Friday, July 31, 2015

dyn efo pen ceffyl

Hwn ydy teitl yr ail stori fer yn yr e-lyfr Ffrangeg gan Sylvie Lainé a brynais yn ddiweddar - stori am Ffrancwr sydd yn mynd ar ei wyliau mewn pentref bach yn Ne Ffrainc; mae o'n mynd i'r farchnad i brynu anrheg i'w ffrind; wrth iddo brynu gwin lleol at stondin, mae cwsmer arall yn dechrau siarad efo'r gwerthwr....  Ddylwn i ddim dweud mwy. Mae'n stori'n hynod o ddiddorol ac mae Sylvie'n darllen yn araf a chlir. Y tro 'ma, defnyddiwyd yr amser gorffennol mewn nifer o'r brawddegau; y cam nesaf naturiol ac effeithiol, rhaid dweud. 

Thursday, July 30, 2015

rhedeg adref

Mae fy mab ifancaf yn rhedeg bron bob dydd naill gyda'r tîm neu ar ei ben ei hun. Aeth i nofio efo'i chwaer i dŷ eu ffrind saith milltir i ffwrdd ddoe a phenderfynu rhedeg adref. Rhedodd ar ochr y prif ffyrdd a thrwy'r dref yn cyfarchu ffrindiau a basiodd. Gyrrodd testun neges o dro i dro i ddweud lle'r oedd o ar y pryd fel y byddwn i'n gwybod ei fod o'n iawn. Daeth adref yn ddiogel; roedd ei grys-T yn wlyb socian efo'r chwys. 

Wednesday, July 29, 2015

gyrru

"Cyrhaeddais!" anfonodd fy merch neges testun gynnau fach. Roedd hi'n dysgu'r map yn ofalus efo'i thad ddoe er mwyn gyrru i dŷ ei ffrind yn Tulsa rhyw 60 milltir i ffwrdd; mae GPS yn methu'n ormod. Dwedodd ei ffrind wedyn fod yna waith ffyrdd ac roedd rhaid dysgu'r map eto. Dw i byth yn gyrru tu allan i'n tref ni gan fod gen i ofn gyrru ar brif ffyrdd anghyfarwydd ar 75 m.y.a. Er fy mod i'n byw yn America ers 25 mlynedd, fedra i byth deimlo'n gyfforddus gyrru. Byddai'n well gen i fynd o gwmpas ar y trên a bws.

Tuesday, July 28, 2015

hanner awr

Hir pob aros, medden nhw, ond does dim rhaid iddo fod yn hir os dach hi'n paratoi ymlaen llaw. Mae Non yn dioddef am hanner awr bob bore yn aros am fws ysgol. Os bydd hi'n defnyddio modd Johan ac Alberto, gall hi droi'r hanner awr yn aur. Yn lle gwrando ar gerddoriaeth ar ei iPod, gall hi wrando ar awdio i ddysgu iaith estron neu bwnc diddorol. Gall hi gyflawni llawer os defnyddith hi'r hanner awr yn greadigol bob bore. 

Monday, July 27, 2015

y crogdlws

Des i o hyd i E-lyfr byr efo MP3 ar gyfer dysgwyr Ffrangeg. Yr awdures sydd yn darllen efo'i acen goeth yn araf ac yn glir. Gorffenodd y sampl hwn pan ddechreuodd y stori droi'n gyffroes fel byddwn i eisiau gwybod beth fyddai'n digwydd. Does dim byd annisgwyl ar ddiwedd y stori, ond dw i'n hoff iawn o ddiwedd hapus ac felly dw i'n fodlon. Ches i ddim problem darllen oherwydd defnyddir strwythur syml a'r amser presennol gan amlaf efo geirfa hwylus ar bob tudalen. Bydda i'n gwrando arni hi nifer o weithiau cyn dechrau ar y ddwy stori  arall yn y llyfr.

Sunday, July 26, 2015

y 25ain

Dw i a'r teulu'n edrych ymlaen at y pumed ar hugain o bob mis oherwydd bod hi'n ddiwrnod bydd pwyntiau Amazon ar gael. Enillir pwynt pryd bynnag defnyddir y cerdyn credyd Amazon. Fel arfer mae'r fasged siopa'n llawn cyn cyrhaeddith y diwrnod, a rhaid rhannu'r pwyntiau'n deg (dim yn gyfartal rhaid pwysleisio) rhyngddon ni. Mae gynnon ni ryw 50 pwynt y tro 'ma (sydd yn golygu $50) a dyma ni'n archebu'r nwyddau yn y fasged. Er bod ni'n gorfod talu ychydig oherwydd bod y nwyddau'n fwy na'r pwyntiau, mae'r system yn gweithio'n hyfryd. 

