Wednesday, November 30, 2011

yr ochr olau

Llwyddodd y gŵr gychwyn fy nghar a mynd â fo at garage Ford ddoe. Roedd rhaid archebu rhywbeth a fydd popeth yn costio rhyw $700 mwy neu lai! Dw i'n falch bod y car wedi methu nunlle arall ond yn y gymdogaeth.

Tuesday, November 29, 2011

car wedi'i dorri

Munud ar ôl gadael y tŷ, torrodd y car. Doedd dim byd fedrwn i wneud ond ei adael a cherdded adref. Yn ffodus es i ddim yn bell. Y broblem ydy roeddwn i ar fy ffordd i gasglu'r plant. Dyma ffonio'r gŵr ond roedd o ar gychwyn ei ddarlith ac na fedrith fynd am awr. Dyma ffonio'r ddwy ysgol yn ogystal â ffôn symudol fy merch er mwyn dweud wrthyn nhw aros am eu tad.

Wel, does dim byd fedrwn i wneud rŵan. O leiaf, mae gen i rywbeth i sgrifennu ar fy mlog heddiw.

Monday, November 28, 2011

wedi'r gwyliau

Reit, mae'r gwyliau wedi drosodd a dw i'n ôl i fy mywyd beunyddiol. Gorffennais i olchi pentwr o ddillad (diolch i'r peiriant golchi!) Smwddiais i grysau'r gŵr. Rhaid i hwfro p'nawn 'ma hefyd. O leiaf mae llun y teulu a llythyr Saesneg Nadolig yn barod yn gynt nag arfer eleni. Dim ond y gwaith gyfieithi i'r Japaneg sydd ar ôl. Yn y cyfamser dw i'n gwneud yn siŵr bod gen i amser ar gyfer y Gymraeg a'r Eidaleg.

Gyda llaw, doedd peidio â choginio twrci ddim yn syniad da wedi'r cwbl. Ces i gymaint o gwyn gan y plant. Roedd un ohonyn nhw cyn belled â dweud nad ydy'r Wyl Ddiolchgarwch yn gyflawn heb rost twrci, a rhaid diogelu traddodiad Americanaidd! Iawn. Mi fydda i'n coginio twrci flwyddyn nesa ymlaen.

Sunday, November 27, 2011

adref

Mae eglwys fy merch hynaf yn cynnal cyfarfodydd yng nghartrefi'r aelodau. Ar ôl y canu a dysgu'r Beibl anffurfiol, roedd rhaid i ni gychwyn ar unwaith achos bod fy mab hynaf yn cael lifft i ddod yn ôl i'r brifysgol yn Arkansas am bedwar o'r gloch.

Gofynnodd y gŵr i ddwy o'n merched yrru er mwyn iddo gael gweithio ar ei liniadur yn y car. Aeth y siwrnai'n ddidramgwydd a llwyddodd o gwblhau popeth. Roedd yn braf cael gwyliau efo'r plant i gyd. Pwy a wir pryd cawn ni ddod at ein gilydd y tro nesaf. Ces i amser da ond dw i'n falch iawn o gysgu yn fy ngwely heno.

Saturday, November 26, 2011

diwrnod yn norman

Mae'r gwesty'n ddigon da gan ystyried y pris. Cewch chi frecwast yn rhad ac yn ddim hyd yn oed. Methais i gysgu'n dda serch hynny. Fedra i ddim cysgu'n dda mewn gwesty.

Y peth pwysicaf i'w gyflawni heddiw oedd tynnu llun y teulu ar gyfer ein llythyr Nadolig blynyddol. Roedden ni'n gobeithio cael defnyddio neuadd y brifysgol (University of Oklahoma) ond yn anffodus roedd yna gêm pêl-droed Americanaidd a doedd dim lle i barcio gerllaw. Aethon ni i'r llyfrgell yn ei lle a llwyddo i gael llun da.

Cawson ni swper mewn tŷ bwyta Mecsicanaidd yn y dref. Tra oedden ni wrthi'n bwyta, roeddwn i'n sylwi ar y llais cyfarwydd yn canu yn y cefndir. Pwy ond Duffy a oedd yn canu Mercy! Dim ond gŵr fy merch a oedd wedi clywed amdani hi. A dyma esbonio ei chefndir Cymraeg yn awyddus wrth y teulu.




Friday, November 25, 2011

i norman

Aeth y siwrnai'n ddigon hawdd a heb drafferth. Dim ond tair awr a hanner cymerodd i dŷ fy merch yn Norman. Stopion ni unwaith am betrol a defnyddio'r tŷ bach ar Pig Out Palace yn Henryetta. Roedd y plant wrth eu boddau'n gwylio DVD yn y car trwy'r amser.

