Saturday, January 31, 2015

baglau newydd

Cafodd fy mab ei anafu eto tra oedd o'n chwarae pêl-droed. Dim ond troi ei ffêr wnaeth ac mae'r asgwrn yn ddiogel yn ffodus. Rhaid iddo orffwys a gosod rhew ar y ffêr serch hynny. Dyma benderfynu prynu baglau'r tro 'ma yn hytrach na benthyg rhai gan ffrind eto. Gobeithio na fydd o eu hangen yn y dyfodol ond os bydd o, mae gynnon ni bâr yn barod.

Friday, January 30, 2015

ymarfer corf

Dw i'n dal i wneud yr ymarfer corf yn ôl y fideo Japaneaidd, ond mae'n anodd ymarfer efo fy holl nerth heb fy merch wrth fy ochr; mae hi'n hynod o egniol a doniol fel roedd hi'n fy ysgogi i weithio'n galetach. Mae hi yn Abertawe ers pythefnos bellach a newydd orffen y sesiynau ar gyfer y myfyrwyr o dramor. Bydd y dosbarth i gyd yn mynd ar wibdaith i Gaerfaddon yfory. Rhaid i mi ymarfer cyn galed a bo modd nes iddi ddod adref.

Thursday, January 29, 2015

paned

Prynodd fy merch fyg gwyn mawr, a "rŵan dw i'n medru yfed te," meddai. Mi fyddwn i'n dweud mai angenrheidrwydd ydy myg neu baned yng Nghymru. Dw i'n cofio bod lle bynnag es i, y peth cyntaf clywais oedd, "ti isio panad?" Ac roedd y te'n hynod o flasus bob tro. Gwelais baned fawr wen syml a oedd yn costio ond pedair punt mewn marchnad agored yng Nghaernarfon. Phrynais mohono hi oherwydd nad oedd lle i fy nghês. Dw i'n difaru rŵan.

Wednesday, January 28, 2015

newyddion o abertawe 2

Mae fy merch yn Abertawe newydd symud i fflat newydd i ferched yr unig. Dwedodd fod y pedair eraill yn glên iawn; dod o Gaerfaddon mae un ohonyn nhw, ac roedd hi'n arfer mynd i siopa yno yn union fel dan ni'n mynd i Tulsa! Cymro Cymraeg clên ydy ei chariad hi. Daeth fy merch o hyd i Undeb Gristnogol yn y brifysgol yn annisgwyl sydd yn weithgar iawn hyd yn oed. Cafodd wybodaeth am Ysgol Gymraeg gan un o'r aelodau sydd yn dysgu Cymraeg, Ffrangeg ac Almaeneg. Mae popeth yn swnio'n hynod o ddiddorol.

Tuesday, January 27, 2015

cael torri fy ngwallt

Ers i fy hoff ferch drin gwallt stopiodd ei busnes (ddim fy ail ferch) ddeg mis yn ôl, ces i dorri fy ngwallt am y tro cyntaf heddiw. Yn y cyfamser, torrais y gwallt fy hun yn meddwl fy mod i'n gwneud jobyn braidd yn dda. Dechreuodd fy ngwallt edrych yn ofnadwy'n ddiweddar fodd bynnag, a dyma fynd i Smart Styles lle roedd fy merch yn arfer gweithio ynddo. Mae yna giw hir bob amser ond y bore 'ma roedd ddau steilydd yn rhydd gan gynnwys Justin a awgrymwyd gan fy merch. Gweithiodd yn ofalus a chreodd fy hoff steil, sef Stacked bob yn llwyddiannus. Hwrê! 

Monday, January 26, 2015

iphone apps

Dw i'n cael hwyl defnyddio fy iPhone. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor hawdd a defnyddiol ydy o. (Ofnadwy o anodd defnyddio fy ffôn an-smart oedd.) Mae Apps yn swnio'n ddefnyddiol i ddysgu ieithoedd, a dyma brofi un neu ddau ar gyfer Ffrangeg. Does dim byd da ymysg rhai rhad ac am ddim. Bydda i'n fodlon talu ond y broblem ydy bod yna gannoedd ohonyn nhw, a dw i ddim eisiau prynu rhai na fydda i'n eu hoffi. Ac felly rhaid bodloni efo Extra French ar You Tube a'r tapiau a brynais, sef Accelerated French ar hyn o bryd.

