heulwen lachar yn y dref hon hefyd. Dydyn nhw ddim mor fawreddog wrth gwrs, ond fe welais goeden braidd yn fawr efo llawn o flodau heddiw, a dyma barcio'r car a thynnu lluniau. 

Monday, March 30, 2015

cychwyn siwrnau

Cychwynnodd fy merch (yn Abertawe) ei siwrnai heddiw. Bydd hi'n teithio i Ogledd Cymru, Caeredin a Rhydychen yn ystod gwyliau'r Pasg. Mae hi newydd gyrraedd Dolgellau efo ei ffrind o Ffrainc sydd yn yr un dosbarth Cymraeg yn y brifysgol. Byddan nhw'n mynd efo'i gilydd hyd at Lanberis. Mae hi'n wlyb yn Nolgellau.

Sunday, March 29, 2015

blodau ceirios

Mae blodau ceirios yn eu hanterth yn Tokyo rŵan. Mae fy merch yn gyrru llun ar ôl y llall ohonyn nhw. Aeth hyd yn oed i hanami, sef achlysurol benodol i edmygu'r blodau hardd. Yn aml iawn mae'r bobl yn cael picnic dan y coed ond aeth efo ei ffrindiau heb fwyd. Mae yna goed ceirios bach yma ac acw yn y dref hon hefyd ond does dim cymhariaeth â'r rheiny yn Japan.

Saturday, March 28, 2015

dw i wedi ei weld o

Wedi hoe fach, dechreuodd awdur a Lover of Venice sgrifennu eto wythnosau'n ôl. Dw i'n edrych ymlaen at weld ei luniau gwahanol bob wythnos. Mae ganddo gwis i'w ddarllenwyr bob wythnos; mae o'n dangos llun a dynnodd yn Fenis a'u herio nhw i enwi'r llecyn. Gan amlaf maen nhw'n gorneli anhysbys sydd yn cuddio oddi ar lygaid y twristiaid prysur. Pan welais lun yr wythnos, (Where are we?) roeddwn i'n adnabod y cerflun yn syth oherwydd fy mod i wedi ei weld o a'i edmygu'n fawr y llynedd. Yr wythnos nesaf ceir yr ateb, ond fe ddwedaf lle mae'r cerflun i fy narllenwyr fel bonws! Eglwys Sant'Elena

Friday, March 27, 2015

teulu sydd yn teithio

Mae fy nheulu'n hoff iawn o deithio. Ar hyn o bryd mae fy ddwy ferch yn byw yng Nghymru a Japan; aeth fy nau fab i Loegr yr wythnos diwethaf; bydd fy merch hynaf a'i gŵr yn mynd i Awstria'r mis nesaf. A fydd fy merch deunaw oed yn mynd i Iwerddon ym mis Mehefin efo'i chwaer sydd yn Abertawe. Dw i newydd brynu tocyn awyren drosti hi. (Y hi sydd yn talu.) Mae hi'n ymddiddori yn Iwerddon ers blynyddoedd ac wedi bod yn gweithio'n rhan amser i gynilo pres ar gyfer y siwrnai. Dw i'n fodlon clywed hanes ganddyn nhw i gyd.

Thursday, March 26, 2015

cyfweliad

Cafodd ffrind fy merch gyfweliad gan Good Morning Wales. Saesnes sydd yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe ydy hi. Cafodd hi a myfyriwr o Gymru sydd yn astudio yn Lloegr eu holi cwestiynau o ran eu bywydau cyferbyniol. Siaradodd hi'n dda iawn wrth roi ffigurau diddorol. Clywais gan fy merch bod ei ffrind yn gweithio'n galed yn eu casglu nhw ymlaen llaw er mwyn bod yn barod am y cyfweliad. Da iawn hi!

Mae'r cyfweliad yn dechrau o gwmpas 2:05:40.

Tuesday, March 24, 2015

fideo gwych efo diwedd siomedig

Mae fy merch yn dal i fwynhau ei bywyd yn Abertawe a thu hwnt. Yn ddiweddar uwchlwythodd fideo sydd yn hybu Cymru; dwedodd hi efo balchder mai yna mae hi'n byw. Mae'r fideo'n wych fel mae o'n gwneud i chi eisiau ymweld â Chymru, ac i chi feddwl mai ond ffŵl na fydd yn mynd. Yr unig siom i mi ydy'r diwedd. Efallai bod y cynhyrchydd am apelio at bobl ifanc gan gymryd mantais ar y cwpl poblogaidd. Mae mwy na digon o Gymry sydd yn haeddu i gael eu henwi ar ddiwedd y fideo i roi argraff gref tybiwn i.

