Saturday, October 30, 2021

deilen

Mae'r coed yn prysur newid lliwiau eu dail. Dw i'n mwynhau mynd am dro yn yr heulwen ysgafn yn y bore cyn i bawb yn y gymdogaeth ddechrau eu tasgau tu allan. Fedrwn i ddim peidio â chodi un o'r dail llachar wrth ochr iard cymydog eto. Bydd hi'n addurno ein bwrdd ni.

Friday, October 29, 2021

sioe gelf ddigidol

Mae arddangosfa gelf ddigidol yn cael ei chynnal yn Tokyo rhwng Hydref 28 a Thachwedd 3, gan farchnad NFT. Mae fy merch hynaf wrthi'n creu celf yn y modd newydd sbon ers misoedd, a chafodd hi gyfle i arddangos ei waith yno. Yn anffodus, mae'n rhy anodd iddi deithio i Japan ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau cyfredol, ac felly rhaid iddi golli bod yn bresennol ar yr achlysur pwysig.

Wednesday, October 27, 2021

hen lun

Daeth fy merch o hyd i hen luniau ar ei ffôn, a'u rhannu nhw gyda'i theulu. Cawson ni chwerthin braf wrth gofio'r adeg bron i 20 mlynedd yn ôl. Dyma un ohonyn nhw - fy ngŵr yn siarad ar ffôn hynafol o flaen y tân clyd yn gwisgo'r un siwmper a'r crys melyn sydd ganddo hyd at heddiw.

Tuesday, October 26, 2021

caserol

Roeddwn i'n osgoi defnyddio'r popty yn ystod y tywydd poeth, ond wrth iddi droi'n hydrefol, dyma ddechrau coginio caserolau eto. Mae'n well gen i gaserolau oherwydd fy mod i'n medru glanhau'r llanast yn y gegin tra bod nhw'n cael eu gwneud yn y popty. Dyma'n swper ni neithiwr - caserol macaroni gyda thiwna, penwaig a brocoli.

Monday, October 25, 2021

golygfa

Wedi i fy merch gami allan o ddrws blaen ei fflat ar y 12fed llawr yn Tokyo, cafodd hi ei tharo gan yr olygfa anhygoel honno yn y pellter. Mae hi a'i ddwy chwaer yn byw mewn lle rhyfeddol.

Saturday, October 23, 2021

bendith arall


Mae'n dair wythnos ers i'r mab ifancaf ddechrau ei fywyd newydd. Cafodd ei arwain at gwmni gwych gyda staff clên mewn tref fach gyda phobl gyfeillgar a chymwynasgar. Dwedodd ei fod o'n dod ar draws bobl felly ym mhob man, fel pe bai ond pobl glên yn byw yno! 


Friday, October 22, 2021

diwrnod hydrefol

Mae hi wedi bod yn hynod o braf yn ddiweddar - tywydd nodweddiadol o'r adeg yma. Dyma gymryd mantais ar yr heulwen dyner sydd yn dod drwy'r ffenestri. Ces i ginio sydyn fel hyn wrth wylio fideo yn Eidaleg a Ffrangeg. Gobeithio nad oedd y cymdogion yn fy ngweld i!

Wednesday, October 20, 2021

lleuad heliwr

Mae'n anodd gweld y lleuad o ddec cefn, a dweud y gwir,  oherwydd y coed sydd yn llenwi'n hiard ni. Roeddwn i'n benderfynol, fodd bynnag, i'w gweld hi'n gyflwr llawn ar ôl Noson y 13eg. Dyma gami allan ar y dec am ddau o'r gloch yn y bore, yr unig gyfle iddi ddod allan o'r rhwystr (y coed.) Roedd hi'n disgleirio'n llachar yng nghanol y nef yn goleuo'r noson ddistaw. Methais fynd yn ôl i gysgu wedyn, ond roedd yn werth chweil.

Tuesday, October 19, 2021

twmplenni

Er mwyn dathlu Noson y 13eg, coginiodd fy merch hynaf dwmplenni yn ôl yr erthygl gysylltiedig gan ei chwaer, a gosod addurniad chwaethus gyda nhw. Bwytaodd hi 13 o'r twmplenni "ar ddamwain," meddai! (Mae hi i fod ar ddeiet.)

Monday, October 18, 2021

llai na pherffaith

Dathlir Noson y 15fed, gŵyl y lleuad (o China yn wreiddiol) yn Japan ym mis Medi. Y mis yma, dathlir Noson y 13eg heddiw. Dathliad unigryw o Japan ydy o. Ar y noson hon, mae'r lleuad ar ei hail orau o'r flwyddyn gyfan. Ces i gip ar y lleuad neithiwr cyn yr ŵyl. Roedd hi'n hynod o hardd. Mae'n mor nodweddiadol o draddodiad a diwylliant Japan gwerthfawrogi pethau llai na pherffaith.

Saturday, October 16, 2021

murlun ar furlun

Cafodd fy merch hynaf siom mawr fel artist. O ganlyniad yr economi ddrwg ddiweddar, roedd y tŷ bwyta mae hi wedi paentio murlun ar y wal, yn gorfod cau. Bydd o'n troi'n un newydd yn cynnig bwyd Gwlad Laos. Gofynnodd y perchennog i fy merch baentio murlun newydd ar yr un wal. Er bod hyn yn gyfle arall iddi, mae'n ofnadwy o dorcalonnus iddi weld ei gwaith celf yn cael ei ddileu gyda phaent llwyd. 

