Monday, October 31, 2011

yn y tŷ hwn

Dyma un o'r nofelau prin, Gymraeg neu ieithoedd eraill; medra i weld ffilm yn fy mhen wrth ei darllen. Pa fath o ddrama a allwch chi ei hadrodd ynglŷn hen dŷ a dynes gyffredin sy'n tynnu ymlaen? Ond llwyddo a wnaeth Sian Northey'n hynod o fedrus. Dydy'r pwnc ddim yn unigryw, ond mae ei modd i blethu'r gorffennol efo'r presennol, ac i gario popeth tuag at y datguddiad annisgwyl yn anhygoel. Mae'r sioc a ges i'n fy atgoffa i o Rebecca gan Daphne du Maurier ( heb lofruddiaeth a phartion gwyllt!)

Heb os hon ydy'r nofel Gymraeg orau a ddarllenais i'n ddiweddar. Edrycha' i ymlaen at waith arall gan yr awdures.

Sunday, October 30, 2011

pryd o fwyd wedi'i ailgylchu


Dw i'n siŵr bod yna ddulliau ym mhob diwylliant i ailgylchu pryd o fwyd a'i droi'n un arall. Dyma ddau, un Japaneaidd a'r llall Eidalaidd sef ojiya a spaghetti frittata.

Ojiya: Coginir reis plaen wedi'i stemio mewn cawl soia. Mae'n drwchus iawn. Yn y llun hwn, fe wnes i ychwanegu wy a shiitake (madarch Japaneaidd) i mewn i gawl soia efo gwymon.

Spaghetti frittata: Spaghetti wedi'i ffrio efo wyau a chaws Parmezan.

Fydden nhw ddim yn ennill cystadleuaeth goginio ond maen nhw'n flasus beth bynnag ac arbed gwastraffu bwyd.

Saturday, October 29, 2011

¢19

Gwelais i un daten goch fach yn y troli. Doeddwn i ddim yn meddwl dim byd amdani hi pan wnes i afael yn y troli a bwrw ymlaen efo'r gwaith siopa. Aeth i'r til wedyn a gosod y nwyddau ar y cludydd gwregys. Gosodais i'r daten hefyd yn bwriadu ei rhoi hi'n ôl i'r siop. Yna sylweddolais i fod yr hogan wrth y til yn meddwl mod i wedi ei phrynu achos bod hi ddim yn sôn am y daten. Ddylwn i ei bwyta? Na, dydw i ddim eisiau cymryd siawns. Gadawais i hi yn y troli. Gwelais i'r dderbynneb ar ôl dod adref ; do, mi wnes i dalu amdani hi - ¢19.

Friday, October 28, 2011

carpedi glân

Dw i ddim yn hoffi carpedi wal i'r llall (wall to wall?) Er nad ydyn ni'n gwisgo esgidiau yn y tŷ, mae'n amhosib eu cadw nhw'n lân heb eu hwfro'n aml. (Dydw i ddim, cofiwch!) Rhaid cael eu golchi'n broffesiynol o bryd i'w gilydd hefyd. (Mae'n hen bryd i ni gael un!)

Cafodd fy merch briod olchi ei charpedi brwnt ddoe o'r diwedd a gyrru llun ohoni hi'n gorwedd ar lawr mewn gorfoledd!

Byddwn i'n hoffi cael llawr caled.

Thursday, October 27, 2011

lliwiau'r hydref


Er gwaetha' tywydd cyfnewidiadol Oklahoma, mae'r hydref yma ac mae'r dail yn prysur droi eu lliwiau. Cawson ni law trwm y bore 'ma ond mae'n ddigon sych i mi gerdded. Roeddwn i eisiau tynnu lluniau'r coed hardd cyn iddyn nhw droi'n frown. Ac felly fu.

Tuesday, October 25, 2011

mae rina'n dod!

Mae Rina'n mynd yn gryfach bob munud ac yn anelu at Ciwba. Mae'n gorwynt graddfa 3 efo gwyntoedd yn chwythu 120 m.y.a. bellach. Gobeithio na fydd hi'n achosi dinistroedd difrifol fel Irene a Catrina. Mae un o fy merched sef Rina'n teimlo'n chwith iawn gweld ei henw hi mor aml ar newyddion tywydd!

