Diolchgar dros ben ydw i am y fendith enfawr a dywalltodd fy Nuw arna i eleni eto. Mae'r rhestr yn hir iawn, ond dyma ddewis pum pheth, o'r gwaelod i'r brig.
5: Ces i gyfle i astudio daearyddiaeth y Beibl ar lein.
4: Dw i'n mwynhau'r cyfnod newydd wedi i'r gŵr ymddeol.
3: Mae fy iechyd yn ddigon sefydlog.
2: Mae fy chwe phlentyn i gyd yn rhodio yn y gwirionedd.
1: Maddeuodd Duw fy mhechodau drwy Iesu Grist, ac mae o'n paratoi lle i mi yn ei deyrnas dragwyddol.
Monday, December 31, 2018
Saturday, December 29, 2018
gyda'r holl deulu
Wedi cael gwyliau hyfryd gyda'r holl deulu (deg oedolyn, dau fabi,) dw i a'r gŵr newydd ddod adref. Gan y teulu wedi tyfu'n rhy fawr aros yma bellach, roedden ni'n rhentu Airbnb yn Norman am ddwy noson. Roedd y tro cyntaf i ni weld ein gilydd i gyd ers mwy na thair blynedd. Wnaethon ni ddim byd arbennig, ond treulio amser gyda'n gilydd, difyrru'r babis bach fy mab hynaf, a chael takeout (pizza lleol, bwyd Thai) yn hamddenol. Mae'r pedwar yn dal gyda'u chwaer hŷn yn Norman.
Wednesday, December 26, 2018
anrhegion
Penderfynodd y teulu beidio â rhoi anrhegion Nadolig eleni. Yn eu lle, dyn ni'n mynd i roi cymorth at ein gilydd pan fyddwn ni'n ymgasglu'r wythnos 'ma. Mae'n braf peidio â meddwl amdanyn nhw ond yr anrhegion gan Dduw. Dydy'r trefniant ddim yn cynnwys brawd y gŵr a'i deulu. Cafodd fy chwaer yng-ngyfraith, sydd yn dod o'r Philippins, anrhegion gwych, sef Smith & Wesson, a phortread o'r Arlywydd Trump (ac mae o'n gwenu) gyda ei lofnod.
Tuesday, December 25, 2018
mab a roed i ni
Monday, December 24, 2018
sut cawson nhw wybod?
Y sêr-ddewiniaid - sut cawson nhw wybod bod brenin yr Iddewon wedi cael ei eni, a lle cafodd ei eni, a phopeth drwy'r sêr? Pwy oedden nhw? O le daethon nhw? Gan bwy ddysgon nhw hyn i gyd? Ateb: Daniel yn Babilon, wrth gwrs!
Saturday, December 22, 2018
goleuni yn y nos
Chwech o'r gloch y bore 'ma. Camais allan ar y dec cefn. Roedd yn dal yn nos, ond roeddwn i'n medru gweld yr ardd yn dda fel pe bai goleuni ymlaen. Hi oedd y rheswm - Lleuad Oer, sef y lleuad lawn ym mis Rhagfyr, yn yr awyr gorllewinol. Safais am funud i edmygu creadigaeth Duw.
Friday, December 21, 2018
het i fy mam
Thursday, December 20, 2018
torri'r gwrychoedd allan
Diwreiddiwyd y gwrychoedd o gwmpas y dec cefn yr wythnos 'ma. Y gŵr a'u plannodd flynyddoedd yn ôl, ond roedden nhw'n tyfu'n rhy drwchus nes magu mosgitos ynddyn nhw. (Doedden ni ddim yn gwybod hyn tan yn ddiweddar.) Daeth Kurt â dyn arall gyda pheiriant mawr, torri'r gwrychoedd allan, a mynd â nhw i gwsmer arall sydd eu heisiau. Dim ond $250 a ofynnodd am yr holl waith; casglodd bedwar cwsmer a oedd angen y peiriant arnyn nhw fel bydden ni'n cael rhannu cost y peiriant am ddiwrnod.
Wednesday, December 19, 2018
dau set y geni
Dw i newydd osod dau set y Geni, un wrth y fynedfa, y llall ar y silff ben tân eleni eto. Prynais y set porslen yn Japan, a chael yr un wedi'i wau yn anrheg gan Judy o Loegr lletyais gyda hi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009. Dw i wedi colli cysylltiad gyda hi'n anffodus. Gobeithio ei bod hi'n iawn.
Tuesday, December 18, 2018
dan y wal
Aeth criw o artistiaid gan gynnwys fy merch i Ogledd Israel i greu murluniau ar y wal ffin saith mis yn ôl. Maen nhw newydd glywed mai dan y wal honno roedd Hezbollah wrthi'n palu twneli ers peth amser! Pe baen nhw wedi mynd at y wal gyda'r nos, efallai bod nhw wedi clywed y sŵn. Da iawn IDF am ddarganfod y twneli a'u gwrthweithio. Mae'r trigolion yn ddiogel am y tro, ond rhaid aros yn wyliadwrus.
