Saturday, July 29, 2023
pan ddywedwyd ac y gweithiwyd y cwbl
Friday, July 28, 2023
problemau siwrnai awyr
Daeth fy merch hynaf a'i gŵr adref yn OKC, wedi treulio amser braf gyda'i hewythr a'i wraig yn Las Vegas. Roedd problemau siwrnai awyr fel disgwyliwyd. Roedd i'r awyren i OKC aros ar redfa ym maes awyr Las Vegas am amser hir iawn oherwydd trafferth injan. Trwsiodd y criw'r injan gyda rhyw fath o beiriant. Dywedodd fy merch fod y peth cyfan yn ymddangos yn amheus ac annibynadwy. Cychwynnodd yr injan fodd bynnag, a chyrhaeddodd yr awyren yn ddiogel ym maes awyr OKC.
Thursday, July 27, 2023
hunllef
Ces i hunllef neithiwr; gafaelodd rhywun fy ffêr yn sydyn yn y tywyllwch. Doeddwn i ddim yn gwybod pwy, ond roedd mor sydyn fel sgrechiais a deffro. (Roedd yn 2:30.) Mae'n well gen i gysgu heb unrhyw olau, ac i gau'r drws yn dynn fel arfer, ond troais olau'r gegin ymlaen, a gadael y drws ar agor. Methais fynd yn ôl i gysgu am amser hir oherwydd y golau, ond doeddwn i ddim eisiau'i ddiffodd!
Wednesday, July 26, 2023
cyngor doeth
O dan deitl "fformiwla syml i fyw" a bostiwyd gan fy merch, ffeindiais gyngor perffaith i mi:
"Peidiwch â chwysu dros y stwff bach."
Dw i'n tueddi i falio am bethau di-nod, fel pan fydda i'n dewis y ciw arafaf yn Walmart. Cwestiwn call i ofyn wedyn - fydd hyn yn bwysig deng mlynedd o hyn ymlaen? Mae yna nifer o bethau llawer pwysicach yn y byd.
Monday, July 24, 2023
gobaith
"Am hynny, nid ydym yn digalonni. Er ein bod yn allanol yn dadfeilio, yn fewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar ôl dydd." 2 Corinthiaid 4:16
Dw i'n gwerthfawrogi'r adnod yn fawr iawn yn ddiweddar. Mae gen i boen ym mhob man; dw i'n cael fy anafu'n anhygoel o hawdd. Mae'r hen babell hon yn prysur heneiddio - ond, mae gen i obaith. Bydd Duw'n rhoi i mi gorff newydd sbon, gogoneddus fel un Iesu un diwrnod. Edrych ymlaen!
Saturday, July 22, 2023
camgymeriad
Archebais gyw iâr wedi'i grilio yn Katfish Kitchen neithiwr , ond cael catfish yn ei le. (Dw i ddim yn ei hoffi.) Doeddwn i ddim yn sylweddoli'r camgymeriad nes i mi ddechrau ei dorri. "Mae'r cyw'n hynod o dyner," meddyliais. Daeth y weinyddes â chyw iâr ar ôl i mi ddweud wrthi. Cafodd y gŵr gyfle i fwyta ei hoff hush puppies o leiaf. (Dydyn nhw ddim yn dod gyda chyw iâr.)
Wednesday, July 19, 2023
pluen
Ffeindiais hon o flaen fy mlwch post y bore 'ma. Roedd rhaid ei bod hi'n perthyn i aderyn enfawr. Gwalch, efallai. Mae adar mawr yn hedfan yn urddasol yn aml uwch fy mhen pan fydda i'n mynd am dro.
Tuesday, July 18, 2023
canlyniad newid hinsawdd
Argraffwyd yr erthygl hon gan y Wenynen ddwy flynedd yn ôl, ond mae'n ofnadwy o ddigri fodd bynnag, ac mae'n dal i daro deuddeg.
Saturday, July 15, 2023
rhy sbeislyd
Ces i a'r gŵr swper yn Napoli's neithiwr. Dewisais saig a oeddwn i erioed ei gael o'r blaen, sef spaghetti arrabiata. Mae o i fod yn sbeislyd, ond doeddwn i ddim yn gwybod pa mor sbeislyd! Roedd ormod o bupurau jalapeño yn fy marn i. Fedrwn i ddim bwyta'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Bydda i'n archebu'r bwyd arferol o hyn ymlaen!
Friday, July 14, 2023
cyfuniad ardderchog
Tuesday, July 11, 2023
amser i eni
Cafodd pedwar babi i'r teulu ac i ffrindiau gael ei eni yn ystod y ddau fis diwethaf. Y diweddaraf ydy Madelyn, babi cyntaf chwaer yng nghyfraith fy mab hynaf. Cyrhaeddodd ddwy wythnos yn gynt na'r disgwyl, ond yn holl iach ac annwyl. Dyma fy ŵyr yn ei dal ei gyfnither gyntaf.
Monday, July 10, 2023
cartref newydd
Mae fy merch newydd ddechrau "maethu" cŵn yn y lleches leol am gyfnod byr i roi hoe fach i'r gwirfoddolwr sydd yn gwneud pob dim. Mae un ohonyn nhw, o'r enw Penny newydd ffeindio cartref. Cwpl hŷn a syrthio mewn cariad â hi, a daethon nhw i fynd â hi adref. Gobeithio y byddan nhw'n byw yn hapus gyda'i gilydd.
Saturday, July 8, 2023
murlun newydd
Friday, July 7, 2023
modd gall
Mwynhaodd fy mab hynaf a'i deulu yn Texas gweld tân gwyllt ysblennydd, ac mewn modd hynod o gall a heb fudan. Parciodd ei gar digon pell o'r olygfa, a'i gweld ar do'r car! Cafod ei blant hwyl dros ben! (Roedden nhw'n medru gadael y lle cyn y tagfeydd hyd yn oed.)
Wednesday, July 5, 2023
pysgota
Tra oedd fy mab gartref, aeth ffrind teulu â fo i Lyn Tenkiller gerllaw i bysgota. Roedd yn ddiwrnod braf. Er bod fy mab heb ddal dim, cafodd amser hynod o wych. (Dalodd y ffrind ddau bysgodyn.)
Tuesday, July 4, 2023
Monday, July 3, 2023
24 oed
Daeth fy mab ifancaf adref am y tro cyntaf ers y Nadolig. Dathlon ni ei benblwydd gyda chacen gaws oer gan ei bod y tywydd yn hynod o boeth. Cafodd ei eni yn y tŷ yma 24 mlynedd yn ôl (yn fy ystafell wely i fod yn fanwl.)
Saturday, July 1, 2023
bod yn drefnus
Mae fy ngŵr yn berson hynod o drefnus. (Mae ganddo grŵp waed A.) Wedi gorffen ei ginio o ffa soia gwyrdd, ŷd, tanjerîn un diwrnod, gadawodd ei blât fel gweler. Peth hollol naturiol ydy hyn iddo.