Monday, March 23, 2015

lle mae tywel papur?

Prynais betrol wedi cludo fy merch o'r ysgol i'r coleg. Mae gan yr orsaf betrol peiriant newydd; braf iawn. Dechreuais bwmpio. Yna roeddwn i'n sylwi bod yr handlen yn wlyb. Arhosais nes gorffen popeth a chwilio am dywel papur. Dim. Roedd rolyn ar gael wrth bob peiriant o'r blaen, ond mae o wedi diflannu. Doeddwn i ddim eisiau cyffwrdd fy mag efo fy nwylo drewllyd, ond nad oedd gen i ddewis. Tynnais allan Kleenex rhywsut a'u glanhau cystal ag y bo modd. Roedd rhaid dal yr olwyn lywio efo dau fys i fynd adref. Bydda i'n gwisgo menig plastig y tro nesaf.

Sunday, March 22, 2015

codi pres

Roedd yn amser unwaith eto i gynnal swper i godi pres ar gyfer tîm pêl-droed yr ysgol leol. Es i efo fy nau blentyn a myfyriwr o Japan i Jazz Lab, sef neuadd berfformio fach yn y dref neithiwr. Cawson ni gig moch barbeciw, tatws pob, salad a phwdin tra roedden ni'n cael ein diddanu gan ddau fand. Roedd un o'r ddau'n cynnwys John, y pianydd medrus a welais y llynedd. Doedd ei gap pêl fas ddim yn gwneud iddo edrych fel pianydd o fri, ond ardderchog oedd ei berfformiad. Gobeithio bod y tîm wedi codi llawer o bres. 

Saturday, March 21, 2015

seremoni arbennig

Cynhaliwyd seremoni dros fy niweddar dad yng nghyfraith yn y fynwent genedlaethol yn Hawaii ddoe. Hedfanodd y gŵr ynghyd ei frawd a'i nai ar gyfer y digwyddiad arbennig. Ymgasglodd rhyw ddwsin o ffrindiau ffyddlon i weld y milwyr yn perfformio'r seremoni i ddangos parch at y dyn annwyl, ac i weld brawd y gŵr yn gosod y lludw yn y bedd. Mae ei ysbryd efo Iesu Grist, ac yn y lle braf felly mae ei ludw'n gorffwys bellach.

Friday, March 20, 2015

peiriant gwnïo druan

Mae gen i beiriant gwnïo a brynais yn Japan dros chwarter canrif yn ôl. Dydy o ddim yn ffansi ond mae o wedi bod yn gweithio'n ffyddlon. Nid fi sydd yn ei ddefnyddio'n ddiweddar, fodd bynnag ond fy merched. Roedd ganddo broblem yn sydyn yr wythnos 'ma ac roedd rhaid i mi ei diwnio fo bob dydd. Heddiw roeddwn i'n methu ei helpu o gwbl a meddwl bod yr amser wedi cyrraedd i'w daflu. Yna, fe welais yr achos - roedd edau'n lapio amgylch y flywheel yn dynn, edau rhyw ugain troedfedd o hyd. Wedi cael ei ryddhau rhag y rhwystr, dechreuodd y peiriant weithio'n braf eto. Druan ohono fo!

Thursday, March 19, 2015

maen nhw'n ôl

Daeth fy nau fab adref yn ddiogel neithiwr wedi cael gwyliau hyfryd yn Lloegr. Yn ogystal â gweld gêm Chelsea a oedd yn uchafbwynt y siwrnai, aethon nhw i weld nifer o lefydd o gwmpas Llundain a Rydychen. Aeth fy merch yn ôl i Abertawe ac yn hapus i fod yn Gymru unwaith eto. Gadawodd fy mab hynaf y bore 'ma i fynd yn ôl i Texas. (Mae o'n gweithio prynhawn 'ma.) Mae fy mab ifancaf yn chwarae pêl-droed yn yr ysgol ar hyn o bryd. Ces i London Tea yn anrheg.

