Tuesday, June 9, 2009

cobler 'blueberries'


Bwyton ni gymaint o 'blueberries' ffres â mynnon ni a gwnes i gobler efo'r gweddill. Roedd o'n arbennig o dda. Mae'n ddrwg gen i Linda. Dw i'n methu ffeindio sut mae dweud 'blueberries' yn Gymraeg. Oes yna rywun yn gwybod?

7 comments:

Corndolly said...

Dw i ddim yn gwybod sut i ddweud 'blueberries' yn y Gymraeg, ond dw i'n gwybod sut i'w bwyta nhw

Corndolly said...

Rôn i'n meddwl, efallai os ydy 'mwyar duon' yn black berries mai 'mwyar gleision' ydy 'blue berries' ??

Linda said...

Mmmm...mae'r cobler yn edrych yn flasus iawn . Oes gen ti damaid ar ôl i mi ;)
Mae mwyar gleision yn swnio'n dda i mi ....da iawn Corndolly !

Emma Reese said...

Mae'r cobler wedi mynd yn barod!

Mwyar gleision amdan i felly!

asuka said...

mae e'n edrych mor ffeind! wi bron â gallu ei glywed e. mmmm.
ydyn nhw'n gwneud "cobblers" ym mhrydain tybed? smo nhw'n bodoli yn awstralia hyd y gwn i. syrpréis neis i ni o'n nhw wrth symud i america!

(faint o amser y cymerodd y cobbler i gyd i ddiflannu tybed?)

Emma Reese said...

Mewn llai na diwrnod diflannodd o. Mae cobler yn haws o lawer na phastai. Dyna pam mod i'n ei wneud o!

Corndolly said...

Hi Asuka, dw i'n gwneud 'cobler' yma ym Mhrydain, ond mae 'cobblers' i mi yn rhyw fath o 'dumpling' sy'n mynd mewn stiw cig eidion. Mae'r rysáit yn debyg i sgonau.