Monday, November 29, 2021

goleuni'r byd

“Myfi yw goleuni'r byd,” meddai Iesu. “Ni bydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd.”

Hanukka Hapus

Saturday, November 27, 2021

cinio heb goginio

Daeth fy merch hynaf a'i gŵr, fy mab hynaf a'i deulu diwrnod ar ôl Diwrnod Diolchgarwch. Cawson ni ginio mawr neithiwr heb i mi goginio o gwbl. Daeth fy merch â'r gweddill o'r cinio sydd ar ôl oddi wrth fwrdd ei mam yng nghyfraith. Roedd yna ddigon i ddau ginio. Bwyton ni bopeth. Ces i hoe rhag coginio tra lleihau gwastraff.

Thursday, November 25, 2021

diwrnod diolchgarwch 2021

Diolch i ti, fy Nhad am faddau i mi drwy waed Yeshua,
a fy mabwysiadu i fel dy blentyn.
Diolch i ti, Yeshua am dalu fy nyled ar y groes.
Diolch i ti Ysbryd Glân am fyw yna i.

Diolch i ti am dy addewid; fe ddoi di'n ôl yn fuan.
Tyrd, Arglwydd Yeshua!

Tuesday, November 23, 2021

cerdd



Daeth y lleuad lawn a mynd. Syrthiodd ysbrydoliaeth ysgrifennu arna i tra oeddwn i'n cerdded y bore 'ma. 

Yn awyr y bore
Mae'r gweddill o'r lleuad yn aros
Ble mae canmol y bobl
Ar y noson honno

Monday, November 22, 2021

tiwtoriaid ffrangeg

O'r diwedd des i ar draws tiwtoriaid Ffrangeg da (ar lein) yn ogystal â Hugo o innerFrench. Dwy ferch ifanc glên ydyn nhw - Elsa o Piece of French, sydd yn bwy yn Israel, ac Elisa o French Mornings sydd yn byw yn Ffrainc. Maen nhw'n siarad yn araf a glir ar bynciau diddorol. Mae'n bleser clywed eu Ffrangeg.

Saturday, November 20, 2021

sut i drin llosg (ddim difrifol)

Ces i losg fy llaw chwith o ddŵr berwedig y bore 'ma. Wedi ei hoeri gyda dŵr tap, es at remedi cartref  - sudd aloe ac olew lafant. Wnaethon nhw ddim byd. Darllenais yn sydyn am effeithiolrwydd mêl amrwd. Cyn gynted â fy mod i'n taenu ychydig ohono fo ar fy llaw, teimlais ryddhad. Ar ôl ond awr, diflannodd y poen yn llwyr. Dw i'n mynd i drin fy llaw gyda mêl drwy'r dydd.

Friday, November 19, 2021

murlun er cof

Mae fy merch hynaf newydd orffen murlun arall, ar wal tŷ bwyta Laosaidd yn Oklahoma City. Ar y murlun a oeddwn i'n sôn amdano paentiwyd y murlun newydd. Nain y perchennog a fu farw misoedd yn ôl ydy'r model. Mae o'n fodlon dros ben bod fy merch wedi llwyddo i greu murlun hyfryd er cof amdani.

Wednesday, November 17, 2021

peth anarferol

Roedd y gŵr yn Oklahoma City dros y penwythnos er mwyn mynychu rali yng Nghapitol y dalaith. Cafodd gyfle i dreulio amser gyda'n merch hynaf a'i gŵr hefyd sydd yn byw cyfagos. Roedd o'n helpu paentio murlun newydd ein merch hyd yn oed, gwaith hollol anarferol iddo.

Tuesday, November 16, 2021

storm

Mae'n heulog, ond dan ni'n cael storm. Storm ddail ydy hi. Mae'n bwrw dail yn drwm weithiau. Pan gamais allan o'r drws blaen y bore 'ma, clywais sŵn uchel yn atseinio yn yr awyr ddistaw. Sŵn cnau'n disgyn o'r coed ar do sinc y cymydog oedd. Rhaid bod yn ofalus neu cewch chi'ch anafu ar eich pen!

Monday, November 15, 2021

gwahanol fath o fandad


Dw i'n cydymdeimlo â Denny Patterson yn llwyr. Un o'r arferion eglwys dw i ddim yn ei hoffi ydy "amser gorfodol cyfarch" yn ystod gwasanaeth addoli. Bydd o'n gyrru ofn at bobl swil fel Denny a fi. Mae pawb yn prysur gyfarch a sgwrsio cyn ac ar ôl y gwasanaeth beth bynnag; does dim rhaid gorfodi pobl i siarada mwy yn ei ganol, yn fy nhyb i. Dw i'n falch bod ein heglwys ni'n peidio â'i wneud o bellach. Rhaid i Denny ddod aton ni!

Saturday, November 13, 2021

rhwystr newydd

Mae'r ci drws nesaf druan yn dal i ddod yn ein hiard gefn ni. Gwelais heddiw ei fod o, ynghyd ei ffrind newydd yn rhedeg yn yr iard yn hapus braf. Dan ni wedi gosod log rhwng bwlch y ffens, ond maen nhw'n benderfynol i ddod i mewn fel bydden nhw'n ei wthio fo i ffwrdd. Roedd rhaid i'r gŵr gryfhau'r rhwystr. Gobeithio y bydd hyn yn datrys y broblem.

