Saturday, May 31, 2025

maim maim

Roeddwn i ynghyd â'r disgyblion eraill, yn arfer dawnsio Maim Maim, sef dawns Israel yn yr ysgol. Doeddwn i erioed yn gofyn ystyr y geiriau dieithr a ganon ni wrth ddawnsio. Dyma hen lun o'r albwm fy ysgol uwchradd. Roedd pawb wrthi'n dawnsio Maim Maim o gwmpas coelcerth.

Thursday, May 29, 2025

ffair ryngwladol

Cynhalir World EXPO yn Osaka, Japan ar hyn o bryd. Cafodd fy merch gyfle i arddangos ei pheintiadau yn un o'r pafiliynau. Mae hi wrth ei bodd bod y staff yn gofalu am eu gosod nhw.

Wednesday, May 28, 2025

y dylunydd gorau


Rodd gan gynllun gwreiddiol trên bwledi broblem; achoswyd bŵm sonig pan aeth mewn twneli ar fath o gyflymder. Cafodd un peiriannydd syniad gwych - newidiodd siâp blaen y trên yn ôl pig Kingfisher sydd yn plymio mewn dŵr heb dasgu dŵr. Dyma fo. Datryswyd y broblem. Duw ydy'r dylunydd gorau.

Diolch i Biblical Creation am y wybodaeth hon.

Tuesday, May 27, 2025

yr ateb

Roedd rhaid i fy merch yn Tokyo deithio ar Shinkansen at le anghysbell i weld tai ar werth. Fel arfer, mae hi wrth ei bodd i deithio yn Japan, ond yn sydyn cwbl, roedd ganddi ofn. Gweddïodd ar Dduw i dangos iddi sut gall O ym mhob man ac yn agos ati ar yr un pryd. Dyma hi'n codi ei llygaid i weld hwn. (Mae Cristnogion yn ofnadwy o brin yn Japan - llai nag un y cant.)

Monday, May 26, 2025

diwrnod jerwsalem hapus

Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem,
Bydded llwyddiant i'r rhai sy'n dy garu.
y Salmau 122:6

Nid dim ond heddwch gwleidyddol, ond heddwch go iawn - fe ddaw ond drwy Dywysog Tangnefedd, sef Iesu Grist, Gwaredwr yr Iddewon a'r byd.

Saturday, May 24, 2025

codwch eich calonnau

"Dim ond trafferthion gewch chi yn y byd hwn. Ond codwch eich calonnau, dw i wedi concro’r byd.” Ioan 16:33 (Beibl.net)

Wir, mae digonedd o drafferthion yn ein hamgylch ni, naill ai llethol neu ddi-nod. Does dim rhaid ni digalonni, fodd bynnag, oherwydd bod Iesu (nid ni) wedi concro'r byd.


Wednesday, May 21, 2025

blodau enfys

Cafodd ein hydrangea ond ddau flodyn llynedd. Ces i a'r gŵr ein synnu'n bleserus felly i weld cannoedd o flagur eleni. Efallai eu bod nhw'n ceisio'n galetach, wedi i'r gŵr eu ceryddu nhw am eu methiant y llynedd!

Tuesday, May 20, 2025

o'r afon hyd at y môr

"O'r afon hyd at y môr," medden nhw wrth ymosod ar Israel ac Iddewon, er bod rhai ohonyn nhw ddim yn gwybod pa afon maen nhw'n sôn amdano. 

Mae'r Beibl yn glir. Rhoddodd Duw i Israel y tir rhwng afon Ewffrates, hyd fôr y gorllewin (y Môr Canoldir) dros 3,000 o flynyddoedd yn ôl.

"Eich eiddo chwi fydd pobman y bydd gwadn eich troed yn sengi arno, o'r anialwch hyd Lebanon, ac o'r afon, afon Ewffrates, hyd fôr y gorllewin; dyna fydd eich terfyn." Deuteronomium 11:24

Monday, May 19, 2025

parti gyoza

Cynhaliodd fy merch hynaf barti gyoza yn ei llety yn Tokyo lle mae nifer o bobl ifanc o wledydd amrywiol yn aros. Rhoddodd hi a merch o Tsieina wers sydyn sut i baratoi gyoza a'i ffrio. Roedd y tro cyntaf i rai i fwyta gyoza, hydd yn oed ei baratoi. Cafodd pawb amser (a bwyd) gwych.

Saturday, May 17, 2025

marchnad ffermwyr

Es i'r farchnad ffermwyr gyda'r gŵr y bore 'ma am y tro cyntaf ers blynyddoedd, a chael hwyl siopa bwyd lleol yn cefnogi'r busnesau bach lleol. Prynais botel o win coch, torth enfawr o fara surdoes a photel o fêl.

