Tuesday, September 30, 2014

cyflwyno cymru

Mae'n ddiwrnod cofiadwy yn y dref dw i'n byw ynddi heddiw - siaradwyd Cymraeg yn gyhoeddus am y tro cyntaf! Cyflwynodd fy merch a'i ffrind Gymru i'r dosbarth ieithoedd lleiafrifol. Dechreuodd fy merch y sesiwn gan ddweud, "bore da. ____ dw i. Dw i'n dysgu Cymraeg. Dw i'n mynd i Gymru flwyddyn nesaf." Ar ei chrys (fy un i) dwedodd, "Cymraeg - o bydded i'r hen iaith barhau ...." Fe wnaeth y merched power point a siaradon nhw am Gymru a'r Gymraeg ac ateb cwestiynau dros awr. Da iawn genod!

(Fedrwn i ddim cysylltu â'r rhyngrwyd drwy'r dydd. Dyna pam mod i'n postio'n hwyr.)

Monday, September 29, 2014

bara brith

Mi wnes i grasu Bara Brith y bore 'ma; dwy dorth i fod yn fanwl, un i'r teulu a'r llall i ddosbarth fy merch yn y brifysgol. Mae hi wrthi'n paratoi efo ei ffrind ar gyfer cyflwyno Cymru i'r dosbarth. Gofynnodd hi i mi grasu Bara Brith iddi gael cynnig y dorth i'r dosbarth fel rhan o'r cyflwyniad. Roeddwn i'n mwydo ffrwythau sych mewn te cryf dros nos a dyma'r ddwy dorth hyfryd. Yfory ydy'r diwrnod mawr ac mae hi eisiau gwisgo'r crys-t gwyrdd a brynais yn Eisteddfod y Bala yn 2009. 

Sunday, September 28, 2014

seren aur

Mi ges i seren aur yn wobr gan Yvonne oherwydd bod fy ateb yn ei phlesio. Daeth hi ar draws gair diddorol, sef footling ac annog ei darllenwyr i'w ddefnyddio. Dyma ei hateb ar unwaith a derbyn seren aur. Hwrê! Dw i erioed wedi clywed y gair hwn ond unwaith; defnyddiwyd gan Sais sydd yn byw yn lleol. Ces i a'r teulu i gyd ein difyrru gan y gair hwnnw ar y pryd. Dw i'n genfigennus bod Yvonne'n cael footle mewn lle mor odidog â Fenis.

ON: Fedrai i ddim cofio'r pwnc ar gyfer y post diwethaf wedi'r cwbl!

Saturday, September 27, 2014

dw i ....

Dechreuais sgrifennu post awr yn ôl gan ddweud, "dw i ....." yna, roedd rhaid i mi fynd i wneud pethau eraill. Wedi gorffen popeth, dyma ailgychwyn y post, ond dw i ddim yn cofio beth roeddwn i'n bwriadu sgrifennu amdano fo! O wel, efallai y bydda i'n ei gofio rywdro, ar ôl hitio "Publish" mae'n debyg. 

Friday, September 26, 2014

bendith

Mae MAC Book wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd ers i mi ei dderbyn yn anrheg Nadolig y llynedd. Cyn hynny, roedd rhaid i mi rannu'r cyfrifiadur mawr efo fy nhri phlentyn. Mae'n hynod o gyfleus fy mod i'n medru mynd ar y rhyngrwyd pryd bynnag mae angen arna i yn lle aros am fy nhro. Ac felly roeddwn i'n siomedig y bore 'ma pan fynnodd MAC Book beidio â chysylltu â'r rhyngrwyd yn rhyfedd; roeddwn i'n ofni byddai rhaid mynd â fo at Apple yn Tulsa. Wedi ychydig o brofi, fodd bynnag, roeddwn i'n llwyddo i oresgyn y broblem!  Diolch i'r Arglwydd!

Thursday, September 25, 2014

pooh yn yr haul

Cafodd fy mhlant wared ar nifer mawr o anifeiliaid meddal erbyn hyn; mae yna rai maen nhw eisiau eu cadw. Winnie the Pooh ydy un ohonyn nhw. Wrth awyru'r gobenyddion ar y diwrnod golchi'r dillad gwely, penderfynais drin Pooh hefyd. Roedd o'n torheulo'n braf drwy'r dydd.

