Friday, April 30, 2021

wythnos aur



Mae Wythnos Aur eleni newydd gychwyn yn Japan. Beth ydy Wythnos Aur? Ewch i wefan fy merch i ddarllen ei herthygl newydd sbon. Unwaith eto, fe wnaeth ymchwil trylwyr. (Doeddwn i ddim yn gwybod mai deilen dderwen sydd yn lapio kashiwa mochi (cacen reis gyda ffa melys tu mewn.)

Wednesday, April 28, 2021

iris

Wedi aros am ddyddiau, dyma'n iris cyntaf ni'n blodeuo o'r diwedd yn y glaw! Mae ei deulu'n ei dilyn cyn hir, dw i'n siŵr. 

Monday, April 26, 2021

99 oed

Mae fy mam newydd droi'n 99 oed! Cafodd ymweliad gan ei dair wyres. Roedd llawer o gacennau, blodau a bwyd blasus i ddathlu. Mae hi'n dal yn gymharol iach, ac yn byw yn yr un fflat ers blynyddoedd ar ei phen ei hun gyda chymorth gofalwyr. Ei dymuniad nesaf ydy dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed yng Ngwesty Gajoen lle oedd hi'n gweithio iddo pan oedd hi'n ifanc.

Saturday, April 24, 2021

swper

Aethon ni i Katfish Kitchen, eto. (Does dim llawer o ddewis yn y dref yma.) Does dim ots oherwydd bod y bobl yn glên a'u bwyd yn dda yno. Cafodd y gŵr blât o ferdys; ces i blât o stêc cig eidion daear. Doedd neb yn gwisgo mwgwd.

Friday, April 23, 2021

cannoedd o bobl

Cafodd fy merch ymatebion gan gannoedd o bobl ynglŷn â'r bambŵ! Dechreuon nhw gyrraedd yn llu a dal i ddod hyd at heddiw. Pobl o dras Asia oedd gan fwyaf ohonyn nhw gan gynnwys perchennog tŷ bwyta Tsieineaidd a ddaeth â bwyd fel anrheg. Roedd pawb yn glên a siriol fel petai'n cynnal parti cymunedol, yn ôl fy merch. Dyma olwg ei hiard hi heddiw.

Wednesday, April 21, 2021

jwngl bambŵ

Plannodd fy merch hynaf un bambŵ bach yn ei hiard flynyddoedd yn ôl, heb ddisgwyl beth fyddai'n digwydd. Dechreuodd o ledaenu’n gyflym nes iddo feddiannu ei hiard hi a'i throi'n jwngl. Mae o wedi ymledu i iardiau'r cymdogion hefyd. Does modd i'w atal. Mae'r jwngl wedi bod yn lloches i drogod hefyd. Penderfynodd hi gael gwared arno fo'n broffesiynol o'r diwedd, costus neu beidio. Cyn hynny, gosododd hi hysbys yn cynnig pobl i ddod i gasglu cymaint o fambŵ mynnyn nhw'n rhad ac am ddim.

Tuesday, April 20, 2021

eira ddiwedd mis ebrill


Mae'n bwrw eira. Anodd credu, ym mis Ebrill yn Oklahoma. Mae'r iris cyntaf yn ein hiard ni a oedd yn barod i flodeuo'n crynu yn yr oerni annisgwyl. Rhaid ei fod o wedi newid ei feddwl. Syniad call. Aros am ychydig; bydd yn cynhesu cyn hir.

Monday, April 19, 2021

te llefrith brenhinol

Cymerais baned o de llefrith Brenhinol (Royal milk tea) y bore 'ma. Dim te Seisnig ydy hwnnw ond Japaneaidd. Mae'n ymddangos ei fod o'n hynod o boblogaidd; cewch chi ffeindio ryseitiau amrywiol hawdd. Yn hytrach na llefrith buwch, defnyddiais lefrith almon er lles fy stumog. 

Saturday, April 17, 2021

Aethon ni i Chilangos neithiwr am swper. Mae sawl tŷ bwyta Mecicanaidd yn y dref, ond mae'n well gen i Chilangos oherwydd ein bod ni'n gyfarwydd â'r bobl yno. Dewison ni Fajita - cyw iâr i mi a chig cymysg i'r gŵr. Roedd yn ddewis da. Daeth ar badell haearn yn sïo’n flasus. Roedd mwy na digon i swper heno. Falch o gefnogi busnes lleol eto.

Friday, April 16, 2021

greddf famol

Dyma olygfa ystafell fy wyres fach neithiwr. Ar ôl iddi fynd i'r gwely, cododd i ofalu am ei dol. Cryf ydy'r reddf famol ym merched beth bynnag eu hoedran heb os.

Thursday, April 15, 2021

73 oed






Penblwydd Hapus i Israel!




Wednesday, April 14, 2021

crempogau a selsig

Mae'r gŵr eisiau crempogau i ginio bach heddiw. Pan oeddwn i wrthi, gofynnodd, "ga' i selsig hefyd?" Mae o'n hoffi bwyta crempogau gyda selsig neu facwn ac wyau, yna tywallt surop ar ben popeth - diwylliant bwyd America dw i heb fabwysiadu eto.