Roedd yn braf treulio'r p'nawn efo'n gilydd - y dynion yn gwylio'r gêm bêl-droed Americanaidd a'r merched yn siopa yn Ross a Target. Prynais i bersawr a bag llaw.

I swper, coginiodd fy merch gumbo efo berdys a selsig soia a oedd yn hynod o flasus. Rŵan mae pawb yn ymlacio'n gwneud pethau amrywiol yn y tŷ. Bydda i, y gŵr a fy ail ferch yn mynd i westy cyfagos cyn hir. Mae'r gweddill yn aros efo'i chwaer hŷn a'i gŵr.

Thursday, November 24, 2011

diwrnod hamddenol

Gŵyl Ddiolchgarwch ydy hi heddiw ond gan nad ydw i'n coginio cinio mawr eleni, mae gen i ddigon o amser i dreulio'n hamddenol. Mi baratoa' i black bean casserol sy'n hawdd dros ben ac yn flasus i swper heno. Protestiodd un o'r plant, fodd bynnag, fod rhaid cael pastai pwmpen o leiaf. Dw i'n rhyw gytuno â hi. Mi wna i un nes ymlaen; mae'n ddigon syml.

Mi adawa' i a'r teulu am dŷ fy merch hynaf yn Norman bore fory. Mae'r gŵr eisiau gadael tua naw i ni gyrraedd mewn pryd am y gêm bêl-droed Americanaidd rhwng Arkansas a Louisiana. Does gen i ddim diddordeb ynddi o gwbl; mi a' i i siopa efo'r genod efallai.


Wednesday, November 23, 2011

the lloyds

Dw i wedi defnyddio deunyddiau amrywiol i ddysgu Cymraeg. Baswn i'n dweud mai the Lloyds, BBC Catchphrase, ydy'r gorau ar gyfer dechreuwyr. Doeddwn i ddim yn medru dweud llawer ar wahân i "bore da" a "diolch" cyn gwneud y cwrs.

Yr hyn sy'n gweithio'n hynod o effeithiol ydy'r deialogau naturiol mewn sefyllfaoedd beunyddiol yn hytrach na rhai arbennig mewn cwrslyfrau eraill, e.e. archebu bwyd, mynd i siopa, bwcio ystafell ac yn y blaen. Ar ben hynny, mae'r deialogau'n cael eu darllen (neu actio) gan actorion da sy'n swnio'n hollol naturiol.

Dw i'n trio ffeindio un tebyg i ddysgu Eidaleg ond heb lwyddiant hyd yma. Felly penderfynais i ddefnyddio the Lloyds, hynny ydy, dw i'n cyfieithu'r deialogau Cymraeg i'r Eidaleg. Maen nhw'n ddigon hawdd ac eto maen nhw'n hynod o ddefnyddiol. Wrth gwrs bod yna ddim audio a dw i ddim yn cael gwybod ydw i'n iawn neu beidio. Ond dim ots.

Tuesday, November 22, 2011

syniad

Mae'r groesfan tu allan i'r gymdogaeth yn ofnadwy o beryglus. Mae cynifer o ddamweiniau wedi digwydd yno ers i mi symud yma. Does dim goleuadau traffig serch hynny. Clywais i ryw si na osodir un nes bod yna deg marwolaeth ar groesfan!

Ond does angen gosod goleuadau traffig er mwyn diogelu'r cyhoedd. 55 m.y.a. ydy'r terfyn cyflymder ar y draffordd sy'n croesi'r lôn ar hyn o bryd. Dim ond ei leihau a allai helpu i osgoi damweiniau yn fy marn i. Fyddai hynny ddim yn costio pres (ar wahân i gost newid yr arwydd efallai.)

Saturday, November 19, 2011

yr archeb

Mae'r rhifyn diweddaraf o gylchgrawn y Wawr newydd gyrraedd ynghyd â chopi o'r hunangofiant Orig Williams, sef Cario'r Ddraig.

Dw i'n hoffi'r Wawr achos fy mod i'n cael gwybod beth sy'n mynd ymlaen yn y byd merched Cymraeg yn Gymraeg. Yn aml iawn dw i'n cael syniad ynglŷn pa lyfr byddwn i am ei ddarllen nesa drwy ddarllen yr adolygiadau. Unwaith sgrifennais i lythyr drwy'r post at enillydd cystadleuaeth ryddiaith Merched y Wawr, a chael ateb cwrtais dros ben. Dw i'n hoffi gwneud y posau hefyd. Mi wnes i un o'r ddau'n barod; gyrra' i'r ateb at y golygydd cyn hir. Gawn ni weld fydda i'n ennill un o'r llyfrau.