Monday, October 24, 2011

blas tymhorol


Mae gan Braum's (siop hufen iâ) flasau tymhorol yr adeg yma sef eggnog, gingerbread a pumpkin. Roeddwn i'n llygadu ar eggnog wrth ddewis cupccino chunky chocolate y tro diwethaf. Roeddwn i'n bwriadu prynu eggnog y tro nesa. Ond pan es i i Braum's heddiw ces i wybod fod eggnog a gingerbread wedi mynd am y tro! Doeddwn i ddim yn siŵr am flas pwmpen ond ei brynu wnes i beth bynnag (rhag ofn iddo fynd hefyd.) Roedd rhaid i mi ei flasu wrth gwrs; mae gen i gyfrifoldeb! Mae o'n dda iawn wedi'r cwbl!

Tuesday, October 18, 2011

sioe

Es i i sioe heno efo fy nwy ferch. Roedd côr yr ysgol uwchradd yn trio codi pres i helpu hogan fach un o'r staff. Dim ond tair oed ydy hi ac mae ganddi gancr.

Dawnsiodd a channodd aelodau'r côr yn hudo'r gynulleiddfa am awr. Roeddwn i wrth fy modd efo'r tap dance yn enwedig. Roedd y sioe'n llwyddiannus ysgubol. Gobeithio bod y côr wedi llwyddo i godi llawer o bres i'r hogan druan.

Codwyd dros $1,600!

Monday, October 17, 2011

llong danfor felen

Wel, ces i sioc wrth wrando ar bodlediad Pigion diweddaraf (17 Hydref) a chlywed cân Japaneg yn sydyn - cyfieithiad o Yellow Submarine. Roedd y Beatles yn ofnadwy o boblogaidd (a dal i fod) yn Japan fel gweddill y byd, felly does ryfedd bod eu caneuon i gyd wedi eu cyfieithu i'r Japaneg. Ond doeddwn i ddim yn disgwyl clywed un ar raglen Dafydd a Caryl. Chwarae teg i Euron Griffiths am drio siarad Japaneg.

Saturday, October 15, 2011

kit kat o japan

Mae fy ail ferch a oedd yn dysgu Saesneg yn Japan am flwyddyn a hanner newydd ddod adref. Daeth â nifer o anrhegion a dillad a brynodd hi yno. Mae'n rhyfeddol gweld o newydd pa mor ddyfeisgar a medrus ydy pobl Japan. Dyma enghraifft - Kit Kat efo blas te gwyrdd. Mae yna hufen iâ efo'r un flas ond mae cyfuniad efo Kit Kat yn annisgwyl. Roedd o'n dda gyda llaw!


Friday, October 14, 2011

gair o japan

Ces i gip ar glawr rhifyn diweddaraf y Wawr ar wefan Gwales.com a gweld "Gair o Japan." Pwy ydy awdur yr erthygl? Cyrhaeddodd fy nghopi ddoe a chwiliais i'r erthygl yn awyddus - Catharine Nagashima wrth gwrs!

Mae'n braf cael gweld lluniau ohoni hi a'i theulu yn ogystal â'i thŷ hynafol gwych. Maen nhw'n fy atgoffa i o fy ymweliad pleserus efo hi'r llynedd. Wedi darllen yr erthygl, ces i fy nharo gan y ffaith pa mor Japaneaidd ydy bywyd Catharine. Mae ei brecwast yn fwy Japaneaidd na'r rhan fwyaf o'r Japaneaidd eu hun! Hefyd doeddwn i ddim yn sylweddoli mai merch Edrica Huws ydy hi,


Monday, October 10, 2011

siwrnai am ddim i japan


Mae'r nifer o ymwelydd i Japan yn lleihau'n sylweddol ers y trychineb niwclear ym mis Mawrth er bod hi'n ddiogel ym mhob man bellach ond yn yr ardal adweithydd. (Mae'n rhyfedd bod rhai sydd wedi canslo eu siwrnai i Japan yn mynd i'r traeth yn ddihitio lle cewch chi lawer mwy o ymbelydredd!)

Er mwyn hyrwyddo twristiaeth penderfynodd Llywodraeth Japan gynnig tocynnau awyren yn rhad ac am ddim i 10,000 o ymwelydd yn 2012 y byddai eu cynlluniau teithio'n pasio'r prawf. Disgwylir yr ymwelydd anfon negeseuon e-bost i'r byd tra bydden nhw'n aros yn Japan. Bydd yna hysbysebion gan y Llywodraeth nes ymlaen.



