Friday, March 31, 2017

gwanwyn

Mae'n anhygoel o braf fy mod i'n medru mynd am dro yn y gwanwyn! Roeddwn i'n arfer gorfod aros tu mewn cymaint â phosib oherwydd fy alergedd. Mae'r tymor yn para am dri mis o leiaf, ac felly roeddwn i'n methu mwynhau'r blodau a gwyrddlesni'r dail ers blynyddoedd. Eleni, fodd bynnag, roeddwn i'n sylwi nad oeddwn i'n tisian ar ôl cerdded tu allan. Effaith y driniaeth geiropracteg rhaid bod! Wedi cael damwain flwyddyn yn ôl, dw i'n mynd at y doctor yn gyson hyd yma er fy nghefn wedi gwella. Dw i'n teimlo'n braf cael triniaeth beth bynnag. Doeddwn i ddim yn disgwyl yr effaith ar fy alergedd. Syndod pleserus annisgwyl!

Thursday, March 30, 2017

anymarferol

Bwriad nobl, ond na fydd yn gweithio oherwydd y natur sylfaenol ddynol . Dw i'n sôn am waharddiad ar arfau niwclear a gynigwyd gan y Pab Francis at y Cenhedloedd Unedig. Mae'n debyg i waharddiad ar gynnau; dim ond y bobl sydd yn parchu'r gyfraith a fydd yn ufudd i'r gwaharddiad, ac felly dim ond y drygionus a fydd yn berchen ar yr arfau wrth adael y bobl dda heb fodd i amddiffyn eu hun. Diolch i Nikki Haley a lefarodd yn erbyn y syniad ar unwaith.

Wednesday, March 29, 2017

sodlau i gigio

Mae pawb wrth ei fodd efo hi - pawb, sef y rhai sydd yn caru Israel. Mynegodd Nikki Haley ei chefnogaeth gadarn i Israel unwaith eto o flaen cynulleidfa AIPAC. Nid dim ond yn y gair; atal gwnaeth hi hyd yma dau ymosodiad yn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Israel. Dwedodd hyd yn oed ei bod hi'n gwisgo sodlau er mwyn cicio unrhyw un fydd yn bwlio Israel! (symbolaeth, neu pwy a ŵyr?) Wrth gwrs ei bod hi'n medru bod yn ddewr felly oherwydd yr Arlywydd Trump. Mae hi'n adlewyrchu ei bolisi. Gwych ydy hi beth bynnag.

Tuesday, March 28, 2017

corea

Mae fy nwy ferch yn Corea ar eu gwyliau ers dyddiau. Roedd un o'r ddwy'n gweithio fel athrawes Saesneg yno am flwyddyn o'r blaen ac felly mae ganddi nifer o ffrindiau. Mae hi'n medru dangos y lle oedd hi'n arfer byw i'w chwaer tra bod nhw'n cael amser gwych. Mae'r dref yma'n edrych fel Japan, ac eto mae yna wahaniaethau trawiadol hefyd.

Monday, March 27, 2017

brwydr

Roeddwn i wedi gohirio'r gorchwyl hwn. Yn awr neu byth. Roedd y pridd yn feddal wedi glaw trwm; roedd hi'n oeraidd, efallai am y tro olaf yn y tymor. Penderfynais chwynnu gwely'r gellesg glas. Fel disgwyliwyd, roedd yn ofnadwy. Cafodd o ei feddiannu gan chwyn nerthol anghyfreithlon yn llwyr, ac roedd y trigolion cyfreithlon druan yn cael eu llethu gan yr ymwthwyr. Dyma ddechrau'r gwaith yn ffyrnig. Ar ôl hanner awr mae'r gwely blodau'n dwt, ac mae'r gellesg glas yn edrych yn hapus a diolchgar.

Saturday, March 25, 2017

darlunio

Wedi treulio wythnos o wyliau yn cysgu'n ddigon ac yn ymlacio gartref , aeth fy merch ifancaf yn ôl i'r brifysgol yn Missouri heddiw i ail-ddechrau tymor prysur. Ar wahân i wneud y gwaith cartref, roedd hi wrthi'n darlunio golygfa oddi wrth y fersiwn ddiweddaraf the Beauty and the Beast. Rhaid i mi ddweud ei bod hi'n hynod o dda. Mae'r tŷ'n ddistaw iawn unwaith eto.

