Wednesday, February 27, 2019

nofel heb enw - pennod 1


Daeth Nisha allan o'r tŷ bach cyhoeddus. Gwelodd hi ddyn canol oed ar fin mynd i mewn i ochr y dynion gyda mop a bwced.
"Esgusodwch fi," mentrodd hi.
Edrychodd arni. Edrychodd ddwywaith. Safodd hogan dal, yn ei hugeiniau, gyda gwallt du, hir a llygaid duon mawr, meddal. Roedd hi mor glws fel yr aeth o'n fud.
"Mr. Williams dach chi?"
"S... sut gwyddoch chi fy enw?"
"Mi wnes i glywed amdanoch chi ar Radio Cymru.”
"Do?"
"Do wir."
"Ond, ond... dach chi'n siarad Cymraeg! Sut? Pam?"
"Dw i wedi dysgu."
"Ydach? O le dach chi'n dŵad?"
"O America, Oklahoma."
"Oklahoma? ... Mae'ch Cymraeg yn ardderchog!”
"Diolch," gwenodd. Disgleiriodd ei dannedd gwyn.
"O, mae'n ddrwg gen i. Nisha ydy fy enw i, Nisha Kingfisher."
"Nisha?"
"Ia, neis eich cyfarfod chi, Mr. Williams."
"O... a fi chithau."
Mae Henry yn methu credu bod hogan ifanc mor glws a welodd erioed wedi ei glywed o'n siarad ar raglen radio, a hynny yn America. Ac mae hi yma o flaen ei lygaid yn siarad â fo yn Gymraeg coeth.
"Dach chi'n mynd i chwarae golff pnawn 'ma?"
"Ydw'n tad. Dach chi'n cofio'n iawn be nes i ddeud yn y rhaglen."
"Yndw achos..."
"Achos be?”
"Alright, Luv? I 'aven't seen you round here before; what's your name?
Oddi wrth un o'r tri hogyn sydd newydd ddod allan o'r tŷ bach. Gofynnodd hi i Henry gan anwybyddu'r hogyn.
"Mr. Williams, ga' i siarad efo chi yn y clwb golff ella? Dw i ddim isio aros yma."
"Cewch, wrth gwrs..."
"Hei Luv, what's this old loo cleaner to a pretty girl like you? What's his charm? Don't talk to him, or you'll catch his 'orrible germs, and..."
Orffennodd yr hogyn mo'i frawddeg. Doedd o ddim yn gwybod beth ddigwyddodd. Pan aeth ato, roedd o'n gorwedd ar y ddaear galed gyda phoen poeth ar ei foch de. Clywodd waed yn ei geg. Aeth pawb yn fud. Dechreuodd un o'r hogiau regi.
"What's going on here?" 
Ymddangosodd heddwas o nunlle.
"Officer! This girl attacked my mate! Arrest her! She's vicious! A public hazard! Look, he's bleeding to death inne, ay!"
"Now now, it doesn't look that serious.
Trodd at Nisha.
"Tell me, ma'am. Did you really punch him down?
"Do."
"Chi'n siarad Cymraeg?"
"Yndw. Ac mae o'n haeddu cael ei daro. Mi naeth sarhau fy ffrind. Mi fedrwn i fod wedi 'i daro fo'n galetach ond nes i ddim."
Fedrai'r heddwas ddim peidio â gwenu.
"Chi'n siarad Cymraeg yn dda iawn."
Roedd o eisiau gofyn cwestiynau iddi am ei Chymraeg ond galwodd ei ddyletswydd.
"Bore da, Henry. Dweda wrtha' i be ddigwyddodd.”
"You lot are all in it together, speaking that XXXX lingo! I demand you speak the language of the civilized!"
Erbyn hyn roedd tyrfa swmpus wedi ymgasglu i weld yr olygfa fwy difyr na'r ffilm ddiweddaraf yn y sinema. Cododd yr hogyn ar ei draed, edrych yn fygythiol ar y tri a'r dyrfa. Yna, i ffwrdd â fo heb air. Brasgamodd y ddau arall ar ei ôl.