Dw i heb ddechrau Cario'r Ddraig eto. Does gen i fawr o ddiddordeb mewn reslo a dweud y gwir, ond yr hyn a wnaeth fy ysgogi i'w brynu oedd y newyddion am gofeb i Orig wythnosau yn ôl. Bargen oedd y llyfr beth bynnag (£2.50.) Mi sgrifenna' i amdano fo rywdro.

Friday, November 18, 2011

mynd i 'chilango's'

Es i i Chilango's, tŷ bwyta Mecsicanaidd poblogaidd yn y dref, efo'r teulu neithiwr i ddathlu fy mhenblwydd yn hwyr. (Doeddwn i ddim yn teimlo'n dda'r wythnos diwethaf.) Roedd y bwyd yn dda iawn fel arfer efo prisiau hynod o resymol. Does ryfedd bod y lle'n llawn bob tro. Ces i Pescado Loco (y llun) a oedd yn flasus dros ben. Doedd y pysgodyn ddim yn wallgof o gwbl! Roedd yn ddiddorol gweld un o'r gweinyddion yn cario tri phlât ar ei elin de a chario un arall yn ei law chwith.

Roedd yn braf nad oedd rhaid i mi baratoi swper.


Thursday, November 17, 2011

cerdded drwy'r dref

Mae'n ddiwrnod bendigedig o braf. Penderfynais i gerdded yn y dref yn hytrach na'r gymdogaeth arferol. Fel arfer dw i byth yn sylwi'r manylion achos mai gyrru bydda i os oes angen mynd i'r dref. Heddiw roeddwn i'n trio edrych o gwmpas wrth gerdded er nad oes yna lawer o bethau trawiadol yn y dref fach hon. (Rhaid cyfaddef mod i wedi cael fy nylanwadu gan Tokyobling!) Dw i heb fwyta yn y tŷ bwyta yn y llun; well i mi drio rywdro i weld ydy'r arwyddion yn wir. Ces i hanner awr pleserus yn yr haul.

Wednesday, November 16, 2011

traddodiad newydd

Byddwn ni'n cael cinio mawr ar Ŵyl Ddiolchgarwch fel arfer, hynny ydy, y fi a fydd yn coginio'r cinio mawr. Mae fy merch a'i gŵr yn gyrru bron 150 milltir i ddod ar gyfer yr achlysur. Wrth gwrs fod o'n gyfle i bawb ddod at ein gilydd, ond yna mewn wythnosau bydd rhaid iddyn nhw deithio eto ar gyfer y Nadolig.

Ces i syniad gwych; beth am fynd i dŷ fy merch a'i gŵr dros Ŵyl Ddiolchgarwch? Yna na fydden nhw'n gorfod teithio dwywaith mewn mis; byddwn ni'n cael ymweld â nhw yn eu tŷ; byddwn ni'n cael siopa yn y siopau mawr yno; na fydd rhaid i mi neu fy merch baratoi'r cinio mawr. (Dan ni'n mynd i fwyta allan.) Bydd y tri phlentyn ifancaf yn aros efo eu chwaer ond mewn gwesty y bydd y gweddill yn aros.

Mae pawb yn cytuno'n hapus. Hwrê! Traddodiad newydd! Edrycha' i ymlaen yn fawr at yr wythnos nesaf. (Ond fe wna i goginio twrci ar gyfer cinio Nadolig. Dw i'n addo!)

Tuesday, November 15, 2011

llongyfarchiadau

Llongyfarchiadau i Tokyobling ar gamp o sgrifennu blog hynod o ddiddorol bob bydd am dair blynedd. Dw i'n llawn edmygedd fod yr awdur yn dal ati'n blogio beunyddiol am bethau diddorol ac unigryw efo lluniau ardderchog. Mae o wedi agor llygaid y byd, a gwneud iddyn nhw edrych ar Japan drwy safbwynt cadarnhaol. Dw innau wedi dysgu o newydd llawer o bethau ynglŷn fy ngwlad enedigol. Synnwn i ddim os cynyddith y nifer o ymwelwyr i Japan o'i herwydd. Fe ddylai Llywodraeth Japan ei wobrwyo am ei gyfraniad.

Sunday, November 13, 2011

damwain arall

Pan ddes i a'r teulu at fynedfa'n cymdogaeth ni p'nawn 'ma, roedd y traffig wedi sefyll efo nifer mawr o geir yr heddlu o gwmpas - damwain arall! Penderfynon ni gerdded adref o fan 'na; parciodd y gŵr ein car mewn lle gwag cyfagos. (Roedd yna pot-luck arall yn ein heglwys, ac roedden ni'n cario bwyd sbar ar blatiau!)

