Saturday, August 30, 2025

cynaeafu reis

Aeth fy ddwy ferch a fy mab yng-ngyfraith yn Japan i gefn gwlad i gynaeafu reis. Trefnwyd gan y llety a oedden nhw'n aros o'r blaen, roedd yn gyfle arbennig i bobl gyffredin i brofi cynaeafu reis. Gwelon nhw wedyn sut mae o'n cael ei brosesu'n rawn. Yna cawson nhw ginio (peli reis a mwy) gan ddefnyddio'r reis ffres. Roedd yn ddiwrnod ofnadwy o boeth, ond cawson nhw amser anhygoel o braf a chofiadwy.

Friday, August 29, 2025

shabbat shalom


Bydded i Israel ddarganfod tangnefedd go iawn yn Iesu, Meseia Israel. 

Shabbat Shalom

Thursday, August 28, 2025

unrhyw amser

Dw i'n dyheu am fynd at Iesu unrhyw amser. Gobeithio'n arw i fedru dweud ddiwedd fy mywyd, 

"Yr wyf wedi ymdrechu'r ymdrech lew, yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i'r pen, yr wyf wedi cadw'r ffydd." 2 Timotheus 4:7

Wednesday, August 27, 2025

ffefrynnau’r prif gyfryngau

Mae cynifer o ryfeloedd a dioddefaint o bob math gan bobl gyffredin yn y byd, ac eto mae'r prif gyfryngau'n adrodd dau beth mwy na dim byd arall bob dydd, sef Gaza a Wcráin.

Tuesday, August 26, 2025

y gwirionedd

Mae'n anghywir yn wleidyddol dweud mai ond un gwirionedd sydd, un Duw, ac un ffordd i gael achub. Ond dyna fo.

"Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall (ond Iesu,) oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo." Actau 4:12

Monday, August 25, 2025

häagen-dazs


Mae hufen iâ Häagen-Dazs yn hynod o flasus. Gwobr oedd i fy merch hynaf i'w gael ar ôl dioddef y meddyg trwyn, pan oedd hi'n blentyn yn Japan. Dw i newydd ddarganfod nad cwmni o Ddenmarc oedd, ond sefydlwyd gan fewnfudwyr Iddewig yn Efrog Newydd. Dewison nhw'r enw yn swnio'n Ddaneg yn diolch i Ddenmarc a achubwyd yr Iddewon yn ystod yr Holocost.

Saturday, August 23, 2025

mewn fflat

Mae fy merch hynaf a'i gŵr newydd gychwyn eu bywyd mewn fflat yng nghyrion Tokyo. Mae'n anhygoel o anodd i estroniaid rentu fflatiau yn Japan. Er bod gan fy merch ddinasyddiaeth Japan, oherwydd nad oes gan ei gŵr hi, cawson nhw eu gwrthod gan nifer o gwmnïau. Dyma ei gŵr wrthi'n "adeiladu" dodrefn IKEA.

Friday, August 22, 2025

emma


Tra bod fy merch ifancaf gartref am wyliau, penderfynon ni wylio Emma unwaith a rhagor. Mae yna sawl ffilm ar seiliedig ar y nofel enwog, ond dewison ni'r gorau, sef un gyda Mark Strong fel Mr. Knightely wrth gwrs. Cawson ni gymaint o hwyl! 

Tuesday, August 19, 2025

coffi newydd

Mae pecyn o goffi newydd gyrraedd. Prynais hwn am y tro cyntaf, sef Iron Dome Coffee, er mwyn cefnogi Israel, yn enwedig y milwyr IDF a gafodd eu hanafu yn y rhyfel yn erbyn Hamas.

Monday, August 18, 2025

tymor newydd

Mae fy ail ferch newydd ddychwelyd i fywyd prysur Tokyo, wedi mwynhau ei gwyliau yn America. Mae hi'n dysgu plant mewn ysgol arall am flwyddyn o leiaf. Mae'n anodd credu ei bod hi yma yn Oklahoma ddyddiau'n ôl. 