Saturday, July 25, 2015

sinsir

Mae'n boeth. 97F/36C. Does dim glaw ond mae'n ofnadwy o fwll. Byddai'n hyfryd pe byddwn i'n cael bwyta hufen iâ Alaska yn Fenis ddiwrnod poeth felly a chlywed y peth melys "yn llithro i lawr fy ngwddw yn oer." Roedd yna ormod o ddewis yn y siop fach. Gofynnais i'r perchennog am awgrym. "Sinsir" oedd ei ateb; felly a fu. Roedd y sinsir sbeislyd yn asio'n rhyfeddol efo'r hufen melys yn creu hufen iâ blasus. Bydda i'n cael dwy bêl y tro nesaf, sinsir a Tiramisu efallai.

Friday, July 24, 2015

teithiwr

Mae fy ail ferch ar ei gwyliau yng Ngwlad Thai ar hyn o bryd wedi cwblhau'r tymor cyntaf yn yr ysgol Saesneg yn Tokyo. Mae hi'n teithio o le i le ar y bws a beic heb flinder boed glaw neu heulwen. Llwyddodd i ffeindio lle i olchi ei dillad ddoe hyd yn oed. Dw i'n edmygu ei hegni a diddordeb mewn gwledydd a diwylliannau gwahanol. Bydd hi'n dod adref ym mis Medi ar gyfer priodas ei brawd.

Thursday, July 23, 2015

bwrw pob math o bethau

Yn ogystal â chŵn a chathod, hen wragedd a ffyn, mae'n bwrw barfau llyffantod, brogaod, hyd yn oed gwayw-fwyeill. Yn ôl Gweiddi, mae pob math o bethau'n bwrw o'r nefoedd yn y tywydd garw. Dwedir yn Japan, "mae'n bwrw pridd a thywod." Roeddwn i'n meddwl hyd yma bod hyn yn golygu bod hi'n bwrw cymaint fel gallai achosi tirlithriad. Ces i fy synnu'n gwybod o newydd mai ond am sŵn mae'r geiriau yn cael eu defnyddio. Mae'n rhy gymhleth esbonio sut mae Kanji yn gweithio, felly dyma fo.

Wednesday, July 22, 2015

llewes ffyrnig

O'r diwedd dwedwyd yr hyn dylai gael ei ddweud, gan hogan ddel 23 oed o South Dakota. Tomi Lahren ydy ei henw hi. Er gwaethaf ei hoedran, cafodd hi gyfrifoldeb i gynnal rhaglen teledu wleidyddol flwyddyn yn ôl i gyfweld ei gwesteion a mynegi ei barn. Mae'n anhygoel o adfywiol clywed hi'n dweud yn glir ac yn ddewr meddyliau'r nifer o bobl sydd wedi cael eu hanwybyddu gan y prif gyfryngau. Dw i a'r teulu'n ei chefnogi cant y cant!

Tuesday, July 21, 2015

eidaleg/ffrangeg

Dysgu Eidaleg drwy gyfrwng y Ffrangeg, neu vice versa. Hyn ydy'r modd delfrydol i mi gan fy mod i'n medru eu dysgu nhw ar yr un pryd. Alberto (un arall) sydd yn gwneud fideo felly o bryd i'w gilydd. Hwn ydy'r diweddaraf. Mae'n anhygoel ei glywed o'n siarad y ddwy iaith hynny'n berffaith. Mae'r pwnc yn bwysig iawn - sut i brynu hufen iâ!

Monday, July 20, 2015

hen gyneuon

Daeth y gŵr yn ôl o Japan ddoe. Daeth ag anrhegion i'r teulu gan fy nghefnder. CD a roddodd i mi. Mae yna dri dwsin o ganeuon o'r 70au. Roedden nhw i gyd yn hynod o boblogaidd yn Japan. Dw i'n nabod pob un ohonyn nhw'n dda iawn fel na fedra i beidio â chwerthin. Roeddwn i ynghyd y teulu'n gwylio rhaglenni caneuon yn aml pan oeddwn i'n tyfu i fynnu. Byddwn i'n dweud bod pawb yn Japan yn eu gwylio nhw'n awyddus yr adeg honno. Dw i'n sgrifennu'r post hwn wrth wrando arnyn nhw.