Monday, December 17, 2018
cerdyn nadolig
Saturday, December 15, 2018
arbenigwr coffi
Mae fy ŵyr yn hoff iawn o "helpu" ei dad i baratoi coffi. Pan glywith sŵn y malwr coffi, bydd o'n rhedeg at y gegin wrth weiddi'n llawen. A dyma fo'n canolbwyntio ar y gwaith yn ddwys. Os bydd o'n tyfu'n arbenigwr coffi yn y dyfodol, dylai fo adrodd sut cychwynodd ei gyrfa pan oedd o'n ddwy flwydd oed!
Friday, December 14, 2018
cerdd
Lluniodd fy merch gerdd er cof am y babi. Cyfieithais yn Gymraeg.
Mawr yw tallit fel arfer
ar ysgwyddau dyn sanctaidd
neu ganopi uwch ben y plant bach
sydd yn tyfu fel Esther neu Manasseh.
Ond eith y tallit bychan â thithau
o dan ddillad a rwygwyd
o dan ddagrau
at fynwes yr Un a oedd hefyd yn fabi diymadferth o'r blaen.
Ac felly, tallit bychan, hwyl fawr am y tro.
Na ddaw ef aton ni.
Ond pan ddatgloir llaw'r Tywysog Giât Aur,
fe awn ni at ef.
Mawr yw tallit fel arfer
ar ysgwyddau dyn sanctaidd
neu ganopi uwch ben y plant bach
sydd yn tyfu fel Esther neu Manasseh.
Ond eith y tallit bychan â thithau
o dan ddillad a rwygwyd
o dan ddagrau
at fynwes yr Un a oedd hefyd yn fabi diymadferth o'r blaen.
Ac felly, tallit bychan, hwyl fawr am y tro.
Na ddaw ef aton ni.
Ond pan ddatgloir llaw'r Tywysog Giât Aur,
fe awn ni at ef.
Thursday, December 13, 2018
bwndl bach
Cynhaliwyd angladd ar gyfer y babi bach ar Fynydd yr Olewydd neithiwr. Wrth gael ei lapio mewn tallit yn freichiau ei daid, roedd yn edrych yn fach fach. Daliodd IDF rai o'r troseddwyr erchyll. Gobeithio y byddan nhw'n dal y gweddill, a dod â nhw i gyd i gyfiawnder.
Wednesday, December 12, 2018
dweud kaddish galarwr
Un o'r saith a gafodd ei saethu yn Israel ddydd Sul gan y Palestiniaid ysgeler oedd Shira. Beichiog oedd hi. Cafodd hi ei hanafu'n ddifrifol. Roedd rhaid cymryd y babi o'r groth i achub y fam. 30 wythnos oed oedd y babi. Er bod Shira wedi dod drwodd, fu farw'r babi. A llawenhau mae Hamas.
Monday, December 10, 2018
tan y tro nesaf
Saturday, December 8, 2018
olynydd nikki
Heather Nauert ydy olynydd Nikki Haley. Llefarydd y Tŷ Gwyn a chyn cyflwynydd Newyddion Fox mae hi. Aeth i Ogledd Corea gyda Mike Pompeo i ryddhau'r gwystlon Americanaidd. Mae hi'n siarad yn glir a heb gynhyrfu, ac yn ymddangos yn hynod o graff. Gobeithio bydd hi'n brwydro mor ddewr â Nikki yn y Cenhedloedd Unedig dros gyfiawnder.
Friday, December 7, 2018
arddangosfa fach
Thursday, December 6, 2018
shamash
"Ni ddaeth Mab y Dyn i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu."
"Myfi yw goleuni'r byd," meddai Iesu. "Ni fydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd."
Wednesday, December 5, 2018
llythyr teulu
Tuesday, December 4, 2018
bwyd olewog
Dyma ginio sydyn a baratois ar gyfer Hanukkah - latkes (crempog tatws) a thoesenni (Hawaiinaidd a gawson ni gan frawd y gŵr.) Bwyd olewog i gofio gwyrth Hanukkah.
Monday, December 3, 2018
goleuni buddugol
Fe gynnwyd yr hanukiah (canhwyllbren ar gyfer Hanukkah) fwyaf yn Ewrop o flaen Giât Brandenburg yn Berlin, 80 mlynedd ar ôl Kristallnacht (noson wydr wedi'i dorri.) Methodd Nazis yn llwyr. Enillodd y Goleuni sydd yn amddiffyn ei bobl. Mae O'n dal i ennill.
Sunday, December 2, 2018
noson gyntaf hanukkah
Saturday, December 1, 2018
rhybudd tornado
Daeth sŵn uchel oddi ar y ffôn neithiwr; rhybudd tornado oedd. Ces i a'r gŵr neges (gan bwy, dw i ddim yn gwybod!) sydyn sydd yn annog i ni fynd i'r lloches. Roedd dyma ni'n casglu rhyw bethau hanfodol er mwyn mynd at yr islawr am y munud olaf. Wedyn, er bod y glaw a'r gwynt yn ofnadwy, roeddwn i mor gysglyd fel penderfynais i fynd i'r gwely wedi gwneud yn sicr bod gen i bopeth angenrheidiol gerllaw. Arhosodd y gŵr ar ei draed yn hirach i weld y sefyllfa. Yn ffodus, na ddaeth y tornado'r ffordd yma. Dwedodd y gŵr y bore 'ma fod yna daran ofnadwy o agos, ond ni chlywais mohoni!
Subscribe to:
Comments (Atom)