Wednesday, September 24, 2014

fy moron

Yn hytrach na thaflu pennau'r moron a brynais, gosodais i nhw mewn cwpan efo dŵr. Wedi sawl diwrnod gwelais egin gwyrdd bach bach. Dw i wedi bod yn eu dyfrio nhw bob dydd, ac maen nhw'n bedwar modfedd o daldra bellach. Roeddwn i'n rhyw feddwl eu rhoi nhw mewn salad ar y dechrau, ond penderfynais eu cadw nhw fel fy "mhlanhigyn anwes" ar y silff uwchben y sinc.

Tuesday, September 23, 2014

peth bach braf

Roedd rhaid i fy mab fynd i'r ysgol yn gynt y bore 'ma. Gadawon ni'r tŷ am 6:45 mewn hanner tywyllwch. Pan gyrhaeddon ni le agored, dyma ni'n gweld yr olygfa anhygoel o brydferth tuag at y dwyrain - roedd y cymylau'n binc, glas ysgafn a llwyd. Pan des yn ôl i'r un lle wedi gostwng y mab yn yr ysgol, roedd y lliwiau wedi newid yn oren llachar, melyn a glas. Profiad braf cyn i mi ddechrau'r diwrnod.

Monday, September 22, 2014

oriel gelf ddwy filltir

Mae Oklahoma City yn datblygu un o'r ardaloedd busnes ers misoedd. Ynghyd â phalmant, goleuadau newydd a mwy, maen nhw'n bwriadu cael saith murlun ar hyd y stryd a gelwir yn oriel gelf ddwy filltir o hyd. Cafodd saith artist lleol eu dewis ar gyfer y prosiect mawr a bydd artist y murlun mwyaf poblogaidd yn derbyn $3,000 ddiwedd y mis nesaf. Dyma'r aristiaid. Fy merch hynaf ydy un ohonyn nhw gyda llaw! (Julie Robertson)

Sunday, September 21, 2014

alberto in fenis

Mae Alberto (Italianoautomatico) yn Fenis heddiw. Ces i fy synnu'n gweld llun ohono fo ar Bont Scalzi efo Eglwys San Simeone Piccolo yn y cefndir. Doedd fawr o ryfedd gan nad ydy Brescia yn bell o Fenis wedi'r cwbl ond mae'n arbennig o braf fodd bynnag ei weld o'n sefyll lle oeddwn i sawl tro. Mi fyddwn i eisiau mynd i Fenis eto!

Saturday, September 20, 2014

paneli plastig

Llongyfarchiadau mawr arall, i Baris y tro hwn. Gosodwyd dau banel plastig ar Pont des Arts yn y ddinas yn ddiweddar er mwyn ei hamddiffyn hi rhag cloeon clap y twristiaid. Prawf ydyn nhw; os byddan nhw'n llwyddiannus, bydd mwy o bontydd yn cael eu cyfarparu efo'r paneli plastig arbennig sydd yn gwrthsefyll dryllio, llacharedd a hyd yn oed graffiti. Gobeithio y byddan nhw'n ennill y frwydr erbyn y twristiaid difeddwl a'r gwerthwyr cloeon clap sydd yn cymryd mantais arnyn nhw. 

Friday, September 19, 2014

dwedon nhw "na"

Dw i ddim yn gwybod digon o'r sefyllfa, ond roeddwn i'n gobeithio y bydd yr Alban yn annibynnol ers gweld y ffilm, Braveheart sydd yn fy ngadael i mewn môr o ddagrau flynyddoedd yn ôl. O leiaf bod y canlyniad yn agos iawn a phleidleisiodd Glasgow "Ie." 

Thursday, September 18, 2014

popeth yn lan a distaw

Mae hi'n dechrau felly bob bore wedi i'r staff glanhau wneud eu gwaith ffyddlon. Diolch i BluOscar am y llun hyfryd hwn. Erbyn diwedd y diwrnod fodd bynnag, mae popeth yn newid. Mae miloedd o ymwelwyr difeddwl a gwerthwyr anghyfreithlon yn edmygu Parlwr Ewrop neu gymryd mantais arno fo, a'i adael mewn llanast, mewn gwarth, bob dydd. Y bore wedyn, bydd y staff yn cychwyn eu gwaith eto...

