Wednesday, October 29, 2025

cannwyll llygaid Duw

O'r pharo i Hitler ac Hamas, ceisiodd cynifer o bobl ddinistrio Israel. Methon nhw'n llwyr fodd bynnag, oherwydd y bydd unrhyw un sydd yn cyffwrdd Israel yn cyffwrdd cannwyll llygaid Duw. (Sechareia 2:8)

Dylai pawb sydd yn caru Duw garu beth bynnag a phwy bynnag mae o'n ei garu.

Tuesday, October 28, 2025

heddwch go iawn

"Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw fy mhobl, gan ddweud, ‘Heddwch! Heddwch!’—ac nid oes heddwch." Jeremeia 6:14

Nid absenoldeb rhyfeloedd ydy heddwch. Heddwch y galon ydy heddwch go iawn. Ac na chewch chi hwn yn unman ond yn Iesu Grist.

"Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi." Ioan 14:27

Monday, October 27, 2025

dirnadaeth yw

"Nid gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg ydy dirnadaeth. Mae gwybod y gwahaniaeth rhwng da a bron yn dda ydy o." C. H. Spurgeon



Wednesday, October 22, 2025

mae'r y Duw gyda ni

"Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi." Eseia 43:2

Hon ydy un o'r adnodau a roddodd nerth i mi fwrw ymlaen tro ar ôl tro. Does posib osgoi problemau ac anawsterau tra eich bod chi'n byw, ond addawodd y Duw fyddai fo gyda ni drwy bopeth.

Tuesday, October 21, 2025

yr unig ffordd i gael eich achub

“Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub." Rhufeiniaid 10:9

Yr unig ffordd, a'r gwirionedd a'r bywyd ydy Iesu. 

Monday, October 20, 2025

drwy dân

Addawodd y Duw na fydd byth yn dinistrio'r byd drwy ddilyw. Na ddwedodd, fodd bynnag, na fydd o'n ei ddinistrio byth eto. I'r gwrthwyneb, dywedodd fyddai fo'n dinistrio'r byd drwy dân, ac yn adnewyddu'r daer a'r nefoedd. Pryd? Does neb yn gwybod ond y Duw. Bydd o'n cadw ei air yn sicr yn ôl ei ffyddlondeb. 

Saturday, October 18, 2025

enfys

Chwap ar ôl glaw sydyn y bore 'ma, es i allan i gerdded, a chael fy nharo gan yr olwg yn yr awyr. Enfys! Mor hardd ydoedd. Roedd yn atgoffa i o addewid Duw yn y Beibl - na fyddai fo'n dinistrio’r byd dryw ddilyw eto.

Friday, October 17, 2025

Y newyddion gorau

Buodd Iesu Grist farw dros ein pechodau. Atgyfododd, gan gynnig iachawdwriaeth i bawb sydd yn credu ynddo.

Y newyddion gorau erioed

Thursday, October 16, 2025

gwreiddyn y gwrthdaro

"Mae'n syml iawn deall y broblem rhwng yr Islamaidd radicaliaid a'r Iddewon yn y Dwyrain Canol. Mae'r Islamaidd radicaliaid eisiau i bob Iddew farw. Yn y cyfamser, mae'r Iddewon eisiau byw. Ac fel dangosir y gwrthdaro, nad oes y ddwy ochr eisiau ildio." Joseph Farah, World Net Daily


Wednesday, October 15, 2025

nid oes enw arall

"Beth sy raid imi ei wneud i gael fy achub?” Dywedasant hwythau, “Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe gei dy achub," Actau 16:30, 31

"Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.” Actau 4:12

Tuesday, October 14, 2025

caredigrwydd Dduw

"Wyt ti’n cymryd Duw yn ganiataol, am ei fod mor garedig a goddefgar ac amyneddgar? Wyt ti ddim yn gweld fod Duw drwy fod yn garedig atat ti eisiau dy arwain di i newid dy ffyrdd?" Rhufeiniaid 2:4 Beibl.net

Nid oherwydd ei fod o'n cymeradwyo pechodau, ond mae o'n aros amdanoch chi i ddod ato mewn edifeirwch.

Monday, October 13, 2025

Duw sydd yn gweithio tu ôl y llwyfan

O'r diwedd, cafodd y gwystlon a oedd yn dioddef dan Hamas dros ddwy flynedd eu rhyddhau. 

Dechreuodd yr Arlywydd Trump ei sylwadau o flaen y Knesset yn Jerwsalem gan ddiolch i Dduw "Abraham, Isaac, a Jacob.” Dw i'n credu i Dduw Abraham, Isaac, a Jacob achub ei fywyd y llynedd ar gyfer y fath amser â hwn.

Saturday, October 11, 2025

o enau plentyn

"Dwi'n caru'r iaith Gymraeg a dwi'n meddwl mae'n beth da i siarad Cymraeg achos dwi'n byw mewn Cymru," meddai Ffion o Gaerdydd, 9 oed a lwyddodd i siarad Cymraeg yn ddigon rhugl mewn chwe mis. Geiriau doeth o enau plentyn i bob di-Gymraeg yng Nghymru.

Friday, October 10, 2025

yr unig enw

"Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef (sef Iesu Grist,) wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.” Actau 4:12

Wednesday, October 8, 2025

pwy ddylech chi ofni

"A pheidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy'n gallu dinistrio'r enaid a'r corff yn uffern."   Matthew 10:28

Tuesday, October 7, 2025

wrth heneiddio.

"Dyna pam dŷn ni ddim yn digalonni. Hyd yn oed os ydyn ni’n darfod yn gorfforol, dŷn ni’n cael ein cryfhau’n ysbrydol bob dydd. Dydy’n trafferthion presennol ni’n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para’n hir. Ond maen nhw’n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw – ysblander sydd y tu hwnt i bob mesur!" 2 Corinthiaid 4:16,17 Beibl.net

Rhai o fy hoff adnodau ydy hyn. Gwych cofio addewid Duw hwn wrth i mi heneiddio.

Monday, October 6, 2025

yn llygad ei le

"Na allwch garu Duw heb garu'r bobl Iddewig." - Corrie ten Boom


Saturday, October 4, 2025

prif weinidog newydd japan


Mae gan Japan Brif Weinidog newydd. Yr hyn sydd yn fy nharo i ydy nid y ffaith mai menyw gyntaf a etholwyd i'r swydd mae hi, ond ei hargyhoeddiad. Mae hi eisiau dilyn polisïau amhoblogaidd os ydyn nhw'n angenrheidiol i'r wlad - argyhoeddiad Margaret Thatcher. Gobeithio y bydd hi'n cadw ato.

Wednesday, October 1, 2025

yom kippur

Bydd Gŵyl Yom Kippur yn cychwyn wrth fachlud yr haul heno. Bydd nifer o'r Iddewon yn ymprydio a gweddïo am faddeuant eu pechodau yn y flwyddyn ddiwethaf. Nid dyna beth mae gair Duw yn dweud, fodd bynnag. 

"Heb dywallt gwaed nid oes maddeuant." Hebreaid 9:22

Yr unig fodd i'r ddynoliaeth gael maddeuant ydy credu yn Iesu Grist sydd wedi tywallt ei waed ar y groes droston ni.