Sunday, July 19, 2015

diwedd siwrnai arall

Mae'r mab hynaf a'i ffrindiau'n dychwelyd i Texas heddiw wedi treulio pythefnos yn Uganda  yn gwirfoddoli mewn ysbyty. Doedd dim rhyngrwyd ar gael tra oedden nhw yno, ac felly chlywais i ddim oddi wrtho fo nes iddo gyrraedd maes awyr Uganda ddoe i hedfan yn ôl. Roedden nhw'n bwriadu gweld Llundain yn sydyn ar eu ffordd oherwydd bod ganddyn nhw wyth awr ym maes awyr Heathrow. Dw i heb glywed y newyddion diweddaraf ond yn siŵr y bydd o'n postio lluniau a sylwadau ar Face Book cyn hir.

Saturday, July 18, 2015

lluniau hiraethus

Y bore 'ma roedd fy merch eisiau gweld y lluniau a dynnais yng Nghymru. Wedi byw yno am bum mis, roedd hi'n awyddus i'w gweld nhw eto. Dyma ddangos yn hapus cannoedd a dynnais yn ystod fy mhedwar ymweliad rhwng 2007 a 2011. Ces i fy synnu fy hun i weld cymaint o brofiadau hollol unigryw a ges i, a chynifer o bobl glên roeddwn i'n eu cyfarfod. Dyma'r uwd gorau a paratowyd gan Carol o Marteg yn Llanberis. Dydy'r Gwely a Brecwast ddim yno bellach; colled fawr i'r dref honno.

Friday, July 17, 2015

futon handi

Mae taith fusnes y gŵr yn dirwyn i ben. Cyn cychwyn adref, aeth i ymweld â fy mam am oriau ac wedyn i fflat ein merch yn Tokyo i dreulio diwrnod a hanner efo hi. Mae hi newydd brynu futon a dillad gwely dros ei thad (a dros ei gwesteion yn y dyfodol.) Mae'n gyfleus ac edrych yn gyfforddus. 

Thursday, July 16, 2015

sŵn dŵr

Mae'r tîm cross country yn rhedeg ar foreau dydd Llun, Mercher ac Iau, ac felly roedd gen i gyfle arall i gerdded o gwmpas yr ysgol y bore 'ma eto tra oeddwn i'n aros am fy mab. Es i at gyfeiriad arall a dod ar draws ffordd sydd yn dal dan ddŵr oherwydd y glaw a gawson ni'n ddiweddar. Roedd y dŵr yn lân yn annisgwyl. Roeddwn i'n sefyll wrth ei ymyl am sbel yn gwrando ar sŵn llonyddol y rhaeadr bach cyn troi'n ôl i fynd ar ffordd arall. 

Wednesday, July 15, 2015

gwlith a'r haul

Mae'n boeth. Mae'n fwll. Mae'n fel pe byddech chi'n byw mewn popty'r dyddiau hyn. Roedd yn gymharol gyfforddus pan ddechreuais gerdded y bore 'ma ger yr ysgol, deg munud i saith. Roeddwn i'n medru clywed y gwlith ffres yn yr awyr wrth anadlu. Pan gododd yr haul uwchben y coed tal ar hyd y ffyrdd, fodd bynnag, newidiodd bopeth. Dim ond am saith o'r gloch yn y bore, roedd hi'n ofnadwy o boeth yn barod. Cerddais 20 munud mwy nes dod yn ôl i'r ysgol a gweld fy mab wedi dychwelyd. Roedd yr haul yn adlewyrchu ar y glaswellt gwlyb.

Tuesday, July 14, 2015

tŷ bwyta arbennig

Dw i newydd ddarllen post gan hogyn o Fenis am ei ymweliad â Japan y llynedd. Daeth ar draws tŷ bwyta yng nghanol Tokyo sydd yn arbenigo yn y bwyd Fenisaidd. Cafodd ei gyfareddu gan flas dilys seigiau ei fam wlad. Datryswyd y dirgelwch wedi siarad â'r perchennog drwy gwsmer arall sydd yn medru Saesneg. Roedd y perchennog yn byw yn Fenis am flynyddoedd yn dysgu coginio Fenesiaidd mewn un o'r tai bwyta o fri. Gobeithio y ca' i gyfle i brofi'r blas pan a' i i Tokyo y tro nesaf.

Monday, July 13, 2015

ffyrdd eraill

Cerddais o gwmpas yr ysgol uwchradd y bore 'ma eto tra oedd fy mab yn rhedeg. Es i at yr ardal roeddwn i a'r teulu'n arfer byw am dri mis cyn symud i'r tŷ presennol. Roedd yn fwll ond digon pleserus yn y cysgodion. Dwedodd brawd y gŵr fod o'n gwerthfawrogi cymaint o wyrddni wrth weld y llun a bostiais ar Face Book. Mae o'n byw yn Las Vegas yng nghanol anialwch a medrai tymheredd godi hyd at 108F/42C weithiau. Mae'n sych serch hynny, nid fel Oklahoma lle medrech chi deimlo'r lleithder yn yr awyr.

