Cafodd Jane o Jerwsalem air efo un o filwyr Cenhedloedd Unedig sydd yn cael hoe fach rhag perygl yn Syria. Maen nhw'n mynd ar wibdaith sydyn yn y dref tra bod nhw yno cyn mynd yn ôl i Syria. Mae'n braf bod ganddyn nhw loches ddiogel yn Israel. Na fedran nhw ddisgwyl croeso cynnes felly gan wledydd eraill yn yr ardal.
Tuesday, May 31, 2016
lloches ddiogel
Cafodd Jane o Jerwsalem air efo un o filwyr Cenhedloedd Unedig sydd yn cael hoe fach rhag perygl yn Syria. Maen nhw'n mynd ar wibdaith sydyn yn y dref tra bod nhw yno cyn mynd yn ôl i Syria. Mae'n braf bod ganddyn nhw loches ddiogel yn Israel. Na fedran nhw ddisgwyl croeso cynnes felly gan wledydd eraill yn yr ardal.
Sunday, May 29, 2016
adria a'i gŵr
Saturday, May 28, 2016
clue
Friday, May 27, 2016
wythnos arall
Dylai fy merch hynaf aros wythnos arall yn New Jersey i greu mwy o furlun yn ôl ewyllys ei chwsmer. Roedd ei gŵr yn gorfod mynd adref ddiwedd yr wythnos diwethaf, ac felly ar ei phen ei hun mae hi. Yn ffodus, mae yna lawer o ddynion sydd yn gweithio o'i chwmpas yn y maes awyr, ac maen nhw'n barod i'w helpu'n cludo pethau trwm, ayyb. Deffrodd hi ar olygfa hyfryd oddi wrth ffenestr y gwesty un bore.
Thursday, May 26, 2016
tywysog gwyrdd
Dw i'n gwirioni arno fo. (I'm delighted with him, not I'm hooked on him, just in case you try to use Google.) Person arall sydd yn anhygoel o ddewr yn y byd peryglus hwn. Mae o'n dweud y gwir yn gyhoeddus heb ofn ers iddo gael ei oleuo er gwaethaf y perygl. Wir, mae popeth mae o'n ei ddweud yn gwneud tunnell o synnwyr. Gobeithio y bydd llawer o bobl yn ei glywed a chael gwybod beth sydd yn digwydd yn Nwyrain Canol a'r byd mewn gwirionedd. Pob bendith i Mosab Hassan Yousef.
Wednesday, May 25, 2016
jane o jerwsalem
Mae hi'n caru Israel. Mae hi'n siarad drosti hi. Jane ydy ei henw hi, dynes o Ddenmarc. Bob dydd mae hi'n postio ar Facebook (Israel, One Nation) beth mae hi'n ei weld yn Jerwsalem lle mae hi'n byw, mewn erthygl neu fideo er mwyn i'r byd wybod beth sydd yn digwydd yn Israel mewn gwirionedd. Mae hi'n cael ei bygwth am beth mae hi'n ei wneud, ond mae hi'n ddewr; mae hi'n dal ati oherwydd bod hi'n caru Israel a'r bobl cymaint.
Tuesday, May 24, 2016
tipyn o hebraeg
ON: Roedd y gacen yn flasus!
Monday, May 23, 2016
cacen benblwydd priodas
Wrth baratoi cacen benblwydd priodas, fe wnes i gamgymeriad ofnadwy. Dechreuais gymysgu siwgr ac wyau, ac ychwanegu sydd lemon. Yna gwelais y menyn ar y cownter! Dylwn i fod wedi cymysgu siwgr a menyn gyntaf wrth gwrs. Roedd yn rhy hwyr. Roedd gen i gymysgedd wedi'i wahanu'n llwyr. Mae'r gacen newydd orffen ac yn oeri ar y bwrdd. Gobeithio y bydd hi'n blasu'n iawn. Rysáit newydd gan hogyn o Ffrainc ydy hon. O leiaf roeddwn i'n llwyddo i ddeall faint o fenyn, siwgr a blawd byddai angen.
Sunday, May 22, 2016
cynhaeaf
Mae gan yr ysgol feithrin yn Tokyo mae fy merch yn dysgu Saesneg ynddi nifer o weithgareddau hwyl i'r plant. Garddio ydy un ohonyn nhw. Mae'r plant yn plannu llysiau, gofalu amdanyn nhw, a'u cynaeafu. Cawson nhw gynhaeaf llwyddiannus o bigoglys yn ddiweddar. Modd hyfryd iddyn nhw ddysgu am yr amaethyddiaeth a chael hwyl ar y pridd ydy hynny.
Saturday, May 21, 2016
paned
Friday, May 20, 2016
dechrau paentio
Dechreuodd fy merch hynaf ar ei murlun diweddaraf ym Maes Awyr Newark. Mae'r lle yn gorlifo efo gweithiwyr eraill sydd yn adnewyddu'r tai bwyta yno. Rhaid i bawb fynd drwy'r giât diogelwch bob bore. O leiaf mae hi'n medru paentio'n ddiogel. Bydd hi'n gweithio ar y murlun am wythnos wrth aros mewn gwesty cyfagos yn y nos.
