Wednesday, June 30, 2021

hoe fach

Er ei fod o gartref ar ôl y seremoni raddio, roedd gan fy mab gymaint o waith amrywiol i wneud gan gynnwys sefyll arholiad peiriannydd a chwilio am swydd, ac yn y blaen. Cafodd hoe fach fodd bynnag, yn chwarae gyda Lego a dderbyniodd gan un o'i chwiorydd yn anrheg benblwydd. Efallai bydd o'n gweithio i Lego fel peiriannydd un diwrnod!

Tuesday, June 29, 2021

ailgylchu cadach llestri

Dw i ddim yn defnyddio’r cadach llestri hwn yn aml. Mae o'n aros ar waelod y drôr yn y gegin ers blynyddoedd. Ces i syniad da - ei droi fo'n ffedog. Dyma hi.

Monday, June 28, 2021

tŷ adar pwyso

Mae un o'r cymdogion yn codi tŷ adar dechrau haf bob blwyddyn. Mae o'n hynod o boblogaidd gan nifer mawr o adar gwyllt o bob math. Dw i'n mwynhau ei weld o pan fydda i'n mynd am dro. Yn ddiweddar mae o'n pwyso braidd yn ansicr. 

(llun gan fy mab ifancaf.) 

Saturday, June 26, 2021

hoff fwyd

I'r Napoli's eto aethon ni neithiwr. Dw i'n meddwl fy mod i wedi ffeindio fy hoff fwyd ar y fwydlen. Cyw iâr Cacciatore ydy'r enw. Mae yna fadarch, pupur gwyrdd a nionyn mewn saws tomato ar gyw iâr wedi'i grilio. Blasus iawn. (Ces i wydraid o Chianti wrth gwrs.) Cafodd y gŵr spaghetti â pheli cig. Salad cyw iâr i'r mab sydd gan alergedd glwten.

Friday, June 25, 2021

bloc awelog


Mae erthygl newydd fy merch yn sôn am waliau bloc awelog. Pasiais wrth y waliau felly yn gyffredin bob dydd pan oeddwn i'n byw yn Japan heb roi unrhyw sylw arnyn nhw. Mae'n amlwg eu bod nhw'n boblogaidd yn ddiweddar.

Wednesday, June 23, 2021

matcha

Dw i wrth fy modd gyda matcha, sef powdr te gwyrdd o Japan. Doeddwn i ddim yn ei yfed hyd yn ddiweddar a dweud y gwir, ond unwaith dechreuais, does dim stopio. Mae'n wych mewn dŵr poeth neu oer, ond cewch chi ei gymysgu o gyda nifer o fwyd hefyd. Fe wnes i fara ŷd a hufen iâ bellach. Roedden nhw'n flasus. Dw i'n siŵr bod yna mwy.

Tuesday, June 22, 2021

newyddion lleol


Mae erthyglau Babylon Bee yn dod o lefydd amrywiol yn America a thramor. Enwau go iawn ydyn nhw i gyd er bod y "newyddion" yn ddychanol. Ces i bleser darllen yr erthygl hon y bore 'ma ynglŷn â chwpl ifanc o Tulsa, Oklahoma! (Dw i'n byw rhyw 70 milltir o'r ddinas.)

Monday, June 21, 2021

penwythnos o ddathlu

Roedd sawl dathliad dros y penwythnos diwethaf - dau benblwydd, Sul y Tadau a phenblwydd priodas fy merch hynaf. Er na allodd yr holl deulu fod gyda'n gilydd yn gorfforol, roedden ni'n medru dathlu'r achlysur drwy FaceTime, diolch i'r dechnoleg fodern. Mae fy merch a'i gŵr dal yn Dallas heddiw i fwynhau'r gweddill o'r dathliad.

Saturday, June 19, 2021

rhy hallt

Ces i a'r teulu ein siom. Aethon ni i  El Molcajete am y tro cyntaf ers misoedd. Roedd gan y bwyd olwg ac arogl hyfryd, ond roedd popeth yn rhy hallt. Methais fwyta popeth. Doedd y bwrdd ac ati ddim yn edrych yn ddigon glân chwaith. Roedd yr holl weithiwyr yn dal i wisgo mwgwd hyd yn oed. Na fyddwn ni'n dychwelyd yno.

Friday, June 18, 2021

cymru a'r eidal


"Voglio giocare a calcio," meddai Paolo Tardivel 

Ces i fy nrysu braidd pan welais y frawddeg gyntaf honno yn erthygl Cymru Fyw heddiw. Mae hyn yn fy atgoffa i o'r profiad a ges i yn Fenis pan wnes i gyfarfod Bedwyr Williams yn Biennale yn 2013. Methais siarad Cymraeg am sbel oherwydd fy mod i wedi bod yn siarad Eidaleg drwy'r amser am bythefnos wrth wneud cwrs Eidaleg. Roedd o'n hynod o glên, fodd bynnag, yn aros yn amyneddgar nes i fy Nghymraeg ddychwelyd!