Sunday, July 12, 2015

yn gymraeg hefyd

Fe wnes i'r un fath yn Gymraeg; roeddwn i'n chwylio am erthyglau diddorol gan deipio ar Google, "teithio yn yr Eidal/Ffrainc" a dod o hyd i lyfr gan O.M. Edwards o'r enw Teithio'r Cyfandir o'r Bala i Geneva. Tro yn yr Eidal Tro yn Llydaw. Dim ond £4 ydy o ond penderfynais beidio â'i brynu oherwydd y tâl post - £7.90 i America. Yna, des i ar draws gwefan i blant sydd yn llawn o erthyglau diddorol, sef Gweiddi. Darllenais i erthygl am y twnnel rhwng Dover a Calais ac am y Cymro a gynlluniodd twnnel ei hun ar yr un lle a dechrau ei godi ddiwedd 19ed ganrif. Rhaid darllen yr erthygl i wybod beth wedi digwydd i'w brosiect.

Saturday, July 11, 2015

ffeindio erthyglau

Yn aml iawn nad oes gen i ddigon o bethau i ddarllen i ymarfer fy Eidaleg. Dw i ddim eisiau dim byd diflas. Rhaid bod y pwnc yn ddiddorol er mwyn i mi ddal ati ddarllen. Pan na fedra' i ffeindio newyddion diddorol ar dudalen il Gazettino, bydda i'n teipio, "sut i wneud...." (yn Eidaleg) a chael gwefannau amrywiol. Heddiw ffeindiais erthygl ar sut i ddysgu'ch babi chi i siarad. Roedd yn ddiddorol a hefyd rhoi cyfle i mi ddysgu geiriau newydd.

Friday, July 10, 2015

ar y bryn

Mae'r gŵr yn Japan ar hyn o bryd am fusnes. Galwodd heibio i Kobe ar ei ffordd lle roedden ni'n arfer byw ynddo am bum mlynedd. Wedi gweld y ffrindiau annwyl yno, aeth hefyd i'r fynwent lle mae llwch fy nhad yn gorffwys ym medd yr eglwys. Mae'r fynwent ar y bryn wedi'i hamgylchynu gan goed trwchus. Mae gan y bedd olwg siriol yn cymharu â'r lleill o'i gwmpas. Argraffwyd arno fo, "yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni."

Thursday, July 9, 2015

at gyfeiriad arall

Es i â fy mab ifancaf i'r ysgol y bore 'ma am 6:30 iddo redeg efo'r tîm cross country, a mynd am dro tra oeddwn i'n aros amdano fo. At gyfeiriad gwahanol es i'r tro hwn. Es i'r De a throi i'r dde. Downing Street, un o'r prif strydoedd prysur yn y dref ydy hon, ond mae hi'n rhedeg yng nghanol ardal breswyl tuag at y gorllewin. Roedd y stryd yn ddistaw ac yn lân efo coed enfawr ar y ddwy ochr. Doedd neb yn symud ar yr adeg honno. Cerddais yn hamddenol heb wrando ar fy iPod er mwyn clywed sŵn y natur. Roeddwn i'n gobeithio troi i'r chwith i barhau fy ngherdded, ond aeth y ffwrdd i ben yn sydyn. 

Wednesday, July 8, 2015

baner

Gyrrodd fy merch hynaf lun a dynnodd gan ei ffôn yn Norman, Oklahoma. Mae'n anodd gweld y peth bach ar y car yn y llun - baner Gymru ydy hi! Pwy? Pam? Sut ar y ddaear? Roedd gen i gynifer o gwestiynau, ond doedd dim modd i gael atebion. Pe bai hi efo'r Heddlu fel mae hi'n gwneud yn aml, byddai hi fod wedi medru stopio'r car efo'r faner a gofyn y gyrrwr! Am siom.

Tuesday, July 7, 2015

mwy o law

Roeddwn i'n meddwl bod y tymor glaw yn Oklahoma wedi drosodd, ond pa mor anghywir roeddwn i. Dechreuodd hi fwrw glaw'n drwm eto a bydd hi am bara am ddyddiau nesaf. Er gwaethaf y tywydd, roedd rhaid i mi fynd i siopa'r bore 'ma. Aeth fy merch efo fi i gael torri ei gwallt. Roeddwn i'n wlyb socian wrth gerdded ar faes parcio Walmart ond roedd hi'n sych braf oherwydd ei bod hi'n gwisgo côt law a brynodd yn Llundain! 

