Wednesday, May 30, 2018

gwahaniaeth

Postiodd brawd fy ngŵr fideo o weithiwr ym maes awyr Honolulu. Roedd y dyn yn taflu bagiau'r teithwyr allan o'r awyren ar y cludfelt yn ddiofal a allai achosi difrodi iddyn nhw. Gweler sut mae'r bagiau'n cael eu trin ym meysydd awyr Japan. (Gobeithio nad oes gan y ddynes honno gefn tost!)

Tuesday, May 29, 2018

nofel newydd

Dw i newydd orffen y nofel ddiweddaraf gan Donna Leon, sef the Temptation of Forgiveness. Hon ydy'r 27ain yn y gyfres sydd yn lleoli yn Fenis. Mae'r stori'n datblygu'n araf, efallai rhy araf i'r rhai sydd ddim yn gyfarwydd ag arddull Leon. Mae'n ymddangos bod yna gymaint o fanylion diangen. Er nad ydw i'n cytuno â'i barn gymdeithasol sydd yn adlewyrchu yn y cymeriadau, ces i blesir yn dilyn olion traed Brunetti o heddlu Fenis wrth iddo gerdded ar strydoedd cul y ddinas. Mae'n anhygoel fy mod i wedi aros yn yr un adeilad lle mae o a'i deulu'n byw! (Gweler y llun.)

Monday, May 28, 2018

diwrnod cofio

"Dydyn ni ddim yn eu nabod nhw i gyd, ond mae arnon ni popeth iddyn nhw."

Saturday, May 26, 2018

gwneud ewin

Dw i newydd brynu frother, diolch i fy merch a yrrodd cerdyn anrheg Amazon ar gyfer Sul y Mamau. Dyma geisio paratoi cappuccino. Mae'r teclyn yn gweithio'n wych, ond dydy o ddim yn gwneud yr un fath o ewyn a gewch chi yn y cappuccino go iawn. Mae'r ewin hwn yn rhy ysgafn, fel..... ewin! Mae angen llefrith trwchus. Dylwn i arbrofi ymhellach er mwyn ffeindio canlyniad boddhaol.

Friday, May 25, 2018

tŷ bach perffaith

Camais allan o'r drws blaen i fynd am dro'r bore 'ma. Gwelais gath y cymydog wrthi'n defnyddio ein hiard ni fel tŷ bach. Mae'n amlwg bod hyn yn mynd ymlaen am sbel yn ôl y dystiolaeth a adawyd yn yr iard. Wedi meddwl, mae'r rhan o'r iard honno'n edrych yr union fel litter box mawr! Googlais a ffeindio bod cathod yn casáu croen ffrwythau sitrws a gwaddodion coffi. Dyma wasgaru croen lemwn ac oren. Dw i'n mynd i gasglu gwaddodion coffi.

Thursday, May 24, 2018

olew ydy'r ateb

Mae'n gweithio! Dyma'r unig fodd effeithio i atal gwiwerod rhag dringo polyn bwydydd adar. Roeddwn i'n digwydd gweld gwiwer wrthi. Ceisiodd dair gwaith a methu bob tro'r union fel yn y fideo! Roedd o'n edrych pe bai o'n methu credu ei fod o'n methu dringo'r polyn. Aeth o i'r rheilen wedyn i bwdu fel gwelir yn y llun, neu i gysur ei hunan-barch efallai, druan ohono fo!

Wednesday, May 23, 2018

baner fach werthfawr

O'r diwedd, ffeindiais y faner fach Israel a oedd ar goll am gyfnod hir. Cawson ni hi gan Igal Fisher, aelod o Gerddorfa Symffoni Israel flynyddoedd yn ôl. Roedd fy ngŵr yn gweithio fel optometrydd mewn siop adrannol fawr yn Osaka pan oedden ni'n byw yn Japan. Daeth Igal i'r siop wedi perfformio yn yr ardal, a dyma fy ngŵr ei wahodd i swper yn sydyn yn ein tŷ ni yn Kobe. Cawson ni amser gwych er nad oedd gen i ddigon o fwyd i gynnig iddo fo ar fyr rybudd! Dw i'n hynod o falch ffeindio'r faner. 

