Thursday, November 3, 2011

seremoni frenhinol

A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn gwybod hyd yma bod gan deulu brenhinol Japan etifedd gwrywaidd ers pum mlynedd (mab ail fab yr ymerawdwr presennol.) Dw i'n rhyw gofio bod yna trafodaeth gâi menywod olynu fel ymerodres flynyddoedd yn ôl. Mae'n ymddangos bod y drafodaeth wedi gohirio am y tro.

Beth bynnag y ddadl, roedd yna seremoni i ddathlu penblwydd tywysog yn bump oed am y tro cyntaf ers 41 mlynedd. Mae o i neidio oddi ar fwrdd go (gwyddbwyll Japaneaidd) mewn gwisg draddodiadol. Fe wnaeth Hisahito, y tywysog bach yn dda iawn.

2 comments:

neil wyn said...

Dwi wedi clywed son yn ddiweddar am deulu brenhinol Lloegr yn newid yr etifedd gwrywaidd, ond son am wneud hyn rhywdro yn y dyfodol ydynt dwi'n meddwl,dim rwan.

Emma Reese said...

Mae hynny'n duedd ddiweddarach yn y gwledydd eraill yn Ewrop mae'n ymddangos. Ella bydd Japan yn eu dilyn rywdro.