Friday, March 24, 2017

llysgennad i israel

Cafodd David Friedman ei gadarnhau fel y llysgennad i Israel o'r diwedd er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig gan y Democratiaid (ar wahân i Mr. Manchin annwyl) a'r rhyddfrydwyr gan gynnwys rhai Iddewon rhyddfrydol hyd yn oed. Dewiswyd gan yr Arlywydd Trump efo'i holl fendith, mae o'n ddyn perffaith i'r swydd bwysig hon. Mae o'n barod i gychwyn gweithio yn Jerwsalem, prif ddinas Israel. Pob bendith.

Thursday, March 23, 2017

seddau cynnes

Roedd yn oer iawn yn annisgwyl pan aeth fy mab i Japan. Dim ond siaced ysgafn, het a menig roedd ganddo i gadw'n gynnes. Wedi iddo a'r criw'n cerdded o gwmpas am oriau bob dydd, roedd yn ollyngdod mawr i eistedd ar seddau cynnes y trên. Mae yna wresogydd o danyn nhw. Roedd fy mab wrth ei fodd efo nhw a seddau cynnes tai bach yn Japan!

Tuesday, March 21, 2017

enfys a mellten

Rodd gan yr awyr liw rhyfedd pan gamais allan o'r drws blaen y bore 'ma fel pe bai tornado ar fin dod. Yna, roeddwn i'n sylwi hanner enfys. Dechreuodd daranu. Rhyfedd iawn gweld enfys a mellten efo'i gilydd. Wedi cerdded am sbel dyma weld enfys gyfan. Roedd hi'n dal i daranu. Daeth glaw ysgafn. Cerddais yn ôl adref wrth ganu Hu Yavo (mae o'n dod.)

Monday, March 20, 2017

doethach nag oedolion

11 oed ydy hi, ac eto mae hi'n gwybod beth mae hi'n ei dweud, ac mae hi'n iawn! (Dw i' meddwl mai ei thad sydd yn mynegi ei farn yn aml wrthi hi.) Mae hi'n ddoethach na chynifer o oedolion. Efallai bydd hi'n ymladd dros gyfiawnder yn ffyrnig fel Judge Jeanine Pirro pan fydd hi'n hŷn. Mae'r fideo hwn yn cael ei anwybyddu gan brif gyfryngau America tra bod rhai Tsieineaidd yn ei ddosbarthu'n helaeth.

Saturday, March 18, 2017

adref

Mae fy mab newydd ddod adref wedi cael gwyliau gwych yn Japan. Gan fod ei chwaer a'i gŵr eisiau gadael dydd Llun, teithiodd ar ben ei hun. Aeth popeth yn iawn ar ei ffordd. Mae'n cymryd llai o amser oherwydd bod y gwynt cryf yn gwthio awyrennau. Mae o wedi blino'n lân fodd bynnag ac yn cysgu rŵan. Edrycha' i ymlaen at weld y lluniau.

Friday, March 17, 2017

safon ddwbl

Dw i ddim yn deall sut ar y ddaear gall barnwr atal Arlywydd America rhag amddiffyn pobl America yn erbyn perygl cenedlaethol eithafol . Gwnaethpwyd, fodd bynnag, tro ar ôl tro. Hollol ragrithiwr ydy'r barnwr o Hawaii yn y digwyddiad diweddaraf. Dim ond saith ffoadur derbyniodd Hawaii yn 2015, a doedd neb yn dod o'r chwe gwlad yn Nwyrain Canol. "Syfrdanol ydy'r safon ddwbl" unwaith eto.

Thursday, March 16, 2017

siom a gobaith

Tra ces i fy siom na enillodd plaid Geert Wilders y mwyafrif yn yr etholiad yn yr Iseldiroedd, mae'n braf clywed bod hi wedi ennill pum sedd ychwanegol, ac felly daeth hi'n ail; collodd y blaid fwyaf wyth sedd. Na chafodd Mr. Wilders ei guro i'r llawr chwaith; mae o'n dal yn benderfynol a dewr dros ei wlad. Dymunaf y gorau iddo fo a phobl yr Iseldiroedd.

Wednesday, March 15, 2017

happy house

Prynais falwr ffa coffi; peth newydd sbon i mi. Es i'r siop bwyd iechyd yn y dref am goffi ffa cyfan; maen nhw'n rhostio ffa yn y siop. Dewisais ffa o'r enw Happy House. Dyma falu ychydig i wneud paned. Mae'r ffa'n arogli'n hyfryd. Dw i ddim yn siŵr pa un sydd yn gyfrifol am y paned gwych - y malwr neu'r ffa. Rodd yn goffi hynod o flasus heb fod yn sur o gwbl.

Tuesday, March 14, 2017

rhagolwg

Wrth fy mab ifancaf yn treulio wythnos yn Japan, dim ond y fi a'r gŵr sydd gartref. (Ydw i'n clywed atsain yn y tŷ rhy fawr i ni'n ddau?) Gan fod y gŵr ar wyliau'r brifysgol hefyd, mae ganddo fo amser i wneud y pethau o gwmpas y tŷ o'r diwedd. Does dim rhaid i mi goginio llawer, na golchi dillad bob dydd. Rhaid bod hyn i gyd yn rhagolwg ein dyfodol (agos) ni!

Monday, March 13, 2017

Japan - kimono

Mae fy mhlant yn cael gwyliau hyfryd yn Japan. Cafodd fy mab ei daro gan y ffaith bod Japan yn anhygoel o lân a bod y bobl yn hynod o glên. Cawson nhw ynghyd eu dwy chwaer yno ddiwrnod hynod o arbennig - roedd tiwtor kimono fy drydedd ferch yn glên iawn i gynnig rhoi kimono arnyn nhw i gyd gan gynnwys yr hogiau. (Sgil arbennig ydy gwisgo kimono ar eich pen eich hun.) Cerddon nhw i deml gerllaw yn eu kimono ar gyfer tynnu lluniau. Roedd y tiwtor wedi blino'n lân ond hapus!

Sunday, March 12, 2017

gŵyl pwrim hapus

Hamantaschen ydy'r melysion nodweddiadol ar gyfer Gŵyl Pwrim. Dyma fy fersiwn - burrito ffa. 

Saturday, March 11, 2017

ar gyfer y fath amser â hwn

Mae Gŵyl Pwrim arnon ni dros y penwythnos - yr amser i gofio bod Duw wedi achub yr Iddewon rhag dinistrio yn Persia rhyw 2,500 mlynedd yn ôl. Mae'n achlysur llawen i'r Iddewon efo gorymdeithiau a phartïon ayyb. Yma yn Oklahoma, fodd bynnag, dw i a'r teulu'n ail-ddarllen hanes Esther a diolch i Dduw am ei ffyddlondeb. Dyma'r fideo gorau amdani hi yn fy nhyb i.

Friday, March 10, 2017

llyfr newydd

"Ymchwiliwyd yn drylwyr; cynhwysfawr ac eto cryno; treiddgar; aruthrol; llenyddiaeth ryfeddol; y llyfr gorau a brynais erioed" - hyn ydy ond rhan o ganmoliaeth a roddwyd i'r llyfr newydd sbon hwnnw sydd yn dod i frig Amazon. Reasons To Vote For Democrats: A Comprehensive Guide ydy'r teitl gan Michael J. Knowles. A dweud y gwir, mae gan 266 o dudalennau ond papurau gwyn heb air. (Haha, i'r dim!) Peth diddorol ydy bod cynifer o bobl wedi ei brynu ar bris $8.03. Efallai bod nhw wedi talu am y cyfle i bostio adolygiad!

Thursday, March 9, 2017

siwrnai fawr

Cychwynnodd y tri ar siwrnai fawr heddiw - fy merch hynaf, ei gŵr a fy mab ifancaf. Maen nhw newydd adael maes awyr Dallas i fynd i Japan. Byddan nhw'n aros yn Tokyo am ryw ddeg diwrnod yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn cael profiad uniongyrchol o Japan. Y tro cyntaf ydy hwn i fy mab i fynd i Japan; bydd o'n cael hwyl heb ddrysu efo ei chwaer a'i gŵr yn ei dywys o gwmpas.