Sunday, January 25, 2015

S&S

Gorffennais ail-ddarllen Northanger Abbey (er mai gwrando ar y nofel drwy Librivox roeddwn i i fod yn benodol.) Rhaid cyfaddef nad ydy hi'n un o fy ffefrynnau. Dyma ail-gychwyn Sense and Sensibility. Tra fy mod i'n ddiolchgar i'r bobl sydd yn darllen llyfrau fel gwirfoddolwyr, byddai well gen i glywed acen Brydeinig ar gyfer nofelau gan Jane Austen. Ac felly dw i'n foddlon iawn dod o hyd i Karen Savage.

Saturday, January 24, 2015

o ddwy wlad

Mae gen i ddwy ferch sydd yn byw tramor ar hyn o bryd - un yn Honduras a'r llall yng Nghymru. Roedd un yn mynd i'r môr i fwynhau" snorkeling" yr wythnos 'ma tra oedd y llall yn crynu yn yr oerni Cymreig. Maen nhw'n gyrru lluniau a newyddion hollol wahanol! (A dweud y gwir, well gen i awyr llwyd Cymru er pa mor braf ydy'r môr glas yn yr heulwen gynnes yn Honduras.)

Friday, January 23, 2015

sgwrs eidaleg

Ces i gyfle i siarad Eidaleg am y tro cyntaf ers yr haf. Mae yna ychydig o ddisgyblion o dramor yn yr ysgol uwchradd leol, o'r Almaen a Brasil fel arfer. Y flwyddyn hon mae yna ferch o'r Eidal sydd yn mynd i wersi ddawnsio efo fy merch unwaith yr wythnos. Dw i wedi clywed llawer amdani hi, a neithiwr ces i gyfle i'w chyfarfod. Christina ydy ei henw hi ac mae hi'n dod o ogledd yr Eidal. Cawson ni sgwrs sydyn cyn y wers yn siarad am bethau amrywiol. Aeth hi i Florence a dringo cromen Brunelleschi efo'r ysgol fel gwibdaith addysgol! (A daeth i'r dref yma in Oklahoma i fynd i'r ysgol am flwyddyn!) Mae hi'n hapus yma ond colli pizza Eidalaidd.

Thursday, January 22, 2015

anrheg nadolig

Derbyniais i a'r gŵr anrheg Nadolig hynod o greadigol a gwych gan y plant i gyd; syniad fy merch hynaf oedd. Ces i a'r gŵr amlen yr un sydd yn cynnwys darnau o bapur sydd yn dweud pam maen nhw'n hoffi eu rhieni. Sgrifennodd bawb bedwar peth yr un a gofyn i ni ddarllen un neges bob dydd. Darllenais a'r gŵr yn uchel y negesau ar ôl swper fel y plant gartref yn medru eu clywed. (Doedden nhw ddim yn gwybod beth sgrifennodd y lleill.) Dan ni newydd orffen. Roedd rhai'n ddifrifol a rhai'n ddoniol. Cawson ni amser braf efo'n gilydd.

Wednesday, January 21, 2015

newyddion o abertawe

Dw i'n mwynhau'n fawr iawn clywed oddi wrth fy merch yn Abertawe drwy e-bost, Face Book a'i blog. Aeth i Fwmblws, i'r traeth i'r eglwys (mae yna Evangelical Free Church!) i farchnad leol; aeth o gwmpas ar "Cymru Coach" yn gweld y dref. Cafodd Stendhal's Syndrome oherwydd gormod o brydferthwch! Ddoe roedd y ddarlith gyntaf ar gyfer y myfyrwyr rhyngwladol cyn i'r tymor ddechrau mewn pythefnos. Mae yna 160 o Americanwyr gan gynnwys rhai sydd yn dod o Oklahoma. Cafodd hi ei siomi o beidio clywed Cymraeg yn aml, ond mae hi'n mynd i Goffi a Sgwrsio ar y campws. (Dechreuwr ydy hi ond bydd hi'n cael clywed Cymraeg fyw yno.)

