Thursday, January 31, 2019

ffwrn gludadwy

Mae sôn am datŵ ar gledr cantores Americanaidd yn ddiweddar. Roedd hi'n meddwl ei fod o'n dweud "saith modrwy," teitl ei chân, ond yn anffodus, mae o'n dweud shichirin, sef ffwrn gludadwy sydd yn defnyddio brisged. Dylai hi fod wedi gofyn i unrhyw Japaneaidd cyn cael y tatŵ! Dw i'n cofio i fy mam goginio pysgod neu ffa arno fo tu allan y gegin pan oeddwn i'n blentyn.

Wednesday, January 30, 2019

selsig eidion

Mae'r gŵr yn hoffi selsig. Dydy o ddim yn eu bwyta'n rhy aml, ond bydd o'n mwynhau pryd o fwyd gyda grits, wyau a selsig o bryd i'w gilydd. Dw i ddim eisiau cyffwrdd â phorc yn ddiweddar. Prynais selsig eidion kosher iddo fo. Ei farn - dim yn rhy ddrwg ond mae'n well ganddo selsig porc go iawn. 

Tuesday, January 29, 2019

stôf cyfleus

Dw i wrth fy modd efo'r llosgwr logiau. Ar wahân i gynhesu'r tŷ'n braf, mae o'n gyfleus iawn i sychu dillad, a choginio bwyd fel ffa. Dw i'n hoffi rhostio cnau arno fo hefyd. Maen nhw'n cael eu rhostio'n hynod o gyflym. Un tro gadawais i nhw'n rhy hir nes iddyn nhw losgi'n hollol ddu!

Monday, January 28, 2019

peiriant golchi marwn

Dechreuodd y peiriant golchi ollwng dŵr. Gan ystyried ei oedran (10 oed,) penderfynon ni fyddai'n well prynu un newydd yn hytrach na chael ei drwsio. Dyma fynd i Lowe's gyda'r gŵr. Ffeindion ni un ar sêl. Dw i'n credi'n siŵr mai oherwydd y lliw, sef marwn. Dim ots. Cafodd y gŵr disgownt ar gyfer cyn-filwyr hefyd. Bydd y siop yn ei gludo aton ni, ei osod, a mynd â'r hen beiriant i ffwrdd brinhawn yfory.

Saturday, January 26, 2019

eog

Cafodd dau beth eu cludo o dŷ brawd y gŵr aton ni, sef paentiad arall, a cherfio ysblennydd. Artist Japaneaidd a gerfiodd eog ar bren soled. Derbynnodd rhieni'r gŵr hwn flynyddoedd yn ôl. Ces i fy synnu i weld llofnod yr artist - Mitsuji - yr un enw â fy niweddar daid! Mae'r eog yn perthyn i ni heb os!

Friday, January 25, 2019

nyth wag eto

Aeth fy nhrydedd ferch yn ôl i Japan ddoe i ail gychwyn ei bywyd yno. Mae hi'n chwilio am waith newydd rŵan wedi gorffen ei swydd fel athro Saesneg. Mae hi eisiau defnyddio Japaneg mwy yn y gweithle. Mae cyfweliad sydd yn ei disgwyl, gwaith mewn siop te traddodiadol. Gan fod y siop mewn ardal dwristiaid, bydd cyfle iddi ddefnyddio ei sgil Saesneg a Ffrangeg hefyd. Gawn ni weld.

Thursday, January 24, 2019

portread

Daeth y gŵr â llond cês o eiddo ei ddiweddar dad a oedd yn garej ei frawd. Yn ymysg sanau, lluniau ac offer, mae yna baentiad gwerthfawr, sef portread ohono fo a baentiwyd gan artist Almaenaidd pan oedd yn hogyn dwy flwydd oed yn yr Almaen. (Cafodd ei eni yno.) Roedd y portread ar wal tŷ ei rieni yn Hawaii am flynyddoedd, yna symudwyd i dŷ ei frawd pan aethon nhw ato fo bum blynedd yn ôl. 

Wednesday, January 23, 2019

croeso'n ôl y ddau

Daeth y gŵr a'n merch ni (y drydedd) adref neithiwr wedi cael amser gwych mewn llefydd gwahanol, y gŵr yn Las Vegas (dim i gamblo ond mynychu cwrs) a'r ferch gyda'i chwaer yn Norman. Er fy mod i'n mwynhau'r tŷ distaw, roedd dipyn yn rhy ddistaw, a dweud y gwir! Dw i'n falch iawn eu gweld nhw. Dyma baratoi swper sydd yn ddiogel i fy merch sydd gan alergedd i amrywiaeth o fwyd - torth cig heb wy, blawd neu siwgr; reis gyda thyrmerig, garlleg, nionyn heb fenyn; llysiau plaen. Er fy mod i'n dweud fy hun, roedd popeth yn hynod o flasus.