Tuesday, February 26, 2019

wrthi'n golygu

Dw i wrthi'n golygu fy nofel. Mae'n hwyl! Mae ychydig o ddialogau Saesneg, ac roedd rhaid i ofyn am gymorth i fy merch hynaf a oedd yn byw yn Llundain er mwyn gwneud yn siŵr bod nhw'n swnio'n naturiol. Cyn gynted ag y bydd hi'n gorffen y gwaith (mae hi'n brysur,) bydda i'n postio'r bennod gyntaf. 

Saturday, February 23, 2019

nofel heb ei gorffen

Wrth ddarllen fy hen ddyddiadur, des i ar draws nofel a dechreuais sgrifennu. Dim ond tair pennod heb orffen sydd. Merch o Oklahoma o'r enw Nisha Kingfisher ydy'r prif gymeriad. Mae hi'n chwarter Cherokee a thri chwarter gwyn. Mae'r stori'n dechrau wrth iddi newydd gyrraedd Pwllheli. Dw i wedi hen anghofio amdani erbyn hyn, ond mae'n hynod o ddiddorol (er mai y fi sydd yn dweud!) Dw i'n meddwl ei golygu hi a phostio darn ar y tro yma.

Friday, February 22, 2019

hen ddyddiadur

Ffeindiais fy nyddiadur Cymraeg ynghyd â hen gardiau wrth drefnu'r silff. Dyma ddechrau ei ddarllen. O gyfnod 2006-2009 ydy o. Es i Gymru am y tro cyntaf yn 2007. Dw i ddim yn cofio rhai pobl roeddwn i'n sôn amdanyn nhw! Mynychais gwrs Cymraeg Madog yn Iowa yn 2008. Aeth fy merch hynaf i Lundain wedi graddio yn y brifysgol, a chael swydd yno am chwe mis, ac yn y blaen. Mae'n ddiddorol ond ar yr un pryd, poenus cofio pethau trist heb sôn am weld fy nghamgymeriadau gramadegol. Eith i'r bin ailgylchu ar ôl i mi ei orffen.

Thursday, February 21, 2019

llawr newydd

Mae gynnon ni lawr newydd sbon yn yr ail ystafell ymolchi. Roedden ni'n byw gyda'r hen linoliwm a oedd wedi gweld dyddiau gwell. Dewison ni deils i gyd-fynd gyda'r ystafell ymolchi arall. Mae'n wych cael cerdded yno heb glywed y llawr yn gwichian. Diolch i Kurt a weithiodd yn galed ers dyddiau. (Gosododd o ddrws newydd i gwpwrdd dillad hefyd.)

Tuesday, February 19, 2019

hen gerdyn

Wrth drefnu'r silffoedd, ffeindiais hen gardiau post teuluol gyda chyfarchion. Dyma un ohonyn nhw; cafodd ei dynnu yn Kobe, Japan. Wedi marwolaeth fy nhad, roedd fy mam yn byw efo ni am gyfnod. Dim ond dwy ferch a oedd gannon ni'r adeg honno. Roedd troed y ferch ifancaf mewn cast wedi iddi gael damwain feic.

Monday, February 18, 2019

y rhagrith fwyaf

Gwleidydd newydd yn nhalaith Michigan ydy Rashida Tlaib. Mae hi'n erbyn Israel ac wrthi'n cefnogi BDS yn frwd. Daeth ffaith fach ddiddorol i'r olwg yn ddiweddar - mae hi'n defnyddio Wix i greu ei gwefan. Cwmni o Israel ydy Wix! Ynghyd â hithau, mae yna gynifer o bobl yn prysur gondemnio Israel yn defnyddio Wix. Y rhagrith fwyaf ydy hyn. Byddai rhaid i chi fyw mewn ogofau pe baech chi eisiau gwahardd Israel yn gydwybodol, y wlad sydd yn dyfeisio'r dechnoleg a'r feddygaeth newydd bob amser i wella bywyd pawb. 