Tuesday, May 22, 2018

y celf buddsodiadau

Dw i newydd orffen the Art of the Deal gan Donald Trump. (Dywedir bod Kim Jong-un yn newid cyfeiriad ei bolisi wedi darllen y llyfr hwn!) Roedd yn hynod o ddiddorol er nad ydw i'n gyfarwydd â'r byd busnes o gwbl. Cewch chi weld sut mae o wedi taclo heriau, ennill brwydrau busnes, a llwyddo i fod yn filiwnydd. Mae o wedi dysgu sut i ddelio amrywiaeth o bobl tra ei fod o'n ffyddlon wrth eu ffrindiau. Does ryfedd ei fod o wedi cyflawni cymaint fel Arlywydd America mewn amser byr; mae o'n hollol addas arwain y wlad fawr hon. Mae'r llyfr yn llawn o gynghorion doeth ac ymarferol hefyd. "Ffeindiais fod gen i ddawn i orchfygu rhwystrau a chymell pobl dda i wneud eu gorau. Dw i wedi gwneud hyn ar fy nghyfer hyd yma. Her nesaf bydd defnyddio'r ddawn hon ar gyfer y bobl eraill," meddai. A dyna'r union beth mae o'n ei wneud rŵan.

Monday, May 21, 2018

diwedd y siwrnai

Daeth fy merch a'i gŵr adref yn hwyr neithiwr wedi cael amser bythgofiadwy yn Israel. Cawson nhw eu gwahodd i ginio Shavuot gan ffrind newydd o Shtula a'i theulu yn Jerwsalem nos Sadwrn. Cawson nhw amser anhygoel o dda efo'r bobl mor groesawgar a chynnes. Roedd y bwyd yn flasus dros ben hefyd. Dwedodd fy merch ei bod hi wedi bwyta nes iddi bron â byrstio. Yna, aeth gŵr ei ffrind â'r cwpl cenhedlig i faes awyr Ben Gurion am 3 o'r gloch yn y bore wedyn. Roedd yn siwrnai fendigedig a fendithiwyd gan Un sydd yn ffynhonnell pob bendith. 

Clywais fod y murluniau yn Shtula wedi troi'n lle poblogaidd i dwristiaid Israel yn barod!

Saturday, May 19, 2018

shavuot

Bydd Gŵyl Shavuot yn cychwyn heno, 50 diwrnod ar ôl Passover, ac yn para tan nos dydd Llun. Dathlir yr hanes Torah a roddwyd gan Dduw i Israel ar draed Mynydd Sinai. Dim cyd-ddigwyddiad bod Cristnogion yn dathlu Pentecost yr adeg hon i gofio geni cymuned Meseia. 

Friday, May 18, 2018

yn ôl i shtula



Aeth fy merch yn ôl i Shtula, efo'i gŵr y tro hwn. Gwelodd o'r murlun a greodd ei wraig a'r murluniau eraill. Roedd rhai trigolion yna i'w croesawu nhw. Mae o'n sefyll o flaen y wal lle cafodd y milwr ei gipio a'i ladd gan Hezbolla yn 2006. Cafodd 121 o bobl Israel eu lladd ynglŷn â phobl Libanus yr adeg honno. 

Thursday, May 17, 2018

trogod vs morgrug tân

Ces i sioc i weld y llun hwn o fy ŵyr. Fedra i ddim dychmygu cerdded drwy laswellt trwchus a thal felly yn Oklahoma oherwydd ofn trogod. Mae'n dangos nad oes trogod yn Texas er mai drws nesaf i Oklahoma mae Texas. Mae'r gŵr yn mynnu mai'r afon yn eu rhwystro nhw rhag croesi'r ffin. Ond mae gan Texas morgrug tân. Mae'n well gen i drogod na morgrug tân yn bendant!

Wednesday, May 16, 2018

hydrangea

Plannodd y gŵr ryw hanner dwsin o hydrangea wythnosau'n ôl fel rhan o welliant yr ardd. Doedden ni ddim yn disgwyl iddyn nhw flodeuo eleni, ond cawson ni'n synnu ar yr ochr orau. Maen nhw'n blodeuo'n barod! Efallai bod nhw'n ymateb i ofal cariadus y gŵr. (Mae o'n hoff iawn o hydrangea.) Pinc ydy'r blodau oherwydd pH y pridd. Bydd yn dipyn o olygfa pan fyddan nhw i gyd llawn o flodau.