Wednesday, June 16, 2021

dal i flodeuo


Mae'n hydrangea ni'n dal i flodeuo er nad ydyn nhw'n llawn fel y rhai eraill. Mae yna 32 ar hyn o bryd yn ôl y gŵr. Dechreuodd haf Oklahoma o ddifri (bydd y tymheredd yn codi'n 97F/36C heddiw,) ac felly maen nhw eisiau llawer o ddŵr. Mae'n ymddangos bod y gŵr yn eu dyfrio nhw drwy'r dydd. 

Tuesday, June 15, 2021

dokudami


Dyma erthygl newydd gan fy merch yn Japan. Dokudami, sef perlysiau traddodiadol gyda blodau hardd ydy pwnc yr wythnos 'ma. Mae yna nifer o ddefnydd ar eu cyfer nhw sydd gan arogl unigryw - annymunol i rai a dim byd i'r lleill. Dw i'n hollol gyfarwydd â nhw oherwydd fy mod i wedi yfed te Dokudami ers roeddwn i'n fabi bach.

Monday, June 14, 2021

pob bendith

Penblwydd hapus i Arlywydd Unol Daleithiau America go iawn. 

Saturday, June 12, 2021

G7


"Mae'r bobl sydd wedi difetha economi'r byd yn ymgasglu er mwyn trafod sut i atgyweirio economi'r byd," meddai'r Wenynen. Unwaith eto, mae hi'n iawn ac yn anhygoel o ddoniol. Darllenwch y gweddill o'r erthygl ddychanol a chwerthin os dych chi'n teimlo'n isel (neu beidio.)

Friday, June 11, 2021

dau fynydd

Yn Puebla, Mecsico mae un o'n cenhadon ni'n gwasanaethu. Dw i heb wybod hyd yma bod yna fynydd hardd sydd yn debyg i Fynydd Fuji yn Japan. Roeddwn i'n meddwl mai ffotosiop oedd y llun yma gyntaf, ond na; Popocatépetl ydy hwnnw. Fedra i ddim yn credu pa mor debyg maen nhw'i gilydd.

Wednesday, June 9, 2021

tryledwr crog

Dw i newydd brynu'r peth bach hwn sydd yn hynod o gyfleus. Tryledwr clai ydy hwn a wnaed gyda llaw gan ddynes yn Florida. Fe wnaeth hi ddefnyddio cragen fôr a gasglodd ei hun ar y traeth fel mold. Mae'n ysgafn a phert. Dw i'n medru clywed fy hoff arogl trwy'r dydd lle bynnag bydda i.

Monday, June 7, 2021

aduniad

Roedd fy merch arall yn Japan yn medru cyfarfod ei ddau ffrind a aeth i'r brifysgol gyda nhw yn Nhalaith Missouri. Priododd y ddau ifanc wedi graddio, a symud i fyw yn Okinawa. Teithion nhw i Tokyo ar eu gwyliau a chyfarfod fy merch yno. Mae'n rhyfeddol iddyn nhw weld ei gilydd mewn amgylchoedd mor arbennig.

Saturday, June 5, 2021

hydrangea

Mae'n hydrangea ni yn blodeuo'n hwyr eleni, oherwydd y cyfnod anhygoel o oer a gawson ni, dw i'n siŵr. Mae eu dail yn llai hefyd. Dim ond dwsin o flagur sydd, er gwaethaf gwaith caled y gŵr. Mae o'n siarad â nhw hyd yn oed, yn eu hannog a cheryddu iddyn nhw ddwyn blodau hardd!

Friday, June 4, 2021

peidiwch â chroesi


Mae'n ymddangos bod ceirw, crwbanod a gwiwerod yn hoff iawn o groesi strydoedd, yn enwedig strydoedd prysur. Gwelir eu cyrff marw'n aml iawn. Des i ar draws crwban sydd yn croesi stryd tra oeddwn i'n cerdded yn y gymdogaeth ddyddiau'n ôl. Roedd gen i fenig tafladwy yn y boced, digwydd bod, a dyma ei godi a symud o yn y cae. Dylen nhw i gyd aros yn yr un ochr!

Wednesday, June 2, 2021

blodyn trindod

Mae Blodyn Trindod yn ei anterth. Y blodyn gyda thri phetal porffor sydd yn blodeuo’n wyllt ydy o. Dw i ddim yn gwybod yr enw swyddogol; y fi a'i enwodd a dweud y gwir. Mae o'n ddiymhongar a hardd; dw i wrth fy modd yn ei weld pan fydda i'n mynd am dro.

Tuesday, June 1, 2021

dydd sul dathlu


Cynhaliwyd Dydd Sul Dathlu yn ein heglwys ni. Un o'r digwyddiadau llawen oedd bedyddio. Cafodd pedwar plentyn ifanc eu bedyddio ar eu cais. Roedd y dŵr yn y tanc buwch braidd yn oer, ond roedden nhw'n llawn o frwdfrydedd, wedi cyhoeddi eu ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist o flaen y gynulleidfa.