Wednesday, July 30, 2025

ydach chi'n barod?

Dw i newydd wybod bod yna 300 y cant mwy o ddaeargrynfâu cryf dros y byd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf. Mae ail ddyfodiad Iesu'n nesáu!

"Beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?” Matthew 24:3

"Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd adegau o newyn a daeargrynfâu mewn mannau. " Matthew 24:7

Ydach chi'n barod i'w gyfarfod yn wyneb yn wyneb?

Tuesday, July 29, 2025

ymweld â'i nain

Aeth fy merch hynaf i gartref henoed ei nain i ymweld â hi. Roedd fy mam yn ymddangos yn anhygoel o dda, er bod ei chof dipyn yn sigledig. Roedd hi wrth ei bodd i weld un o'i wyrion wrth gwrs. 







Monday, July 28, 2025

siopa gyda hwyr

Mae'n ofnadwy o boeth yn Japan. Cerddodd fy merch hynaf yn Tokyo i siop gyda hwyr er mwyn osgoi'r gwres llethol. Mae'r strydoedd yn anhygoel o lân ar ddiwedd diwrnod hyd yn oed. Ac mae'n hollol ddiogel i ferched a phlant gerdded ar eu pennau eu hunan dydd a nos.

Saturday, July 26, 2025

bwyd americanaidd

Roedd fy merch ar ei gwyliau eisiau bwyd Americanaidd. Aethon ni i RibCrib am farbeciw. Cafodd bob un ohonon ni blât un cig gyda thri sides. Dyma blât fy merch - porc wedi'i dorri'n fân, macaroni a chaws, ocra wedi'i ffrio, a thost Tecsas. 

Friday, July 25, 2025

cyfleusterau modern

Doedd y nifer o gyfleusterau modern ddim ar gael pan oeddwn i'n blentyn - rheoleiddir aer, peiriant golchi, dŵr poeth o dap, a llawer mwy. Roedd rhaid i fy mam olchi dillad gyda dwylo cyn i ni brynu peiriant. Roedd yn boeth ofnadwy yn yr haf, ac eto roedd pawb yn ymdopi. Efallai bod pobl yn mynd yn feddalach (gan gynnwys fi fy hun.) Diolchgar ydw i am yr hyn i gyd bodd bynnag.

Wednesday, July 23, 2025

afalau

Cawson ni afalau ddoe gan gyn athrawes biano fy nau blentyn. Er gwaethaf ei hoedran (bron yn 90 oed,) mae hi'n dal i ofalu am ei pherllan helaeth, gyda chymorth stiward ifanc ffyddlon. Mae'r afalau llawn o dyllau gan na ddefnyddiwyd cemegau. Maen nhw'n ffres ac yn dda.

Tuesday, July 22, 2025

bwyd syml

Cewch chi fwyta bwyd hynod o flasus o bob math yn Japan. Mae rhai bwyd traddodiadol yn boblogaidd yn rhyngwladol, sef tempura, sushi a mwy. Fy ffefryn, fodd bynnag, ydy eithaf syml, fel hwn a gafodd fy merch yn Tokyo neithiwr. 

Monday, July 21, 2025

ddŵr yn yr iard gefn

Mae haf crasboeth Oklahoma yma, wedi ysbeidiau glaw anarferol. Bydda i'n gosod dysgl fawr o ddŵr yn yr iard gefn ar gyfer yr adar gwyllt (a gwiwerod) bob dydd. Mae'n hwyl eu gweld nhw'n yfed dŵr a chael bath ynddo. 

Saturday, July 19, 2025

tad o kosovo

Mae fy ail ferch yn dal i fwynhau ei gwyliau yn Oklahoma. Aethon ni i Napoli's am swper neithiwr. Mae'r staff o Kosovo yn hynod o gyfeithgar bob tro. Daeth y rheolwr â dyn hŷn newydd a oedd yn clirio'r byrddau aton ni er mwyn ei gyflwyno fel ei dad. Mae'r tad yn helpu'r tŷ bwyta tra ei fod o'n ymweld â'i deulu yn Oklahoma. Dydy o ddim yn medru Saesneg o gwbl yn anffodus; dim ond gwenu'n swil roedd o. Dyma geisio adolygu rhyw ymadroddion yn Albaneg drwy Google yn syth bin. Llwyddais ddweud "diolch" a "hwyl" wrtho fo yn Albaneg wrth i ni adael. Roedd yn werth chweil gweld gwen mawr ar ei wyneb.