Monday, January 19, 2015

daisy a bungo

Mae gynnon ni "anifeiliaid" anwes newydd, sef dwy fuwch goch. A dweud y gwir, maen nhw ar wal yr ystafell fwyta yn llonydd ers misoedd. Am ryw reswm neu beidio, penderfynais roi dŵr iddyn nhw un diwrnod. Roedden nhw'n ofnadwy o sychedig. Ar ôl yfed digon, doedden nhw ddim yn gadael y bwrdd. A dyma i fy merch wneud tŷ bychan iddyn nhw efo bwyd ynddo a'u henwi nhw hyd yn oed - Daisy a Bungo. (Mae hi'n hoff iawn o Hobbit.) Gan nad oes to ar y cawell, maen nhw'n mynd a dod fel mynnon nhw. Maen nhw'n greaduriaid anhygoel o ddiddorol. Er mor fach ydyn nhw, maen nhw lanhau eu hun, ymosod ar ddarn o ffrwyth yn awyddus a gwneud llawer mwy. Byddan nhw'n aros efo ni nes i'r gwanwyn.

Sunday, January 18, 2015

iphone i mi

Prynodd y gŵr iPhone newydd, ac felly "etifeddais" ei hen un o. Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n berchen ar iPhone. Mae'r dechnoleg yn ymddangos yn rhy gymhleth i mi. Ches i fy synnu, fodd bynnag i sylwi ei fod o'n llawer haws ei ddefnyddio na fy ffôn an-smart. Na fydd rhaid i mi gael benthyg iPhone Touch fy merch yn ystod fy ngwyliau bellach.

Saturday, January 17, 2015

setlo i lawr

Dw i a'r teulu'n cael ein cyfareddu bod fy ail ferch yng Nghymru; roedd fy mab wrthi'n wrando ar y gêm rhwng Abertawe a Chelsea heddiw tra oedd hi'n cerdded yn y ddinas lle mae'r gêm yn cael ei gynnal! Roedd yn bwrw glaw'n galed pan gyrhaeddodd hi Abertawe. Aeth ei hymbarél tu chwith allan yn syth yn y gwyntoedd clyfion Cymreig y diwnod cyntaf. Aeth hi a'i ffrind o gwmpas y campws wedi iddi stopio glaw a dod o hyd i farchnad fach i brynu ffrwythau a llysiau. Bydd yna ddyddiau cyn i'r tymor gychwyn fel byddan nhw'n medru setlo i lawr.

Friday, January 16, 2015

moch cwta ar y dec

Mae'n gynnes wedi wythnos o oerni. Dyma fynd â'r moch cwta at y dec cefn iddyn nhw gael ymarfer corf yn yr heulwen. Mae'n anodd iddyn nhw fynd allan gan nad oes lle diogel a digon cynnes i'r anifeiliaid bach yn ystod y gaeaf. Mae yna broblem arall - y ci drws nesaf. Ci annwyl ydy o, ond mae o'n dringo'r ffens yn hawdd a dod i mewn i'n hiard ni pryd bynnag mynnith. Gofynnodd i'r bobl drws nesaf i ofalu am eu ci, ond wnaethon nhw ddim byd. O ganlyniad, rhaid i mi eistedd wrth y drws gwydr a chadw llygaid ar y moch cwta. Dw i'n sgrifennu hyn wrth roi cip arnyn nhw bob tri eiliad!

Thursday, January 15, 2015

yn abertawe

Mae fy merch newydd gyrraedd Prifysgol Abertawe! Mae'n anodd credu bod hi yng Nghymru o'r diwedd. Wedi cael siwrnai hyfryd mae hi'n ceisio setlo i lawr yn ei ystafell. Aeth popeth yn iawn ar wahân i pan geisiodd hi fewngofnodi yn Google ym maes awyr Heathrow. Cafodd hi ei gwrthod fel un amheus. Fe wnaeth Google gysylltu â'i thad yn dweud bod rhywun yn Llundain yn ceisio hacio ei chyfrif! O leiaf cawson ni wybod bod hi wedi cyrraedd yn ddiogel.

Wednesday, January 14, 2015

i abertawe

Mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd. Wedi trwsio ei menig, mae fy merch newydd adael i fynychu Prifysgol Abertawe o'r diwedd. Bydd hi a'i ffrind yn cyrraedd Heathrow am 6:55 a.m. UTC yfory, a bwrw ymlaen i Abertawe mewn bws. Mae hi'n llawn cyffro a chynllunion (ac ychydig o ofn.) Edrycha' i ymlaen at glywed ganddi hi am ei phrofiadau.