Wednesday, September 17, 2014

athro'r flwyddyn oklahoma

Llongyfarchiadau mawr i Coach Proctor am ennill Athro'r Flwyddyn Oklahoma! Cafodd ei ddewis ymysg y 12 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Athro ymroddedig a ffyddlon sydd ym mharch mawr pawb yn yr ysgol ydy o. Mae o'n haeddu pob canmol. Roedd fy mhedwar plentyn yn dysgu mathemateg yn ei ddosbarth a chafodd fy mab hynaf ei hyfforddi yn y clwb cross country ganddo fo; mae fy mab ifancaf wrth ei fodd yn rhedeg efo fo ynghyd â'r tîm bob dydd. Mae yna gyffro mawr yn y dref drosto fo. Hwrê i Coach Proctor!

Tuesday, September 16, 2014

cinio yn cana

Mae fy ail ferch yn dal i bostio fesul dipyn lluniau a dynnodd yn ystod ei siwrnai yn Ewrop fisoedd yn ôl. Ces i fy nharo yn gweld y llun cyntaf ar Facebook y bore 'ma - Cinio yn Cana gan Veronese yn Amgueddfa Louvre. Cafodd y campwaith hwnnw ynghyd â nifer mawr o eitemau celfyddyd ei gipio gan Napoleon oddi wrth Fenis wedi iddo ei choncro hi. Plygodd y Ffrancwyr y paentiad enfawr er mwyn ei gludo i Baris. Copi sydd yn hongian yn yr eglwys lle roedd o'n arfer bod. Rhaid i mi roi clod i Ffrainc, fodd bynnag, am ei adfer a'i gadw mewn cyflwr ardderchog.

Monday, September 15, 2014

dawnsio hula

Wedi darllen erthygl am ddosbarth dawnsio Hula ar gyfer yr henoed yn Japan, mi wnes i wneud ychydig o waith googlo a dysgu dawnsio am hanner awr y bore 'ma. Mae'r symudiad yn araf ond ces i fy synnu'n sylwi pa mor dda ydy'r ddawns 'ma i'r corf. Yn Japaneg ydy'r fideo hwn ond yn hollol ddealladwy heb wybodaeth yr iaith honno. Hoffwn i fynd i ddosbarth pe bai un ar gael yma.

Sunday, September 14, 2014

mae hi'n haeddu mwy

Mae pawb yn ei hedmygu ac eisiau mynd ati hi, ac eto mae gynifer o'r bobl yn ei sarhau hi a'i sathru dan draed. Yn sicr, mae hi'n dibynnu ar bobl am fywoliaeth ond mae hi'n haeddu tipyn mwy o barch. Brenhines y môr oedd hi am ganrifoedd wedi'r cwbl.

Cynhaliwyd protest gan grŵp o drigolion Fenis heddiw - protest erbyn dirywiad difrifol y dref yn ddiweddar a achoswyd gan y twristiaid difeddwl a'r gwerthwyr anghyfreithlon. Eu tref nhw hefyd ydy Fenis wedi'r cwbl.

Saturday, September 13, 2014

ras 5k

Cynhaliwyd yr ail ras cross country yn y dref y bore 'ma. Roedd yn ofnadwy o boeth y tro diwethaf ond wedi'r tymheredd gostwng o 95F(35C) i 45F(7C) yn ddiweddar, roedd yr awyrgylch yn hollol wahanol. Dw i'n siŵr bod yn braf i'r rhedwyr heddiw. Enillon ni'r lle cyntaf fel tîm eto! Llwyddais dynnu llun o'n nwy hogyn gorau ni, sef Zech (34) e Mo (33). 

Friday, September 12, 2014

piano yng ngorsaf fenis

Ac mae o ar gael i bawb sydd gan chwant chwarae piano. Anrheg hyfryd gan Sofia Taliani, United Street Pianos Italia ydy hi. Ymysg y newyddion trist a digalon ynglŷn â Fenis y dyddiau hyn, mae hwn yn codi calon pawb. Mi fyddwn i eisiau gwrando ar gyngherddau byrfyfyr os ca' i gyfle i fynd i Fenis eto. Ac os cawn i ddigon o ddewrder, byddwn i'n chwarae'r unig ddarn dw i'n medru ei chwarae, sef Neko Funjiatta (Gamais ar Gath ar Ddamwain.)

Thursday, September 11, 2014

woodchuck!

