Friday, April 26, 2024

felly sut dylen ni fyw?

Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes, neu efallai bedwar ugain trwy gryfder, ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder; ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith. - y Salmau 90:10

Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth. - Effesiaid 5:15

Gwnewch yn siŵr beth sy'n gymeradwy gan yr  Arglwydd. Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni. - Effesiaid 10:11

Wednesday, April 24, 2024

102 oed

Bydd fy mam yn troi'n 102 oed 25 Ebrill. Collodd rywfaint o'i chof ond mae'n rhyfeddol o iach am ei hoed. Gyda gofal clên staff y cartref henoed, mae'n dal i fwynhau'r bywyd bob dydd. Y peth hyfrytaf ydy ei bod hi'n credu yn Iesu Grist, ac ynddo fo mae ganddi obaith tragwyddol.



Monday, April 22, 2024

pesach hapus

"Yna bydd pob aelod o gynulleidfa Israel yn eu lladd fin nos, byddant yn cymryd peth o'r gwaed a'i daenu ar ddau bost a chapan drws y tai lle y bwyteir hwy.... Pan welaf y gwaed byddaf yn mynd heibio i chwi, ac ni fydd y pla yn eich difetha pan drawaf wlad yr Aifft." 
Exodus 12)

Yn union fel roedd gwaed oen perffaith yn amddiffyn yr Israeliaid rhag y pla, bydd gwaed Iesu yn amddiffyn pawb sy'n credu ynddo rhag digofaint Duw.

Pesach Hapus - hapus go iawn i bawb sydd yn credu.

Saturday, April 20, 2024

peidiwch â chydymffurfio

Peidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef. (Rhufeiniaid 12:2)

Wednesday, April 17, 2024

yr iris cyntaf

Ces i fy nghyfarch gan yr iris cyntaf yn yr iard y bore 'ma. Ceith ei ddilyn gan nifer o eraill. Maen nhw'n dda; dydyn nhw ddim angen gofal o gwbl bron. Dyma flodau i mi!

Tuesday, April 16, 2024

adfyd neu ffyniant

"Bydd hwn yn pasio hefyd."
- arwyddair craff a chryno ar gyfer adfyd neu ffyniant a roddwyd gan Solomon i'r Swltan, yn ôl y traddodiad. Mae'n taro deuddeg yn bendant. 

Dwedwyd hwn yn dda mewn ffordd arall, gan Nanw Siôn yn "Te yn y Grug":
"D' ydi amsar diodda nag amsar petha braf ddim yn para'n hir."

Hwn sydd yn para'n hir, neu am byth -
Gair Duw

Monday, April 15, 2024

melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio

Lansiodd Iran dros 300 o daflegrau balistig gan gynnwys dronau o Iran, Irac, ac Yemen tuag at ddinasoedd Israel. Cafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu dinistrio gan Awyrlu Israel yn yr awyr cyn iddyn nhw gyrraedd eu cyrchfan, gyda chymorth rhai gwledydd eraill. Rhaid Iran a phwy bynnag sydd eisiau niweidio Israel cofio geiriau Duw:

"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio..."