Tuesday, February 28, 2023

wedi drysu

Codais y Ddraig Goch o flaen y drws, a phostio cyfarchion Ddydd Gŵyl Dewi'r bore 'ma. Yna, roeddwn i'n sylweddoli mai yfory ydy'r 1af Mawrth! Dw i newydd dynnu’r faner yn ôl yn gyflym, a symud y post yn y blwch drafft. Tan yfory felly.

Monday, February 27, 2023

corwynt

Aeth corwynt drwy Norman, Oklahoma lle oedd fy merch a'i gŵr yn arfer byw. (Maen nhw'n rentio eu tŷ bellach.) Cafodd y tai dros y stryd eu dinistrio'n llwyr tra bod y rhai ar ochr tŷ fy merch heb ddifrod. Mae'n dangos bod y bobl yn ddiogel, a bydd yr yswiriant yn talu dros y tai a gollon nhw, ond bydd yn gyfnod ofnadwy o galed am fisoedd.

Saturday, February 25, 2023

blodau ceirios cyntaf

Dyma ddillad (Blodau Ceirios Cyntaf) ar gyfer ymarfer corff ac ymlacio mae fy merch hynaf newydd ddylunio. Maen nhw ar seiliedig ar 72 tymor micro Japan. Tybed fydd hi'n bwriadu dylunio 71 gwahanol ddillad eleni? Gawn ni weld.

Friday, February 24, 2023

twll sydyn

Ymddangosodd dwll dan fondo yn sydyn. Does gen i syniad beth ydy'r achos. Efallai dim ond bod y tŷ yn heneiddio. Dyma i'r gŵr gau'r twll gyda thâp dwythell a masgio er mwyn atal rhyw anifeiliaid bach yn mynd i mewn a gwneud nyth.

Wednesday, February 22, 2023

het gwych

Cafodd y gŵr anrheg sydyn yn annisgwyl gan y cymydog drws nesaf - het Trump 2024! Prynodd y cymydog un iddo ei hun ac arall i'r gŵr. Mae'r gŵr wrth ei fodd wrth gwrs, ac yn ei gwisgo ym mhob man, hyd yn oed yn y tŷ.

Tuesday, February 21, 2023

yn lle nuttela


Siwgr ac olew palmwydd ydy'r ddau gynhwysyn gyntaf yn Nuttela. Er ei fod o'n hynod o flasus, dw i byth yn ei fwyta bellach. Dyma bast llawer iachach sydd yn debyg dw i wedi ei greu. Dim ond cymysg o bowdr coco, mêl a llefrith soi ydy o. 

Monday, February 20, 2023

adnodau

Pura fi ag isop fel y byddaf lân;
golch fi fel y byddaf wynnach nag eira.
y Salmau 51:7

Crea galon lân ynof, O Dduw,
rho ysbryd newydd cadarn ynof. 
y Salmau 51:10

Saturday, February 18, 2023

coffi ysgafn

Roedd gen i eisiau sydyn ar goffi wedi ei baratoi gyda dŵr oer. Mae o'n hynod o boblogaidd yn barod, ond doeddwn i ddim yn bwrw sylw arno fo tan yn ddiweddar. Mae o'n ysgafn heb fod yn sur. Dw i ddim yn hoffi diod oer, ac felly bydda i'n ei gynhesu gyda llawer o lefrith soi. Mae'n hynod o hawdd ei baratoi ond yn drafferthus ei hidlo fodd bynnag. Bydda i eisiau bagiau rhwyll dafladwy fel hyn.

Thursday, February 16, 2023

pothos

Cawson ni bothos gan ffrind ddoe. Doedd gynnon ni ddim planhigion yn y tŷ ers blynyddoedd. Doedd gen i ddim diddordeb. Braf gweld peth gwyrdd wedi'r cwbl. Mae'n ymddangos mai hynod o hawdd gofalu am bothos; planhigyn perffaith i mi!

