Tuesday, October 31, 2023

gan strategaeth ddoeth

Mae fy merch hynaf newydd orffen paentiad er mwyn dangos ei chefnogaeth dros Israel. Enwodd o yn "Gan Strategaeth Ddoeth" sydd yn dod o Ddiarhebion 24:6. Hoopoe ydy'r adar, sef aderyn cenedlaethol Israel.

Monday, October 30, 2023

cwestiwn

"Dw i'n deall bod yr Arabaidd eisiau ein dinistrio ni'n llwyr, ond ydyn nhw wir yn disgwyl i ni gydweithredu?" - Golda Meir

Saturday, October 28, 2023

moliannwch Dduw


Mae aelodau IDF yn canu, yng nghanol yr holl heriau eithafol. Mewn caeau, ffosydd, gwersylloedd, a thanciau maen nhw'n canu. Roedd milwr wedi'i anafu hyd yn oed yn addoli Duw yn canu ar wely mewn ysbyty. Moliannwch Dduw Israel i fuddugoliaeth fel byddin Frenin Jehosaffat!

Friday, October 27, 2023

rhan fach

Y dydd hwnnw, gwnaeth yr Arglwydd gyfamod ag Abram a dweud: “I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.” Genesis 15:18

Dim ond rhan fach o'r tir a addawyd gan Dduw y mae Israel yn berchen arni hi heddiw. Ac eto, mae'r byd eisiau iddyn nhw roi'r gorau i fwy.

Wednesday, October 25, 2023

adnod

Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei gynorthwyo, ac y mae ei obaith yn yr Arglwydd ei Dduw, creawdwr nefoedd a daear a'r môr, a'r cyfan sydd ynddynt. Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth.
Y Salmau 146: 5, 6

Tuesday, October 24, 2023

os ydych chi wir yn caru Iesu

"Bradychodd yr Eglwys yr Iddewon trwy aros yn dawel yn ystod yr Holocost. Rŵan, yng nghanol pogrom tebyg, rhaid i ni sefyll gyda nhw, yn gadarn a di-ofn. Oherwydd os ydych chi wir yn caru Iesu, byddwch chi'n caru'r Iddewon."  - Charles Gardner

Monday, October 23, 2023

peth mae Duw yn ei gasáu

Mae enw hamas (acronym) yn Arabeg yn golygu brwdfrydedd, sêl neu ysbryd ymladd. Mae gan y gair ystyr yn Hebraeg hefyd, sef trais, ac mae o'n ymddangos dwywaith yn y Beibl - Genesis 6:11, 13. Mae hamas (trais) yn rhywbeth mor ofnadwy nes i Dduw benderfynu dinistrio dynoliaeth o’i herwydd. Diolch am y wybodaeth i Israel Today.

Saturday, October 21, 2023

cost i fod yn wladgarwr

"Ar ddechrau cyfnewidiad, mae'r gwladgarwr yn ddyn prin ac yn ddewr; ceith ei gasáu, a'i ddirmygu. Pan fydd ei achos yn llwyddo, bydd yr ofnus yn ymuno ag ef oherwydd na fydd yn costio i fod yn wladgarwr." Mark Twain

Friday, October 20, 2023

kagome

Patrwm Japaneaidd traddodiadol a ddefnyddir i atal drygioni ydy Kagome. Fe'i defnyddir yn aml ar gyfer basgedi gwehyddu a phatrymau kimono. (Mae gan seren chwe phwynt hanes hir yn Japan.) Mae fy merch hynaf newydd baentio hwn yn gobeithio y bydd Kagome yn gwarchod IDF rhag y drygionus.

Wednesday, October 18, 2023

hananya

Mae Hananya, Iddew Meseianaidd yn brwydro yn ddewr dros Israel gan siarad yn gyhoeddus a phostio ffeithiau er gwaethaf ymosodiadau dieflig beunyddiol gan y byd. 