Tuesday, January 22, 2019

murlun bach

Mae fy merch newydd orffen murlun bach mewn tŷ bwyta yn Tulsa. Gorffennodd hi mewn deuddydd gyda dau gynorthwyydd medrus, sef ei gŵr a'i chwaer. Roedd yn dipyn o her fodd bynnag gan fod y wal mor isel. Umami Fries ydy enw'r tŷ bwyta. 

Monday, January 21, 2019

gwir ystyr "mae gen i freuddwyd"

"Un diwrnod bydd fy mhlant yn cael eu barnu yn ôl eu cymeriadau, nid lliw eu croen" - breuddwyd Martin Luther King Jr. 

Unrhyw liwiau'r croen - du, brown, gwyn, coch neu biws

Diwrnod MLK hapus.

Saturday, January 19, 2019

llyfr yn y bwlch post

Ffeindiais lyfr yn y bwlch post ddoe. Trump's America gan Newt Gingrich gyda llofnod yr awdur! Anfonwyd gan Bwyllgor Gweriniaethwyr at y gŵr yn ddiolch am ei rodd. Dechreuais ei ddarllen ar yr unwaith. Mae'n ddiddorol o'r dudalen gyntaf fel nofelau T. Llew. Mae Gingrich yn crynhoi a dadansoddi beth sydd yn digwydd yn America wedi a chyn i Donald Trump gael ei ethol fel yr Arlywydd. I'r dim mae o! Dw i'n argymell y llyfr hwn i bawb. Mae'n hawdd ei ddarllen hefyd.

Friday, January 18, 2019

18 ionawr

Byddai fo'n troi'n 97 oed heddiw, pe bai tad y gŵr yn byw. "Gŵr a thad ffyddlon, milwr gwladgarol, y dyn mwyaf rhinweddol dw i wedi erioed ei nabod," meddai fy ngŵr. Mae o ym mhresenoldeb yr Arglwydd bellach. Yn y llun yma (2014,) roedd fy ngŵr yn darllen y Beibl gyda'i dad.

Thursday, January 17, 2019

diddordeb y gŵr

Gadawodd y gŵr i fynychu cwrs gunsmith a gynigir gan Arfdy Springfield yn Las Vegas. Mae ei ddiddordeb newydd mewn gynnau a saethu yn datblygu'n helaeth. Cyn iddo adael, llenwodd y blwch logiau cymaint â phosib i mi fedru cadw'r tân dros y penwythnos. Rhagwelir eira a thymheredd 4F/-16C ddydd Sadwrn.

Wednesday, January 16, 2019

grits yn tiffany's

Tiffany's oedd enw'r tŷ bwyta cafodd y teulu frecwast ynddo fo ddoe. Dim yn Efrog Newydd, ond yn Noble, Oklahoma mae o. Mae o'n llawn o luniau Audrey Hepburn, ond yn cynnig bwyd Americanaidd deheuol nodweddiadol, fel grits, omelet, biscuits, pancakes, bacwn, ayyb. Barn y gŵr: roedd y grits yn ardderchog ond doedd yr omelet yn ddim yn dda.

Tuesday, January 15, 2019

un o'r pedair

Cafodd fy merch hynaf (Juuri ydy ei ffugenw) ei chyflwyno fel un o'r pedwar artist benywaidd a greodd murluniau yn ardal Boston. Mae'r cyflwyniad yn swnio'n hynod o dda ac eithrio galwyd hi'n artist Japaneaidd. Cafodd ei geni a magu tan chwech oed yn Japan, ond mae hi'n byw yn America ers hynny gyda dwy ddinasyddiaeth. Mae hi wrthi'n cynllunio ei phrosiect nesaf ar hyn o bryd, sef murlun ar gyfer tŷ bwyta yn Tulsa.

Monday, January 14, 2019

sgarff arall

Gorffennais sgarff arall, i ŵr fy merch hynaf. Gofynnodd hi i mi wneud un ar ei gyfer wedi gweld y sgarff a wnes i'w chwaer. Ac felly a fu. Cymrodd amser byr iawn - tra oeddwn i'n siarad gyda fy mam ar Skype ddeuddydd yn ôl, a dweud y gwir. Dw i'n crosio het i fam y gŵr rŵan. Rhaid gorffen cyn iddo fynd i'w gweld hi ddydd Iau.

Saturday, January 12, 2019

hufen ia i ddathlu

Aeth y ddau blentyn ifancaf yn ôl at y brifysgol ddoe. Yn ogystal ag ymlacio yn ystod y gwyliau, cafodd fy merch dynnu ei phedwar dant gofid i gyd. Roedd yn dda iddi gael y driniaeth cyn iddi gychwyn y tymor newydd. Prynodd ei chwaer hufen ia iddyn nhw i ddathlu!

