Saturday, August 31, 2019

y murlun mwyaf

Mae fy merch hynaf newydd gychwyn ar furlun arall. Mae hi a'i gŵr yn Harrisburg, Pensylvania ar hyn o bryd. Neithiwr roedden nhw wrthi'n taflu y dyluniad ar wal - y wal fwyaf mae hi erioed paentio murlun arno fo. Anghofiodd dynnu unrhyw lun yn anffodus. Dyma'r cynllun a gyrrodd ata i. Edrycha' i ymlaen at weld sut bydd y murlun yn datblygu yn y dyddiau nesaf.

Friday, August 30, 2019

tŷ bwyta newydd

Des i o hyd i dŷ bwyta newydd yn y dref (drwy hysbysfwrdd enfawr wrth y draffordd.) Roeddwn i'n falch oherwydd bod gan y dref diffyg tai bwyta da. Es i ynghyd â'r gŵr yno i swper neithiwr. Newk's ydy'r enw. Mae o yn ar ardal agored newydd lle datblygir yn ddiweddar. Mae'r awyrgylch yn bleserus, ac roedd fy salad cyw iâr yn ddigon da er bod yna ormod o letys. Cafodd y gŵr gawl cranc ac ŷd a oedd dipyn yn rhy sbeislyd. Y gorau oedd y seidr afal a dweud y gwir. Byddwn i'n rhoi 5 seren allan o 10.

Thursday, August 29, 2019

cyfres fideos

Dw i newydd ffeindio cyfres newydd o fideos am Japan. Mae yna gynifer o eraill wrth gwrs, ond dw i erioed wedi gweld fideos rhagorol ym mhob agwedd fel y rhain. Rhaid canmol y gohebwyr sydd yn gyfarwydd iawn â diwylliant Japan hefyd. Dysgais bethau newydd hyd yn oed. Rhoddodd y fideos chwant teithio yn Japan i mi a'r gŵr.

Wednesday, August 28, 2019

harddwch

Er nad oes golygfeydd gogoneddus fel rhai llefydd yn y byd, mae yna ddigon yn yr ardal yma i mi gael fy nghyfareddu o dro i dro. Wrth i'r haf adael ac mae'r hydref ar y trothwy, roedd y goedwig yn y gymdogaeth yn hardd dros ben y bore 'ma. Fedr fy ffôn ddim dal yr harddwch yn llwyr.

Tuesday, August 27, 2019

ffefryn newydd

Fideos Derek o Ganada ydy rhai o fy ffefrynnau yn ddiweddar. Maethegydd feganiaid ac adeiladwr cyhyrau ydy o. Mae yna gynifer o fideos tebyg gan bobl eraill, ond ei gryfder sydd yn apelio at bawb ydy ei bersonoliaeth hoffus, yn fy nhyb i. Dw i ddim yn adeiladu cyhyrau, ond dw i'n hoffi ei ryseitiau gwych. Dyma salad a wnes i neithiwr. Roedd yn flasus ond dipyn yn rhy sur oherwydd fy mod i wedi ychwanegu gormod o finegr seidr afal. Iachus dros ben beth bynnag.

Monday, August 26, 2019

het goch

Mae blwyddyn newydd brifysgolion newydd gychwyn; mae fy mab ifancaf, myfyriwr y drydedd flwyddyn, wedi setlo i lawr mewn neuadd breswyl wahanol. Roedd ganddo ychydig o ansicrwydd cyn cyfarfod ei gydletywr newydd wrth reswm, ond roedd o'n gwybod y byddai popeth yn iawn a bydden nhw'n cyd-dynnu'n braf pan welodd het goch ei ffrind newydd, sydd yn dweud Cadwch America yn Wych.

Saturday, August 24, 2019

copi enfwar

Mae gan fy merch hynaf gelf newydd i werthu, sef copi enfawr (60 x 34 modfedd) o'i murlun cyntaf a greodd yn Oklahoma City. "Mae Ffortiwn yn Ffafrio'r Dewrion" ydy'r teitl. Mae o'n drawiadol a dweud y lleiaf. 

Friday, August 23, 2019

dim ond yn japan

Gosodwyd dau ddwsin o gamerâu diogelwch tu mewn. Bydd y siop heb staff rhwng 12 a 5 o'r gloch yn y bore; bydd y cwsmeriaid yn siopa (wedi cael tynnu eu llun at y drws,) talu drwy gerdyn credid a mynd gyda'r nwyddau. Er mwyn datrys problem prinder llafur, mae Lawson, un o'r siopau 24 awr yn Japan newydd ddechrau system heb staff. Dim ond yn Japan.

Thursday, August 22, 2019

pris am geinder

Cynigir shaved ice gan un o dai bwyta Gajoen yn Tokyo ers mis Gorffennaf hefyd. Mae yna ddau fath - melon a phîn-afal. O'i gymharu â rhai Morinoen (gweler isod,) maen nhw'n llawer llai. Rhaid dweud bod nhw'n edrych yn gain dros ben. Mae'r prisiau'n adlewyrchu'r ceinder heb os -  2,300 yen ($23,) 1,800 yen ($18.)