Tuesday, January 13, 2015

dim menig

Es i Walmart i brynu menig i fy merch sydd yn cychwyn am Abertawe yfory. (Hen bâr sydd ganddi hi.) Wnes i ddim gweld dim, a dyma ofyn i'r gweithiwr lle mae'r menig. Cawson nhw i gyd eu gwerthu! Does dim byd ar ôl! Wel, rhaid i fy merch drwsio ei hen fenig heddiw. 

Monday, January 12, 2015

y diwrnod cyntaf

Diwrnod cyntaf tymor newydd y brifysgol ydy hi heddiw. Mae'r gŵr yn dechrau dysgu dosbarth newydd. Cyn cyfarfod myfyrwyr newydd, mae o'n bob tro ceisio cofio eu henwau nhw fel bydd o'n medru eu galw nhw o'r diwrnod cyntaf ymlaen. Roedd o'n wrthi'r bore 'ma tra oedd o'n cael brecwast. Mae'n anodd weithiau oherwydd nad lluniau'n bob amser yn dda, ac mae merched yn newid steiliau'r gwallt yn aml!

Sunday, January 11, 2015

cyw blasus ond...

Fe goginiais Chicken Cordon Bleu neithiwr. Roedd yn hynod o flasus a hawdd ei wneud; roedd y teulu'n hapus dros ben. Y broblem oedd nad oes gen i ordd ar gyfer cig; fe wnes i ddefnyddio gwaelod gwydr i wastatâu'r cyw iâr. Wedi ei guro'n galed mewn modd lletchwith am sbel, teimlais boen yn fy nghlun chwith. Dw i'n llawer gwell heddiw'n ffodus. Fe bryna' i ordd heb os cyn coginio hyn eto.

Saturday, January 10, 2015

blog newydd

Penderfynodd fy merch ddechrau blog newydd er mwyn cofnodi ei phrofiadau yng Nghymru a thu hwnt yn ystod y chwe mis eleni. A dyma ei phost cyntaf. Bydd hi'n llais gwerthfawr dros Gymru wrth sgrifennu am bethau cyffredin yn y wlad. Mae'r fideo a gyflwynwyd ar y post yn help mawr i ddeall beth ydy beth ynglŷn y Brydain Fawr. Addawodd hi bostio bob wythnos; edrycha' i ymlaen!

Friday, January 9, 2015

calendrau

Mae calendr yr Eidal newydd gyrraedd - tudalen y dydd calendr bach ydy o. Gan nad ydw i'n mynd i'r Eidal eleni, penderfynais archebu hwn yn ei le (llawer rhatach na'r siwrnai!) Mae'n braf torri tudalen i ffwrdd bob bore a gweld golygfa hyfryd. Dw i'n darllen ychydig am y lle bob tro fel bydda i'n dod yn gyfarwydd â'r llefydd amrywiol yn yr Eidal. Yna, ces i galendr ar lein yn anrheg gan y cwmni; dewisais un Ffrainc. Mae tudalen newydd yn fy nisgwyl yn yr in box bob bore.

Thursday, January 8, 2015

anrheg

Mae fy merch yn cychwyn am Abertawe'r wythnos nesaf. Cafodd anrheg Nadolig arall yn hwyr gan ei frawd yn annisgwyl. Peth perffaith i fynd â fo i Gymru - ymbarél plygadwy; agorir a chaeir drwy wthio botwm. Prynodd fy merch gôt law ac esgidiau glaw'n ddiweddar. Rŵan mae hi'n barod.

Wednesday, January 7, 2015

cinio bach

Mae'r gŵr yn mynd â phecyn cinio (brechdan peanut butter a chreision) i'r gwaith fel arfer, ond oherwydd rhyw waith papur teuluol dylai fo wneud, mae o'n dod adref hanner dydd yr wythnos 'ma. Mae angen cinio bach felly. Dw i ddim yn "coginio" ar gyfer cinio bach ac mae o'n hollol fodlon bwyta beth bynnag sydd ar gael yn yr oergell. Penderfynais fodd bynnag, ffrio (wow!) rhyw lysiau, reis, wyau a thafell o gig moch efo ychydig o arlleg yn y badell. Fe wnes i blât o fwyd blasus iddo fo er fy mod i'n dweud fy hun.