Wednesday, March 18, 2015

sense and sensibility

Fe wyliais yr hen ffilm hon ar fy hen chwaraewr fideo ddoe. Fersiwn 1995 ydy hi. Mae'n ardderchog. Er fy mod i wedi gweld hi sawl tro, fedrwn i ddim peidio â chrio unwaith eto. Byddwn i'n dweud mai hon ydy'r ffilm orau yn seiliedig ar nofelau Jane Austen a gynhaliwyd erioed - y lluniau, cerddoriaeth, sgript, actorion (ar wahân i un neu ddau,) dillad, llefydd ac anad dim, yr awyrgylch. Dw i'n llawn edmygedd bod y cyfarwyddwr Tsieineaidd hwnnw'n medru creu ffilm mor "Jane Austinaidd" erioed.

Tuesday, March 17, 2015

maen nhw'n tyfu

Mae'r tiwlipau'n tyfu. Ces i ddwsin o fylbiau; dim ond naw sydd ar ôl. Dw i'n amau mai ar y gwiwerod mae'r bai. Clywais eu bod nhw'n hoff iawn o fylbiau tiwlipau. A dweud y gwir, fe welais un yn palu gwely'r blodau ddyddiau'n ôl. Dw i wedi bod yn taflu grounds coffi ar y gwely bob dydd yn ddiweddar ac mae'n ymddangos ei fod o'n gweithio. 

Monday, March 16, 2015

diwrnod glas

Aethon nhw i'r gêm ddoe. Aeth fy nau fab i Stamford Bridge i weld y gêm rhwng Chelsea a Southampton. Hwn oedd uchafbwynt eu siwrnai i Loegr. Er gwaethaf canlyniad y gêm a'u seddau llai na manteisiol, fe welon nhw gêm Chelsea yn fyw. Roedd y pecyn yn cynnwys gwibdaith sydyn yn y stadiwm, swper a gwesty. Cafodd fy mab ifancaf gyfle i eistedd ar y fainc lle mae Petr Cech yn arfer eistedd! Rhaid aros iddyn nhw ddod adref i glywed y manylion.

Saturday, March 14, 2015

buddugoliaeth

Rhoddodd y cwmni orau i'r cynllun i droi Teatro Italia, adeilad hanesyddol efo ffasâd cain yn Fenis yn archfarchnad arall. Oherwydd y ddeiseb? (Arwyddais!) Efallai; peth pwysig ydy fod o'n ddiogel rhag datblygiad masnachol arall. Nesaf, gobeithio bydd y cyngor yn gwahardd y stondinau swfenîrs parhaol, yn y sgwâr bach lle mae Teatro Italia yn sefyll ynddo, sydd yn cuddio'r adeilad hwnnw.

Friday, March 13, 2015

neges o lundain

Ces i neges testun ar fy iPhone gan fy mab hynaf y bore 'ma. Dwedodd eu bod nhw wedi cyrraedd y gwesty yn Llundain. Yr unig broblem (i mi o leiaf) oedd mai ar bump o'r gloch ein hamser ni gyrrodd y neges. Bydda i'n codi am 6:30 fel arfer yn annhebyg i Alberto sydd yn codi cyn 4. Wedi ateb fy mab, methais gysgu eto ac felly codais. Dw i'n falch iawn, fodd bynnag, bod nhw wedi cyrraedd yn ddiogel. Teithiodd fy merch ar y bws o Abertawe i Lundain i dreulio'r diwrnod efo nhw.

Thursday, March 12, 2015

siwrnai i loegr

Cychwynnodd fy nau fab ar eu siwrnai hir-ddisgwyliedig i Loegr y bore 'ma. Y prif amcan ydy gweld y gêm pêl-droed rhwng Chelsea a Southampton ddydd Sul. Cefnogwr mawr Chelsea ydy fy mab ifancaf. Mae o'n dilyn y tîm yn ffyddlon bob dydd. Cafodd anrheg enfawr annisgwyl y llynedd gan ei frawd, sef siwrnai i Loegr a gweld gêm Chelsea efo fo. Hon ydy siwrnai gyntaf mewn awyren iddo hefyd. Byddan nhw'n gweld ei chwaer yn Llundain dros y penwythnos. 