Saturday, February 16, 2019

ar hyd camlas fawr

Dyma fideo newydd sbon gan Prowalks. Ffilmiwyd Ddydd Sadwrn diwethaf yn Fenis. Dechreuodd ei daith gerdded o gwmpas safle San Silvestro lle roeddwn i'n arfer dal y cwch pan oeddwn i'n aros yn Fenis. Roedd yn braf gweld yr olygfa gyfarwydd. Wedi cerdded ar hyd Camlas Fawr ger Pont Rialto, aeth i Pescheria, y farchnad pysgod fwya yn Fenis. Oedd bron i mi glywed arogl pysgod.

Friday, February 15, 2019

ffrog hardd

Dw i ddim yn gwybod sut mae hi'n curo camp lawn bob tro. Pryd bynnag mae hi'n mynd i siop Goodwill, bydd hi'n darganfod bargen anhygoel. Dyma hi'n mynd yno i brynu ffrog ar gyfer cinio rhamantus Dydd San Ffolant gyda'i gŵr, a ffeindio'r ffrog hardd honno rhwng eitemau hap. Talodd hi ond $9. 

Thursday, February 14, 2019

paentiad

Mae'r hen baentiad sydd yn y teulu newydd gael ei fframio gan Hobby Lobby. Mae'r ffrâm frown (a oedd ar hanner disgownt) yn gwneud y llun yn edrych yn fwy llachar. Yn anffodus nad oes neb yn gwybod yr hanes tu ôl i'r paentiad bellach.

Wednesday, February 13, 2019

cerdded yn fenis

Des i ar draws y fideo hwn sydd yn eich arwain chi ar lwybrau cul Fenis. Mae yna nifer o fideos tebyg, ond y gwahaniaeth mawr ydy bod y person efo'r camera yn cerdded heb air. Clywir ond sain o gwmpas. Mae ansawdd y fideo'n ardderchog fel byddwch chi'n teimlo fel pe baech chi'n cerdded eich hun. Dyma'r adeilad roeddwn i'n aros ynddo flynyddoedd yn ôl gyda Federica, y perchennog y fflat. Roeddwn i'n sefyll ar y balconi yno i edrych ar yr olygfa hardd.

Tuesday, February 12, 2019

molon labe

Cynhaliwyd rali'r Arlywydd Trump arall neithiwr, yn El Paso, Texas. Roedd 35,000 o'i gefnogwyr wrth eu bodd wrth iddo adrodd y llwyddiant yn ystod y ddwy flynedd a gobaith yn y dyfodol. Roedden nhw'n gweiddi "USA" fel arfer, yn hytrach na "Trump." Dw i'n credu bod hyn yn dangos bod yr Arlywydd Trump yn cynrychioli gwerthoedd America. Mae'r Democratiaid yn datguddio eu lliwiau go iawn yn ddiweddar, hynny ydy mai sosialaidd maen nhw. Na, na fyddwn ni byth yn ildio'r rhydded a roddwyd gan Dduw. "Molon labe!"

Monday, February 11, 2019

neidio'r rhaff ar y to

Gyrrodd fy merch yn Japan luniau a dynnodd o'i fflat eto. Mae hi'n cael ei chyfareddu at y golygfeydd gogoneddus ym mhob tymor, amser a thywydd. Dyma hi'n neidio'r rhaff ar y feranda wrth fwynhau'r golygfeydd.

Saturday, February 9, 2019

sgŵp falafel

Mae'r sgŵp falafel a archebais newydd gyrraedd, o Israel! Dyma goginio rhai gyda chymorth y teclyn cyfleus yma. Mae o'n gweithio'n dda. Ceisiais wneud falafel gan ddwylo o'r blaen, ond gan fod y cymysgedd yn wlyb fel roedd o'n glynu wrthyn nhw. Roedd y falafel yn arbennig o dda'r tro 'ma. Peidiwch â defnyddio ffa mewn tun; rhaid defnyddio ffa sych wedi'u mwydo mewn dŵr dros nos. Mae'r blas yn hollol wahanol.