Wednesday, February 15, 2023

dim gwastraff

Dw i heb gael gwared ar y lint o'r peiriant sychu am sbel. Casglais gryn dipyn heddiw. Na thaflais o yn y bin sbwriel, ond yn y bag o frigau a chonau pinwydd yn y gornel. Defnyddir nhw i gynnau tân yn y stôf llosgi coed.

Tuesday, February 14, 2023

lucca

Mae fy ail ferch yn Japan eisiau mynd i'r Eidal yn ystod ei gwyliau gwanwyn. Cafodd awydd hollol sydyn. (Roedd hi'n dysgu Saesneg i blant am dymor yno o'r blaen.) Mae hi eisiau dysgu Eidaleg ynghyd â darlunio y tro 'ma. Gofynnodd i mi am y cwrs Eidaleg a fynychais yn Lucca yn 2014. Dyma bori'r lluniau wrth gofio'r profiad braf a ges i. (y llun: cinio yn Sgwâr Puccini)

Monday, February 13, 2023

damwain unigryw

Ces i ddamwain unigryw yn y tŷ ddeuddydd yn ôl. Syrthiodd y stôl a oeddwn i arno, a ches i godwm ofnadwy o galed ar y llawr pren. Drwy drugaredd Duw, na throwyd esgyrn, ond roeddwn i mewn poen ofnadwy am sbel. Dw i'n teimlo'n llawer gwell heddiw. Rhaid i mi fod yn fwy gofalus (wrth i mi heneiddio!) Gweler y tramgwyddwr yn y llun.

Saturday, February 11, 2023

llaw arth


Mae stondin coffi dros dro unigryw yn Osaka, Japan. Llaw arth sydd yn eich gweini. Pobl gydag ofn cyfathrebu sydd yn gweithio yno yn gwisgo maneg flewog. Cyfle iddyn nhw weithio heb orfodi siarad â neb. Mae'r cwsmeriaid wrth eu boddau hefyd, yn enwedig plant. Syniad gwych.

Friday, February 10, 2023

cappucino

Dw i newydd ddarganfod bod llefrith soia'n dda i wneud cappuccino. Ffeindies y modd gorau i greu ewynnau hefyd - ysgwydwch lefrith cynnes mewn llestr wedi'i gau'n dynn. Mae hyn yn gweithio'n llawer gwell na'r offerynnau drud (ac eithrio un proffesiynol wrth gwrs.) Yr anfantais ydy bydd ewynnau'n diflannu'n gyflym!

Tuesday, February 7, 2023

wyau

Wrth i brisiau popeth gynyddu’n gyflym (diolch i'r llywodraeth gyfredol,) dw i a'r gŵr yn ceisio arbed pres mwy nag o'r blaen. Mae'n hurt pa mor ddrud ydy wyau'n ddiweddar. Mae'r gŵr yn cael brecwast yn ffreutur y brifysgol bob wythnos, a bwyta cymaint ag y myn.

Monday, February 6, 2023

lle mae'r caws?

Prynu pecyn o gaws a wnes i ddydd Gwener. Dw i'n siŵr fy mod i oherwydd bod gen i dderbynneb. Ond methais ei ffeindio. Efallai fy mod i wedi ei adael at y til yn ddamweiniol. Yna, ffeindiais o ddeuddydd wedyn, mewn drôr yn y gegin..... 

Saturday, February 4, 2023

dadmer

Wrth i'r tymheredd godi, mae'r strydoedd yn ddiogel o'r diwedd. Roeddwn i'n medru cerdded tu allan am y tro cyntaf ers wythnos. Er bod y gwynt yn oeraidd, roedd yr awyr yn ffres ac adfywiol. Roedd mor braf!

Thursday, February 2, 2023

gwresogydd bach

Dw i'n hoff iawn o'r gwresogydd bach hwn. Mae o'n cynhesu ystafell fach yn effeithiol heb chwythu awyr annifyr. Pan fod gen i waeth wrth y ddesg, bydda i'n gynnes braf tra bod y gŵr yn gweithio ar ei gyfrifiadur wrth y tân yn yr ystafell fyw. Dyn ni'n arbed pres hefyd heb ddefnyddio'r gwres canolog.