Thursday, January 31, 2019
ffwrn gludadwy
Mae sôn am datŵ ar gledr cantores Americanaidd yn ddiweddar. Roedd hi'n meddwl ei fod o'n dweud "saith modrwy," teitl ei chân, ond yn anffodus, mae o'n dweud shichirin, sef ffwrn gludadwy sydd yn defnyddio brisged. Dylai hi fod wedi gofyn i unrhyw Japaneaidd cyn cael y tatŵ! Dw i'n cofio i fy mam goginio pysgod neu ffa arno fo tu allan y gegin pan oeddwn i'n blentyn.
Wednesday, January 30, 2019
selsig eidion
Tuesday, January 29, 2019
stôf cyfleus
Monday, January 28, 2019
peiriant golchi marwn
Dechreuodd y peiriant golchi ollwng dŵr. Gan ystyried ei oedran (10 oed,) penderfynon ni fyddai'n well prynu un newydd yn hytrach na chael ei drwsio. Dyma fynd i Lowe's gyda'r gŵr. Ffeindion ni un ar sêl. Dw i'n credi'n siŵr mai oherwydd y lliw, sef marwn. Dim ots. Cafodd y gŵr disgownt ar gyfer cyn-filwyr hefyd. Bydd y siop yn ei gludo aton ni, ei osod, a mynd â'r hen beiriant i ffwrdd brinhawn yfory.
Saturday, January 26, 2019
eog
Cafodd dau beth eu cludo o dŷ brawd y gŵr aton ni, sef paentiad arall, a cherfio ysblennydd. Artist Japaneaidd a gerfiodd eog ar bren soled. Derbynnodd rhieni'r gŵr hwn flynyddoedd yn ôl. Ces i fy synnu i weld llofnod yr artist - Mitsuji - yr un enw â fy niweddar daid! Mae'r eog yn perthyn i ni heb os!
Friday, January 25, 2019
nyth wag eto
Aeth fy nhrydedd ferch yn ôl i Japan ddoe i ail gychwyn ei bywyd yno. Mae hi'n chwilio am waith newydd rŵan wedi gorffen ei swydd fel athro Saesneg. Mae hi eisiau defnyddio Japaneg mwy yn y gweithle. Mae cyfweliad sydd yn ei disgwyl, gwaith mewn siop te traddodiadol. Gan fod y siop mewn ardal dwristiaid, bydd cyfle iddi ddefnyddio ei sgil Saesneg a Ffrangeg hefyd. Gawn ni weld.
Thursday, January 24, 2019
portread
Daeth y gŵr â llond cês o eiddo ei ddiweddar dad a oedd yn garej ei frawd. Yn ymysg sanau, lluniau ac offer, mae yna baentiad gwerthfawr, sef portread ohono fo a baentiwyd gan artist Almaenaidd pan oedd yn hogyn dwy flwydd oed yn yr Almaen. (Cafodd ei eni yno.) Roedd y portread ar wal tŷ ei rieni yn Hawaii am flynyddoedd, yna symudwyd i dŷ ei frawd pan aethon nhw ato fo bum blynedd yn ôl.
Wednesday, January 23, 2019
croeso'n ôl y ddau
Daeth y gŵr a'n merch ni (y drydedd) adref neithiwr wedi cael amser gwych mewn llefydd gwahanol, y gŵr yn Las Vegas (dim i gamblo ond mynychu cwrs) a'r ferch gyda'i chwaer yn Norman. Er fy mod i'n mwynhau'r tŷ distaw, roedd dipyn yn rhy ddistaw, a dweud y gwir! Dw i'n falch iawn eu gweld nhw. Dyma baratoi swper sydd yn ddiogel i fy merch sydd gan alergedd i amrywiaeth o fwyd - torth cig heb wy, blawd neu siwgr; reis gyda thyrmerig, garlleg, nionyn heb fenyn; llysiau plaen. Er fy mod i'n dweud fy hun, roedd popeth yn hynod o flasus.