A dweud y gwir mae'r croesffordd yn hynod o beryglys. Roedd yna ddamwain ddifrifol wythnosau'n ôl a laddodd cwpl oedrannus. Tarodd eu car erbyn lori betrol enfawr a ollyngodd y petrol i gyd. (Yn ffodus doedd dim tân.) Cymerodd amser hir i glirio'r llanast.

Rhaid i mi fod yn fwy gofalus fyth.

Friday, November 11, 2011

veteran's day




Veteran's Day ydy hi heddiw yn UDA. Mae'r tywydd mwyn yn berffaith i'r orymdaith. Ymunais i â'r trigolion eraill i ddiolch y veterans sydd wedi gwasanaethu ac yn gwasanaethu droston ni a'n cadw ni'n ddiogel a rhydd.

Thursday, November 10, 2011

nith martin luther king, jr sy'n siarad

Dyma erthygl ardderchog gan Alveda King sy'n nith i Martin Luther King, Jr. ar y scandal ynglŷn Herman Cain.

Sunday, November 6, 2011

y pwnc

Y pwnc yn ystod amser coffi yn ein heglwys ni'r bore 'ma oedd y daeargryn neithiwr wrth gwrs. Rodd gan bawb ei hanes, rhai difrifol a'r lleill doniol. Mae hyn yn dangos pa more anghyfarwydd dan ni â daeargryniau yma yn Oklahoma. Dan ni'n gwybod tipyn am dornados ond yn hollol ddiymadferth pan mae'r ddaear yn dechrau crynu!


Saturday, November 5, 2011

daeargryn!

Roeddwn i newydd orffen cael cawod. Fedrwn i ddim credu beth oeddwn i'n ei deimlo o dana i - daeargryn! Brysiais i at y teulu; cawson nhw eu dychryn hefyd. Roeddwn i'n gyfarwydd â daeargryniau yn Japan ond dyma'r tro cyntaf i mi brofi un yn Oklahoma. Ces i wybod wedyn bod yna hanner dwsin ohonyn nhw heddiw er nad oedden nhw'n ddigon cryf i achosi difrod.

Thursday, November 3, 2011

seremoni frenhinol

A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn gwybod hyd yma bod gan deulu brenhinol Japan etifedd gwrywaidd ers pum mlynedd (mab ail fab yr ymerawdwr presennol.) Dw i'n rhyw gofio bod yna trafodaeth gâi menywod olynu fel ymerodres flynyddoedd yn ôl. Mae'n ymddangos bod y drafodaeth wedi gohirio am y tro.

Beth bynnag y ddadl, roedd yna seremoni i ddathlu penblwydd tywysog yn bump oed am y tro cyntaf ers 41 mlynedd. Mae o i neidio oddi ar fwrdd go (gwyddbwyll Japaneaidd) mewn gwisg draddodiadol. Fe wnaeth Hisahito, y tywysog bach yn dda iawn.

Wednesday, November 2, 2011

y galon binc

Wrth chwilio am y tri cherdyn post colledig gan ffrind colledig, des i hyd i'r Galon Binc, sef y fedal a wnaeth y gŵr i'n merch hynaf ni yn Japan pan oedd hi'n chwech oed.

Mae'r fedal hon yn dwyn atgof annwyl teuluol; derfynodd fy merch y fedal gan fod hi wedi achub bywyd ei brawd bach wyth mis oed (ar ddamwain!)

Un diwrnod roedden nhw'n eistedd o flaen bwrdd is Japaneaidd a oedd yn sefyll ar ei ochr. Am ryw reswm syrthiodd o arnyn nhw. Gan fod fy merch yn fwy na'i brawd yn naturiol, tarodd y bwrdd ei phen (ddim yn ddifrifol) a stopio. Roedd ei brawd yn ddianaf o'i herwydd.

Canmolodd ei thad hi am iddi fod mor ddewr a gwneud medal bapur. Galwodd yn Galon Binc ar ôl ffasiwn Galon Borffor Lluoedd Arfog America. Dywedir ar y cefn:

THE PINK HEART
(enw fy merch)
May 7, 1990

Rhaid i mi fynd â'r fedal at fy merch pan ymwela' i â hi dros wyliau Diolchgarwch.

Tuesday, November 1, 2011

swrpreis!

Mae hyn yn haeddu post newydd; pan ddes i yma'r bore 'ma, roeddwn i'n sylwi bod yna un sylw ychwanegol ar fy mhost diweddaraf am y nofel gan Sian Northey. Cliciais i'r gair yn awyddus. Gan bwy oedd y sylw ond yr awdures ei hun! Dw i'n rhyw feddwl mai i Neil a'i ffrind y dylwn i ddiolch am y fraint. Dymuniadau gorau i Sian.