Monday, July 6, 2015

archebu pizza ar lein

Roedd siop Pizza Hut ar gau am fisoedd wedi cael difrod rhannol gan dân. Maen nhw newydd ailagor a dyma archebu pizza ar gyfer penblwydd fy mab ifancaf. Roeddwn i'n arfer eu ffonio nhw, ond y tro 'ma penderfynais ddefnyddio'r dechnoleg newydd, hynny ydy archebais pizza ar lein. Roedd yn hwyl! Roedd fel gêm "crëwch eich pizza." Es i'r siop ar yr amser dewisais, a gweld peth tebyg i fwrdd amserlen gorsaf trên. Roedd y pizza'n barod. Des â nhw adref a'u mwynhau efo'r teulu.

Sunday, July 5, 2015

penblwydd arall

Cafodd fy mab ifancaf ei eni ddydd ar ôl penblwydd America, yn Oklahoma, yn y tŷ hwn, yn fy ystafell wely, rhwng y gwely a'r gist ddroriau gyda chymorth dwy fydwraig. Mae o newydd droi'n 16 oed. Mae o'n ifancaf yn y teulu ond y talaf (6"2 neu 189 cm.) Dathlon ni ei benblwydd heddiw efo cacen a wnes i (roedd hi'n flasus iawn er fy mod i'n dweud fy hun) dilynwyd gan dwrnamaint Speed. Y fo a enillodd wrth dderbyn gwobr ariannol ($5.) Dan ni'n mynd i archebu pizza gan Pizza Hut i swper heno.

Saturday, July 4, 2015

4 gorffennaf

Penblwydd hapus i America. Bydded i'w phobl droi'n ôl at Dduw sydd wedi ei bendithio ac at  egwyddor y tadau dewr a osododd y sylfaen ar y genedl o fri hon.

Friday, July 3, 2015

melon dŵr

Cafodd fy merch (ac mae hi'n dal i gael) sioc ddiwylliannol gwrthdro wedi dod adref o Brydain. Y peth cyntaf a'i tharo hi oedd y gwres a deimlodd hi chwap ar ôl disgyn yr awyren yn Houston, Texas;  roedd hi'n sylwi ar unwaith bod y dŵr yn blasu'n wahanol; cafodd hi sioc i weld bod ei ffrindiau'n gofyn cwestiynau personol i weinydd mewn tŷ bwyta. Y peth roedd hi'n edrych ymlaen at wneud yma (ar wahân i weld y teulu a'i ffrindiau) oedd bwyta melon dŵr i ginio 4 Gorffennaf. Es i siopa'r bore 'ma ond anghofio prynu un. Rhaid gofyn i'r gŵr fynd i'r siop agos heno.

Thursday, July 2, 2015

french press

Mae fy merch hynaf wrth ei bodd efo French Press. Mae hi'n mynnu mai'r coffi a gafodd ei baratoi ynddo ydy'r gorau. Roeddwn i'n chwilfrydyg ond dw i ddim yn hoffi teclyn sydd angen gormod o gadw a chynnal (fel Keurig!) A dyma greu French Press fy hun heb brynu dim byd. Yr unig beth sydd angen ydy llwy de. Ar ôl i'r dŵr poeth wedi mynd drwy'r hidlo, gwthiwch y coffi i lawr efo llwy er mwyn gwasgu'r holl hylif yn y gwpan dan yr hidlo. Dyna ni! Roedd fy café ou lait yn blasu'n hynod o dda'r bore 'ma.

Wednesday, July 1, 2015

mae hi'n ôl

Mae fy merch newydd ddod adref yn ddiogel wedi treulio mwy na phum mis ym Mhrydain. Roedd yn rhyfedd ei gweld hi'n dod allan o'i hystafell y bore 'ma! Mae gynnon ni gymaint i adrodd efo'n gilydd. Rhaid ei wneud o fesul dipyn. Ces i ddarn o gacen gri efo panad yn ddiolchgar. Gwelais y cwrs llyfr Cymraeg a ddysgodd hi yn y brifysgol, sef Cwrs Mynediad Dwys. Mae opera sebon ynddo fo a dyma ddechrau ei darllen. Mae hi'n debyg i Ysbyty Wlpan yng nghwrs Prifysgol Bangor. Mae o'n ddoniol ond dw i'n cael trafferth dallt rhai geiriau hwntw!