Friday, November 12, 2021

tyllau rhyfedd

Dechreuodd tyllau rhyfedd ymddangos yn yr iard yn ddiweddar. Er fy mod i'n llyfnhau wyneb y pridd, byddan nhw'n dychwelyd bob dydd. Datryswyd y dirgelwch gan ddyn a ddaeth i chwistrellu o gwmpas y tŷ ddoe. Dwedodd mai antlion a greodd y tyllau. Creadur rhyfeddol ydy o. Gofynnais i'r dyn am beidio â chwistrellu'r tyllau; bydd antlion yn datrys y broblem forgrug!

Thursday, November 11, 2021

diwrnod veterans

Diolch yn fawr i'r holl gyn-filwyr. 


Wednesday, November 10, 2021

cludo logiau

Mae'n amser i gludo'r logiau tân wrth ochr y tŷ i'r garej. Cyflogodd y gŵr hogyn o'r eglwys i'w helpu. Un hoffus a gweithgar ydy o, prin yn y dyddiau hyn. Gwnaethpwyd pentwr mawr rhyngddyn nhw erbyn canol dydd. Bydd yna fwy ar ôl i'r goeden yn yr iard gefn gael ei thorri'n logiau tân.

Tuesday, November 9, 2021

cynnes am y tro

Mae mis Tachwedd yn bwrw ymlaen. Braf ydy gweld y dail lliwgar yn y gymdogaeth wrth i mi fynd am dro yn y bore. Mae hi braidd yn gynnes yr wythnos 'ma fodd bynnag (60F/15C) - tywydd Oklahoma ydy o. Bydd y tymheredd yn gostwng fel carreg dros nos nes ymlaen.

Monday, November 8, 2021

torri coeden arall

Dychwelodd y ddau ddyn i dorri coeden farw arall. Oherwydd ei lleoliad a'i huchder, rhaid llogi "lifft awyr." Dechreuodd un dyn ar ben y lifft dorri rhan ar y tro wrth i'r llall ei chyfeirio hi gyda chymorth rhaff. Rhaid dyma'r unig ddull diogel, er bod yn edrych yn ddigon peryglus! Da'r dynion yn anhygoel o fedrus. Gorffennwyd popeth mewn awr yn ddiogel. Mae gynnon ni fwy o logiau tân rŵan.

Saturday, November 6, 2021

fideo newydd


Wrth iddo weld y nifer o wylwyr ei fideo diweddaraf yn cynyddu’n rhyfeddol (dros 7,000,) penderfynodd y gŵr gynhyrchu un arall. Roedd ganddo ewyllys ond heb amser hyd yma. (Mae o'n cadw ei hun yn anhygoel o brysur bob dydd.) Dyma fo, newydd sbon.

Wednesday, November 3, 2021

sac colledig


Mae'n beth cyffredin cael eich eitemau personol colledig yn ôl yn Japan gan fod y darganfyddwyr yn mynd â nhw at yr heddlu neu swyddfa briodol heb feddwl dwywaith. Cafodd fy merch, fodd bynnag, brofiad anhygoel pan gollodd ei sac cefn yn ddiweddar. Tra oedd hi'n ymholi, cafodd alwad ffôn gan ei hysgol; cafodd ei sac ei ddarganfod yn swyddfa'r post. Doedd dim pethau i'w hadnabod, ond dyfalodd y staff, drwy beth oedd tu mewn (llyfrau plant, amserlen dosbarthiadau,) fod rhaid i'r sac berthyn i athro/athrawes; yna, ffoniodd o'r ysgolion cyfagos nes iddo ddod hyd i ysgol fy merch!

Tuesday, November 2, 2021

cadw danedd yn iach

"Mae popeth yn edrych yn iawn, y dannedd a'r deintgig," meddai fy neintydd, a dechrau crafu'r tartar i ffwrdd. Ces i apwyntiad blynyddol y bore 'ma. Diolch i fy mam a oedd yn ceisio cadw fy nannedd yn iach drwy gydol fy mhlentyndod, yn anaml iawn fy mod i'n cysgodi trothwy deintydd hyd at heddiw. 

Monday, November 1, 2021

bro fy mebyd

Aeth fy merch i'r mynyddoedd ar gyrion Tokyo dros y penwythnos, a gyrru lluniau ata i. Mae un ohonyn nhw'n fy atgoffa i o fro fy mebyd oherwydd y llinellau trydan foltedd uchel. Roedd fy nhŷ yn union dan rai llinellau, ond doedd neb yn poeni am eu heffaith yn erbyn iechyd ar adeg honno. Roedd nifer o blant (gan gynnwys fi a fy mrawd) yn arfer dringo'r tyrau trydan hyd at y lefel cyntaf yn anwybyddu'r arwyddion rhybuddio! Cafodd neb ei ladd o leiaf.