Friday, August 15, 2025

o'r afon hyd y môr

Duw a ddwedodd o yn gyntaf:

".... o'r afon, afon Ewffrates, hyd fôr y gorllewin; dyna fydd eich terfyn." Deuteronomium 11:24

Afon wahanol, fodd bynnag - nid Iorddonen, ond Ewffrates. Ac i'r Iddewon rhoddodd Duw'r tir i gyd.

Wednesday, August 13, 2025

siwrnai hir

Wedi treulio bron i ddau fis yn Oklahoma, adawodd fy ail ferch i fynd yn ôl i Japan ddoe. Aeth popeth ar y chwith pan oedwyd ei hawyren oherwydd storm yn Chicago. Methodd hi'r awyren nesaf; o ganlyniad roedd hi'n gorfod hedfan i Faes Awyr Newark yn New Jersy. Mae hi'n dal yno yn aros am yr awyren i Tokyo. Un peth braf oedd iddi gael gweld murlun ei chwaer mewn tŷ bwyta yno (Little Purse!)

Tuesday, August 12, 2025

fy merch arall

Mae fy merch arall (sydd yn byw yn Awstralia bellach) yn treulio ei gwyliau yma yn Oklahoma. Am y tro cyntaf ers pum mlynedd a hanner daeth hi adref. Roedd popeth cyfarwydd yn edrych yn newydd iddi, Walmart er enghraifft. Roedd hi wrth ei bodd yn siopa yno gyda'i chwaer.

Monday, August 11, 2025

tudalen newydd fy merch hynaf

Mae fy merch hynaf newydd gyhoeddi i'w ffrindiau ei bod hi a'i gŵr wedi symud i Japan. Llwyddon nhw i ffeindio fflat delfrydol i rentu, ger ei chwaer a'i theulu. Dyma dudalen newydd ei bywyd.

Saturday, August 9, 2025

tafell o felon dŵr

Mae gan fwyd yn Japan ansawdd uchel ac mae'n hynod o flasus. Mae'n ofnadwy o ddrud, fodd bynnag. Roedd fy merch hynaf eisiau melon ddŵr, ond wedi gweld y pris ($26.80,) prynodd ond un dafell. Y pris - $3.73. 

Tuesday, August 5, 2025

cost sefyll ar wirionedd Duw

Gofynnwyd Amir Tsarfati pam nad oes nifer o eglwysi yn sefyll gydag Israel. 

Atebodd:
"Oherwydd bydd sefyll gydag Israel yn eich costio chi."

Mae o'n iawn; mae gormod o "Gristnogion" yn ofni cael eu barnu gan y byd. Maen nhw'n ofni dyn hytrach na Duw. Felly, maen nhw'n dewis cau eu ceg. Mae'n costio, fodd bynnag, pan fyddwch chi'n sefyll ar wirionedd Duw. Dim gwleidyddol ydy sefyll gydag Israel, ond Beiblaidd.

Monday, August 4, 2025

sut i ymdopi gwres

Mae tywydd anarferol o boeth yn parhau yn Japan. Fuodd 56 o bobl farw o ganlyniad yn y ddau fis diwethaf yn Tokyo. Dwedodd fy merch ei bod yn boeth er bod y cyflyrydd aer ymlaen. Dyma hi'n cael syniad da er mwyn oeri ei babi druan. Gosododd bwll nofio plastig ar y balconi cul. Mae fy wyres wrth ei bodd, ac yn neidio i mewn dŵr (yn ei dillad) pryd bynnag agorir y drws.

Saturday, August 2, 2025

gweithred brydferth

Pan dywalltodd y wraig ennaint drudfawr ar ben Iesu, ceryddodd Jwdas hi am fath o wastraff. Canmolodd Iesu, fodd bynnag, ei gweithred brydferth. Fe wnaeth oherwydd ei chariad tuag ato fo. 

Darllenwch Efengyl Marc 14:1-11