Wednesday, March 8, 2017

pêl-fas

Safai tîm pêl-fas Israel gyda kippa ar ben pawb wrth wrando ar anthem genedlaethol. Er bod nhw ar waelod rhestr Bêl-fas Clasurol y Byd eleni, fe wnaeth y tîm yn ardderchog a churo timau De Corea a Taiwan yr wythnos 'ma. Byddan nhw'n chwarae yn erbyn yr Iseldiroedd yfory. Os byddan nhw'n ennill, byddan nhw'n chwarae yn Japan, yn erbyn tîm Japan mae'n debyg. Bydda i'n cefnogi tîm Israel!

ON: Enillon nhw! 4-2!


Tuesday, March 7, 2017

adlewyrchiadau oklahomanaidd

Cawson ni storm ofnadwy o gryf neithiwr. Roeddwn i'n ofni y byddai ffenestr fy ystafell wely yn cael ei chwalu hyd yn oed oherwydd y gwynt nerthol. Roedd popeth yn iawn y bore 'ma, fodd bynnag ar wahân i rai canghennau a syrthiodd yn yr iard gefn. Golchodd y storm yr awyr yn lân, ac roedd yn fore braf. Des i ar draws coeden flodeuog yn y goedwig.

Monday, March 6, 2017

un gwell

Mae'r Arlywydd Trump newydd arwyddo gorchymyn gweithredol newydd bydd yn gwahardd y teithwyr o'r chwe gwlad am 90 diwrnod. Mae o'n llawer gwell na'r un gwreiddiol oherwydd mai y llysgenadaethau a fydd yn delio efo'r bobl yn hytrach na meysydd awyr America. Bydd o'n atal y barnwyr anffyddlon rhag ymyrryd ar orchymyn yr Arlywydd hefyd. Dydy o ddim yn cynnwys Irac oherwydd ei bod hi'n addo i fod yn llym. Mae'r rhyddfrydwyr yn gandryll unwaith eto, ond maen nhw yn erbyn popeth mae'r Arlywydd yn ei wneud bob amser, ac felly dim ots.

Saturday, March 4, 2017

fideo hebraeg/ffrangeg

Dw i newydd ffeindio cyfres o fideo diddorol i ddysgu Hebraeg drwy gyfrwng y Ffrangeg. Dim gwersi ydyn nhw yn y bôn ond erthyglau newyddion, cynhyrchion newydd, deialogau, geiriau a gramadeg neu ddwy. Y peth braf ydy bod nhw i gyd yn fyr iawn. Yn aml dw i ddim yn medru gwahaniaethu'r Hebraeg a'r Ffrangeg oherwydd bod y tiwtor yn siarad yn gyflym heb stopio. Maen nhw'n ddiddorol beth bynnag. Dw i wedi dysgu "toes ar gyfer crwst efo saws tomato, yn addas i pizza hefyd."

Friday, March 3, 2017

3 mawrth

Gŵyl Ferched Hapus i'r holl ferched, hen ac ifanc! Roeddwn i'n barod eleni; tynnais fy noliau allan o'r blwch ddyddiau'n ôl, ynghyd â'r hen bapur newydd a ddefnyddir fel padin. Papur newydd Saesneg o Japan dyddiwyd 27 Mehefin, 1990 - y flwyddyn symudais efo'r teulu i America.

Thursday, March 2, 2017

chwech

Maen nhw wedi goroesi'r nosweithiau oer. Er bod y nifer wedi gostwng i chwech, mae'n tiwlipau ni'n ymddangos yn iawn. Dim ond un a flodeuodd y llynedd; gobeithio y cawn ni weld mwy o flodau eleni. 

Wednesday, March 1, 2017

gŵyl dewi

Gŵyl Dewi Sant Hapus o Oklahoma. Bydda i'n crasu Bara Brith a choginio cawl cennin heddiw.