Monday, June 30, 2025

yr ardal

Mae fy ddwy ferch a fy mab-yng-nghyfraith yn mwynhau'r ardal o'r amgueddfa gelf i'r warchodfa natur. Mae cynifer o atyniadau o gwmpas Oklahoma City a dweud y gwir.

Saturday, June 28, 2025

murlun

Mae fy merch hynaf wrthi'n paentio murlun mewn tŷ bwyta yn Stillwater, Oklahoma. Paentiodd hi un arall yno flynyddoedd yn ôl, a gofynnwyd i greu un i gyd-fynd ag o. Mae ganddi ddau gynorthwyydd - ei gŵr a'i chwaer sydd yn ymweld â nhw ar hyn o bryd.

Thursday, June 26, 2025

caiacio

Un o'r pethau roedd ar restr fy merch oedd mynd i lawr Afon Illinois mewn caiac. Dyna wnaeth, gyda'i thad ddoe. Rodd y tywydd yn berffaith, a doedd ddim pobl eraill bron o gwmpas oherwydd mai yn ystod yr wythnos ydoedd. Bydd yr afon yn llawn dop dros benwythnosau yn yr haf fel arfer. Cafodd fy merch amser hyfryd yn ymlacio a mwynhau'r natur.

Wednesday, June 25, 2025

yr amod

Dathlon ni benblwydd fy merch neithiwr yn Chili's, tŷ bwyta boblogaidd yn y dref. Pan ddaeth amser i archebu cacen iddi, dwedodd y gweinydd allai hi gael cacen am rad ac am ddim. "Yr amod" oedd y byddai'r gweinyddion yn canu "penblwydd hapus" iddi wrth glapio eu dwylo'n uchel, defod tai bwyta yn America. Mae llawer o gwsmeriaid wrth eu bodd, tra bod rhai swil yn ei chasáu. Mae fy merch yn perthyn i'r grŵp cyntaf, a mwynhaodd yr holl ffwdan gyfeillgar.

Tuesday, June 24, 2025

adref am yr haf

Daeth fy ail ferch adref i dreulio ei gwyliau haf eleni eto. Wedi gweithio'n galed fel athrawes yn Tokyo am flwyddyn arall, mae hi'n barod i ymlacio. Aeth y siwrnai heb drafferth. Cafodd gyfle i weld y murlun a baentiodd ei chwaer ar gyfer tŷ bwyta ym maes awyr Houston.

Monday, June 23, 2025

deffrwch

"Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem,
Bydded llwyddiant i'r rhai sy'n dy garu." y Salmau 122:6

Deffrwch, Eglwys Genhedlig sydd yn cysgu'n braf! Dylai hi sefyll yn gadarn gydag Israel ar gyfer y fath amser â hwn.

Sunday, June 22, 2025

mae amser i

"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef.... amser i garu, ac amser i gasáu, amser i ryfel, ac amser i heddwch." y Pregethwr 3:1, 8

Saturday, June 21, 2025

ffyddlondeb Duw

"Y mae Arglwydd y Lluoedd gyda ni, Duw Jacob yn gaer i ni."  - y Salmau 46:11

Mae ffyddlondeb Duw yn para am byth. Dydy ei addewidion byth yn newid. Mae o'n dal i garu Israel, a'u hamddiffyn nhw. 

Wednesday, June 18, 2025

seiren rhybudd tornado


Ces i fy neffro am 2 o'r gloch yn y bore gan y seiren rhybudd tornado uchel dros ben. Ces i neges testun hefyd i geisio lloches ar yr unwaith. Mae Oklahoma yn enwog am gorwyntoedd, ond dyma'r tro cyntaf i mi glywed y seiren yng nghanol nos. Yn lle mynd i lawr i'r garej, arhosais yn yr ystafell ymolchi (heb ffenestr) wrth gofio'r bobl yn Israel sydd yn gorfod rhedeg at lochesau bob dydd yn ddiweddar. Tra oeddwn i'n gweddïo drostyn nhw, lleihaodd y storm yn ddigon i mi gael mynd yn ôl i'r gwely. 

Tuesday, June 17, 2025

maen nhw'n cyflogi


"Dyma gyfleoedd cyffrous newydd sbon  - mae Iran eisiau cyflogi peirianwyr niwclear profiadol wrth i'r swyddi hyn gael eu gwagio yn sydyn."