Wednesday, March 11, 2015

tiwlipau leanne

Mae tiwlipau Leanne wedi goroesi'r gaeaf dan yr haen drwchus o ddail a newydd dangos eu hegin unwaith eto. Cawson nhw'n anrheg gan yr hogan o Abertawe flynyddoedd yn ôl; maen nhw'n blodeuo bob blwyddyn yn ffyddlon. Gan fod fy merch yn byw yn Abertawe a gweld Leanne o bryd i'w gilydd, mae'r tiwlipau'n golygu llawer mwy rŵan. Llynedd cafodd y blodau'n cael eu torri i ffwrdd yn greulon gan rywun dideimlad. Dan ni'n barod eleni - gosodon ni gamera diogelwch (nid ar gyfer y tiwlipau ond bydd o'n ddefnyddiol.) Gobeithio y byddan nhw'n ddiogel drwy gydol y tymor.

Tuesday, March 10, 2015

newyddion o japan 1

Mae fy merch yn Japan newydd ddechrau gweithio mewn ysgol Saesneg i blant. Bydd hi'n helpu'r athrawon eraill nes mis Ebrill er mwyn dod yn gyfarwydd â'i gwaith. Mae pawb yn glên iawn ac mae yna awyrgylch siriol a chadarnhaol, meddai. Mae'r plant bach yn enwedig yn cael dysgu Saesneg drwy chwarae gemau tu mewn a thu allan o'r dosbarth. Hefyd mae'r athrawon yn dod o amrywiaeth o wledydd - Rwsia, Croatia, Romania, Tsieina, Corea, Philippines yn ogystal â'r UD a'r DU. Mae'r holl bethau'n swnio'n hollol wahanol i'r arferion Japaneaidd. Fel arfer maen nhw'n anhyblyg ac yn hoffi strwythurau traddodiadol. Edrych ymlaen at glwyd mwy.

Monday, March 9, 2015

dw i ddim yn chwarae golff

"Pwy sydd yn elwa o daylight saving time?" ydy'r cwestiwn a ofynnir gan lawer o bobl diwrnod cyntaf y cyfnod bob blwyddyn. Penderfynwyd dechrau'r arfer artiffisial yn gynt yn yr Unol Daleithiau flynyddoedd yn ôl (ar wahân i Arizona a Hawaii) fel roedd rhaid i bawb adael y gwelyau awr yn gynt bore Sul diwethaf. Dywedir bod o'n arbed ynni a helpu'r ffermwyr. Celwydd noeth. Dw i newydd ddarllen erthygl sydd yn esbonio beth ydy beth. 

Druan o Benjamin Franklin sydd yn cael ei feio am gychwyn yr arfer hon. Dim ond annog y bobl i fynd i'r gwely a chodi'n gynnar wnaeth o. Ar William Willett mae'r bai.

Sunday, March 8, 2015

rhy brysur

Dw i heb glywed gan fy merch yn Abertawe am sbel. Sgrifennodd hi am ei siwrnai i'r Gelli wythnos yn ôl. Yn hytrach, am ei phrofiad ar y bws ar ei ffordd i'r Gelli sgrifennodd hi a dweud y gwir; wedi clywed Cymraeg a siaradwyd gan rai cyd-deithwyr, casglodd hi ei phlwc a dweud gair neu ddau yn Gymraeg wrth un ohonyn nhw. Roedd y dyn canol oed yn glên iawn a dechrau siarad â hi yn Gymraeg (wrth daflu geiriau Saesneg yma ac acw i'w helpu.) "Roedd y siwrnai'n braf ond y peth gorau oedd y profiad ar y bws," meddai. Addawodd hi i sgrifennu am y diwrnod yn y Gelli "nes ymlaen" ond mae wythnos wedi heibio a dyma iddi ymweld â Wilshire efo ffrind newydd yn y brifysgol. (Mae'r olaf yn dod o'r ardal honno) Cafodd amser hyfryd, yn ôl ei phost ar Face Book. Dw i ddim yn gwybod pryd ceith amser i adrodd ei hanes wrtha i.

Saturday, March 7, 2015

diwrnod i dorri gwallt

Wrth i ddiwrnod nesáu i fy mab ifancaf adael am Loegr efo'i frawd hŷn, es i â fo i Cowboy Barber Shop y bore 'ma. Cyrhaeddon ni tua deg ond roedd y siop yn llawn dop fel pe bai'r holl dref eisiau cael torri gwallt! Siop ffefryn y gŵr ydy honno. Mae yna salons yma ac acw wrth gwrs ond does gwybod oes lle heddiw (dydd Sadwrn) ac mae fy mab yn rhy brysur yn ystod yr wythnos. Mae'n well ganddo gael torri ei wallt gen i heno, a dyma i ni adael y siop.

