Wednesday, March 30, 2022

iogwrt cartref

Des i ar draws fideo am sut i wneud iogwrt cartref. Roedd yn syml dros ben. Y peth anosaf oedd cadw'r tymheredd yn gyson. Er dwedodd y dyn am beidio, roedd yn rhy oer yn y popty, ac felly roeddwn i'n ei dwymo bob hyn a hyn. Unwaith anghofiais ei ddiffodd, ac aeth y popty'n rhy boeth! Peth arall - llosgais y sosban tra oeddwn i'n twymo'r llefrith. Bydda i'n defnyddio microdon y tro nesaf. Dyma'r canlyniad beth bynnag. Mae ganddo flas ysgafn heb fod yn sur. Llwyddiant mawr!

Tuesday, March 29, 2022

achub y goeden

Pan es i'n ôl at y goeden geirios i weld sut roedd hi'n mynd ymlaen, ces i sioc i ddarganfod bod gwinwydden barasitig wedi cael gafael ynddi'n dynn! Roedd tentaclau tenau fel gwifrau metel wedi torchi o gwmpas nifer o'r canghennau ifanc. Dyma'r gŵr yn torri'r dihiryn i lawr agos at y gwraidd i achub y goeden druan. Efallai ei bod hi'n ddiolchgar.

Saturday, March 26, 2022

blodau ceirios cyntaf

Er bod y tywydd yn dal yn oeraidd, mae'r planhigion yn awyddus i fwrw ymlaen. Tra fy mod i'n cerdded y bore 'ma, gwelais y blodau ceirios cyntaf yn y gymdogaeth. Coeden ddinod fach wrth ochr stryd ydy hi, ond bydda i'n edrych ymlaen at ei gweld hi bob gwanwyn. Efallai mai ond fi sydd yn rhoi unrhyw sylw iddi. 

Friday, March 25, 2022

y gweddill o'r henner lleuad

Oherwydd fy mod i'n deffro'n gynnar bob dydd, bydda i'n cael gweld y lleuad yn goleuo'r awyr tywyll cyn y wawr. Yr hanner lleuad oedd heddiw. Pan es i am dro yn y bore, roedd dyma'r gweddill ohoni yn yr awyr las ysgafn. 

Wednesday, March 23, 2022

ddim yn ildio


Cafodd y Wenynen ei chlou allan o Drydar yn ddiweddar oherwydd bod yr olaf yn mynnu ei bod hi wedi torri eu rheolau yn erbyn "ymddygiad atgas," sef barn nad ydyn nhw'n ei hoffi, tybiwn i. Dydy hi, fodd bynnag, ddim yn ildio i'r bygythiad. I'r gwrthwyneb, mae hi'n taro'n ôl yn ddi-ofn, a dal i bostio erthygl feiddgar (a doniol) ar ôl y llall. Dal ati, y Wenynen!

Tuesday, March 22, 2022

geiriau doeth


Methais fynd yn ôl i gysgu eto wedi cael fy neffro gan larwm yng nghanol nos. Penderfynais wrando ar ddyfyniadau enwog gan yr Arlywydd Abraham Lincoln. Ces i fy nharo gan hwn. Mae'n hollol wir hyd yn oed heddiw.

"Na cheith America byth ei dinistrio o'r tu allan. Os byddwn yn petruso ac yn colli ein rhyddid, canlyniad dinistrio ein hunain y bydd." 

Saturday, March 19, 2022

dewis anturus

Ces i a'r gŵr swper yn El Zarape neithiwr. Penderfynon ni fod yn anturus a dewis saig anarferol, sef chimichanga berdys i'r gŵr, a quesadilla cyw iâr i fi. Doedden ni ddim yn gwybod beth ydy chimiganga a dweud y gwir; math o burrito wedi'i ffrio'n ddwfn ydy o. Roedden nhw ddau'n flasus. Roedd fy un i yn ddigon bach fel fy mod i'n medru gorffen popeth.

Friday, March 18, 2022

y salmau 37

Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus,
na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.
Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt,
a chrino fel glesni gwanwyn.
Ymddiried yn yr Arglwydd a gwna ddaioni....
Disgwyl yn dawel am yr Arglwydd,
aros yn amyneddgar amdano.

Tuesday, March 15, 2022

confoi - jerico 7


Dyma beth sy'n digwydd o gwmpas D.C. tra bod y prif gyfryngau a'r llywodraeth yn ceisio'n galed i anwybyddu (ac mae rhai ohonyn nhw'n ceisio rhwystro) y Confoi. Swnio fel shofars yr Israeliaid o amgylch Jerico!

Monday, March 14, 2022

y wenynen

Wedi i'r eira ddodi, mae'r Confoi yn ail-gychwyn gyrru o gwmpas y D.C. Tra fy mod i'n postio amdano bob dydd, roedd y Wenynen yn prysur fwrw ymlaen gyda'i herthyglau dychanol llym. Hon ydy gorau'r wythnos yn fy nhyb i.

"Wrth i'r rhyfel rhwng Rwsia a'r Wcráin ddwysau, mae bwytai ledled America bellach yn gofyn am brawf o gefnogaeth Wcráin i'r cwsmeriaid. Pan ofynnwyd a fyddai angen cardiau brechlyn hefyd, syllu'n wag a wnaeth y perchennog, a dweud, 'beth? dw i ddim yn siŵr am beth dych chi'n sôn amdano.' "

Saturday, March 12, 2022

confoi - jerico 6

Wrth eira Canolbarth wedi symud i'r Dwyrain, mae'r Confoi yn gorfod cael hoe arall heddiw. Dal ati bawb! Mae pobl America gyda chi!