Friday, February 8, 2019

dechrau'r yrfa

Mae fy merch hynaf yn cael ei gofyn yn aml pryd dechreuodd hi ddarlunio. Braidd yn gynnar fel gwelwch chi. Dw i'n cofio i fi ddweud wrthi'r pryd hwnnw â darlunio "pysgodyn mawr a physgodyn bach." Dyna beth mae hi'n ei ddarlunio yn y llun yma! (Doedd hi ddim yn ddwy flwydd oed eto.)

Thursday, February 7, 2019

yr economi'n ffynnu

Mae economi America'n dal i ffynnu dan arweinyddiaeth yr Arlywydd Trump. Mae'n amlwg hyd yn oed heb glywed y ffigurau; mae tai newydd yn cael eu hadeiladu un ar ôl y llall yn y gymdogaeth hon hefyd. Er bod dipyn yn drist gweld y coed yn cael eu torri i wneud llefydd i'r tai, mae'n wych i'r bobl a'r economi ar y cyfan. Dyma bentwr o goed sydd yn edrych fel arddangosyn yn Bionnale.

Wednesday, February 6, 2019

yr araith

Gwrandais araith yr Arlywydd Trump neithiwr. Nerthol, dewr a seiliedig ar egwyddorion sylfaenol America, rhoddodd obaith a hyder i bobl gyffredin. Dw i'n falch dros ben ei fod o wedi condemnio cyfraith ddiweddarach Efrog Newydd dros erthyliadau hirdymor, ac wedi dweud yn glir na fyddai America byth yn wlad sosialaidd. 

Roedd yn ddiddorol gweld y gynulleidfa hefyd - rhai a oedd yn llawn llawenydd, a'r lleill gydag wynebau heb emosiynau neu gyda gwên ffug/nawddoglyd. Roedd yn amlwg pwy oedd dros America a'i phobl, a phwy oedd ddim.

Tuesday, February 5, 2019

llun o'r arlywydd

Cawson ni lun o'r Arlywydd Trump gyda'i lofnod gan Bwyllgor Gweriniaethwyr! Roeddwn i eisiau ei bortread swyddogol ond gwgu mae o yn y llun hwnnw, ac felly phrynais mohono fo. Mae o'n edrych yn hynod o glên yn y llun hwn. Dyma ei osod ar wal o flaen fy nesg. Pryd bynnag bydda i'n codi fy llygaid, mae o'n gwenu arna i!

Monday, February 4, 2019

adfer cofeb

Go da, y dynion ifanc sydd wrthi'n adfer cofeb Tryweryn yng Ngheredigion. Gwarth ar bwy bynnag a gyflawnodd y trosedd yn ddiweddar. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n rhoi statws arbennig i'r murlun eiconig er mwyn ei warchod. Dyma'r ddeiseb i alw arnyn nhw i weithredu. Arwyddais yn barod.

Saturday, February 2, 2019

diwrnod draenog

Welodd o mo'i gysgod. Mae hyn yn golygu y cawn ni wanwyn cynnar eleni - newyddion gwych i'r bobl sydd yn dioddef o'r oerfel hanesyddol yn ddiweddar, mae'n siŵr. Truan o Phil, fodd bynnag, y draenog enwocaf yn America. Roedd o'n edrych yn gysglyd iawn pan gafodd ei dynnu allan o'i wely clyd gan y ddau ddyn.

Friday, February 1, 2019

darnau bach

Wedi gorffen y cwrs a chael ei ardystio i drwsio tri math o gynnau, mae'r gŵr wrthi'n hogi ei sgil newydd. Mae o'n trin darnau bach bach, a dylai fo fod yn hynod o ofalus fel cewch chi ddychmygu. Mae o wrth ei fodd!