Wednesday, May 14, 2025

"onsen" eto

Mae fy merch a'i gŵr yn dal i fwynhau bywyd yn Japan. Cafodd hi waith rhan amser hyd yn oed yn gweithio mewn busnes eiddo tiriog (ei hoff swydd.) Ar ddiwedd diwrnod prysur, beth allai well na mwydo mewn dŵr cynnes onsen yn y gymdogaeth?

Tuesday, May 13, 2025

rhannu y tir

"Yna bydda i’n casglu’r cenhedloedd i gyd i Ddyffryn Barn yr Arglwydd. Yno bydda i’n eu barnu nhw am y ffordd maen nhw wedi trin fy mhobl arbennig i, Israel. Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman,
rhannu y tir rois i iddyn nhw...." Joel 3:2 (Beibl.net)

Mae'n amlwg bod gan Dduw gas rhannu'r tir a roddodd i Israel.

Monday, May 12, 2025

mynd ddrwy'r cylch gwellt

Mae nifer o ddefodau Shinto yn debyg iawn i Iddewiaeth. Dyma un dw i newydd glywed gan fy merch a ymwelodd â chysegrfa yn Kamakura; galwir yn "Mynd Drwy'r Cylch Gwellt." Dych chi i fod yn mynd drwy'r cylch dwywaith y flwyddyn (yn hytrach nag unwaith) er mwyn cael gwared ar eich pechodau ac amhurdeb. Swnio'n debyg iawn i Yom Kippor!

Saturday, May 10, 2025

cysur ac anogaeth

Ces i fy nrysu'n darllen penodau olaf Llyfr Daniel lle'r oedd o'n sôn am y gweledigaethau a gafodd gan Dduw. Mae nifer o sylwadau gan ysgolheigion y Beibl wrth gwrs, ond mae'r wybodaeth yn ormod i mi. Ces i fy nghysur, fodd bynnag, yn darllen beth ddwedodd Daniel:
"Yr oeddwn yn clywed heb ddeall." 12:8

Yna, dwedodd yr angel wrtho:
"Dos dithau ymlaen hyd y diwedd; yna cei orffwys, a sefyll i dderbyn dy ran yn niwedd y dyddiau.” 12:13

Thursday, May 8, 2025

llygad ei le

Gofynnodd Arlywydd Gwlad Pwyl: "sut gall 500 miliwn o bobl yn Ewrop ofyn i 300 miliwn o bobl UDA am eu hamddiffyn nhw? Mae peth mwy rhyfeddol, fodd bynnag - mae 2 biliwn o Fwslemiaid yn gofyn i'r byd am eu hamddiffyn nhw rhag 7 miliwn o Iddewon."

Monday, May 5, 2025

wythnos aur

Mae Wythnos Aur ar Japan. Mae llawer o'r bobl yn hoffi teithio yn ystod y cyfnod hwn bob blwyddyn. Aeth tri o fy mhlant i Enoshima, ynys fach boblogaidd nid nepell o Tokyo. Roedd y diwrnod yn anhygoel o braf; gwelwyd Mynydd Fuji ar y gorwel hyd yn oed. Cawson nhw ddiwrnod hyfryd, gan gynnwys cinio wrth y môr yn edmygu’r golwg. (Roedd fy mab-yng-nghyfraith yn ddigon dewr bwyta sgwid wedi'i rostio.)

Saturday, May 3, 2025

cerdyn at anialwch

Wedi symud i Awstralia, mae un o fy merched yn byw yn y gorllewin yn gweithio at yr unig orsaf gorffwys yn yr ardal, er mwyn ennill teitheb arbennig. Gyrrais gerdyn ati fwy na dair wythnos yn ôl wrth feddwl y byddai post o'i chartref yn codi ei hysbryd (er ein bod ni'n siarad ar y we bob wythnos.) Mae'r cerdyn newydd gyrraedd o'r diwedd. Roedd hi wrth ei bodd, ac anfonodd y llun hwn. (Y fi a dynnodd Shaloum-chan.)

Friday, May 2, 2025

bagl i flodyn

Wedi glaw trwm diweddar, syrthiodd ein iris cyntaf. Roedd ganddo dau flaguryn heb eu hagor eto. Yn ffodus, roedd y coesyn heb gael ei dorri. A dyma fi a'r gŵr yn rhoi bagl iddo ddoe. Ces i fy synnu'n bleserus y bore 'ma yn gweld dau flodyn hardd, gyda blaguryn newydd hyd yn oed!

Thursday, May 1, 2025

77 oed

"Pam y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r bobloedd yn cynllwyn yn ofer?" y Salmau 2:1

Dewisodd Duw Israel i fod yn ei bobl, ac iddyn nhw fendithio'r byd. Mae o'n cyflawni ei addewidion er gwaethaf pob gwrthryfel dynol. 

Penblwydd hapus i Israel.

(y llun gan Hananya Naftali)