Thursday, January 10, 2019

sgarff

Dw i newydd orffen sgarff i fy merch. A dweud y gwir, roeddwn i'n bwriadu gwneud sgarff ddiderfyn, ond pan es i at ddiwedd y fideo, roeddwn i'n sylweddoli fy mod i wedi gwneud cowl! Dw i ddim eisiau ail-wneud y prosiect (eto.) Ac felly dyna fo. O leiaf bydd hi'n cadw fy merch yn gynnes.

Wednesday, January 9, 2019

wal y ffin

Anerchodd yr Arlywydd Trump y genedl ynglŷn â diogelu'r ffin neithiwr. Hynod o falch a diolchgar bod gynnon ni arweinydd cryf, penderfynol. Mae popeth a ddwedodd yn swnio'n synnwyr cyffredin, ond mae'n amlwg nid felly i rai. Dylai pawb sydd yn erbyn wal y ffin gael gwared ar y wal o gwmpas ei dŷ ei hun, adael y drws blaen ar agor, a chroesawu pawb sydd eisiau dod i mewn.

Tuesday, January 8, 2019

dwy het

Dw i'n dal i grosio. Dyma ddwy het a orffennais yn ddiweddar, ar gyfer fy nau blentyn. Rŵan dw i wrthi'n crosio un arall a sgarff ddiderfyn ar gyfer fy nwy ferch sydd yn gweithio yn Japan. Rhaid eu gorffen cyn i fy nhrydedd ferch fynd yn ôl yno mewn pythefnos.

Monday, January 7, 2019

swper

Mae gen i dri o blant adref o hyd wedi i fy ail ferch fynd yn ôl i Japan. Byddan nhw'n gadael cyn bo hir, ond dw i'n cael mwynhau eu cwmni am sbel. Mae gan fy nhrydedd ferch ofnadwy o alergedd bwyd, ond mae hi wedi dysgu sut i baratoi bwyd diogel a blasus bellach. Fe wnaeth swper hynod o flasus ddoe - pupur gwyrdd wedi'u stwffio gyda chig eidion, nionyn a quinoa.

Saturday, January 5, 2019

y cyntaf i adael

Gadawodd fy ail ferch adref ar ben ei hun i fynd yn ôl i Japan y bore cynnar. Roedd ganddi ond pythefnos o wyliau, a bydd hi'n dechrau ei gwaith yfory. Y peth olaf a wnaeth oedd dysgu ei chwaer iau sut i grasu bara banana yn ôl ei rysáit enwog (ymysg y teulu a'r ffrindiau.) Y tro nesaf y bydda i'n ei gweld hi bydd y Nadolig eleni.

Friday, January 4, 2019

ffi glanio

Penderfynwyd dylai pawb sydd yn teithio i Fenis heb aros mewn llety dalu treth rhwng 2,50 a 10 Ewro. Mae'n hen bryd. (Mae'r twristiaid sydd yn aros yno'n talu'n barod, cofiwch.) Mae Fenis yn gorlifo gyda thwristiaid bob amser, ac mae gan lawer ohonyn nhw fymryn o barch tuag at y ddinas hardd ond fregus. Efallai na fydd y dreth yn lleihau nifer o dwristiaid, ond yn gymorth sylweddol ar gyfer y cynnal a chadw. (Diolch i BluOscar am ei air clên yn ei sylw!)

Thursday, January 3, 2019

popeth yn newydd

Mae fy merch arall sydd yn gweithio yn Tokyo wedi dod adref am y tro cyntaf ers dros ddwy flynedd. Wedi cyfarwydd ei hun ym mywyd Japan, mae popeth yn America'n ymddangos yn wahanol a newydd. Dyma hi'n cael ei chyfareddu mewn siop gorsaf betrol.

Wednesday, January 2, 2019

murluniau

Cafodd fy merch gyfleoedd i greu nifer o furluniau, tu mewn a thu allan yn 2018. Y mwyaf arwyddocaol oedd yr un ar y wal ffyn gogleddol yn Israel heb os. Mae hi wrth ei bodd yn cael cyfuno celfyddyd a theithio, ac yn awyddus i harddu'r byd eleni hefyd.

Tuesday, January 1, 2019

yr amser yn nesáu

Blwyddyn newydd arall - mae'r amser yn nesáu, yr amser y bydd Iesu Grist yn dod yn ôl i gasglu ei bobl a sefydlu ei deyrnas. Yn y cyfamser, dw i'n ceisio rhodio'n ffyddlon, un cam bach ar y tro.

Blwyddyn Newydd Dda i chi sydd yn glên iawn darllen y blog hwn. Gobeithio y cewch chi ddarganfod yr unig ffordd, gwirionedd, bywyd, goleuni, drws, hyn i gyd a mwy yn Iesu Grist, os nad ydych chi wedi gwneud eto.