Friday, March 6, 2015

y log olaf

Fe wnes i roi'r log olaf yn ein llosgwr logiau ni'r bore 'ma. Dechreuon ni ei ddefnyddio braidd yn hwyr y gaeaf hwn oherwydd y tywydd mwyn. Daeth yr oerni ynghyd ag eira'n sydyn a grymus ym mis Chwefror a dyma ni'n llosgi log ar ôl y llall. Parodd pentwr y logiau am y cywir gyfnod; mae'r eira'n prysur doddi yn yr heulwen lachar rŵan. Er mai caled a budr oedd gwaith cadw'r tân, roedd y logiau'n ein cadw ni'n gynnes braf. Roeddwn i'n coginio cawl a gwneud tost ar y llosgwr yn aml tra fy mod i'n sychu'r dillad o'i gwmpas. Tan y gaeaf nesaf.

Thursday, March 5, 2015

mewn siop goffi

Mae ffrind i fy merch o Oklahoma newydd ymweld ag Amsterdam. Darllenais ei phrofiad mewn siop goffi yn edmygus oherwydd bod y ddau tu ôl y cownter yn dechrau siarad â hi yn Iseldireg a throi'n Saesneg dim ond pan welon nhw hi'n ddryslyd. Wynebais rwystr ar ôl y llall yng Nghymru a'r Eidal pan geisiais siarad eu hieithoedd. Pe bai gan bob siaradwr brodorol agwedd tebyg i'r ddau yn Amsterdam, bydden nhw'n medru rhoi hwb mawr i hyder y dysgwyr.

Wednesday, March 4, 2015

hanes braf

Roedd Alberto (Italiano Automatico) yn sgwrsio yn Saesneg mewn awyren o Los Angelas efo dynes ganol oed a oedd yn eistedd yn ymyl. (Doedd hi ddim yn rhugl.) Yn sydyn gofynnodd hi ydy o'n siarad Almaeneg. Un o'r ddwy iaith mae o'n dysgu ar hyn o bryd ydy'r Almaeneg. Roedd y ddynes mor hapus fel cofleidiodd fo. Ar ôl tipyn, dwedodd hi mai Rwsieg ydy ei mamiaith a dweud y gwir. Rwsieg ydy'r iaith arall mae Alberto'n dysgu ar hyn o bryd! Dechreuodd hi grio'n llawenydd! Hanes braf a gynhesodd calonnau nifer o'i ffrindiau Face Book.

Tuesday, March 3, 2015

yr araith

Dw i newydd wrando ar araith Prif Weinidog Netanyahu yng Nghyngres yr Unol Daleithiau. Am araith! Nerthol, grasol, clir, adeiladol, ysbrydoledig a llawer mwy! Doedd o ddim yn petruso rhag galw'r drwg yn ddrwg. Esboniodd bopeth yn glir heb ofn wrth gadw agwedd hynod o ostyngedig. Fo ydy'r gwir arweinydd. Gobeithio bod yr araith wedi ysbrydoli'r gwleidyddion a oedd yn gwrando arni hi fel byddan nhw'n gweithredoli ar unwaith.

Monday, March 2, 2015

antur

Mae fy ail ferch newydd gyrraedd Japan 50 awr ers gadael adref. Roedd rhaid iddi dreulio noson ym Maes Awyr Toronto oherwydd ei bod hi wedi colli'r awyren i Japan yno. Doedd hi ddim yn sylweddoli'r gwahaniaeth amser rhwng Oklahoma a Toronto; pan aeth i'r giât yn meddwl ei bod hi'n gynnar, roedd y drws newydd gael ei gau! Treuliodd oriau'n ceisio cael ei chês yn ôl. Efo help gan weithiwr hynod o glên, llwyddodd hi a sicrhau awyren arall y diwrnod wedyn. (Mae ond un awyren i Japan o Toronto bob dydd.) Mae ei hantur newydd ddechrau.

Sunday, March 1, 2015

dydd gŵyl dewi sant hapus

Mae'r ŵyl yn arbennig i mi eleni gan fod fy merch yn byw yn Abertawe. Dw i'n mynd i goginio cawl cennin a Bara Brith. Gobeithio y ceith hi bowlen a thafell rhywle heddiw.