Sunday, October 9, 2011

camgymeriad

Mae'n ddiwrnod braf yn yr hydref. Es i i weld gêm gartref tîm y brifysgol leol pnawn 'ma. Yn ystod y gêm roeddwn i'n sylwi bod tri a oedd yn eistedd agos ata i'n siarad iaith estron efo'i gilydd weithiau. Roedd yn anodd eu clywed yn dda ymysg y cefnogwyr brwd ond roeddwn i bron yn siŵr fy mod i wedi clywed gair Eidaleg - perche (oherwydd, pam.) Tybed a allai hi fod yn yr athrawes o'r Eidal sy'n dysgu cwrs yn y brifysgol yma? Dyma ddechrau adolygu rhai cyfarchion Eidaleg yn sydyn! Dechreuodd fy nghalon giro'n wyllt. Aeth y gêm allan o fy mhen. Es i ati hi ar ôl y gêm i ofyn, "scusi, lei è Loredana?" - esgusodwch fi, Loredana dach chi? "No, I'm from Peru," atebodd hi.

2 - 2 oedd y sgôr gyda llaw.

Saturday, October 8, 2011

yabusame


Wedi darllen Tokyobling am yabusame (traddodiad Japaneaidd o saethu â bwa oddi ar geffyl) des i ar draws fideo hynod o ddiddorol am Americanwr a aeth i Japan am wers Yabusame sydyn. Fydd o'n llwyddo? Rhaid gweld y fideo. Mae ei Japaneg yn eitha' da. Ond peidiwch â dilyn ei esiampl yn plymio mewn bath Japaneaidd os bydd yna gyfle i chi fynd i Japan! Tabŵ marwol ydy hynny!


Friday, October 7, 2011

gormod o de

Cysgais i'n dda iawn neithiwr am y tro cyntaf ers dyddiau. Roeddwn i'n deffro yng nghanol nos a methu mynd yn ôl i gysgu bob tro. Dw i bellach yn siŵr mai te oedd y bai, te gwyrdd. Roeddwn i'n meddwl byddai'n iawn achos nid te te ond un gwyrdd roeddwn i'n ei yfed gyda'r hwyr. Ond mae'n amlwg mai hwnnw oedd yn fy nghadw'n effro. Dw i'n cael fy nhe olaf tua hanner dydd o hyn ymlaen.

Thursday, October 6, 2011

colled

Colled genedlaethol ydy marwolaeth Steve Jobs, neu golled ryngwladol mwy tebyg. Mae fy ngŵr yn teimlo mwy na fi achos fod o'n hoff iawn o MAC a'r un oed oedd Jobs â fo. Wrth gwrs bod yna rywbeth arbennig i gefndir Jobs sy'n eich ysbrydoli. Gobeithio y bydd Apple'n dal ati. Dan ni'n dal yn deulu MAC.

Tuesday, October 4, 2011

hambwrgr eidalaidd

Mae'n swnio'n flasus iawn! Er fy mod i bron byth yn mynd i Mcdonald's, byddwn i'n awyddus i drio hwn pe bai o ar gael yma.

Sunday, October 2, 2011

bara a thiwlipau

Neithiwr gwelais i ffilm Eidalaidd ddiddorol o'r enw Pane e Tulipani. Roeddwn i wedi clywed amdano fo a chwilio am DVD ond doedd o ddim ar gael ond un ail-law sy'n costio $22. Penderfynais i rentio un gan Amazon am $3, a'i weld ar gyfrifiadur. Aeth popeth yn hwylus a mwynheais i noson ffilm.

Mae'r stori'n hynod o ddiddorol; mae'r cymeriadau'n ddoniol. Ces i gip ar Venecia o ddrws cefn yn hytrach na'r golygfeydd arferol i dwristiaid. Ac wrth gwrs roedd yn wych o safbwynt dysgu Eidaleg.

Saturday, October 1, 2011

cyfrinach mai

Nofel arall gan Selyf Roberts. Efallai byddai rhai'n barnu bod y stori'n rhy ddigyffro i'r darllenwyr cyfoes, ond dim ots. Dw i wrth fy modd. Dw i wedi dod yn ffan fawr ohono fo. Yr hyn dw i'n ei hoffi ydy ei grefft o adrodd pethau cyffredin mewn ffordd hynod o ddiddorol heb ddefnyddio unrhyw air annymunol.

Byddwn i am ddarllen ei nofelau i gyd ond yn anffodus ar wahân i ddwy a werthir gan gwmni Gwales, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw allan o argraff, a gall rhai sydd ar gael gostio'n ddrud. Fydd rhaid i mi fynd i siopau elusen yng Nghaernarfon eto.