Tuesday, January 22, 2019
murlun bach
Mae fy merch newydd orffen murlun bach mewn tŷ bwyta yn Tulsa. Gorffennodd hi mewn deuddydd gyda dau gynorthwyydd medrus, sef ei gŵr a'i chwaer. Roedd yn dipyn o her fodd bynnag gan fod y wal mor isel. Umami Fries ydy enw'r tŷ bwyta.
Monday, January 21, 2019
gwir ystyr "mae gen i freuddwyd"
"Un diwrnod bydd fy mhlant yn cael eu barnu yn ôl eu cymeriadau, nid lliw eu croen" - breuddwyd Martin Luther King Jr.
Unrhyw liwiau'r croen - du, brown, gwyn, coch neu biws
Diwrnod MLK hapus.
Unrhyw liwiau'r croen - du, brown, gwyn, coch neu biws
Diwrnod MLK hapus.
Saturday, January 19, 2019
llyfr yn y bwlch post
Ffeindiais lyfr yn y bwlch post ddoe. Trump's America gan Newt Gingrich gyda llofnod yr awdur! Anfonwyd gan Bwyllgor Gweriniaethwyr at y gŵr yn ddiolch am ei rodd. Dechreuais ei ddarllen ar yr unwaith. Mae'n ddiddorol o'r dudalen gyntaf fel nofelau T. Llew. Mae Gingrich yn crynhoi a dadansoddi beth sydd yn digwydd yn America wedi a chyn i Donald Trump gael ei ethol fel yr Arlywydd. I'r dim mae o! Dw i'n argymell y llyfr hwn i bawb. Mae'n hawdd ei ddarllen hefyd.
Friday, January 18, 2019
18 ionawr
Thursday, January 17, 2019
diddordeb y gŵr
Gadawodd y gŵr i fynychu cwrs gunsmith a gynigir gan Arfdy Springfield yn Las Vegas. Mae ei ddiddordeb newydd mewn gynnau a saethu yn datblygu'n helaeth. Cyn iddo adael, llenwodd y blwch logiau cymaint â phosib i mi fedru cadw'r tân dros y penwythnos. Rhagwelir eira a thymheredd 4F/-16C ddydd Sadwrn.
Wednesday, January 16, 2019
grits yn tiffany's
Tiffany's oedd enw'r tŷ bwyta cafodd y teulu frecwast ynddo fo ddoe. Dim yn Efrog Newydd, ond yn Noble, Oklahoma mae o. Mae o'n llawn o luniau Audrey Hepburn, ond yn cynnig bwyd Americanaidd deheuol nodweddiadol, fel grits, omelet, biscuits, pancakes, bacwn, ayyb. Barn y gŵr: roedd y grits yn ardderchog ond doedd yr omelet yn ddim yn dda.
Tuesday, January 15, 2019
un o'r pedair
Cafodd fy merch hynaf (Juuri ydy ei ffugenw) ei chyflwyno fel un o'r pedwar artist benywaidd a greodd murluniau yn ardal Boston. Mae'r cyflwyniad yn swnio'n hynod o dda ac eithrio galwyd hi'n artist Japaneaidd. Cafodd ei geni a magu tan chwech oed yn Japan, ond mae hi'n byw yn America ers hynny gyda dwy ddinasyddiaeth. Mae hi wrthi'n cynllunio ei phrosiect nesaf ar hyn o bryd, sef murlun ar gyfer tŷ bwyta yn Tulsa.
Monday, January 14, 2019
sgarff arall
Gorffennais sgarff arall, i ŵr fy merch hynaf. Gofynnodd hi i mi wneud un ar ei gyfer wedi gweld y sgarff a wnes i'w chwaer. Ac felly a fu. Cymrodd amser byr iawn - tra oeddwn i'n siarad gyda fy mam ar Skype ddeuddydd yn ôl, a dweud y gwir. Dw i'n crosio het i fam y gŵr rŵan. Rhaid gorffen cyn iddo fynd i'w gweld hi ddydd Iau.