Tuesday, May 15, 2018

giât aur

Yn y cyfamser mae fy merch a'i gŵr yn mynd o gwmpas Jerwsalem. Wrth adael Gethsemane, Gwelon nhw giât tuag at y gorllewin - Giât Aur. Dywedir bod Iesu wedi mynd drwyddo Sul y Palmwydd, a bydd o'n ei basio eto pan fydd o'n dychwelyd. Cafodd o'i selio gan Sultan Suleiman yn 1541. Trueni os oedd o'n meddwl ei fod o'n medru rhwystro Iesu rhag dychwelyd gan selio'r giât.

Monday, May 14, 2018

digwyddiad hanesyddol

Agorwyd Llysgenhadaeth America yn Jerwsalem, prif ddinas Israel heddiw. Cyflawnodd yr Arlywydd Trump ei addewid arall. Mae pobl Israel ynghyd â phawb sydd yn eu cefnogi'n dathlu'n brwd y digwyddiad hanesyddol hwnnw. Mae fy merch a'i gŵr yn Jerwsalem ar hyn o bryd i weld popeth sydd yn digwydd! Tynnwyd y llun hwn gan fy mab yng-nghybraith.

Saturday, May 12, 2018

tel aviv

Wedi gorffen y murlun, mae fy merch yn mwynhau gwyliau yn Israel efo'i gŵr sydd wedi ymuno â hi. Maen nhw'n aros mewn llety ger y traeth yn Tel Aviv ers dyddiau. Byddan nhw'n symud i lety arall yn Jerwsalem yfory ymysg y dathliadau ar gyfer pen-blwydd Israel a llysgenhadaeth newydd America. 

Friday, May 11, 2018

dwsin o win

Ces i anrheg Sul y Mamau ymlaen llaw (gan fy ngŵr a dweud y gwir!) Dwsin o win kosher o sawl gwlad - 4 o Israel, 4 o'r Eidal, 1 o Ffrainc, 3 o California. Coch ydyn nhw i gyd ar wahân i ddau binc. Y fi a ddewisodd wrth gwrs, a dewisais ddwsin er mwyn manteisio ar gludiant yn rhad ac am ddim. Hwn ydy'r cyntaf roeddwn i eisiau blasu - Chianti o Toscana. Doeddwn i ddim yn gwybod mai yn San Gimignano cafodd o'i gynhyrchu. Dw i wrth fy modd yn cael yfed eu gwin enwog. Bydda i'n cael mwynhau gwahanol win am chwe mis arall.

Thursday, May 10, 2018

jerwsalem

Aeth yr artistiaid i Jerwsalem wedi ffarwelio pobl annwyl Shtula. Roedd fy merch yn llawn emosiwn, a methu ei mynegi mewn geiriau wrth weld dinas Duw gyda'i llygaid am y tro cyntaf. Gweddïodd wrth y Wal a gadael darn o bapur rhwng cerrig. 

Wednesday, May 9, 2018

harddwch ac iachâd


Casglodd trigolion Shtula i ddiolch i'r artistiaid am y murluniau neithiwr. Gosodwyd plac ar y wal gyda geiriau: "paentiwyd y murluniau hyn gan aelodau Artists4Israel mewn gobaith i drwyn harddwch ac iachâd i'r ardal." 

y llun: fy merch gyda maer y gymuned o flaen ei murlun

Tuesday, May 8, 2018

newydd orffen

Maen nhw newydd orffen! Creodd saith artist rhyngwladol furluniau trawiadol. Dechreuodd un ohonyn nhw furlun arall hyd yn oed. Mae trigolion Shtula (Israel) wrth eu boddau ac yn llawn cyffro. Gobeithio y bydd y murluniau'n eu bendithio nhw a'u hatgoffa nhw bod ganddyn nhw ffrindiau yn y byd.