Tuesday, April 13, 2021

arwydd pwysig

Moment ar ôl gadael adref i ddysgu dosbarth, daeth y gŵr yn ôl. Anghofiodd beth pwysig, sef ei wn. Mae o'n gweithio'n rhan amser fel hyfforddwr saethu gynnau, wedi ymddeol. Heneiddio neu beidio, mae o angen modd i oresgyn y broblem. Gofynnodd i mi wneud arwydd. Dyma fi'n ei helpu'n hapus gan ddefnyddio fy hobi newydd.

Monday, April 12, 2021

amser coffi


Ddoe yn ein heglwys ni, ailddechreuwyd cynnig coffi am y tro cyntaf ers blwyddyn. Pan gyhoeddwyd amdano, rhoddodd pawb gymeradwyaeth mawr! A fi sydd yn gyfrifol am y gwasanaeth, ac felly roeddwn i wrthi yn y bore. Mae'n braf gweld bod y bywyd yn mynd yn ôl i normal araf bach. 

Saturday, April 10, 2021

emma 2020

Ces i neges sydyn gan fy mab hynaf sydd yn dweud ei fod o a'i wraig wedi gwylio'r ffilm ddiweddaraf Emma (2020.) Dw i newydd gael cip arni heb ddisgwyl llawer. Fe wnaethon nhw lanast pur, eto, yn fy nhyb i. Rhy ifanc ydy'r actor i chwarae rôl Mr. Knightley. Gall neb yn rhagori Mark Strong. Mae hyn yn ddigon i roi marciau isel heb sôn am yr awyrgylch hollol hurt ar y cyfan. 

Friday, April 9, 2021

gwenyn eto


Mae fy hoff rwydwaith newyddion ddychanol, sef Babylon Bee, yn bwrw ymlaen o nerth i nerth yn yr adeg ofnadwy o galed hon. Dw i'n llawn edmygedd eu bod nhw'n medru cynnig erthyglau ofnadwy o ddoniol bob dydd. Mae'n frawychus ar yr un pryd oherwydd bod rhai ohonyn nhw'n digwydd go iawn, neu gall digwydd yn fuan. Er enghraifft:

"Os nad ydych chi'n credu popeth mae Joe Biden yn ei ddweud, rydych chi'n casáu menywod."

Wednesday, April 7, 2021

rhywbeth o'i le



Dw i newydd glywed hanes ffrind i fy merch hynaf. Un o Japan ydy hi, ac mae hi'n gweithio fel cheer-leader i dîm proffesiynol yn Oklahoma City. Roedd hi wrthi'n adnewyddu ei fisa'n ddiweddar oherwydd nad ydy'r tîm yn ei helpu. Llwyddodd hi o'r diwedd gyda chymorth cyfreithiwr. Rhaid bod popeth wedi costio'n ofnadwy. Ar y llaw arall, os dach chi'n dod i America'n anghyfreithlon, cewch chi gael pob gofal gan gynnwys bwyd, tai, aswiriant iechyd, addysg, a phob dim....

Tuesday, April 6, 2021

azalea druan

Mae'n hazalea ni'n blodeuo'n hardd bob blwyddyn yr adeg hon, ond roedd yr oerni llym eleni yn ormod iddyn nhw. O leiaf mae rhan fach wedi goroesi. Gobeithio y cawn flodau llawn eto yn y dyfodol.

Monday, April 5, 2021

cwpan druan

Mae gen i gasgliad o gwpanau te ar y silff agored. Ces i hwnnw yn y llun, a wnaed yn Bavaria, yn ail law flynyddoedd yn ôl. Yn anffodus collodd ei soser mewn damwain; roedd un o fy meibion yn cicio pêl yn y tŷ pan oedd o'n fach, a tharodd y bêl y silff.... 

Sunday, April 4, 2021

yr unig obaith



"Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi."

Sul Atgyfodiad Hapus.

Saturday, April 3, 2021

napoli's

Es i a'r gŵr i Napoli's am swper neithiwr. Roedd yn wych cael ein croesawi gan weinyddion heb fwgwd. Er bod rhai siopau yn dal i ofyn am wisgo mwgwd, gorffennodd mandad swyddogol Mawrth 31 yn y dref - cam cadarnhaol at y cyfeiriad iawn. Ces i ravioli tra bod y gŵr wedi cael spaghetti gyda pheli cig, gyda llaw.

Friday, April 2, 2021

brecwast yn japan


Dyma bost blog newydd sbon fy merch yn Japan, gyda gwefan a gwedd newydd sbon hefyd. Brecwast yn Japan ydy'r pwnc. Mae'r  disgrifiad manwl a lluniau gwych yn fy atgoffa i o'r brecwast blasus a baratowyd gan fy mam!

Thursday, April 1, 2021

diwrnod trump

Penderfynais a'r gŵr alw diwrnod cyntaf bob mis yn Ddiwrnod Trump wrth osod yr arwydd yn ein hiard blaen ni er mwyn dangos ein parch a chefnogaeth iddo.