Saturday, January 12, 2019
hufen ia i ddathlu
Thursday, January 10, 2019
sgarff
Wednesday, January 9, 2019
wal y ffin
Anerchodd yr Arlywydd Trump y genedl ynglŷn â diogelu'r ffin neithiwr. Hynod o falch a diolchgar bod gynnon ni arweinydd cryf, penderfynol. Mae popeth a ddwedodd yn swnio'n synnwyr cyffredin, ond mae'n amlwg nid felly i rai. Dylai pawb sydd yn erbyn wal y ffin gael gwared ar y wal o gwmpas ei dŷ ei hun, adael y drws blaen ar agor, a chroesawu pawb sydd eisiau dod i mewn.
Tuesday, January 8, 2019
dwy het
Monday, January 7, 2019
swper
Mae gen i dri o blant adref o hyd wedi i fy ail ferch fynd yn ôl i Japan. Byddan nhw'n gadael cyn bo hir, ond dw i'n cael mwynhau eu cwmni am sbel. Mae gan fy nhrydedd ferch ofnadwy o alergedd bwyd, ond mae hi wedi dysgu sut i baratoi bwyd diogel a blasus bellach. Fe wnaeth swper hynod o flasus ddoe - pupur gwyrdd wedi'u stwffio gyda chig eidion, nionyn a quinoa.
Saturday, January 5, 2019
y cyntaf i adael
Gadawodd fy ail ferch adref ar ben ei hun i fynd yn ôl i Japan y bore cynnar. Roedd ganddi ond pythefnos o wyliau, a bydd hi'n dechrau ei gwaith yfory. Y peth olaf a wnaeth oedd dysgu ei chwaer iau sut i grasu bara banana yn ôl ei rysáit enwog (ymysg y teulu a'r ffrindiau.) Y tro nesaf y bydda i'n ei gweld hi bydd y Nadolig eleni.
Friday, January 4, 2019
ffi glanio
Penderfynwyd dylai pawb sydd yn teithio i Fenis heb aros mewn llety dalu treth rhwng 2,50 a 10 Ewro. Mae'n hen bryd. (Mae'r twristiaid sydd yn aros yno'n talu'n barod, cofiwch.) Mae Fenis yn gorlifo gyda thwristiaid bob amser, ac mae gan lawer ohonyn nhw fymryn o barch tuag at y ddinas hardd ond fregus. Efallai na fydd y dreth yn lleihau nifer o dwristiaid, ond yn gymorth sylweddol ar gyfer y cynnal a chadw. (Diolch i BluOscar am ei air clên yn ei sylw!)
Thursday, January 3, 2019
popeth yn newydd
Wednesday, January 2, 2019
murluniau
Tuesday, January 1, 2019
yr amser yn nesáu
Blwyddyn newydd arall - mae'r amser yn nesáu, yr amser y bydd Iesu Grist yn dod yn ôl i gasglu ei bobl a sefydlu ei deyrnas. Yn y cyfamser, dw i'n ceisio rhodio'n ffyddlon, un cam bach ar y tro.
Blwyddyn Newydd Dda i chi sydd yn glên iawn darllen y blog hwn. Gobeithio y cewch chi ddarganfod yr unig ffordd, gwirionedd, bywyd, goleuni, drws, hyn i gyd a mwy yn Iesu Grist, os nad ydych chi wedi gwneud eto.
Blwyddyn Newydd Dda i chi sydd yn glên iawn darllen y blog hwn. Gobeithio y cewch chi ddarganfod yr unig ffordd, gwirionedd, bywyd, goleuni, drws, hyn i gyd a mwy yn Iesu Grist, os nad ydych chi wedi gwneud eto.
Subscribe to:
Posts (Atom)