Ces i ond gip ar yr anifail hwnnw o bryd i'w gilydd, ar ochr ffyrdd bob tro. O'r diwedd mi wnes i weld o'n glir ddoe. Tra oeddwn i'n gyrru, roeddwn i'n sylweddoli anifail du, llawer mwy na gwiwerod a hollol wahanol i gi neu gath wrth y ffordd (digon agos ei weld a digon peth peidio â'i daro.) Dechreuodd o groesi'r ffordd yn afrosgo. Daeth car o'r ochr arall! Ond gwelodd y gyrrwr yr anifail ac arafu (phiw!) Anifail diddorol ydy o, ac annwyl er dywedir bod nhw'n achosi problemau weithiau drwy dyllu twneli ger tai. 

Wednesday, September 10, 2014

sport druan

Mae rhieni fy ngŵr yn byw efo'u hail fab a'i wraig bellach. Mae yna bedwar ci bach yn y tŷ ac mae un ohonyn nhw, sef Sport wedi syrthio mewn cariad efo'r fam. Mae o bob amser efo hi ac ar ei chlun pryd bynnag mae hi'n eistedd wrth y bwrdd. Cafodd hi lawdriniaeth ar ei hysgwydd yn ddiweddar ac mae hi'n gorfod aros yn yr ysbyty am ddyddiau. Postiodd brawd fy ngŵr lun o Sport yn eistedd ar sedd y fam yn aros amdani hi.

Tuesday, September 9, 2014

dyma hi!

Lleuad arbennig o lachar oedd hi! Doedd angen goleuadau'r strydoedd neithiwr. A dw i'n credu'n siŵr ei bod hi'n fwy nag arfer er bod y gŵr bob tro'n mynnu mai ond rhith optegol ydy hyn! Wedi clywed fy adroddiad, aeth y teulu i gyd allan i'w gweld hi. Daethon nhw adref yn llawn cyffro. Tynnodd fy merch lun hyfryd efo'i chamera newydd. Cewch chi weld yn glir y gwningen wrthi'n gwneud cacen reis!

Monday, September 8, 2014

y 15fed noson

Noson i fwynhau gweld y lleuad ydy hi heno. Mae yna arferiad amrywiol ynglŷn y noson hon yn Japan. Dywedir mai'r lleuad lawn heno ydy'r brafiaf a chliriaf y flwyddyn. (Mae'r dyddiad yn newid bob blwyddyn.) Roeddwn i'n cerdded neithiwr a sylwi bod y lleuad yn edrych yn arbennig o lachar. Doedd ryfedd. Mi fydda i'n siŵr o'i gweld hi eto heno.

Sunday, September 7, 2014

defnydd y camera

Dw i newydd ddarganfod defnydd defnyddiol iawn ein camera gwyliadwriaeth newydd ni, hynny ydy ar wahân i'r defnydd amlwg. Roeddwn i'n bwyta bisgeden arbennig a ges i gan ffrind ac yn meddwl fy mod i wedi gadael darn bach bach ar y plât cyn roeddwn i'n gorfod gwneud pethau eraill. Pan welais y plât wedyn, roedd o'n wag. Roeddwn i'n chwilio am fy narn gwerthfawr ym mhob man ond methais. Awgrymodd y gŵr i mi wylio'r fideo a dynnwyd gan y camera ar gornel yr ystafell er mwyn datrus y dirgelwch - mi welais fy hun ar y sgrin yn bwyta'r darn olaf yn hapus.

Saturday, September 6, 2014

gwers ffrangeg orau - 2

Dyma hi, y wers Ffrangeg orau  - Coffee Break French. Podlediad ydy hwn. Mae fersiwn hirach ar gael i'w phrynu ond mae hwn yn ddigon i mi. Peth anhygoel ydy bod gan Mark (yr athro) bodlediadau Eidaleg a Sbaeneg hefyd, ac roeddwn i'n arfer gwrando ar ei Eidaleg ardderchog. Un o Glasgow ydy o, ac felly mae o'n siarad Saesneg efo acen Alban gref bleserus. Fedra i ddim dioddef rhaglenni eraill tebyg efo athro a dysgwr yn sgwrsio'n swnllyd ond dw i'n hoff iawn o ddull Mark a'i lais. Mae'r ddysgwraig hoffus o Glasgow yn help mawr hefyd. Mae hi'n siarad Gaeleg ac Almaeneg. 