Da iawn eto, y Wenynen! Dyn ni angen chwerthin mwy aml.

Saturday, June 14, 2025

250 oed, 79 oed

Penblwydd hapus i Fyddin Unol Daleithiau America yn 250 oed. 

Penblwydd hapus i'r Arlywydd Trump yn 79 oed.

Thursday, June 12, 2025

neges Iesu ac Ioan Fedyddiwr

Wrth ddarllen dechrau Llyfr Mathew, dw I wedi sylwi o newydd mai neges Iesu ac Ioan Fedyddiwr ill dau oedd "Edifarhewch!" Prin clywir pregethau sydd yn galw ar bobl i edifarhau dyddiau hyn. Dwedodd Tony Perkins, "daeth Iesu i'n rhyddhau ni o bechodau, dim i'n caniatáu ni bechu." Cytuno'n llwyr.

Tuesday, June 10, 2025

hen a newydd

Dw i a'r gŵr newydd orffen darllen a dysgu'r Testament Hebreig, sef yr Hen Destament gyda chymorth Sefwch ar y Gair, y defosiynol i ddarllen y Beibl cyfan mewn dwy flynedd gan Tony Perkins. Dw i wedi sylweddoli pa mor bwysig ydy darllen yr "Hen Destament" er mwyn deall y Testament Newydd. Mae'n amhosib deall y newydd heb wybod yr hen! 

Monday, June 9, 2025

darllen y beibl


"Os bydd America eisiau fod yn eithriadol eto, rhaid i deuluoedd ddychwelyd at Dduw a'i air yn gyntaf." Tony Perkins

Cytuno'n llwyr. Dyma un o'r prosiectau gwych a gewch chi wneud gyda'ch plant yn yr haf.

Saturday, June 7, 2025

penblwydd ysbrydol y gŵr

Cafodd y gŵr ei eni'n ail dro 53 mlynedd yn ôl. Nad oedd ei rieni yn Gristnogion, a doedd o erioed wedi mynd i'r eglwys yn ei blentyndod. Ac eto, roedd ganddo eisiau nabod Duw bob amser. Un diwrnod pan oedd yn 16 oed, rhannodd hogan ifanc 14 oed yr Efengyl gyda fo. Ac yn y fan a'r lle, penderfynodd gredu yn Iesu Grist. Mae o'n rhodio'n ffyddlon ers hynny. Un o'r bobl fwyaf didwyll dw i erioed wedi ei nabod mae o.

Thursday, June 5, 2025

fy mab hynaf yn japan


Mae fy mab hynaf a'i deulu yn treulio gwyliau yn Japan ar hyn o bryd ar ôl wythnos yn Taiwan yn ymweld â pherthnasau ei wraig. Am y tro cyntaf ers bron i ugain mlynedd iddo fod yn Japan. (Am y tro cyntaf erioed i'w deulu.) Y lle cyntaf aeth â'i blant, wedi setlo i lawr yn y llety, oedd tŷ bwyta ramen, wrth reswm! Cafodd fy wyrion eu cyfareddu gan y fwydlen (samplau bwyd wedi'u gwneud o gwyr) tu allan y siop.

Wednesday, June 4, 2025

heddiw


"Os bydd Cristnogion yn cadw'n ddistaw, byddwn ni'n colli rhyddid i rannu'r Efengyl, ac felly mae angen arnon ni sefyll yn gadarn ar beth mae'r Beibl yn ei ddysgu. Os oes amser erioed i fod yn fwy beiddgar - heddiw mae hi." - Franklin Graham

Cytuno'n llwyr. 

Tuesday, June 3, 2025

awyr iach

Dw i'n credu mai Nehemeia 8 ydy un o'r penodau mwyaf siriol yn y Testament Hebreig. Ar ôl darllen hanes anffyddlondeb Israel, mae'n fel awyr iach. Gweddïaf y bydd yr un peth yn digwydd yn Israel heddiw.


Monday, June 2, 2025

pry copyn sydd yn pysgota

Dolomedes ydy'r pry copyn sydd yn "pysgota." Ces i fy nghyfareddu yn darllen amdano fo. Dim ond un o'r miliynau o greadigaethau anhygoel a grëwyd gan Dduw ydy o. Hollol syfrdanol ydy ei bŵer a'i greadigrwydd. Maen nhw'n tu hwnt i'n dealltwriaeth.