Tuesday, January 6, 2015

cysill

Fe fydda i'n golygu fy mostiau'n ofalus bob tro cyn gwthio'r botwm "publish" wrth ddefnyddio pethau sydd ar gael ar y we - Google, Llyfrgell Owen, Cysill, ayyb. Dw i'n ddiolchgar i Cysill yn enwedig am gywiro fy nghamgymeriadau. Ar ôl gwthio "gwirio" bydda i'n aros am y canlyniad braidd yn nerfus fel petawn i'n sefyll wrth athro sydd yn darllen fy nhraethawd. Mae yna ddigon o gamgymeriadau fel arfer, ond weithiau does dim byd a bydd yn wych gweld "wedi gorffen gwirio..." Diolch yn fawr i Cysill Ar-lein!

Monday, January 5, 2015

barod am y gaeaf

Mae hi wedi bod yn aeaf mwyn; dan ni heb ddefnyddio'r llosgwr logiau eto. O'r diwedd fodd bynnag, dechreuodd yr oerni. Am ddau ddiwrnod roedd y gŵr efo'n ddau blentyn ni wrthi'n torri'r darnau o goed a gadwyd wrth y tŷ. Fel arfer fydd o'n eu torri nhw â bwyell ond eleni, rhentiodd o beiriant i wneud y gwaith. Roedd yn llawer hawsach ac eto cymerodd oriau yn y tywydd rhewllyd. Cynnwn ni'r tân cyntaf heno.

Sunday, January 4, 2015

ateb

Dw i'n dal i ail-ddarllen nofelau Jane Austen. Wedi gorffen Persuasion, roedd gen i gwestiwn ynglŷn plot y stori ac eisiau trafod efo rhai sydd yn hoffi ei nofelau. Pwy sydd yn well na Chymdeithas Jane Austen? A dyma ysgrifennu atyn nhw. Ces i ateb clên a llawn  gan y cadeirydd - hynny ydy ateb wedi'i feddwl yn ddwys. Er nad ydw i'n cytuno â hi, roedd yn ddiddorol cyfnewid barnau efo un sydd yn gwybod yn dda am waith Austen.

Saturday, January 3, 2015

coffi ffres

Mae fy merch yn Honduras ar wyliau Nadolig ac wrthi'n cymryd mantais ar ei hamser rhydd; torri gwallt y cenhadon yno yn rhad ac am ddim, mynd o gwmpas efo'i ffrindiau, ayyb. Ddoe aeth efo'r lleill i gasglu ffa coffi a gweld sut maen nhw'n cael eu prosesu. Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld ffa coch.

Friday, January 2, 2015

teledu newydd , hen deledu

Mae gynnon ni deledu a brynon ni ryw ddeg mlynedd yn ôl. Er ei fod o'n perthyn i hynafolyn bellach, doedd dim ots gynnon ni tan yn ddiweddar gan nad ydyn ni'n gwylio teledu o gwbl. (Mae o'n bodoli ar gyfer fideos a Playstation achlysurol.) Dan ni newydd brynu un "modern" fodd bynnag oherwydd bod fy mab ifancaf wedi derbyn Playstation newydd yn anrheg Nadolig. Yr hen deledu? Penderfynon ni ei symud i fy ystafell wely yn hytrach na ei daflu o. Rŵan mae gen i sgrin breifat i wylio fy hen VHS - Persuasion, Emma, Sense & Sensibility, a ballu!

Thursday, January 1, 2015

post cyntaf y flwyddyn

Blwyddyn newydd dda i bawb! Penderfynais newid y templed ar yr achlysur. Peth "newydd" arall i mi ydy nad ydw i'n mynd ar fy ngwyliau eleni oherwydd y sefyllfa deuluol. Dw i ddim yn rhy siomedig serch hynny; mae gen i fwy na blwyddyn gyfan i gynllunio ar gyfer y siwrnai nesaf wrth obeithio ca' i fynd yn 2016. (Dw i ddim yn rhy drist colli Expo Milano a Biennale Fenis a dweud y gwir!) Awn ni un dydd ar y tro.