Thursday, May 19, 2016
pecyn efo seren dafydd
Wednesday, May 18, 2016
newydd wedd
Mae gan wefan tatŵ fy merch hynaf olwg newydd. Cafodd hi gyngor gan broffesiynol er mwyn datblygu ei busnes. Mae'n edrych yn fwy deniadol. Un peth diddorol ydy map sydd yn dangos lle mae ei chwsmeriaid yn byw. Maen nhw'n wir ryngwladol.
Monday, May 16, 2016
above and beyond
Fe wnes i wylio ffilm ddogfen (drwy Netflix) efo'r teulu neithiwr, sef Above and Beyond. Ffilm am y peilotiaid Americanaidd a oedd yn hedfan dros Israel yn ystod y rhyfel annibyniaeth yn 1948 ydy hi. Mae rhai ohonyn nhw'n dal i fyw i adrodd yr hanes anhygoel hwnnw. Doedd dim awyrlu yn Israel pan ddechreuodd y gwledydd Arabaidd o'i chwmpas hi ymosod ar y wlad Iddewig newydd-anedig. Aeth cannoedd o beilotiaid a chyn peilotiaid dros y byd i Israel i'w helpu. Y pedwar awyren ail-law, wedi'u hatgyweirio a hedfanwyd gan bedwar Americanwr oedd Awyrlu Israel gyntaf. Curon nhw'r gelynion enfawr fel Dafydd a gurodd Goliath....
Sunday, May 15, 2016
cyfres goginio arall
Mae You Tube yn gwybod beth dw i'n hoffi ei weld (weithiau maen nhw'n hollol anghywir!) Awgrymon nhw'r fideo hwn i mi - cyfres goginio gan Iddewes sydd yn siarad Eidaleg tra bod hi'n dangos coginio Iddewig, a thaflu gair neu dau o Hebraeg. Mae ganddi hi nifer o ryseitiau dw i eisiau eu profi. Mae hyn yn edrych yn dda, ond does dim zucchini crwn yn y siopau yma!
Saturday, May 14, 2016
seinydd rhad ac am ddim
Dw i'n gwneud rhai ohonyn nhw ar y rhestr ers blynyddoedd tra bod y lleill yn syniadau newydd i mi - y pethau ynglŷn â'r dechnoleg fodern wrth gwrs! Dw i'n hoffi gwrando ar Radio Cymru wrth baratoi fy hun yn y bore. Weithiau dydy'r sain ddim yn ddigon uchel, ond dw i ddim eisiau talu am seinydd penodol ar gyfer fy iPhone; mae hyn yn ateb perffaith i mi. Mae'n gweithio!
Friday, May 13, 2016
rafftio
Mae fy merch ifancaf a'i ffrind newydd adael am y brifysgol yn Missouri wedi treulio dyddiau o wyliau'n hapus. Yr uchel bwynt oedd mynd i lawr Afon Illinois cyfagos mewn rafft. Gan nad ydy'r tymor twristiaid eto, doedd neb arall ar yr afon, ac roedd y teulu a'r ffrind yn medru mwynhau gweithgaredd mwyaf poblogaidd y dref mewn heddwch. Dw i'n falch bod hi wedi cael amser pleserus cyn iddi ddechrau gweithio yng nghegin y brifysgol yn golchi llestri am wyth awr bob dydd o yfory ymlaen.
Thursday, May 12, 2016
Wednesday, May 11, 2016
gyoza
Tuesday, May 10, 2016
prosiect newydd
Mae gan fy merch hynaf brosiect murlun newydd, ym maes awyr Newwark y tro 'ma, yn nherfynell United Airlines i fod yn fanwl. Cafodd hi ddewis i baentio murlun ar gyfer Little Purse, tŷ bwyta Tsieineaidd yno sydd gan gogydd poblogaidd. Mae cwmni United Airlines yn gwario llawer o bres i adnewyddu eu terfynell, ac mae'r tŷ bwyta'n cymryd mantais ar y cynllun. Bydd fy merch ynghyd a'i gŵr yn hedfan i'r maes awyr, a threulio wythnos yno i baentio'r murlun. Mae hi newydd orffen braslun. Edrycha' i ymlaen at furlun gwych arall.
Monday, May 9, 2016
gwyliau
Saturday, May 7, 2016
graddio
Friday, May 6, 2016
hidlydd metel
Thursday, May 5, 2016
cerdyn priodas
Wednesday, May 4, 2016
coffi gwych
Tuesday, May 3, 2016
y moment
Monday, May 2, 2016
i swper
Roedd yn saig hynod o flasus - cyw, reis, llysiau a wnaed yn yr un badell. Roedd blas lemon yn arbennig o dda. Roedd y teulu wrth ei fodd. A dweud y gwir, does dim sôn am y llysiau (nionyn, garlleg, pupur coch, pys) yn y rysáit, ond roeddwn i'n siŵr bydden nhw'n dda efo'r cyw. Oedden! Y peth gorau oedd bod popeth wedi cael ei goginio yn yr un badell.
Sunday, May 1, 2016
bedydd
Subscribe to:
Comments (Atom)