Friday, March 11, 2022

confoi - jerico 5

Tra bod y llywodraeth a'r prif gyfryngau'n dal i anwybyddu Confoi'r Bobl yn llwyr, ceir teithwyr a oedd yn arwain Ymgyrch Jerico o flaen RVs, ceir gwersylla a thryciau ar Beltway heddiw. Cynhaliwyd cyfarfod ar risiau’r Capitol gyda Seneddwr arall ac arweinydd y confoi bach o Alaska yn y prinhawn.

Shabbat Shalom


Thursday, March 10, 2022

confoi - jerico 4

Cyhoeddodd y Seneddwr Ted Cruz ei farn i'r wasg, wedi reidio gyda'r Confoi ar Beltway heddiw. Mae o'n eu cefnogi nhw, sydd yn cynrychioli pobl America, yn gyfan gwbl. Gobeithio y bydd mwy a mwy o wleidyddion yn ymuno â fo. Na fydd y Confoi yn stopio Ymgyrch Jerico nes i'r llywodraeth gydymffurfio.

Wednesday, March 9, 2022

confoi - hoe fach

Ceith y Confoi hoe fach heddiw er diogelwch y gyrwyr oherwydd y tywydd drwg. Ond na all hynny ei rwystro.

Mae'n annog yr Americanwyr gwladgarol i ffonio eu Cynrychiolwyr Tŷ, a gofyn iddyn nhw am bleidleisio i ddod â’r pwerau brys i ben, neu fe gollan nhw eu pleidleisiau!

Tuesday, March 8, 2022

confoi - jerico 3

Ffrwyth cyntaf y Confoi - bydd yr arweinwyr yn cyfarfod â dau Seneddwr Gweriniaethol heddiw tra bydd y Confoi yn cylchu un tro ar Beltway mewn dwy res.

Y llun: "gwersyll" y Confoi

Monday, March 7, 2022

confoi - jerico 2

Cylchodd y Confoi o gwmpas D.C. eto yn chwythu cyrn, unwaith heddiw heb fynd i mewn i ganol y ddinas. Aeth yn ôl i Hagerstown i noswylio. 

Sunday, March 6, 2022

confoi - jerico

Wedi cynnal rali andros o fawr a llwyddiannus neithiwr, mae'r Confoi yn cylchu'r DC Beltway yn araf ddwywaith heddiw. Yna, bydd yn mynd yn ôl i Hagerstown heno. Mae'n bwriadu gwneud yr un fath bob dydd nes i'w ofynion yn cael eu bodloni, hynny ydy diddymu Mesurau Argyfwng COVID-19 ar unwaith; parchu ein Cyfansoddiad annwyl.

Amser Jerico! Mae'r tryciau eisoes yn chwythu cyrn!

Saturday, March 5, 2022

confoi - ar drothwy dc

Wedi teithio dros America am ddyddiau, mae Confoi'r Bobl wedi cyrraedd Hagerstown, Maryland. Cynhalier rali heno. Llu o gerbydau yn rhuo ar ffyrdd, gyda baneri gwladgarol yn chwifio; cefnogwyr brwdfrydedd wrth ochr y ffyrdd yn bloeddio'n angerddol - fe wnaeth hyn i gyd i mi grio.

Friday, March 4, 2022

confoi - 10fed dydd

Mae'r Confoi yn rhuo drwy Ohio a Maryland heddiw wrth gasglu nifer anhygoel fawr o gefnogwyr. Bydd confois llai yn ymuno â nhw heno yn Hagerstown, Maryland. Yfory, i Washington DC!

Thursday, March 3, 2022

confoi - 9fed dydd

Roedd y rali yn llwyddiannus dros ben. Cafodd cerbydau eraill gyfle i ymuno â nhw hefyd. Maen nhw wrthi'n gyrru drwy Ohaio heddiw. Dyma fideo byr ardderchog a saethwyd ar orffordd yn Springfield, Missouri.

Wednesday, March 2, 2022

hoe fach

Mae'r Confoi'n cael hoe fach heddiw. Bydd yn aros yn Monrovia, Indiana; bydd yna rali yn y nos. 

Ddydd Llun crasodd rhai plant o Cuba, Missouri 500 cinammon roll ar gyfer gyrwyr y Confoi. Dyma eu neges: "Dyma ein ffordd ni i ddweud diolch! Dan ni'n brwydro yn erbyn y mandad hwn o’r dechrau. Dan ni mor ddiolchgar am y cyfle i wneud rhywbeth i’r rhai ohonoch sydd yn mynd â'n brwydr ni at y Genedl ac at y  llywodraeth!"

Tuesday, March 1, 2022

confoi - 7fed dydd

Gadawodd y Confoi Cuba, Missouri y bore 'ma. Aeth heibio i St. Louis; bydd yn cyrraedd Monrovia, Indiana heno. Na fydd yn stopio yn Illinois. Dal ati, bawb!

pethau bychain

"Cadwch eich ffydd a’ch credo, a gwnewch y pethau bychain."

Gŵyl Dewi Sant hapus.