Tuesday, October 17, 2023

pregethwr dewr

Dyma bregeth arall ardderchog a dewr gan Gweinidog Gary Hamrick. Mae o'n esbonio'n fanwl beth ydy hanes, gwreiddiau, sefyllfa gyfredol Israel, Hamas a Diwedd Amser. Mae o'n sefyll yn gadarn dros y gwirionedd, a does ganddo fo ofn sôn am wleidyddiaeth yn glir chwaith. Fy hoff bregethwr ydy o.

Monday, October 16, 2023

gigio

Buodd Gigio, ci frawd y gŵr farw yn 17 oed. Er ei fod o wedi colli golwg a chliw flynyddoedd yn ôl, roedd bob amser yn siriol, ac yn rhoi cysur i'w berchennog a'r cymdogion mewn maestrefi Las Vegas. Roedd ein brawd ni'n ei garu o, ac yn gofalu amdano fo'n dyner hyd at y diwedd. 

Saturday, October 14, 2023

taro deuddeg


Unwaith yn rhagor. Y tro hwn, swnio fel cyfweliad go iawn, ar wahân i elfen ddoniol nodweddiadol y Wenynen. Deffrwch, bobl!

Friday, October 13, 2023

heb gysgu


"Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno."
 Salmau 121:4

Dyma bregeth ardderchog a hynod o graff ar Israel gan Skip Heitzig.


Wednesday, October 11, 2023

cariad ar yr olwg cyntaf

Newyddion da yn y byd tywyll - cafodd Bingley ei fabwysiadu, gan ddynes sydd eisiau ci gwarchod sydd gan dymer mwyn. Ci perffaith iddi ydy Bingley. Ysgrifennodd hi e-bost hir at fy merch yn disgrifio'r hanes yn fanwl. Molwch yr Arglwydd! Gobeithio bydd y ddau'n byw'n hapus gyda'i gilydd.

Tuesday, October 10, 2023

dewrder mewn brwydr

Paentiodd fy merch hynaf dri murlun yn Sderot, Israel yn 2019 - un ar loches bomio, dau ar ysgolion. Aeth ffrind iddi at y dref er mwyn gweld a oedd y murluniau'n ddiogel! (Ofynnodd hi mohono, wrth gwrs!) Dwedodd o eu bod nhw heb ddifrod, a bod y dref yn wag. Gobeithio bod y trigolion wedi dianc yn ddiogel.

Monday, October 9, 2023

Saturday, October 7, 2023

Israel dan ymosodiad

Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn;
gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn.
Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd,
ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth,
medd yr Arglwydd. 
Eseia 54:17

Friday, October 6, 2023

crys-t gwych

Cafodd y gŵr grys-T gan ein mab hynaf ni. Cafodd y mab y crys gan ei frawd yng nghyfraith a raddiodd yn Athrofa Diwinyddol Dallas. (Hanes hir!) Crys gwych ydy o beth bynnag gyda "hallelwia" yn Hebraeg arno.

Wednesday, October 4, 2023

bydd yr utgorn yn seinio

Dw i'n hoffi gwrando ar Feseia gan Handel o bryd i'w gilydd. Roeddwn i'n cymharu sawl fideo Bydd yr Utgorn yn Seinio neithiwr. Hwn oedd y gorau yn fy nhyb i. Yna, des i ar draws ganu gan Bryn Terfel a oeddwn i erioed wedi clywed o'r blaen. Fo ydy fy ffefryn bellach.

Tuesday, October 3, 2023

bingley

Mae fy merch hynaf yn maethu ci arall. Ci mawr du ydy Bingley. Er gwaethaf ei maint, mae o braidd yn swil ac ofnus weithiau. Bydd fy merch yn rhoi bath iddo a "gweithio arno fo." Mae ganddi ddawn arbennig i dawelu calonau cŵn, drwy ymddwyn fel un ohonyn nhw!

Monday, October 2, 2023

rhyfeddach na ffuglen


Yn aml iawn, dw i'n cael gwybod y newyddion diweddaraf drwy'r Wenynen. Wrth weld yr erthygl hurt a doniol hon, chwiliais am yr air "larwm tân." Dyma fo! Dydy beth ddigwyddodd ddim mor bell o'r Wenynen fodd bynnag.