Thursday, July 17, 2025

cyfnod newydd fy merch hynaf

Wedi gorffen y murlun diweddaraf, mae fy merch hynaf newydd gychwyn ei siwrnai i Japan. Mae hi a'i gŵr (a fydd yn ymuno â hi nes ymlaen) eisiau byw yn Tokyo mewn fflat, a dod i America o dro i dro er mwyn gofalu am eu busnes. Gadawodd hi Japan ym 1990 gyda'r teulu. Ei breuddwyd oedd dychwelyd i fyw yn ei gwlad enedigol.

Tuesday, July 15, 2025

gydag Iesu Grist


Buodd John MacArthur farw neithiwr, wedi brwydro'r frwydr, rhedeg y ras i'r pen a chadw'r ffydd. Mae o gydag Iesu Grist, ein harglwydd annwyl ni bellach. Roedd rhaid John bod wedi clywed ei ganmoliaeth, "ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon," heb os.

Monday, July 14, 2025

crys-t

Mae gan fy merch hynaf siop ar lein yn gwerthu dillad yn ogystal â'i gwaith celfyddydol. Mae hi newydd dderbyn archeb ar gyfer crys-T gan rywun o Israel, yn ardal Tel Aviv. Roedd hi'n llawn cyffro, a gyrrodd neges galonnog ynghyd â'r crys ato fo. Dw i a'r teulu i gyd yn sefyll yn gadarn gydag Israel.

Saturday, July 12, 2025

cyfrifoldeb y pregethwyr

Os dych chi’n pregethu’r Efengyl ym mhob agwedd ac eithrio’r materion sydd yn ymwneud â’ch amser, nad dych chi’n pregethu’r Efengyl o gwbl.” — Martin Luther

Cytuno'n llwyr. Mae cynifer o bregethwyr heddiw yn ofni hyd yn oed cyffwrdd â materion cyfredol. O ganlyniad, mae'r cynulleidfaoedd yn byw be baen nhw mewn swigen gyfforddus, wedi'u gwahanu o'r byd go iawn.

Wednesday, July 9, 2025

heb ddeffro

Tra oeddent ar y dŵr, aeth Iesu i gysgu. A disgynnodd tymestl o wynt ar y llyn; yr oedd y cwch yn llenwi, a hwythau mewn perygl. Aethant ato a'i ddeffro, a dweud, “Meistr, meistr, mae hi ar ben arnom!” Deffrôdd ef, a cheryddodd y gwynt a'r dyfroedd tymhestlog; darfu'r dymestl a bu tawelwch. Luc 8:23, 24

Roedd rhaid i Iesu wedi blino'n llwyr, oherwydd nad oedd o'n deffro pan gafodd y cwch ei drochi gan donnau mawr. Roedd ei ddisgyblion yn gorfod ei ddeffro hyd yn oed! Doedd dim rhaid iddyn nhw boeni wrth gwrs gan fod Iesu gyda nhw - Duw mewn cnawd a greodd bopeth.


Monday, July 7, 2025

pwy ydy Iesu?

Ac wrth y wraig meddai (Iesu,) “y mae dy bechodau wedi eu maddau.” Yna dechreuodd y gwesteion eraill ddweud wrthynt eu hunain, “pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?” Luc 7:48, 49

Wrth gwrs mai ond un a allu maddau pechodau, sef Duw. Ac felly, naill ai twyllwr perffaith neu Dduw mewn cnawd mae Iesu.

Saturday, July 5, 2025

rhoi gogoniant i Dduw


Mae'n hyfryd clywed Mike Johnson yn rhoi gogoniant i Dduw wrth i'r Bil Mawr Hardd newydd gael ei gymeradwyo. Ddim perffaith mae o, yn bendant, wedi cael ei newid o'r bil gwreiddiol. Rhaid bwrw ymlaen, fodd bynnag, er mwyn gwneud America yn wych unwaith eto.

Friday, July 4, 2025

249 oed

Tir y rhydd, cartref y dewr

Pen-blwydd hapus i Unol Daleithiau America!

Wednesday, July 2, 2025

da yw Duw

Mae'r bobl Israel yn dal i fyw; maen nhw'n dal yn bobl wedi'u dewis; maen nhw'n dal yma, nid oherwydd eu bod nhw'n arbennig o dda, ond da yw Duw. - One for Israel

Tuesday, July 1, 2025

hurt llwyr

“Dywedwch fod ei ddisgyblion ef wedi dod yn y nos, a'i ladrata tra oeddech chwi'n cysgu.”  - Matthew 28:13

Sut ar y ddaear roedd y milwyr yn gwybod beth ddigwyddodd tra oedden nhw'n cysgu? Os gwelon nhw'r disgyblion yn dwyn corf Iesu, pam na wnaethon nhw eu hatal? Hurt llwyr ydy hyn. Ac eto, derbyniodd y bobl y stori hon gan yr offeiriaid. Bydd pobl yn credu beth maen nhw eisiau ei gredu, hurt neu beidio, hyd at heddiw.