Wednesday, August 21, 2019

hanner maint

Aeth fy nghefnder yn Japan i siop de lle mae fy merch yn gweithio ynddi. Postiodd lun ohonyn nhw'n ddau o flaen shaved ice enfawr gyda syryp o flas te wedi'i rostio drosodd. Gofynnodd o am hanner maint, ac eto enfawr ydy'r bowlen honno! Mae'n braf cael gweld llun o fy merch yn ei gweithle am y tro cyntaf.

Tuesday, August 20, 2019

mac newydd

Prynais liniadur MAC newydd, wel ddim yn newydd sbon, ond un wedi'i atgyweirio. Mae'n gyflym ac yn wych beth bynnag. Y peth gorau i mi ydy fy mod i'n medru ei gludo i le bynnag dw i eisiau yn y tŷ. Roedd yr hen MAC mawr ar ddesg mewn cornel tywyll, a does ddim lle arall cyfleus i'w osod. Dw i'n medru defnyddio hwn wrth ffenestr, ar y bwrdd bwyta, sef y llefydd golau a phleserus. Dewisais liw rhosyn aur sydd yn hynod o fenywaidd hefyd.

Saturday, August 17, 2019

gyoza heb glwten

Iawn. Prynais gig twrci eto. Dyma goginio gyoza, heb glwten ar gyfer fy mab. Defnyddiais bapur reis am y tro cyntaf. Peth rhyfedd ydy o sydd yn solet fel plastig ond bydd yn meddalhau mewn dŵr poeth mewn hanner munud. Roedd yn dipyn o her i'w drin, ond rhywsut neu gilydd llwyddais lapio'r cynhwysion gyda fo. Wedi rhyw hanner awr yn y popty, dyma fo - gyoza blasus, neu roliau gwanwyn yn ôl fy merch hynaf.

Friday, August 16, 2019

buddugoliaeth

Buddugoliaeth o'r diwedd! Roedd yn frwydr galed a hir iawn. Dydy'r gwiwerod yn medru cyrraedd y bwydwr adar o gwbl. Dim ond yr hadau sydd yn disgyn oddi wrtho maen nhw' eu bwyta. Mae Cardinal (gwryw) yn prysur fwydo ei fabis newydd. Mae gynnon ni westeion newydd, sef House Finch. Hardd iawn ydy'r gwryw gyda phen a bron coch.

Thursday, August 15, 2019

cynllun b

Roeddwn i wrthi'n paratoi gyoza ddoe. Agorais y pecyn cig twrci. Sioc! Roedd yna ddarnau o liw llwyd yma ac acw. Taflais o i'r bin. Na fyddai'r teulu eisiau bwyta gyoza heb gig. Roedd rhaid i mi gychwyn Cynllun B ar yr unwaith, sef saig a blannwyd ar gyfer diwrnod arall. Gorffennais bopeth rhywsut dim ond chwarter awr wedi'r amser swper arferol - caserol gyda zucchini, tortillas ŷd, ffa du. 

Wednesday, August 14, 2019

hanner melon dŵr

Cawson ni felon dŵr gan ffrind sydd gan ardd lysiau helaeth. Dw i'n hoffi melonau dŵr ond prin bydda i'n eu prynu'r dyddiau hyn oherwydd bod un melon yn ormod i fi a'r gŵr. (A dw i byth yn prynu darn mewn siop.) Cawson ni hanner sydd yn berffaith. Dyma ei fwyta ar yr unwaith. Mae o'n ffres a melys dros ben!

Tuesday, August 13, 2019

traeth anhysbys

Falch o weld bod fy mrawd a chwaer yng-ngyhfraith yn mwynhau eu hamser yn Hawaii. Ceision nhw fynd i Bae Hanauma, lle hynod o boblogaidd i'r twristiaid. Roedd y traffig yn ofnadwy a methon nhw ffeindio unrhyw le i barcio. Dim problem. Roedd o a'i deulu'n arfer byw yn Hawaii am ddeugain o flynyddoedd. Mae o'n nabod llefydd anhysbys. Aethon nhw i Draeth Kawailoa. Roedd bron neb yno, a threulion nhw brinhawn pleserus.

Monday, August 12, 2019

y swistir

Aeth fy ail ferch adref yn Japan wedi mwynhau gwyliau bendigedig yn yr Almaen ac yn y Swistir. Postiodd luniau anhygoel o brydferth o'r Swistir. Dyma'r rhaeadr enwog yn Lauterbrunnen, tafliad carreg oddi wrth ei llety. Dwedodd ei bod hi'n cerdded o gwmpas yn rhyfeddu at yr harddoch ym mhob man. Dim rhyfedd. 

Saturday, August 10, 2019

wedi gorffen

Mae fy mrawd a chwaer yng-nghyfraith yn Hawaii ar hyn o bryd. Y prif amcan ydy gosod llwch ei fam yn y fynwent genedlaethol yn Honolulu, yn yr un crypt lle mae llwch ei gŵr. Roedden nhw'n gofalu amdani hi'n gariadus nes ei diwedd. Gobeithio y cân nhw wyliau braf gweddill o'u hamser yno.

Friday, August 9, 2019

llun newydd

Cawson ni lun gwych arall gan Bwyllgor Gweriniaethol - llun o'r Arlywydd a Mrs. Trump y tro hwn. Dyma ei osod ar y wal uwchben fy nesg. Mae'r Arlywydd Trump yn dal i frwydro dros bobl America yn ddewr er gwaethaf yr ymosodiadau milain gan y bobl sydd yn ei gasáu. Dw i'n gweddïo drosto fo bob dydd.

Thursday, August 8, 2019

taquitos daten

Coginiais taquitos daten am y tro cyntaf. Ychwanegais diwna a nionod gwyrdd at y tatws er mwyn cynyddu protein a blas. Roedd yn hynod o flasus (a hawdd.) Salsa gwyrdd sydd yn angenrheidiol. Gweddill y blat - tatws melys hash brown, quinoa gyda groatiau gwenith yr hydd

Wednesday, August 7, 2019

gwobr werthfawr werthfawr

Daeth fy mab ifancaf adref ddoe wedi gorffen ei waith haf yn llwyddiannus. Daeth â phentwr o ddillad golchi, ond dim ots; mae'n braf cael ei gwmni am y tro cyntaf ers mis Ionawr. Mae o'n edrych yn fwy tenau ond cryfach ar ôl gweithio tu allan drwy'r haf. Ar y diwrnod olaf yn y gwerllys, roedd parti syml i ffarwelio'r staff, a chafodd wobr am fod yn y Person Mwyaf Gwir ar y Blaned Ddaear!  - gwobr hynod o werthfawr yn fy nhyb i. 

Tuesday, August 6, 2019

dawn annisgwyl

Doeddwn i ddim gwybod bod gan ŵr fy merch ddawn baentio nes ddoe. (Cerddor ydy o.) Mae o'n helpu fy merch gyda murluniau yn y cefndir yn aml , ond cafodd gyfle i ddangos ei ddawn yn y wŷl murlun yn Indiana. Ynghyd â'r grŵp o'r artistiaid, paentiodd hwn er mwyn i'w werthu a chodi pres ar gyfer y gymuned. Cafodd ei ysbrydoli gan ei ymweliad â'r twnnel dan y wal yn Jerwsalem. 

Monday, August 5, 2019

eisteddfod

Wrth weld yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ers dyddiau, fedra i ddim peidio â chofio fy ymweliad ag Eisteddfod y Bala ddeg mlynedd yn ôl. Roeddwn i'n gyffro i gyd yn cael profi'r diwylliant mwyaf Cymraeg  -  y babell binc, stondinau, pobl, ffrindiau, bwyd, ac yn y blaen, poeth yn yr awyrgylch hollol Gymraeg. Profiad bythgofiadwy oedd o. Dymuniadau gorau i bawb ar y maes yn Llanrwst.
y llun: Eisteddfod y Bala, 2009

Sunday, August 4, 2019

noor


Roedd fy merch yn cael hi'n ofnadwy o anodd paentio'r murlun hwnnw. Roedd mor anodd fel roedd hi eisiau rhoi'r gorau iddo, a'r yrfa fel artist hyd yn oed. Dechreuais i ynghyd â phawb a welodd ei hargyfwng weddïo’n daer drosti hi. Diolch i Dduw sydd yn ateb ein gweddi, cafodd hi ysbrydoliaeth newydd, a gorffennodd y murlun hyfryd. Dyma Noor, Cristion o Irac a ffodd gyda'r teulu rhag ISIS i Wlad yr Iorddonen.

Saturday, August 3, 2019

heddwch

Mae'r gwiwerod mor benderfynol fel roedd rhaid i mi roi'r gorau i'r bwydwr aderyn (am y tro.) Yn ôl at yr hen lamp llawr - gosodais y rhwystr at y polyn sydd yn ymddangos yn effeithiol iawn. Rŵan, mae'r adar yn medru bwyta'r hadau'n rhwydd heb i mi frwydro yn erbyn y gwiwerod. 

Friday, August 2, 2019

brenhines

Mae fy merch hynaf yn dal yn Indiana ar gyfer yr ŵyl murlun. Cafodd ei gwybod yn sydyn y byddai parti heno, a hithau heb ffrog addas. Dim problem. Aeth i hoff siop gadwyn yn y dref, sef Goodwill, a phrynu ffrog a chlustdlysau chwaethus am 13 doleri. Dw i a'r teulu'n ei galw hi'n frenhines Goodwill.

Thursday, August 1, 2019

heb flodau

Mae ein hydrangea heb flodeuo er bod y dail wedi tyfu'n enfawr erbyn hyn. Mae'n ymddangos mai math ohonyn nhw sydd yn blodeuo ond unwaith ydy o yn ôl Wicipedia. Ces i a'r gŵr yn ein siomi, ond dan ni'n eu caru nhw fodd bynnag, a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o ddŵr bob amser. Maen nhw'n edrych yn hapus.