Monday, May 7, 2018

cefnogaeth

Mae'r artistiaid yn bwrw ymlaen gyda'u murluniau er gwaethaf y pryfed a gwres llethol ayyb. Mae ganddyn nhw gefnogaeth frwd gan y trigolion. Paratoir cinio a swper hyfryd i'r artistiaid bob dydd. Mae'r bobl yn dod at y wal drwy'r ddydd i weld sut mae mynd. Yn aml iawn mae plant bach yn dod i gynnig byrbryd. Rodd rhai merched yr ysgol wrth eu bodd yn "helpu" fy merch i baentio. 

Saturday, May 5, 2018

cynhadledd NRA

Tra bod fy merch yn prysur greu murlun yn Israel, mae fy ngŵr yn mynychu cynhadledd NRA yn Dallas yr wythnos 'ma ynghyd â 100,000 mil o'r gwladgarwyr ffyddlon eraill. Cafodd gyfle i glywed yr Arlywydd Trump, yr Is Lywydd Pence a nifer o bobl enwog gan gynnwys Diamond & Silk yn rhoi areithiau ddoe. Dwedodd fod yna awyrgylch siriol a chyfeillgar wrth i'r bobl gyda'r un diddordebau fwynhau'r achlysur arbennig. Ar ben hynny, na allai unrhyw gynhadledd arall mor ddiogel â hwnnw gyda chynifer o gynnau "yn nwylo dynion da."

Friday, May 4, 2018

cychwyn murluniau

Wedi cael croeso cynnes gan drigolion Shtula, dechreuodd fy merch a'r artistiaid eraill baentio murluniau ar wal y ffin. Wynebon nhw broblem gymhleth ynglŷn â defnyddio taflunydd yn y nos (cam cyffredin i gychwyn murlun) oherwydd y diogelwch. Dechrau maen nhw fodd bynnag tra bod milwyr clên IDF yn cadw llygaid arnyn nhw bob amser. Daeth criw ffilm i ffilmio hefyd. Byddan nhw'n gorffwys am Saboth heno ac yfory.

Thursday, May 3, 2018

tywel yn elyrch

Mae Wythnos Aur ar Japan ar hyn o bryd. Rhyw ddeg diwrnod o wyliau'r adeg hon gan gynnwys penwythnos ydy Wythnos Aur, ac mae nifer o bobl yn Japan yn teithio. Aeth fy ail ferch i Hokkaido, yr ynys fawr yn y gogledd, er mwyn gwirfoddoli mewn gwesty. Mae hi'n cael aros yno'n rhad ac am ddim, a mwynhau'r natur hyfryd yn ei hamser rhydd. Mae'r gweithgaredd hwnnw'n boblogaidd ymysg bobl ifanc ym mhob man, mae'n ymddangos. Mae yna ddau o Awstralia yn gwirfoddoli hefyd. Dysgodd fy merch sut i droi tywel yn elyrch.

Wednesday, May 2, 2018

o enau babanod


Mae fy merch 21 oed, myfyrwraig oddi cartref, yn postio adnodau'r Beibl yn aml ar Facebook. Llenwodd yr adnod hon fi gyda llawen y bore 'ma.

"Paid â gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc. Yn hytrach, bydd di'n batrwm i'r credinwyr mewn gair a gweithred, mewn cariad a ffydd a phurdeb." 1 Timotheus 4:12

Fel dwedodd Ioan, "nid oes dim sy'n fwy o lawenydd i mi na chlywed bod fy mhlant yn rhodio yn y gwirionedd."

Tuesday, May 1, 2018

sach deithio du

Cyrhaeddodd fy merch Tel Aviv yn ddiogel oriau'n ôl. Cafodd ei chwestiynu gan ddyn diogelwch El Al yn ddwys cyn iddi adael yr awyren am hanner awr! Y sach deithio ail-law a gafodd gan ei thad oedd achos yr amheuaeth; mae'r sach yn ddu ac yn edrych pe bai hi'n perthyn i ryw derfysgwr... Cafodd fy merch ei rhyddhau yn y diwedd fodd bynnag, ac mae hi a'r artistiaid eraill yn disgwyl bws penodol a fydd yn eu cludo nhw i  Shtula.