Thursday, October 14, 2021

mae pawb ar ei ennill

Mae llecyn penodedig ar gornel ein hiard ni ar gyfer dail a changhennau sych. Mae pentwr sylweddol erbyn hyn. Oherwydd y pwysau, cewch chi ffeindio tomwellt cyfoethog dan y pentwr. Daeth ffrind (ein deintydd mae o,) sydd yn garddio'n helaeth, i'w nôl y bore 'ma. Roedd y gŵr yn hapus gan ei fod o'n medru lleihau'r pentwr tra bod ein ffrind yn cael tomwellt gwych yn rhad ac am ddim.

Wednesday, October 13, 2021

gwell hwyr na

Dw i a'r gŵr newydd sylweddoli bod ni'n dal i dalu am ffôn ein merch ifancaf ers iddi symud i fyw yn Japan 18 mis yn ôl, a hithau heb ei ddefnyddio. Roedden ni'n meddwl mai pris cynhwysfawr oedd y bil. Mae'n amlwg nid felly. Rhoddon ni bron i 600 o ddoleri yn anrheg i AT&T. Ond gwell hwyr na hwyrach. Mae popeth yn iawn rŵan; byddwn ni'n talu 32 doler yn llai o hyn ymlaen.

Tuesday, October 12, 2021

gwaharddir mwgwd


"Gadewch y mwgwd, cymerwch y cannoli." Dyma'r arwydd gan Basilico’s Pasta e Vino, tŷ bwyta Eidalaidd yn California. Tony Roman, perchennog y tŷ bwyta yn sefyll yn gadarn yn erbyn y polisïau gormesol brechu, gan eu galw'n wrth-Americanaidd a hurt. Mae o'n gwahardd mygydau'r tu mewn. Daeth neb i'r tŷ bwyta yn gyntaf, ond wrth i'w ddewrder gael ei wybod, dechreuodd cwsmeriaid ddod, hyd yn oed o dalaith eraill, i'w gefnogi. Go dda ti, Tony! Mae angen mwy o bobl fel ti ar y byd.

Monday, October 11, 2021

neb, syr

Mae fy merch yn Japan yn cymryd rhan yn Inktober, a cheisio creu un darluniad bob dydd yn ystod mis Hydref. Mae hi'n darlunio yn seiliedig ar adnodau'r Beibl. Dw i'n hoff iawn o'r darluniad hwn (Efengyl Ioan 8:1-11); mae gan Iesu wyneb hynod o dosturiol. Cewch chi deimlo trugaredd Duw tuag at y ddynes.

“Neb, syr," meddai hithau.


Saturday, October 9, 2021

armadillo

Yr unig armadillo a welais erioed ydy rhai wedi marw ar ochr strydoedd mawr. Pan es i am y tro'r bore 'ma, fodd bynnag, ces i fy synnu'n weld un mewn iard yn y gymdogaeth. Roedd o'n prysur chwilio am fwyd yn y glaswellt, a heb roi sylw ar neb. Bwytawyr pryfed maen nhw, ac maen nhw'n bwyta morgrug gwyn hefyd yn ôl rhyw wybodaeth. 

Friday, October 8, 2021

murlun newydd yn okc

Dyma furlun newydd gan fy merch! Mae cymeriad Kabuki yn syllu'n finiog arnoch chi! Dwedodd hi fod y wal honno'n hynod o heriol oherwydd coeden fawr sydd yn rhwystro'r olygfa a phibell ddraenio ar y wal. Cafodd hi gyngor gan artist arall wedyn; "goresgyn pob anhawster ydy gwaith murluniwr hefyd." Doeth iawn.

Tuesday, October 5, 2021

penawdau gan y wenynen


Pa fath o benawdau byddai'r Wenynen wedi ysgrifennu pe bai hi yn bodoli yn adeg y Beibl? Dyma nhw! Dw i'n gobeithio y cewch chi hwyl a chwerthin braf. Beth ydy eich hoff benawdau chi? Fy ffefrynnau ydy:

Angel yn Exodus
Wal Jericho
Goliath fel menyw
Phariseaid, Iesu a gwahanglwyf
Pilat a germaphobia
Ioan ar Ynys Patmos

Monday, October 4, 2021

12 -1

Mae fy ŵyr newydd ymuno â thîm pêl-droed dan chwech oed. Mae gêm yn y cynghrair ar ddydd Sadwrn. Aeth ei daid i'w gefnogi dros y penwythnos diwethaf. Yn anffodus, collodd ein tîm o 12 - 1. (Rwydodd rhai plant i'w gôl eu hun.) Roedd yn ymddangos, fodd bynnag, bod ein hŵyr yn mwynhau'r diwrnod, yn enwedig y bisgedi a gafodd ar ôl y gêm!

Saturday, October 2, 2021

cam newydd


Mae'r mab ifancaf yn cymryd cam newydd heddiw wrth adael cartref yn swyddogol. Wedi rhoi cais yn helaeth am ddau fis, llwyddodd i gael swydd mewn cwmni cynhyrchion trydanol yn Nhalaith Missouri. Bydd o'n cychwyn ymhen deuddydd. Ar ôl tri mis, bydd o a'r cwmni'n penderfynu a fyddan nhw'n fodlon parhau'r contract neu beidio. Trefniant gwych i'r ddwy ochr heb os.

Friday, October 1, 2021

y mis heb dduwiau



Mis Hydref - Kannazuki ydy'r enw traddodiadol Japaneg. Mae o'n golygu "mis heb dduwiau." Yn ôl y chwedl, mae duwiau Japan (rhyw wyth miliwn mwy neu lai) yn ymgasglu yn Sir Shimane am gynhadledd unwaith y flwyddyn i drafod y flwyddyn nesaf. O ganlyniad, na fydd duwiau yng ngweddill y tir, ond peidiwch â phoeni; byddan nhw'n gadael ychydig ohonyn nhw i wneud yn siŵr yr eith popeth yn iawn yn eu habsenoldeb!