Friday, February 21, 2014

yr unig estron

Mae fy merch yn dal i fwynhau ei phrofiad newydd yn yr Eidal. Dim lle poblogaidd i dwristiaid ydy o er bod hi'n dref dwt a hardd sydd yn debyg mewn sawl agwedd i'r dref fy mam yn byw ynddi yn Japan. Ac felly does dim llawer o dwristiaid yno. A dweud y gwir, mae hi'n meddwl mai hi ydy'r unig estron bron. Pan roedd hi'n mynd o gwmpas yn ei chrys-t un diwrnod braidd yn gynnes, cafodd hi ei ofyn gan y trigolion ydy hi'n ymwelydd! Maen nhw i gyd yn gwisgo siacedi eithaf trwm. Mae pawb yn glĂȘn iawn beth bynnag, y teulu, ffrindiau'r teulu, yr athrawon eraill.

No comments: