Es i Napoli's yn eiddgar y tro 'ma gyda'r gŵr, wedi chwilio am wybodaeth am Albania a Kosovo. Dysgais dipyn bach o eiriau Albaneg hefyd. Roedd y bwyd yn ardderchog. Daeth y rheolwr newydd aton ni, a chawson ni sgwrs ddymunol. Doeddwn i ddim yn gwybod mai o Kosovo, nid o Albania mae'r rhan fwyaf o'r gweithiwr yn dod, er eu bod nhw'n Albaniaid. (Mae eu hanes yn gymhleth.) Ces i gyfle i ddweud faleminderit, sef diolch yn Albaniaid! Mae'n rhyfeddol i bobol o Kosovo ddod i dref fach wledig yn Oklahoma, a rhedeg tŷ bwyta Eidalaidd.
No comments:
Post a Comment