Friday, September 5, 2014

gwers ffrangeg orau

Roeddwn i bob amser yn meddwl bod ynganiad Ffrangeg yn amhosib i mi. Dechreuais ddysgu'r iaith drwynol honno fisoedd yn ôl fel her i fi fy hun felly. Penderfynais wneud fodd bynnag, yn hytrach, beidio â gwneud dau beth wrth gychwyn dysgu iaith estron y tro 'ma. 1: Peidio â phrynu deunydd. 2: Peidio â dysgu'r gramadeg fel pwnc; dw i'n ei dysgu hi "fel mae'n dod." Ar ben hynny, roeddwn i eisiau profi dull Alberto (Italianoautomatico) hynny ydy, "gwrando, gwrando, gwrando"

Yn sicr mae yna nifer o bethau ar gael ar y we yn rhad ac am ddim, ond maen nhw'n rhy ddiflas neu rhy anodd yn fy nhyb i. Roeddwn i'n methu ffeindio gwers sydd yn taro deuddeg.... hyd yn ddiweddar. Ffeindio gwers hyfryd wnes i! Mi sgrifenna' i amdani hi yfory gan fod y post hwn yn mynd yn rhy hir.

Thursday, September 4, 2014

anrhegion penblwydd arbennig

Yr anrheg benblwydd a gafodd fy mab hynaf gan ei chwaer (fy ail ferch) oedd sgarff dîm Real Madrid. Ac nid phrynwyd drwy'r we oedd hi ond prynwyd yn "real" Madrid! Wedi gorffen ei gwaith gwirfoddol yn yr Eidal, teithiodd fy merch yn Ffrainc, Sbaen a Lloegr cyn dod adref; prynodd hi lawer o bethau i roi yn anrhegion. Hon oedd un ohonyn nhw. Roedd fy mab yn hapus dros ben fel cewch chi weld! Cafodd fy ddwy ferch grysau T a thlysau crog a brynwyd yn Llundain.

Wednesday, September 3, 2014

i'r fferm

Aeth rhan o'r teulu i fferm ffrind dros y penwythnos diwethaf yn cael amser braf efo'r anifeiliaid yno. Roedd fy merched wrth eu boddau'n chwarae efo nhw a godro'r afr. Roedd yna dwrci sydd yn credu mai ci ydy o, ac felly yn cyfarth fel un! Druan o'r defaid fodd bynnag sydd yn chwysu heb gael eu cneifio. Mae'r ffrind yn cadw gwenyn hyd oed a chynhyrchu mêl. Cawson ni lefrith a chaws gafr, llysiau a mêl yn anrhegion. Braf iawn.


Tuesday, September 2, 2014

i yvonne

Er nad ydw i'n sgrifennu'r blog hwn er mwyn diddanu'r bobl eraill, ac felly na fydda i'n dewis pynciau sydd yn apelio atyn nhw, mae'n braf cael sylwadau clên o bryd i'w gilydd. A dweud y gwir, does dim llawer o bynciau arbennig i adrodd amdanyn nhw gan nid yn Fenis dw i'n byw ynddi ond mewn tref fach gysglyd yn Oklahoma. Dyna pam fy mod i'n adrodd fy swper yn aml! Mae'n hynod o bwysig, fodd bynnag, i mi sgrifennu yn Gymraeg bob dydd i gadw beth dw i wedi ei ddysgu, ac am ryw reswm mae blog yn llawer atyniadol na dyddiadur ar bapur. Diolch i ti felly, Yvonne am dy air clên. Mi fyddai'n hyfryd pe byddwn i'n medru dy gyfarfod yn Fenis ryw ddiwrnod.

Monday, September 1, 2014

labor day

Cysgais yn dda neithiwr a dw i'n teimlo'n llawer gwell. Labor Day ydy hi heddiw ac felly mae pawb adref gan gynnwys fy merch hynaf a'i gŵr sydd wrthi'n gosod camerau gwyliadwriaeth i'r tŷ ers ddoe. (Un o'i waith ydy hyn.) Ar hyn o bryd mae fy ail ferch yn torri gwallt ei chwaer hŷn yn y gegin. (Mae'r gwaith perm wedi gorffen) tra mae fy ngŵr yn ceisio gosod garbage disposal newydd. (Mae'r hen declyn wedi torri a gollwng dŵr.) Dylwn i baratoi cinio bach rŵan.